Nifer yr ymholiadau a gafodd eu trin, gan gynnwys cyswllt dros y ffôn ac ar-lein ar gyfer Ebrill i Mehefin 2019.
Nid y datganiad diweddaraf yn y gyfres: Galw iechyd Cymru
Gwybodaeth am y gyfres:
Prif bwyntiau
- Gwnaed 50,107 o alwadau i brif rif 0845 Galw Iechyd Cymru. Atebwyd 35,078 o’r rhain.
- Roedd 10,484 (17%) o alwadau eraill i linellau gwybodaeth neu fe’u trosglwyddwyd o adrannau damweiniau ac achosion brys.
- Gwnaed ac atebwyd mwy o alwadau ar benwythnosau, er i gyfran uwch o alwadau gael eu hateb yn ystod yr wythnos.
- Cafwyd 954,451 o ymweliadau i wefan Galw Iechyd Cymru.
- Gwnaed 714 o ymholiadau ar-lein i’r gwasanaeth ymholiadau ar y we.
- Cafodd 51% o’r galwadau lle cofnodwyd canlyniad terfynol eu cyfeirio at ofal sylfaenol, cyfeiriwyd 22% i adrannau damweiniau ac achosion brys, a galwyd ambiwlans yn sgil 9% o’r galwadau. Darparwyd gwybodaeth neu gyngor hunanofal i’r 18% arall.
Adroddiadau
Diweddariad Galw Iechyd, Ebrill i Mehefin 2019 , Saesneg yn unig, math o ffeil: PDF, maint ffeil: 569 KB
PDF
Saesneg yn unig
569 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.
Data
Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol
Gwefan StatsCymru
Gwefan StatsCymru
Gwefan Pwyllgor Gwasanaethau Ambiwlans Brys
Cyswllt
Llinell Ymholiadau Cyffredinol
Rhif ffôn: 0300 025 5050
E-bost: ystadegau.iechyd@llyw.cymru
Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.
Cyfryngau
Rhif ffôn: 0300 025 8099
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.