Gallai'r newid i raniad cyllido’r rhaglen adeiladu ysgolion arbed miliynau i awdurdodau lleol - Kirsty Williams
O dan newidiadau a fwriadwyd ar gyfer Band B y rhaglen, bydd Llywodraeth Cymru yn talu am 65% o'r costau cyfalaf ar gyfer prosiect neu adeilad ysgol newydd, gydag awdurdodau lleol a cholegau yn talu am y 35% sy’n weddill.
Bydd Llywodraeth Cymru hefyd yn cynyddu ei chyfran o gyllid cyfalaf ar gyfer cyfleusterau i ddisgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol a’r rheini mewn unedau cyfeirio disgyblion i 75%, gyda’r partneriaid cyflenwi yn talu am 25% o’r costau sy’n weddill.
Yn flaenorol, roedd yr arian cyfatebol ar gyfer y rhaglen cyfalaf fel arfer yn 50-50.
Bydd y newid i’r arian cyfatebol yn cael ei gyflwyno ar gyfer Band B y rhaglen, sy’n dechrau ym mis Ebrill flwyddyn nesaf.
Bydd Band B hefyd yn cynnwys buddsoddiad ychwanegol gyda gwerth cyfalaf o tua £500m wedi’i ariannu drwy’r Model Buddsoddi Cydfuddiannol newydd ar gyfer Cymru.
Dywedodd Kirsty Williams, yr Ysgrifennydd Addysg:
“Rydyn ni i gyd yn gweithio mewn cyfnod o galedi ond os gallwn leddfu'r pwysau cyllido hwn ar awdurdodau lleol a cholegau, dyna a wnawn.
“Mae gan y newid hwn y potensial i arbed miliynau o bunnoedd i awdurdodau lleol a cholegau y gellid ei fuddsoddi mewn rhan arall o’n system addysg.
“Dydw i ddim yn meddwl am eiliad fod hyn yn mynd i ddatrys pob problem, ond mae gwneud newid mor arwyddocaol i’n rhaglen flaenllaw ar gyfer adeiladu ysgolion yn dangos ein bod ni’n barod i weithredu mewn ffordd wahanol ac ystyried ffyrdd amgen o gyllido.
Dywedodd Arweinydd CLlLC, y Cynghorydd Debbie Wilcox (Casnewydd):
“Mae hwn yn gyhoeddiad gan Llywodraeth Cymru rydym yn ei groesawu’n fawr. Bydd yn helpu i leddfu rhywfaint o’r pwysau a wynebir gan ein cynghorau.
“Mae CLlLC yn cefnogi’n frwd y Rhaglen Addysg ac Ysgolion ar gyfer yr 21ain Ganrif. Mae’r rhaglen yn cynrychioli’r buddsoddiad mwyaf yn ein hysgolion a’n colegau ers yr 1960au. Mae’n enghraifft wych o’r hyn y gellir ei gyflawni pan fydd llywodraeth leol a Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda’i gilydd ac mae wedi trawsnewid yr ystad ysgolion ar hyd a lled Cymru.
“Bydd y buddsoddiad hwn yn helpu i ddatblygu Band B y rhaglen i lefel newydd ac rydw i’n edrych ymlaen at weld yr holl adeiladau coleg ac ysgol anhygoel fydd yn deillio o’r bartneriaeth o’r newydd hon â Llywodraeth Cymru”.