Neidio i'r prif gynnwy

Nifer yr ymholiadau a gafodd eu trin, gan gynnwys cyswllt dros y ffôn ac ar-lein ar gyfer Ionawr i Fawrth 2019.

Mae’r pyramid poblogaeth yn dangos bod y nifer uchaf o alwadau i Galw Iechyd Cymru fesul 1,000 o bobl yng Nghymru yn ymwneud â chleifion o dan 1 mlwydd oed. Gwelwyd cyfraddau uchel ar gyfer plant 1-4 mlwydd oed, pobl yn eu hugeiniau a thridegau cynnar a phobl 80 oed a throsodd.

Prif bwyntiau

  • Gwnaed 50,867 o alwadau i brif rif 0845 Galw Iechyd Cymru. Atebwyd  35,742 o’r rhain; roedd  11,089 (18%) o alwadau eraill i linellau gwybodaeth neu fe’u trosglwyddwyd o adrannau damweiniau ac achosion brys.
  • Gwnaed ac atebwyd mwy o alwadau ar benwythnosau, er i gyfran uwch o alwadau gael eu hateb yn ystod yr wythnos.
  • Cafwyd 872,745 o ymweliadau i wefan Galw Iechyd Cymru.
  • Gwnaed 715 o ymholiadau ar-lein i’r gwasanaeth ymholiadau ar y we.
  • Cafodd 50% o’r galwadau  lle cofnodwyd canlyniad terfynol eu cyfeirio at ofal sylfaenol, cyfeiriwyd 22% i adrannau damweiniau ac achosion brys, a galwyd ambiwlans yn sgil 10% o’r galwadau. Darparwyd gwybodaeth neu gyngor hunanofal i’r 18% arall.

Adroddiadau

Diweddariad Galw Iechyd, Ionawr i Fawrth 2019 , Saesneg yn unig, math o ffeil: PDF, maint ffeil: 692 KB

PDF
Saesneg yn unig
692 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.