Neidio i'r prif gynnwy

Mae Rebecca Evans, y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, wedi dweud y dylai Llywodraeth y DU ddefnyddio’i Hadolygiad o Wariant yr hydref hwn i rannu cyfrifoldeb ac i ddyrannu cyllid hirdymor er mwyn sicrhau bod tomennydd glo Cymru yn ddiogel.

Cyhoeddwyd gyntaf:
28 Medi 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Wrth i'n hinsawdd newid, mae angen sylw a chyllid hirdymor ar domennydd gwastraff glo Cymru er mwyn atal y risg o dirlithriadau yn y dyfodol.

Ar sail gwybodaeth oddi wrth yr Awdurdod Glo, mae Llywodraeth Cymru wedi amcangyfrif bod mwy na 40 y cant o holl domennydd glo'r DU yng Nghymru a bod tua un o bob saith ohonynt yn cael eu hystyried yn rhai risg uchel.

Bydd Rebecca Evans, y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, yn galw ar Ganghellor y Trysorlys, Rishi Sunak, i rannu cyfrifoldeb ac i ddyrannu cyllid sylweddol er mwyn mynd i’r afael â’r problemau a etifeddwyd yn sgil cloddio am lo yng Nghymru yn ystod y cyfnod cyn datganoli.

Amcangyfrifir y bydd angen o leiaf rhwng £500 miliwn a £600 miliwn dros y 10 i 15 mlynedd nesaf.

Dywedodd y Gweinidog:

Mae’r problemau a etifeddwyd yn sgil cloddio am lo yn effeithio'n anghymesur ar Gymru ac mae effeithiau'r hinsawdd yn golygu bod tomennydd glo yn peri mwy o risg i’n cymunedau. Gan fod y mater hwn yn un sy’n dyddio o’r cyfnod cyn datganoli, mae angen i Lywodraeth y DU rannu cyfrifoldeb ac atal tirlithriad arall.

Wrth i law ddwysáu a'r tymheredd godi, mae'r risgiau i fywydau ac i fywoliaeth pobl yn cynyddu mewn ffyrdd na ellir eu rhagweld.

Mae sicrhau bod y tomennydd yn ddiogel cyn iddyn nhw lithro yn fwy costeffeithiol o lawer nag aros i un yn unig o'r tomennydd risg uchel lithro. Mae cyfrifoldeb cyfreithiol a moesol ar Lywodraeth y DU i weithio gyda Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael â'r mater hwn ac i ariannu'r costau hirdymor hyn.

Mae cyfle inni gydweithio yn ystod y blynyddoedd sydd i ddod i fynd i'r afael â'r argyfwng sy’n ein hwynebu o ran yr hinsawdd ac o ran byd natur, ac mae’r Adolygiad o Wariant eleni yn gyfle i ganfod y tir cyffredin hwnnw ac i adael gwaddol cadarnhaol, tecach a pharhaol i gyn-ardaloedd glofaol yng Nghymru.

Bydd yr Adolygiad o Wariant yn pennu faint o arian fydd ar gael i Lywodraeth Cymru ar gyfer y tair blynedd nesaf hyd at 2024-25.

Bydd y Gweinidog Cyllid hefyd yn gofyn i Lywodraeth y DU achub ar y cyfle i fuddsoddi yng Nghymru drwy fynd i'r afael â’r tanariannu hanesyddol mewn seilwaith rheilffyrdd ac ym maes ymchwil a datblygu. Bydd yn gofyn hefyd iddi ailystyried ei phenderfyniad i atal £375 miliwn o gyllid strwythurol blynyddol yr UE sy’n cael ei ddefnyddio ar hyn o bryd i gefnogi rhaglenni, gan gynnwys rhai ym maes cyflogadwyedd, sgiliau a phrentisiaethau. Mae am weld Llywodraeth y DU yn rhoi yn union yr un faint o gyllid i ffermwyr ag a roddwyd gynt gan yr UE ac mae am iddi ariannu’r gwaith sy’n parhau i fynd rhagddo mewn porthladdoedd ar y ffin ar ôl inni adael yr UE.