Neidio i'r prif gynnwy

Mae newidiadau i’r cyngor ar gyfer pobl sy’n gwarchod eu hunain rhag y coronafeirws yn cael eu cyflwyno o ddydd Llun 1 Mehefin ymlaen, cyhoeddodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Vaughan Gething heddiw.

Cyhoeddwyd gyntaf:
31 Mai 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Gall pobl sydd wedi bod yn gwarchod eu hunain ymarfer yn yr awyr agored yn awr a chyfarfod pobl o gartref arall, ar yr amod bod hyn yn digwydd yn yr awyr agored.

Mae dau newid i’r cyngor ar gyfer y grŵp hwn:

  • nid oes cyfyngiadau ar ymarfer yn yr awyr agored, ar yr amod bod unigolion yn cadw’n llym at reolau cadw pellter cymdeithasol ac arferion hylendid
  • gall y rhai sy’n gwarchod eu hunain gyfarfod yn yr awyr agored â phobl o gartref arall – ond ni ddylent fynd i mewn i dŷ person arall na rhannu bwyd gyda hwy

Nid oes unrhyw newidiadau eraill yn cael eu gwneud i’r cyngor ar gyfer y rhai sy’n gwarchod eu hunain yn y cam hwn. Dylai pobl sy’n gwarchod eu hunain barhau i ddilyn yr holl gyngor arall sydd wedi’i roi’n flaenorol. Ni ddylent fynd i siopa na mynychu gwaith y tu allan i’w cartref. Dylent barhau i sicrhau bod bwyd a meddyginiaeth yn cael eu dosbarthu iddynt.            

Mae’r cyngor hwn yn dod gan Brif Swyddog Meddygol Cymru, Dr Frank Atherton, a ddywedodd:

“Does dim posibl dileu’r risg yn llwyr fyth ond rydyn ni’n cynghori’r rhai sy’n gwarchod eu hunain i ymarfer ar amseroedd llai prysur, fel bod y risg o gyswllt ag eraill yn is.              

“Rydyn ni wedi cynghori pawb yng Nghymru i gadw pellter cymdeithasol o 2 fetr a chadw at arferion hylendid da wrth gyfarfod yn yr awyr agored. I’r rhai sy’n gwarchod eu hunain, mae cadw’n llym at y rheolau yma’n hanfodol.”

Dywedodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Vaughan Gething:

“Rydw i’n falch bod cymaint o bobl wedi bod yn gwarchod eu hunain mor ofalus – gan nid yn unig warchod eu hunain ond hefyd helpu i warchod ein GIG. Rydyn ni’n deall bod y misoedd diwethaf yma wedi bod yn heriol iawn, heb fawr ddim cyswllt wyneb yn wyneb ag eraill.      

“Rydw i’n eithriadol falch o bawb sydd wedi ac sy’n parhau i ddarparu’r gefnogaeth hanfodol yma i alluogi pobl i warchod eu hunain. Mae ein partneriaid ni yn yr Awdurdodau Lleol ac mewn fferyllfeydd, gwirfoddolwyr a manwerthwyr bwyd ar raddfa fawr wedi tynnu at ei gilydd i gyd i sicrhau bod gwarchod yn bosibl.”

Mae’r Prif Swyddog Meddygol yn parhau i ddatblygu ei gyngor ar gyfer pobl sy’n gwarchod eu hunain ar ôl 15 Mehefin. Bydd pawb sy’n gwarchod eu hunain yn cael llythyr gan y Prif Swyddog Meddygol yn ystod y pythefnos nesaf yn datgan y camau newydd.