Neidio i'r prif gynnwy

Mae canfyddiadau newydd Arolwg Cenedlaethol Llywodraeth Cymru ar unigrwydd yn cadarnhau bod cysylltiad cryf rhwng unigrwydd a pha mor hapus y mae rhywun, a bod pobl sy’n unig lawer yn llai bodlon â’u bywyd.

Cyhoeddwyd gyntaf:
22 Rhagfyr 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Dywedodd y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Julie Morgan:

Mae unigrwydd a theimlo ein bod ar ein pen ein hunain yn gallu cyffwrdd â ni ar unrhyw oed ac yn unrhyw gyfnod o’n bywyd. Mae’n braf clywed drwy’r arolwg bod llai o bobl yn teimlo’n unig, ond rydym yn gwybod bod y rheini a oedd eisoes yn teimlo eu bod wedi’u hynysu wedi teimlo hynny’n gryfach eleni.

Ddoe, siaradais â Desmond Hall, sy’n ddall ac yn byw ar ei ben ei hun. Mae’n cael galwad unwaith yr wythnos gan wirfoddolwr gydag Age Cymru, Remo Sciubber. Mae Desmond yn dweud bod yr alwad reolaidd hon yn gwneud gwahaniaeth y byd iddo ac yn ei gadw mewn cysylltiad â’r byd y tu allan.

Roedd yr arolwg, sy’n cwmpasu 2019-20, yn dangos bod pobl iau yn fwy tebygol o ddweud eu bod yn unig na phobl hŷn, yn ogystal ag unigolion â chyflwr iechyd meddwl neu nad oeddent mewn cystal iechyd yn gyffredinol.

Er gwaethaf pandemig Covid-19, yn ystod mis Mai i fis Medi 2020, nododd llai o bobl eu bod yn unig nag mewn blynyddoedd blaenorol. Nid yw’r data ar gyfer misoedd y gaeaf ar gael eto.

Fodd bynnag, mae cysylltiad cryf rhwng sefyllfa gymdeithasol-economaidd unigolyn ag unigrwydd, ac mae amddifadedd materol yn ffactor risg sylweddol.

Aeth Julie Morgan yn ei blaen:

Rydyn ni am sicrhau bod pobl yn teimlo eu bod mewn cysylltiad – dyna pam y gwnes i lansio strategaeth gyntaf erioed Cymru ar gyfer unigrwydd ac ynysu cymdeithasol, sef Cysylltu Cymunedau. Rydyn ni’n cymryd y cam cyntaf i helpu i newid sut mae pobl yn ystyried unigrwydd ac ynysu cymdeithasol.

Dywedodd y Dirprwy Weinidog a’r Prif Chwip, Jane Hutt:

Nid cwestiwn o fod ar eich pen eich hun yw unigrwydd, a bod yna neb i rannu â nhw. Cwestiwn o deimlo’n unig ydyw. Mater o pwy sydd yna ar eich cyfer ydyw.

Gall unrhyw un brofi unigrwydd, ond gall y gaeaf fod yn gyfnod arbennig o anodd, yn enwedig eleni. Mae cysylltu â ffrindiau a theulu yn ystod y pandemig wedi bod yn anodd, ond mae llawer wedi dod o hyd i ffyrdd arloesol o wneud hynny drwy ddigwyddiadau ar-lein neu drwy gefnogi eraill yn eu cymuned.

Ddoe siaradais â gwirfoddolwr, Remo, sy’n ffonio rhywun hŷn bob wythnos fel rhan o wasanaeth ‘Ffrind mewn Angen’ Age Cymru. Gall y math hwn o alwad wneud gwahaniaeth mawr i rywun sy’n profi unigrwydd ac sydd wedi’i ynysu, a hefyd i’r gwirfoddolwr.

Dw i am ddiolch i wirfoddolwyr ledled Cymru am eich gwaith caled a’ch cefnogaeth drwy gydol y flwyddyn anodd hon – mae eich gofal a’ch caredigrwydd wedi gwneud gwahaniaeth aruthrol.

Dywedodd Prif Weithredwr Age Cymru, Victoria Lloyd:

Mae teimlo’n unig a bod rhywun ar ei ben ei hun wedi bod yn her enfawr i bobl hŷn erioed, ond mae’r pandemig wedi gwaethygu’r broblem, yn enwedig wrth inni agosáu at gyfnod y Nadolig pan fyddai llawer wedi bod yn cyfarfod â theulu a ffrindiau fel arfer.

Mae’n hollbwysig, felly, i gymunedau barhau i gefnogi pobl hŷn drwy gydol cyfnod y Nadolig ac i mewn i 2021. Gall cynnig mynd i siopa drostynt, casglu presgripsiwn neu sgwrs ar y ffôn helpu pobl hŷn a rhoi tawelwch meddwl iddyn nhw.

Eleni mae gwirfoddoli ffurfiol ac anffurfiol wedi gwneud gwahaniaeth enfawr i gymunedau a phobl hŷn ledled Cymru ac mae wedi dangos inni i gyd yr awydd i ofalu sydd yna o fewn ein cymunedau