Neidio i'r prif gynnwy

Mae prosiect garddio yng Nghasnewydd yn helpu i fynd i'r afael ag unigrwydd ac ynysigrwydd cymdeithasol drwy ddod â chymunedau at ei gilydd.

Cyhoeddwyd gyntaf:
11 Mai 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Ar gyfer Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl eleni (9-15 Mai) mae'r Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol, Julie Morgan, wedi ymweld â Tyfu Gyda'n Gilydd, un o fentrau Cadwch Gymru'n Daclus, yng Nghasnewydd.

Mae'r prosiect hwn, sy'n cael ei gyllido drwy Gronfa Iach ac Egnïol Llywodraeth Cymru, yn helpu i fynd i'r afael ag unigrwydd ac ynysigrwydd cymdeithasol yn ogystal â gwella iechyd meddwl a chorfforol drwy ddod â'r bobl sy'n byw yn Milton Court at ei gilydd i dyfu llysiau a blodau yn yr ardd a rennir ganddynt.

Mae preswylwyr Milton Court a disgyblion yr ysgol gynradd leol wedi rhannu dyddiaduron fideo yn ystod y pandemig, gan helpu i gynnal cysylltiadau rhwng y cenedlaethau a gwella sgiliau digidol pobl Milton Court, fel y gallant gysylltu â rhagor o bobl mewn rhagor o ffyrdd.

Prosiect tyfu sy'n pontio'r cenedlaethau yw Tyfu Gyda'n Gilydd, gyda'r bwriad o wella iechyd a llesiant oedolion a phlant drwy annog ffyrdd mwy egnïol o fyw. Y nod yw ymgysylltu â phobl hŷn, gan gynnwys pobl â salwch hirdymor, ac ag ysgolion mewn ardaloedd o amddifadedd. Mae Cadwch Gymru'n Daclus wedi ymuno â Cartrefi Dinas Casnewydd ac United Wales yn ogystal â'r elusen Age Connects Torfaen i gyflwyno pum menter Tyfu Gyda'n Gilydd yng Nghaerdydd, Caerffili, Torfaen, Sir Fynwy a Chasnewydd. Caiff pob safle ei baru ag ysgol gynradd leol.

Gall unigrwydd ac ynysigrwydd cymdeithasol effeithio ar bobl ar bob cam yn eu bywyd, ac maent yn gysylltiedig ag iechyd meddwl. Mae pobl â chyflwr iechyd meddwl yn fwy tebygol o ddweud eu bod yn teimlo'n unig.

Mae'r teimlad o gysylltiad â ffrindiau, teulu neu'r gymuned ehangach yn gallu gwneud pobl yn llai tebygol o brofi rhai cyflyrau iechyd meddwl, a helpu pobl sy'n profi cyflyrau o'r fath i wella.

Dywedodd y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol, Julie Morgan:

“Thema Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl eleni yw unigrwydd, sydd wedi dod yn fwy pwysig ers y pandemig. Mae sicrhau nad yw pobl o unrhyw oedran yn unig a/neu wedi'u hynysu'n gymdeithasol yn flaenoriaeth genedlaethol inni. Rydyn ni am newid y ffordd y mae pobl yn meddwl am unigrwydd a helpu i gysylltu cymunedau, fel y bydd pobl yn gwybod pa wasanaethau a chymorth sydd ar gael iddyn nhw.

“Mae'n wych gallu ymweld â'r fenter Tyfu Gyda'n Gilydd hon a gweld â'm llygaid fy hun yr effaith gadarnhaol y mae'n ei chael ar iechyd meddwl a chorfforol y bobl sy'n rhan o'r prosiect. Mae prosiectau fel hyn wrth wraidd y gwaith o ddod â chymunedau at ei gilydd a lleihau teimladau o unigrwydd. Rwy'n annog unrhyw un sy'n ei chael hi'n anodd o ran teimlo'n ynysig neu'n unig i chwilio am brosiectau fel hyn yn ei ardal leol.”

Dywedodd y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant, Lynne Neagle:

“Gall bod yn unig a/neu wedi'u hynysu'n gymdeithasol gael effaith fawr iawn ar iechyd corfforol ac iechyd meddwl pobl. Gall unrhyw un ohonon ni o unrhyw oedran brofi teimladau o'r fath ar unrhyw gam yn ein bywyd. Gwnaeth y pandemig i lawer o bobl ledled Cymru deimlo'n unig ac yn ynysig. Hyd yn oed nawr, gyda'r cyfyngiadau wedi dod i ben, gall rhai pobl fod â phryderon o hyd, neu gallan nhw fod yn gyndyn i adael eu cartref a dechrau cymdeithasu â phobl eraill eto. Mae'n wych i weld prosiectau fel Tyfu Gyda'n Gilydd yn helpu i leddfu'r ofnau hyn a dod â phobl at ei gilydd yr Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl hon.”

Dywedodd Jake Castle, Rheolwr Rhanbarthol Cadwch Gymru’n Daclus:

“Rydyn ni’n falch ofnadwy o’r fenter Tyfu Gyda’n Gilydd a’r gwahaniaeth y mae wedi’i wneud i lesiant pawb yn Milton Court. Er gwaethaf heriau’r pandemig, mae’r preswylwyr wedi gallu mwynhau treulio amser gyda’i gilydd yn yr awyr agored gan greu cysylltiadau â phobl ifanc. Mae’n dangos pa mor werthfawr yw bod yn agos at fyd natur a buddion gwirfoddoli er lles yr amgylchedd.

“Edrychwch ymlaen at weld sut bydd yr ardd yn datblygu yn y blynyddoedd nesaf.”