Neidio i'r prif gynnwy

Heddiw mae Cymru Greadigol a Casgliad Cymru yn cyhoeddi eu bod wedi sefydlu GALWAD ar gyfer UNBOXED: Creativity in the UK, 2022.

Cyhoeddwyd gyntaf:
21 Hydref 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

A hwythau wedi’i hysbrydoli gan y posibiliadau byd-eang o ran amodau cymdeithasol, technolegol a hinsoddol y deng mlynedd ar hugain nesaf, mae cymunedau ledled Cymru wedi bod yn dychmygu sut le fydd Cymru yn 2052, gan greu ‘byd stori’ ar gyfer digwyddiad diwylliannol mawr ym mis Medi 2022.

Dyma fydd wrth wraidd GALWAD: sef math newydd o stori aml-lwyfan, amlieithog a fydd yn datblygu ar draws drama deledu, llwyfannau digidol a digwyddiadau byw am wythnos ym mis Medi 2022.

Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) wrth wraidd y prosiect a ddatblygwyd gan Casgliad Cymru, sef partneriaeth o fudiadau a diwydiannau creadigol dan arweiniad National Theatre Wales ar draws gwyddoniaeth, technoleg a’r celfyddydau.

Mae’r broses hon o ‘adeiladu byd’ (lle mae bydoedd ffuglennol ond credadwy yn cael eu dychmygu ar gyfer ffilmiau neu gemau) yn cael ei harwain gan Alex McDowell, dylunydd cynhyrchu y ffilm Minority Report. Mae’r broses wedi bod yn mynd rhagddi ar-lein ac mewn lleoliadau ledled Cymru gan gynnwys Abertawe, Merthyr Tudful, Blaenau Ffestiniog a Machynlleth dros y mis diwethaf.

Mae’r ‘adeiladwyr’ hyn wedi’u dwyn ynghyd gan rwydwaith Cymru gyfan o bartneriaid cymunedol gan gynnwys Citizens Cymru, Celfyddydau Anabledd Cymru, CellB (Blaenau Ffestiniog), Ymddiriedolaeth Hamdden (Merthyr Tudful), Tîm Cymorth Ieuenctid a Lleiafrifoedd Ethnig (EYST) yn Abertawe, yn ogystal â Chanolfan Dechnoleg Amgen (Machynlleth), cwmni theatr y Frân Wen ac Experimental Design Studio (Califfornia).

Bydd GALWAD yn cael ei wireddu drwy gydweithrediad unigryw rhwng cymunedau Cymru a thalent greadigol eithriadol ym meysydd dylunio cynyrchiadau, technoleg greadigol, perfformiadau byw, dylunio sain, radio a drama deledu.

Dywedodd un o’r cyfranogwyr o Gaerdydd a deithiodd i Fachynlleth ar gyfer y gwaith ‘adeiladu byd’:

“Mae cymryd rhan wedi gwneud i mi deimlo bod fy marn yn bwysig a fy mod i’n rhan o rywbeth mwy. Fel pobl ifanc, ni yw’r dyfodol. Dyma’r dyfodol y gallwn ei greu – rydw i’n teimlo hynny nawr.

Dywedodd y Dirprwy Weinidog dros y Celfyddydau a Chwaraeon, Dawn Bowden:

“Rydyn ni’n edrych ymlaen at ddathliad cyffrous o greadigrwydd, sy’n seiliedig ar gyd-greu ac sy’n cynnwys cymunedau o bob rhan o Gymru. 

“Bydd gwaith GALWAD yn hyrwyddo Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, yn tynnu sylw at ein talent greadigol a bydd yn arddangos Cymru ar lwyfan rhyngwladol. Bydd yn buddsoddi yn y sectorau creadigol a thechnoleg, gan greu cyfleoedd i dalentau sy’n cael eu tangynrychioli, wrth i ni ddod allan o’r pandemig gyda buddsoddiad a chyfleoedd am swyddi.

“Rydyn ni wedi addo gwella ein lles cymdeithasol, diwylliannol, amgylcheddol ac economaidd drwy atebion creadigol i broblemau sy’n effeithio ar ein dyfodol.  Mae’r prosiect hwn yn wahoddiad - yn alwad - i ymuno â’r sgwrs honno.

“Rydyn ni hefyd yn edrych ymlaen at groesawu’r pedwar prosiect arall a fydd yn gweithio yng Nghymru fel rhan o gyfres o ddigwyddiadau’r flwyddyn nesaf.”

Mae GALWAD wedi’i gomisiynu gan Cymru Greadigol fel rhan o UNBOXED: Creativity in the UK, ac mae’n un o 10 prosiect a gomisiynwyd i ddathlu ac arddangos arloesedd a chreadigrwydd.  Fel rhan o’r digwyddiadau yn 2022, bydd pedwar o’r deg prosiect a gomisiynwyd yn ymweld â Chymru yn ystod 2022, sef:

  • About Us gan 59 Productions Collective
  • Dreamachine gan Collective Act
  • StoryTrails, gan StoryFutures Collective
  • Goleuo’r Gwyllt / Green Space Dark Skies gan Walk the Plank Collective

Bydd dyddiadau a lleoliadau’n cael eu cyhoeddi maes o law.

Bydd rhagor o wybodaeth am y prosiect a chyfleoedd i gymryd rhan yn GALWAD yn cael eu rhyddhau ar draws y cyfryngau cymdeithasol ac ar y wefan GALWAD Cymru.