Neidio i'r prif gynnwy

Atgoffir busnesau a datblygwyr mai 30 Ebrill yw’r dyddiad cau ar gyfer ceisiadau ar gyfer dwy gronfa datblygu eiddo i adeiladau ac adnewyddu safleoedd diwydiannol a swyddfeydd at ansawdd uchel.

Cyhoeddwyd gyntaf:
12 Ebrill 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae Cronfa’r Grant Eiddo ar gyfer Datblygu Busnes, gwerth £7 miliwn, a’r Gronfa Seilwaith Eiddo, gwerth £7 miliwn, wedi’u cynllunio i helpu busnesau i dyfu a chreu swyddi. Y prif ffocws yw prosiectau mewn Ardaloedd Menter, Ardaloedd Twf Lleol a Dinas-ranbarthau.


Nod y ddwy gronfa hefyd yw pontio’r bwlch ariannol sy’n bodoli mewn rhannau o Gymru rhwng costau adeiladu, ehangu neu adnewyddu eiddo a gwerth yr eiddo yn y farchnad ar ôl cwblhau’r gwaith.


Disgwylir y bydd pob cronfa yn denu buddsoddiad o £13 miliwn gan y sector preifat ac yn helpu i ysgogi’r farchnad i fodloni anghenion busnesau. 

Gyda’i gilydd bydd y cynlluniau yn sicrhau tua 51,100 o fetrau sgwâr (550,000 o droedfeddi sgwâr) o arwynebedd llawr newydd ac wedi’i adnewyddu mewn meysydd a fydd yn dod â manteision pendant i’r economi leol, bodloni anghenion y farchnad a chefnogi twf busnes.

Dywedodd Ken Skates, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith:

“Bu cryn ddiddordeb yn y ddwy gronfa. Mae gan y ddwy y potensial i roi hwb sylweddol i wella ac ehangu nifer yr unedau diwydiannol a’r swyddfeydd sydd ar gael mewn ardaloedd targed yng Nghymru. Byddwn yn cynghori unrhyw un sydd â diddordeb mewn dysgu mwy am y Cronfeydd ac mewn gwneud cais am gyllid i wneud hyn cyn y dyddiad cau ar 30 Ebrill.” 

Mae’r ddwy gronfa ar gael ar gyfer adeiladau newydd, gwaith adnewyddu a gwaith addasu. Nod y Gronfa Seilwaith Eiddo yw cyllido adeiladau parod a nod Cronfa’r Grant Eiddo ar gyfer Datblygu Busnes yw rhoi cymorth ariannol i fusnesau sydd â phrosiectau ehangu unigryw. Mae’r ddwy gronfa yn cynnig grant o hyd at  35% o’r costau.

Mae angen ichi gyflwyno ceisiadau Cam 1, sy’n rhoi manylion cryno’r prosiect sydd angen cymorth, erbyn 30 Ebrill er mwyn iddyn nhw gael eu hystyried yn gais cyllido dros dro. Am ragor o wybodaeth anfonwch e-bost i gde.pdg@wales.gsi.gov.uk.