Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud bod yn rhaid defnyddio Datganiad y Gwanwyn sydd ar fin ei gyhoeddi i gymryd camau ystyrlon i fynd i'r afael â’r argyfwng costau byw.
Mewn llythyr at Ganghellor y Trysorlys, galwodd Gweinidog Cyllid Llywodraeth Cymru, Rebecca Evans, ar Lywodraeth y DU i “weithredu nawr a sefyll gyda Llywodraeth Cymru i ddarparu ymateb llawn i'r argyfwng costau byw.”
Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud bod penderfyniadau Llywodraeth y DU ar gymorth diweithdra, newidiadau i gredyd cynhwysol a chynnydd mewn trethi ar incwm yn ychwanegu at y pwysau ar gyllidebau aelwydydd.
Mae'n galw ar i’r gyfradd uwchraddio budd-daliadau lles – sydd ar 3.1% ar hyn o bryd - gael ei chynyddu’n sylweddol yng nghyd-destun lefelau chwyddiant, y disgwylir iddynt gyrraedd bron i 8% erbyn mis Ebrill. Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn galw am wrthdroi'r penderfyniad i ddileu'r cynnydd o £20 i gredyd cynhwysol.
Yn ôl y Gweinidog Cyllid, ni ellir dadlau yn erbyn yr achos dros godi treth ffawdelw ar yr elw gormodol a wneir gan gwmnïau ynni mawr, gan ddefnyddio’r arian a godir i gefnogi aelwydydd sy'n agored i niwed.
Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi cyflwyno nifer o awgrymiadau eraill i helpu pobl. Ymhlith y mesurau arfaethedig mae symud costau polisi cymdeithasol i drethiant cyffredinol, cyflwyno tariff ynni incwm isel i dargedu cymorth yn well i aelwydydd incwm is, a darparu cymorth pellach a chynyddol drwy'r Gostyngiad Cartrefi Cynnes a chynlluniau taliadau tanwydd gaeaf eraill.
Dywedodd Rebecca Evans, y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol:
“Rydym wedi buddsoddi mwy na £330m i gefnogi pobl drwy'r argyfwng costau byw, sef bron i ddwbl y cymorth cyfatebol yn Lloegr.
“Ond gan Lywodraeth y DU y mae’r dulliau allweddol i wneud hyn, yn enwedig drwy'r system dreth a budd-daliadau, i gynnig mwy o amddiffyniad ariannol i bobl.
“Mae’r argyfwng costau byw yn real iawn i bobl, ac mae disgwyl iddo waethygu o fis Ebrill ymlaen. Ni all neb fforddio tanbrisio difrifoldeb yr heriau sy'n ein hwynebu. Mae'r awgrymiadau rydym wedi’u gwneud yn fesurau effeithiol, ymarferol a fyddai'n helpu pobl i dalu biliau a rhoi bwyd ar y bwrdd. Nawr mae angen i Lywodraeth y DU wrando, gweithredu a sefyll gyda ni i ddarparu ymateb llawn i'r argyfwng costau byw.”
Mae'r Gweinidog Cyllid hefyd yn galw ar y Canghellor i gymryd y camau angenrheidiol i sicrhau diogelwch ynni'r DU, mewn ymateb i'r argyfwng geowleidyddol mawr sy'n deillio o’r gwrthdaro yn Wcráin. Mae'n galw am fwy o fuddsoddiad i gymell cynhyrchu ynni adnewyddadwy i gyrraedd targedau sero net a chefnogi system ynni adnewyddadwy ddomestig fwy gwydn.