Nifer yr ymholiadau a gafodd eu trin, gan gynnwys cyswllt dros y ffôn ac ar-lein ar gyfer Hydref i Rhagfyr 2018.
Nid y datganiad diweddaraf yn y gyfres: Galw iechyd Cymru
Gwybodaeth am y gyfres:
Prif bwyntiau
- Gwnaed 54,593 o alwadau i brif rif 0845 Galw Iechyd Cymru. Atebwyd 40,624 o’r rhain; roedd 11,008 (17%) o alwadau eraill i linellau gwybodaeth neu fe’u trosglwyddwyd o adrannau damweiniau ac achosion brys.
- Gwnaed ac atebwyd mwy o alwadau ar benwythnosau, er i gyfran uwch o alwadau gael eu hateb yn ystod yr wythnos.
- Cafwyd 879,357 o ymweliadau i wefan Galw Iechyd Cymru.
- Gwnaed 658 o ymholiadau ar-lein i’r gwasanaeth ymholiadau ar y we.
- Cafodd 52% o’r galwadau lle cofnodwyd canlyniad terfynol eu cyfeirio at ofal sylfaenol, cyfeiriwyd 20% i adrannau damweiniau ac achosion brys, a galwyd ambiwlans yn sgil 8% o’r galwadau. Darparwyd gwybodaeth neu gyngor hunanofal i’r 19% arall.
Adroddiadau
Diweddariad Galw Iechyd, Hydref i Rhagfyr 2018 , Saesneg yn unig, math o ffeil: PDF, maint ffeil: 572 KB
PDF
Saesneg yn unig
572 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.
Data
Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol
Cyswllt
Llinell Ymholiadau Cyffredinol
Rhif ffôn: 0300 025 5050
E-bost: ystadegau.iechyd@llyw.cymru
Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.
Cyfryngau
Rhif ffôn: 0300 025 8099
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.