Neidio i'r prif gynnwy

Mae Kirsty Williams, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, wedi annog athrawon o Gymru i fachu cyfle unigryw i ymweld â'r Sefydliad Ewropeaidd ar gyfer Ymchwil Niwclear (CERN), yn y Swistir.

Cyhoeddwyd gyntaf:
12 Tachwedd 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Yn gynharach eleni roedd 24 o athrawon Ffiseg o Gymru wedi ymweld â safle'r Peiriant Gwrthdaro Hadronau Mawr (Large Hadron Collider) ger Genefa i gael golwg manwl ar rai o'r darganfyddiadau diweddaraf ym maes ffiseg ronynnol, fel rhan o'u Datblygiad Proffesiynol Parhaus.

Mae cynllun lleoli athrawon yn CERN, sy'n cael ei drefnu gan Lywodraeth Cymru a'i gefnogi gan Brosiect ENTHUSE, yn rhoi'r cyfle i athrawon fynd i ddarlithoedd a dysgu am gyfleusterau, swyddogaethau a gweithrediadau CERN gan y gwyddonwyr a'r peirianwyr sy'n gweithio yno. Mae Dr Lyn Evans o Aberdâr yn un o'r gwyddonwyr hynny. Bu hefyd yn gyn Gyfarwyddwr Prosiect y Peiriant Gwrthdaro Hadronau Mawr. Mae'n cefnogi ein hymgyrch Ffocws ar Wyddoniaeth, ac yn cydgysylltu'r cwrs ar gyfer yr ymweliad pedwar diwrnod.

Rydym yn cefnogi athrawon o Gymru unwaith eto eleni, ac mae Kirsty Williams wedi galw arnynt i wneud cais ar frys i sicrhau eu bod yn gallu dysgu sut mae'r gwaith arloesol hwn yn gallu cael ei ddefnyddio i wella'u gwersi, ac yn y pen draw arwain at ennyn mwy o ddiddordeb mewn gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg (sef pynciau STEM).

Dywedodd Kirsty,

“Mae hwn yn gyfle 'unwaith mewn oes', felly rwy'n falch iawn ein bod wedi gallu parhau i gefnogi ein hathrawon am flwyddyn arall i fynd ar y daith eithriadol hon.

“Yr adborth a gafwyd gan aelodau grwp y llynedd yw bod yr wybodaeth a'r profiad sydd ganddyn nhw o ganlyniad i'r daith hon wedi gwneud addysgu ffiseg yn bwnc sy'n llawer mwy difyr ac ystyrlon i fyfyrwyr. Roedd nifer o'r athrawon wedi mynegi diddordeb mewn cadw mewn cysylltiad â threfnwyr y cwrs, gan alluogi iddyn nhw sefydlu rhwydweithiau i rannu arferion gorau. Ac mae athrawon eraill wedi mynd ati i drefnu ymweliadau eu hunain ar gyfer y myfyrwyr yn eu hysgolion nhw.”

Dywedodd Dr Lyn Evans,

“Ein hathrawon yw ein caffaeliad gorau, ac maen nhw haeddu cael eu cefnogi cymaint ag sy'n bosibl. Wrth ddod i CERN, byddan nhw'n profi awyrgylch egnïol ac yn cael cyfle i ryngweithio â gwyddonwyr rheng-flaen. Rydyn ni'n gobeithio y bydd y brwdfrydedd a grëwyd yn amlwg yn yr ystafell ddosbarth ac yn ysbrydoli mwy o wyddonwyr, peirianwyr a thechnegwyr ifanc newydd, sydd eu hangen ar Gymru i gystadlu ym myd uwch-dechnoleg yr 21ain ganrif.”

Mae'r rhaglen wedi'i threfnu a'i chynllunio gan dîm STEM ein hunain, a Jeff Weiner, cydgysylltydd Rhaglen Athrawon CERN, i sicrhau bod athrawon yn manteisio ar y cyfle i werthfawrogi CERN a'r gwaith sy'n cael ei wneud yno; drwy fynd i ddarlithoedd am Ffiseg Ronynnol, cyflymyddion gronynnol a synwyryddion gronynnol, a thrwy ymweld â'r Peiriant Gwrthdaro Hadronau, cyfleuster y prawf magnetic, synhwyrydd y Compact Muon Solenoid, ac yn olaf ymweld â'r Ffatri Gwrthfater.

Yn ddiweddarach y flwyddyn nesaf, bydd athrawon yn gallu cael y cyfle i fynd i CERN am gyfnod o bythefnos yn yr haf; dyma'r tro cyntaf i gwrs preswyl gael ei gynnig i bob athro/athrawes sy'n addysgu gwyddoniaeth (nid dim ond ffiseg). Y dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau yw 31 Rhagfyr.

Dylai athrawon sydd am wneud cais, am y naill ymweliad neu'r llall, gysylltu â'r tîm yn Dysg@wales.gsi.gov.uk