Mae aelodau’r cyhoedd yng Nghymru yn cael eu cynghori i gadw llygad am fenywod a merched a allai fod mewn perygl o brofion gwyryfdod a hymenoplasti, neu a allai fod wedi dioddef hynny eisoes.
Mathau o drais yw’r rhain yn erbyn menywod a merched ac maent yn rhan o’r cylch o gam-drin ar sail ‘anrhydedd’ fel y’i gelwir. Gallant ddigwydd cyn priodas plentyn neu briodas dan orfod a gallant arwain at fathau eraill o ymddygiad teuluol a/neu gymunedol gorfodaethol, gan gynnwys rheolaeth gorfforol ac emosiynol.
Wrth sôn am brofion gwyryfdod, rydym yn sôn am unrhyw archwiliad o’r organau cenhedlu benywaidd sydd â’r nod o sefydlu a yw rhyw drwy’r wain wedi digwydd.
Mae hymenoplasti yn llawdriniaeth a wneir i ail-greu’r hymen i sicrhau bod menyw yn gwaedu’r tro nesaf y mae’n cael rhyw i roi’r argraff nad oes ganddi hanes o ryw drwy’r wain.
Nid oes ffordd wyddonol o brofi am wyryfdod, a gall profion a llawdriniaethau o’r fath arwain at niwed corfforol a seicolegol gydol oes i ddioddefwyr.
Daeth y ddau fath yma o gam-drin yn droseddau yng Nghymru pan ddaeth Deddf Iechyd a Gofal 2022 i rym yng Ngorffennaf 2022. Mae hefyd yn anghyfreithlon i wladolion a thrigolion y DU gynnal, cynnig neu helpu mewn unrhyw ffordd gyda phrofion gwyryfdod a hymenoplasti y tu allan i’r wlad.
Er bod rhannau eraill o’r DU wedi cyhoeddi canllawiau ar gyfer gweithwyr proffesiynol, mae Llywodraeth Cymru yn mynd ymhellach, ac mae wedi cyhoeddi deunyddiau mewn cyfanswm o ddwy iaith ar bymtheg fel rhan o ymgyrch ehangach i godi ymwybyddiaeth darparwyr gofal a’r cyhoedd.
Mae’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, Jane Hutt, wedi disgrifio’r cam fel “y peth iawn i’w wneud”.
Ar ymweliad â Bawso, elusen sy’n cefnogi pobl o gefndiroedd du ac ethnig leiafrifol sy’n cael eu heffeithio gan gam-drin domestig a mathau eraill o gam-drin, ychwanegodd y Gweinidog:
“Mae Llywodraeth Cymru wastad wedi bod yn glir ynglŷn â’i huchelgais i roi terfyn ar drais yn erbyn menywod a merched. Mae hon yn broblem gymdeithasol, ac mae angen ymateb iddi mewn modd cymdeithasol.
“Mae’n hanfodol ein bod yn codi ymwybyddiaeth o brofion gwyryfdod a hymenoplasti, a’r newidiadau diweddar i’r gyfraith. Mae’r arferion hyn yn seiliedig ar safbwyntiau gormesol ac anghywir, ac ni all menywod a merched gydsynio iddynt.
“Yng Nghymru, rydym yn credu bod rhaid inni herio agweddau a newid ymddygiad y rhai sy’n cam-drin.
“Nid mater o newid ymddygiad menywod yw hyn. Camdrinwyr ddylai fod yn newid eu hymddygiad nhw.”
Mae Bawso yn un o nifer o sefydliadau lle mae’r canllawiau bellach yn cael eu harddel.
Dywedodd y Prif Weithredwr Dros Dro, Wanjiku Ngotho-Mbugua:
“Mae’r arfer hon yn enghraifft warthus o ddiffyg parch at y menywod a’r merched sy’n gorfod ei dioddef. Mae hefyd yn dangos croestoriad y gwahaniaethu yn erbyn menywod mudol sy’n byw yn y DU.
“Rydym yn croesawu’r diddordeb, yr ymdrech a’r gefnogaeth mae Llywodraeth Cymru wedi’u dangos i godi ymwybyddiaeth o’r mater hwn. Mae’n dangos difrifoldeb y camwedd hwn.”
Mae’r menywod hynny sy’n ‘methu’ prawf gwyryfdod, y canfyddir eu bod wedi cael llawdriniaeth i ail-greu’r hymen, neu nad ydynt yn gwaedu ar noson eu priodas yn debygol o brofi rhagor o gam-drin ar sail ‘anrhydedd’ fel y’i gelwir. Mae’r cam-drin hwn yn cynnwys cam-drin emosiynol a chorfforol, eu teulu neu eu cymuned yn eu gwrthod a lladd ar sail ‘anrhydedd’ hyd yn oed.
Dywedodd Prif Swyddog Nyrsio Cymru, Sue Tranka:
“Mae’n hysbys bod menywod a merched yn cael eu gorfodi a’u cywilyddio i gael profion gwyryfdod a hymenoplasti. Gall yr arferion hyn fod yn niweidiol yn gorfforol a gallant arwain at drawma seicolegol eithafol i’r dioddefwr, ysgogi gorbryder, iselder, ac anhwylder straen ôl-drawmatig.
“Drwy godi ymwybyddiaeth ehangach o’r arferion diraddiol hyn a orfodir ar fenywod a merched, mae Cymru yn bwrw ymlaen â’i huchelgais o fod yn arweinydd byd-eang ar gyfer cydraddoldeb rhywiol.”