Mae cynlluniau ar gyfer canolfan o’r radd flaenaf ar gyfer profi rheilffyrdd yn Ne Cymru wedi symud ymlaen drwy gyflwyno Achos Busnes Amlinellol yn ogystal â chymeradwyaeth leol ar gyfer y tir.
Mae Llywodraeth Cymru bellach wedi galw ar Lywodraeth y DU i weithredu’n gyflym i chwarae ei rhan er mwyn cyflawni’r prosiect.
Ar 27 a 28 Gorffennaf, roedd Cyngor Sir Powys a Chyngor Castell-nedd Port Talbot wedi cydsynio i gloddwaith ar gyfer y Ganolfan Ragoriaeth Fyd-eang ar gyfer Rheilffyrdd, i’w hadeiladu ar yr hen safle glo brig yn Nant Helen a’r safle golchfa glo gerllaw yn Onllwyn.
Mae’n gam ymlaen arall i’r prosiect ar ôl i Lywodraeth Cymru, yn gynharach y mis hwn, gyflwyno Achos Busnes Amlinellol ar gyfer y Ganolfan i Lywodraeth y DU. Roedd y ddogfen yn nodi’r rhaglen gyflenwi a’r camau nesaf.
Dywedodd Ken Skates, Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru:
“Mae’r prosiect hwn yn mynd law yn llaw gyda gwella effeithlonrwydd, perfformiad a chapasiti ein rheilffyrdd. Fe’i datblygwyd yn dilyn angen clir a ddaeth i’r amlwg o fewn y diwydiant.
“Bydd hefyd manteision pwysig i’r cymunedau sy’n byw o amgylch y cyfleuster arfaethedig. Bydd gwaith yn dod i’r ardal a gall y prosiect fod yn rhan bwysig o’r adferiad economaidd hirdymor yn sgil Covid-19.
“Mae wedi bod yn fis cadarnhaol i’r prosiect ac mae’r cymeradwyaeth lleol cychwynnol yn gam cadarnhaol. Yn dilyn hyn, rwy’n gobeithio y bydd Llywodraeth y DU yn gweithredu’n gyflym i chwarae ei rhan i gyflawni rhywbeth a fydd o les i Gymru a’r Deyrnas Unedig