Neidio i'r prif gynnwy

Heddiw, bydd Eluned Morgan, Gweinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol, yn dweud y gallai Cymru fod yn arweinydd byd-eang mewn helpu cenhedloedd i gefnogi ieithoedd sydd mewn perygl, yn dilyn ei llwyddiant ei hunan wrth gynyddu'r defnydd o'r Gymraeg.

Cyhoeddwyd gyntaf:
21 Mai 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Bydd y Gweinidog yn siarad yn y Cynulliad Cenedlaethol yn nes ymlaen heddiw i nodi Blwyddyn Ryngwladol Ieithoedd Brodorol y Cenhedloedd Unedig. Bydd hi'n amlinellu ei huchelgais i gyflwyno Cymru i'r byd fel "gwlad sydd wedi gweld ton newydd o gefnogaeth yn yr ymgyrch i gynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg ac i ddangos i eraill ein hymdrechion a hyrwyddo'n stori am y modd yr ydyn ni'n mynd ati'n ymarferol o ran cynllunio ieithyddol yng Nghymru."

Mae cenhedloedd ledled y byd yn wynebu heriau i gefnogi'r defnydd o ieithoedd cynhenid a lleiafrifol yng nghyd-destun effaith globaleiddio. Mae Blwyddyn Ryngwladol y Cenhedloedd Unedig yn cynnig cyfle i dynnu sylw'r byd at y mater pwysig hwnnw.

Yng Nghymru, mae Llywodraeth Cymru wedi pennu targed heriol o gael miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. Mae cynyddu proffil y Gymraeg yn rhyngwladol yn elfen allweddol o strategaeth Cymraeg 2050 Llywodraeth Cymru.

Bydd y Gweinidog yn dweud mai amcanion Llywodraeth Cymru, drwy gymryd rhan yn ymgyrch Blwyddyn Ryngwladol y Cenhedloedd Unedig ar Ieithoedd Cynhenid, yw darparu llwyfan i Gymru godi ei phrofil rhyngwladol fel cenedl ddwyieithog, godi proffil Cymru – yn sgil Brexit - ymhlith sefydliadau a rhwydweithiau rhyngwladol byd-eang, dathlu hanes y Gymraeg a'i diwylliant yn rhyngwladol, a chadarnhau bod Cymru'n genedl a chanddi ran flaenllaw mewn cynllunio ieithyddol, ac yn olaf ond nid lleiaf i ddysgu oddi wrth eraill.

Dywedodd Eluned Morgan, Gweinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol:

“Mae'r Gymraeg mewn gwell sefyllfa na nifer o ieithoedd ledled y byd. Mae arbenigwyr yn amcangyfrif bod un o bob rhyw 7,000 o ieithoedd yn y byd yn marw bob yn ail wythnos. Ond mae'n galonogol gwybod bod y Cenhedloedd Unedig yn arwain ymdrechion i atal y dirywiad hwnnw. 

“Mae hynny'n rhoi cyfle inni, fel cenedl sydd wedi gweld adfywiad mewn ymdrechion i gynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg, ddangos i eraill ein hymdrechion. Mae hefyd yn gyfle inni ddweud ein stori ni am y modd yr ydyn ni wedi rhoi cynllunio ieithyddol ar waith yng Nghymru. 

“Mae hyn yn gyfle gwirioneddol inni rannu ein harbenigedd a'n profiad. Mae hefyd yn rhoi cyfle inni ddysgu oddi wrth brofiad gwledydd eraill a chreu cysylltiadau rhyngwladol newydd.

“Rwy'n awyddus i sicrhau y bydd y Flwyddyn Rynglwadol ar Ieithoedd Cynhenid eleni yn helpu i gryfhau ôl troed y Gymraeg yn rhyngwladol, gan gyfrannu ein harbenigedd, ein profiad a'n gweledigaeth er mwyn helpu sefyllfa ieithoedd eraill ledled y byd.”