Neidio i'r prif gynnwy

Roedd yr adroddiad yn edrych ar weithgareddau ac ymddygiadau gamblo pobl yn ystod y 12 mis diwethaf, sef ar gyfer mis Ebrill 2022 i fis Mawrth 2023.

Dywedodd 63% o bobl eu bod wedi cymryd rhan mewn rhyw fath o gamblo yn ystod y 12 mis diwethaf. 

Dim ond tocynnau loteri a chardiau crafu oedd yn cael eu prynu gan y rhan fwyaf o bobl oedd yn gamblo. 

Roedd pobl a oedd yn gamblo yn fwy tebygol o fod ag un neu fwy o’r nodweddion canlynol: 

  • bod rhwng 45 a 64 oed
  • heb fod yn perthyn i grŵp ethnig leiafrifol 
  • bod yn gyflogedig
  • bod â mynediad at y rhyngrwyd

Roedd 10% o bobl a oedd yn gamblo yn cael eu nodi fel pobl mewn categori risg, yn ôl y Problem Gambling Severity Index.

Cyswllt

Luke Naylor

Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.