Mae Prif Swyddog Milfeddygol Cymru, Richard Irvine, yn annog perchnogion da byw yng Nghymru i barhau i fod yn wyliadwrus yn dilyn achos diweddar o glwy'r traed a'r genau yn yr Almaen.
Dywedodd Prif Filfeddyg Cymru, Richard Irvine:
Rydym yn ymwybodol o achos unigol o glwy'r traed a'r genau yn yr Almaen ac rydym yn gweithio'n agos gyda Llywodraeth y DU i amddiffyn ein da byw yn dilyn y newyddion anffodus hwn. Byddwn yn parhau i fonitro'r sefyllfa'n ofalus.
Mae mewnforio gwartheg, moch a defaid o'r Almaen yn cael ei wahardd i amddiffyn ffermwyr a'u bywoliaeth. Ni fydd tystysgrifau mewnforio iechyd Prydain bellach yn cael eu rhoi ar gyfer anifeiliaid sy'n agored i glwy'r traed a'r genau, gan gynnwys anifeiliaid byw a chig ffres.
Mae gennym gynlluniau wrth gefn cadarn ar waith i reoli risg ac amddiffyn ffermwyr a'n diogelwch bwyd, Mae hyn yn golygu defnyddio'r holl fesurau i gyfyngu ar y risg o ledaeniad y clefyd dinistriol hwn. Nid yw clefyd y traed a'r genau yn peri unrhyw risg i iechyd neu ddiogelwch bwyd.
Rwyf hefyd am barhau i atgoffa ceidwaid da byw i gynnal y lefelau uchaf o fioddiogelwch a gwyliadwriaeth ac i brynu da byw a chynhyrchion cenhedlu o le cyfrifol a diogel i amddiffyn ein buchesi a diadellau a chadw clefydau anifeiliaid allan o Gymru. Os ydych chi 'n amau clefyd y traed a'r genau, mae'n hanfodol rhoi gwybod am hyn ar unwaith.
Nodiadau ychwanegol
Mae Clefyd y Traed a'r Genau yn glefyd y gellir ei adnabod yn gyfreithiol ac mae'n rhaid ei adrodd. Os ydych yn amau clefyd hysbysadwy yn eich anifeiliaid, rhaid i chi roi gwybod amdano ar unwaith. Mae methu â gwneud hynny yn drosedd.
Gellir dod o hyd i wybodaeth a chyngor yn www.llyw.cymru/bioddiogelwch-canllawiau
Mae Clwy'r Traed a'r Genau yn glefyd firaol hysbysadwy. Mae'n cael effaith ar wartheg, defaid, moch, geifr ac anifeiliaid eraill â charnau hollt. Yn 2007 y cafwyd yr achos diwethaf o glwy'r traed a'r genau ym Mhrydain. Nid oes unrhyw achosion yn y Deyrnas Unedig ar hyn o bryd
Os oes gennych unrhyw amheuon fod clwy'r traed a'r genau ar eich anifeiliaid, cysylltwch â'ch swyddfa Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion leol ar 0300 303 8268 ar unwaith.
Bydd milfeddygon yr Asiantaeth yn archwilio'r achosion hyn.
Gallai'r arwyddion clinigol canlynol fod yn bresennol:
- gwres uchel
- pothelli ar y croen rhwng y goes a'r carn
- pothelli o gwmpas y trwyn, tafod a gwefusau
- cloffni
- colli awydd am fwyd