Neidio i'r prif gynnwy
Gary Yeomans

Mae gan Gary Yeomans oes o brofiad ffermio.

 Yn 2002, sefydlodd, gyda'i wraig Jess, fuches o eifr godro yn bennaf ar safle 120 erw ger y Fenni, lle'r oedd ei neiniau a’i deidiau wedi ffermio gwartheg a defaid.

Mae gan Gary a Jess hefyd fuches o wartheg sugno Duon Cymreig Pedigri sy’n bwrw lloi yn y gwanwyn.  Yn ogystal â magu a godro tua 600 o eifr i gyflenwi ffatri gaws leol, maent yn gwerthu bychod geifr bridio a stoc ifanc sy’n weddill ar gyfer cig a llaeth.

Mae'r fferm hefyd ar hyn o bryd yng nghynllun rheoli tir fferm gyfan Llywodraeth Cymru, Glastir, ac maent yn tyfu cnydau âr i fwydo eu da byw.