Galwad am dystiolaeth ac arbenigedd ar safleoedd sydd wedi eu gwarchod
Galwad am dystiolaeth ac arbenigedd ar afleoedd sydd wedi eu gwarchod gan asesydd interim diogelu'r amgylchedd Cymru.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Annwyl gydweithwyr
Rwy'n ysgrifennu i gyhoeddi galwad am dystiolaeth ar reoli ac amddiffyn safleoedd gwarchodedig yng Nghymru.
Yn fy rôl fel Asesydd Interim Diogelu'r Amgylchedd Cymru (IEPAW), rwyf wedi derbyn nifer o gyflwyniadau am safleoedd gwarchodedig yng Nghymru. O ganlyniad, rwy'n bwriadu llunio adroddiad ar safleoedd gwarchodedig i Weinidogion Cymru i:
- asesu a yw'r fframwaith cyfreithiol presennol yn gweithio'n iawn;
- nodi lle nad yw’r amddiffyniad cyfreithiol presennol yn esgor ar y manteision a fwriedir, yn enwedig mewn perthynas â diogelu bioamrywiaeth;
- nodi bylchau posibl yn y ddeddfwriaeth;
- nodi’r ffactorau sy’n ein rhwystro rhag gweithredu’r Ddeddfwriaeth yn ymarferol; a
- llunio argymhellion drafft ar gyfer sut y gellid gwella'r gyfraith.
Ar hyn o bryd, mae cwmpas y prosiect wedi’i gyfyngu i safleoedd gwarchodedig daearol yn unig, sef Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGAau), Ardaloedd Gwarchodaeth Arbennig (AGAau) ac Ardaloedd Cadwraeth Arbennig (ACAau). Nid yw’n cynnwys tirweddau gwarchodedig/dynodedig.
Gwnaeth prosiect Asesiad Gwaelodlin CNC yn 2020 asesu ansawdd yr holl safleoedd gwarchodedig - yr asesiad llawn cyntaf ers 2003. Nid oedd yn bosibl iddynt benderfynu ar gyflwr tua hanner nodweddion yr holl safleoedd (er enghraifft ansawdd cynefinoedd neu nifer y rhywogaethau) oherwydd nad oedd digon o dystiolaeth. O'r nodweddion yr oeddent yn gallu eu hasesu, roedd 20% mewn cyflwr ffafriol, 30% mewn cyflwr anffafriol a 50% ddim yn y cyflwr a ddymunir.
Yn ogystal, ym mis Hydref 2022, cyhoeddwyd yr argymhellion a wnaed yn sgil yr Archwiliad Manwl Gweinidogol ar Fioamrywiaeth. Canolbwyntiodd hwn ar y ffordd y byddwn ni yng Nghymru yn gweithredu targed Fframwaith Bioamrywiaeth Byd-eang y Confensiwn ar Amrywiaeth Fiolegol i warchod o leiaf 30% o’r tir a 30% o’r môr erbyn 2030. Mae’r drafft cyntaf presennol o’r fframwaith ôl-2020 yn nodi: ‘Dylid sicrhau bod o leiaf 30% o ardaloedd daearol ac ardaloedd morol ar lefel fyd-eang – yn enwedig ardaloedd o bwys arbennig o ran bioamrywiaeth a’i chyfraniadau at fywydau pobl – yn cael eu gwarchod drwy fesurau cadwraeth seiliedig ar ardal a thrwy systemau o ardaloedd gwarchodedig a reolir mewn modd effeithiol a theg, sy’n ecolegol gynrychiadol ac wedi’u cysylltu’n dda, a’u bod yn cael eu hintegreiddio yn y tirweddau a’r morweddau ehangach.’
Gyda hyn mewn golwg rwy'n chwilio am farn a thystiolaeth ar:
- A ddylid gwneud monitro safleoedd gwarchodedig yn ddyletswydd statudol? Os felly, gan fod adnoddau’n gyfyngedig, beth yw’r ffordd orau o ennyn cyfranogiad gan chwaraewyr allweddol mewn strategaeth fonitro integredig, a hybu ymagwedd 'tîm Cymru’? Ai canolbwyntio ar nodweddion monitro yw’r dull cywir, neu a ddylid rhoi mwy o sylw i ddulliau seiliedig ar safle a methodoleg fwy cytbwys?
- A ddylid gosod targedau ar gyfer ansawdd a chysylltedd safleoedd gwarchodedig? Os felly, beth ddylai’r targedau eu cwmpasu?
- Pa newidiadau y dylid eu gwneud i’r fframwaith cyfreithiol presennol, os o gwbl, er mwyn sicrhau bod cyflwr safleoedd gwarchodedig yn gwella yn gyffredinol? Er enghraifft, a allai unrhyw un o’r mecanweithiau cyfreithiol a ddefnyddir ar gyfer Ardaloedd Cadwraeth Arbennig fod yn fanteisiol i gategorïau eraill o safleoedd gwarchodedig?
- A oes unrhyw beth yn atal cytundebau rheoli rhag cael eu cadarnhau? Os felly, sut y gellid goresgyn y rhwystrau hyn?
- Pa newidiadau i’r mecanweithiau gorfodi presennol, os o gwbl, fyddai’n cyflawni canlyniadau gwell ar gyfer safleoedd gwarchodedig?
- Nodwch sylwadau ar unrhyw fecanweithiau cyfreithiol presennol neu yn y dyfodol a allai hwyluso ffordd fwy ymaddasol o reoli safleoedd gan arwain at wella cyflwr safle gwarchodedig yn gyffredinol.
A fyddai’n bosibl i unrhyw sylwadau neu dystiolaeth ysgrifenedig am y cwestiynau uchod gael eu hanfon ataf erbyn dydd Gwener 20 Ionawr 2023. Os oes angen ychydig mwy o amser gadewch i mi wybod. Rhowch wybod i mi hefyd os ydych yn fodlon i'ch sylwadau/tystiolaeth gael ei ddyfynnu yn yr adroddiad terfynol a'i briodoli i chi a/neu eich sefydliad. Mae rhagor o wybodaeth am fy rôl i yn Codi pryderon am sut mae cyfraith amgylcheddol yn gweithio
Diolch yn fawr.
Ar rhan / On behalf of
Dr Nerys Llewelyn Jones
Asesydd Interim Diogelu'r Amgylchedd Cymru / Interim Environmental Protection Assessor for Wales
E-bost / E-mail: IEPAW@llyw.cymru / IEPAW@gov.wales