Neidio i'r prif gynnwy

Heddiw, mae Julie Morgan, y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, wedi cyhoeddi pecyn cyllid gwerth £12.5m i gefnogi plant a theuluoedd sy’n agored i niwed.

Cyhoeddwyd gyntaf:
29 Hydref 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Bydd y pecyn hwn yn cefnogi amrywiol wasanaethau i blant a theuluoedd sydd wedi cael eu heffeithio gan bandemig parhaus y coronafeirws.

Bydd y cyllid hefyd yn galluogi i ymchwil gael ei gwneud i ddatblygu Llys Teulu Cyffuriau ac Alcohol cyntaf Cymru, yn unol ag argymhelliad y Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru.   

Dywedodd Julie Morgan, y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol:

“Mae’r coronafeirws wedi cael effaith ddwys ar bob agwedd ar ein bywyd, ac mae’r effaith honno yn parhau. I blant, a rhai o’n plant, pobl ifanc a theuluoedd mwyaf agored i niwed, mae effaith y feirws a’r heriau a wynebir ganddynt yn llawer mwy.

“Er mwyn helpu i wynebu’r heriau a bodloni’r anghenion hynny, heddiw, rwy’n cyhoeddi pecyn sylweddol o gyllid. Mae hyn yn rhan bwysig o’n hagenda ar gyfer Ail-greu ar ôl COVID-19: Yr Heriau a’r Blaenoriaethau a gyflwynwyd gan Jeremy Miles, y Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Pontio Ewropeaidd, yn gynharach yn ystod y mis.  

“Bydd yn sicrhau bod plant, pobl ifanc a theuluoedd yng Nghymru yn cael y cymorth sydd ei angen arnyn nhw yn ystod y cyfnod arbennig o heriol ac eithriadol hwn.”

 Mae’r pecyn sy’n werth £12.5m yn cynnwys:  

  • £2m i’r Gronfa Datblygiad Plant ar gyfer darparu cymorth ychwanegol i blant a theuluoedd i fynd i’r afael â phryderon ynghylch oedi o ran lleferydd, iaith a chyfathrebu, sgiliau echddygol a datblygiad personol a chymdeithasol plant
  • £800,000 i deuluoedd sy’n cael anawsterau yn eu perthynas i helpu i ddatrys anghydfod a straen yn y teulu
  • £860,000 i wella ansawdd gwasanaethau sy’n cael eu cynnig mewn ardaloedd Dechrau’n Deg.

Bydd y cyllid hefyd yn cynnwys buddsoddiad mewn cymorth gwasanaethau cymdeithasol ar gyfer teuluoedd i aros gyda’i gilydd yn ddiogel ac i feithrin capasiti darpariaeth gofal maeth Cymru ymhellach:  

Mae’r buddsoddiad hwn yn cynnwys:

  • £1.6m i awdurdodau lleol er mwyn cynorthwyo i ddatrys achosion yn ddiogel cyn cyrraedd y pwynt lle cyfeirir achos at y gofrestr amddiffyn plant
  • £2.2m i awdurdodau lleol i helpu i ddatblygu darpariaeth Cynadledda Grŵp Teulu wedi’i gwella neu ar ei newydd wedd
  • £3m i helpu i ysgafnhau’r baich o ran yr achosion sydd wedi cronni a chefnogi pobl sy’n gadael gofal, ac i gefnogi gwaith cwmpasu ar gyfer datblygu Llys Teulu Cyffuriau ac Alcohol i Gymru.

£320,000 i gefnogi Fframwaith Maethu Cenedlaethol Cymru.