Neidio i'r prif gynnwy

Mae’r Ysgrifennydd Iechyd, Eluned Morgan, wedi cyhoeddi heddiw y bydd rhaglen frechu newydd yn cael ei chyflwyno i amddiffyn rhag haint anadlol cyffredin ond a allai fod yn beryglus.

Cyhoeddwyd gyntaf:
17 Gorffennaf 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae Feirws Syncytiol Anadlol (RSV) yn feirws heintus iawn, sy'n heintio 9 o bob 10 o blant cyn eu pen-blwydd yn ddwy oed.

Mae mwy na mil o fabanod yng Nghymru yn gorfod mynd i’r ysbyty bob blwyddyn gydag RSV.

Gall hefyd arwain at gymhlethdodau iechyd difrifol i oedolion dros 75 oed, gan arwain at tua 125 o farwolaethau bob blwyddyn yng Nghymru.

I'r rhan fwyaf o bobl mae RSV yn achosi salwch anadlol ysgafn gyda symptomau tebyg i annwyd. Fodd bynnag, ar gyfer babanod dan flwydd oed a'r henoed, mae risg sylweddol o haint difrifol a allai arwain at orfod mynd i'r ysbyty.

Bydd y rhaglen frechu yn cynnig brechiad rhag RSV i bobl 75 i 79 oed a merched beichiog (o 28 wythnos y beichiogrwydd) am y tro cyntaf o fis Medi ymlaen.

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Eluned Morgan:

“Rwy’n falch iawn o gyhoeddi bod brechlyn RSV yn cael ei gyflwyno yng Nghymru. Mae tystiolaeth yn dangos bod y brechlyn yn ddiogel ac yn effeithiol a bydd brechu ein darpar famau yn helpu i atal ein babanod ieuengaf rhag mynd yn ddifrifol wael gyda’r feirws o’u genedigaeth.

"Bydd y brechlyn hwn hefyd yn ein helpu ni i gadw oedolion hŷn yn ddiogel dros fisoedd y gaeaf a byddwn yn annog pawb sy’n gymwys i’w gael.”

Wrth groesawu cyhoeddiad Ysgrifennydd y Cabinet, dywedodd Dr Christopher Johnson, Pennaeth y Rhaglen Afiechydon Ataliadwy Trwy Frechu yn Iechyd Cyhoeddus Cymru:

“Er bod RSV yn feirws anadlol cyffredin sydd fel rheol yn achosi symptomau ysgafn, gall fod yn ddifrifol i bobl mwy agored i niwed.

"Mae babanod ac oedolion hŷn yn fwy tebygol o ddatblygu RSV difrifol, a allai olygu gorfod mynd i'r ysbyty.

"Bydd y rhaglen frechu hon yn ei lle i amddiffyn grwpiau agored i niwed nawr ac yn y dyfodol.

"Mae gan y brechlyn RSV y potensial i arbed 1000 o blant ifanc bob blwyddyn yng Nghymru rhag gorfod mynd i’r ysbyty a gallai achub bywydau mwy na 125 o bobl hŷn bob blwyddyn.

"Mae’n rhaglen frechu newydd sy’n newid pethau a bydd yn amddiffyn miloedd o’n pobl mwyaf agored i niwed ni rhag mynd yn sâl yn y lle cyntaf, neu’n lleihau’n sylweddol y tebygolrwydd o haint difrifol, gan gadw pobl allan o’r ysbyty a rhag bod angen gweld meddyg teulu, a galluogi mwy o bobl i gael budd o wasanaethau’r GIG.”