Mae'r Gweinidog Iechyd, Eluned Morgan, yn galw ar bawb i chwarae eu rhan yn nyfodol system iechyd a gofal cymdeithasol Cymru. Daw hyn wrth i adroddiad newydd ddangos y bydd poblogaeth sy'n heneiddio ac yn fwy sâl yn rhoi'r system dan fwy o straen.
O fewn y 15 mlynedd nesaf, bydd bron i 20% o'r boblogaeth yn 70 oed neu'n hŷn, disgwylir i 22% yn fwy o bobl gael diabetes a gallai nifer y bobl â phedwar neu fwy o gyflyrau hirdymor ddyblu.
Yn y Senedd heddiw (10 Hydref), bydd y Gweinidog Iechyd yn ymateb i adroddiad y Prif Gynghorydd Gwyddonol dros Iechyd, gan roi sylw i'r pwysau tebygol ar y GIG dros y 10 i 25 mlynedd nesaf.
Mae poblogaeth sy'n tyfu ac yn heneiddio, law yn llaw â nifer cynyddol o bobl â mwy nag un cyflwr iechyd hirdymor, yn golygu y bydd y pwysau sydd ar y GIG yng Nghymru a'n system gofal cymdeithasol yn parhau i gynyddu, meddai.
Wrth inni edrych tua'r dyfodol, mae'n rhaid inni ddiogelu'r egwyddorion sylfaenol y crëwyd ein GIG arnynt, gan ddeall y bydd angen i bob un ohonom ymateb i'r heriau sydd o'n blaenau.
Rhaid inni barhau i ailgydbwyso'r system tuag at atal a darparu gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yn y gymuned, yn ogystal â sicrhau bod ein gwasanaethau'n cael eu defnyddio'n ddoeth, gan gydnabod, bob tro y byddwn yn defnyddio'r system, fod cost i hynny.
Ond nid yw hyn yn ymwneud yn unig â sut mae'r GIG yn addasu: mae ffordd o fyw ac anghydraddoldebau economaidd yn rhai o'r prif ffactorau sy'n penderfynu iechyd rhywun. Gellir atal llawer o gyflyrau difrifol, gan gynnwys rhai mathau o ganser a diabetes math 2, felly gallwn ni i gyd chwarae ein rhan drwy wneud dewisiadau iachach. Tra gall pob rhan o'r llywodraeth a'r gymdeithas gyfrannu at fynd i'r afael ag anghydraddoldebau iechyd.
Ychwanegodd y Gweinidog, er bod yr adroddiad yn dangos bod y weledigaeth yn strategaeth 10 mlynedd Llywodraeth Cymru i wella iechyd yn parhau'n gywir, bydd yn gofyn am adolygiad o'r camau gweithredu yn Cymru Iachach.
Dywedodd:
Mae'r adroddiad hwn yn dangos bod ein ffocws ar atal, mynd i'r afael ag anghydraddoldebau iechyd a darparu mwy o ofal yn y gymuned yn iawn, ond yng ngoleuni'r dystiolaeth newydd hon dyma'r amser i sicrhau bod y camau gweithredu yn ein cynllun ar y trywydd iawn.
Anogodd y Gweinidog hefyd bobl i gael llais yn nyfodol gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru drwy gymryd rhan yn y sgwrs gyhoeddus a lansiwyd gan Gomisiwn Bevan.