Gallai TAR newydd rhan-amser sy'n cyfuno astudio ar-lein â dosbarthiadau tiwtorial a seminarau olygu bod Cymru'n arwain y ffordd cyn hir o ran Addysg Gychwynnol Athrawon (AGA).
Y llwybr amgen newydd hwn i addysgu, a gyhoeddwyd heddiw gan yr Ysgrifennydd Addysg Kirsty Williams, yw'r diweddaraf mewn cyfres o ddiwygiadau i drawsnewid y ffordd y caiff AGA ei darparu yng Nghymru. Mae'r diwygiadau hefyd yn cynnwys rhaglenni AGA newydd llawn amser.
Byddai'r TAR newydd rhan-amser yn darparu dewis amgen o ansawdd uchel i astudiaethau llawn amser ac yn cael gwared ar yr angen i fyfyrwyr deithio er mwyn cyrraedd eu cwrs.
Yn hytrach, byddai modd i fyfyrwyr ryngweithio â'u darlithwyr a'u cyd-fyfyrwyr ar-lein, yn yr un modd ag y byddent yn y rhaglenni AGA llawn amser a fydd yn cael eu hachredu cyn hir. Byddai hyn yn dileu unrhyw rwystrau a allai godi oherwydd eu lleoliad neu bellter wrth brifysgol.
Yn ogystal â'r TAR newydd, cyhoeddodd yr Ysgrifennydd Addysg lwybr newydd i addysgu sy'n seiliedig ar gyflogaeth. Byddai'r llwybr hwn yn golygu bod athrawon dan hyfforddiant yn cael eu cyflogi gan ysgol o'r cychwyn cyntaf. Caiff hyn ei dargedu er mwyn helpu'r consortia rhanbarthol i fynd i'r afael â bylchau addysgu mewn ysgolion.
Y nod yw bod y TAR rhan-amser a'r llwybr i addysgu sy'n seiliedig ar gyflogaeth yn galluogi hyfforddeion i barhau â'u hymrwymiadau presennol, gan gynnwys eu swyddi a'u hincwm, wrth astudio i fod yn athro ar yr un pryd.
Byddai'r myfyrwyr hefyd yn gallu manteisio ar gyfleoedd a geir drwy drefniadau cyllid myfyrwyr newydd Cymru. O flwyddyn academaidd 2018-19, bydd myfyrwyr o Gymru - p'un a ydynt yn astudio cwrs israddedig yn llawn amser neu'n rhan-amser - yn cael cymorth ar gyfer eu costau byw sy'n cyfateb i gyflog byw cenedlaethol y DU.
Wrth gyhoeddi'r newidiadau heddiw, dywedodd Kirsty Williams:
“Ni all system addysg fod yn well na safon ei hathrawon, ac ni ellir cyflwyno ein cwricwlwm newydd heb broffesiwn addysgu uchelgeisiol a gefnogir yn dda.
“Gallai'r TAR newydd rhan-amser drawsnewid y ffordd y mae Addysg Gychwynnol Athrawon yn cael ei darparu yng Nghymru, gan ategu ein rhaglenni TAR llawn amser sydd cystal o ran ansawdd.
“Bydd myfyrwyr newydd na fyddai byth wedi ystyried gyrfa mewn addysgu o'r blaen neu y mae’r costau neu eu lleoliad wedi bod yn rhwystr iddynt, yn gallu manteisio ar gymhwyster a rhaglen academaidd o'r safon uchaf bosibl sy'n hyblyg ac yn hygyrch.
“Defnyddio technoleg yn y modd hwn yw'r ffordd orau i ni ddenu pobl ddawnus a phrofiadol iawn sydd â'r sgiliau lefel uwch y mae eu hangen ar y proffesiwn addysg a'r economi ehangach.
“Rwy'n hyderus y bydd y newid mawr yn ein rhaglenni AGA llawn amser, y TAR rhan-amser newydd a'r llwybr i addysgu sy'n seiliedig ar gyflogaeth, ynghyd â'r safonau proffesiynol newydd ar gyfer addysgu a'r meini prawf achredu ar gyfer addysg gychwynnol i athrawon, yn ein galluogi i godi safonau'n gyffredinol a gwneud Cymru'n arweinydd byd.”
Gwnaeth yr Ysgrifennydd Addysg gadarnhau hefyd y bydd yn caffael darparwr Addysg Uwch, neu bartneriaeth o ddarparwyr, i weithredu'r cynigion drwy weithio gydag ysgolion a chonsortia addysg ar draws Cymru.