Neidio i'r prif gynnwy

Yn annog pawb ledled Cymru i ofalu am bobl hŷn a'r rheini sy'n agored i niwed, sy’n aelodau o’n teulu neu'n gymdogion, y Nadolig hwn.

Cyhoeddwyd gyntaf:
21 Rhagfyr 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Yn ei neges Nadolig, bu'r Gweinidog yn canmol staff y gwasanaethau cymdeithasol a gwirfoddolwyr eraill ar draws Cymru am y gofal a'r cymorth y maen nhw'n eu rhoi i rai o'n pobl fwyaf agored i niwed, 24 awr y dydd, saith diwrnod yr wythnos.

Dywedodd Huw Irranca-Davies:

“Mae bod yn Weinidog Gofal Cymdeithasol i Gymru yn fraint arbennig iawn. Bob dydd, dw i'n gweld neu'n clywed am enghreifftiau di-rif o staff yn y sector gofal cymdeithasol yn mynd y filltir ychwanegol i gefnogi plant mewn gofal, pobl hŷn, pobl anabl, a'r rheini sy'n agored i niwed yn ein cymunedau. Ar ran Llywodraeth Cymru, hoffwn ddiolch ichi bob un.

“Wrth i lawer ohonom baratoi ar gyfer y Nadolig gyda'n teuluoedd a'n ffrindiau, mae llawer o bobl ledled Cymru yn wynebu treulio'r Nadolig ar eu pennau eu hunain. Fodd bynnag, dw i'n gwybod bod Cymru yn wlad lle rydyn ni'n ofalgar tuag at eraill. Fel cymdeithas, rydyn ni'n poeni beth sy'n digwydd i'r rheini sy'n llai ffodus na ni.

“Felly dw i'n galw ar bawb ym mhob cwr o Gymru i ofalu am y rheini sy'n hŷn neu'n agored i niwed yn eu teuluoedd neu eu cymdogaeth. Galwch i mewn i'w gweld, ac os gallwch chi, beth am eu gwahodd i ymuno â chi a'ch teulu i ddathlu'r Nadolig.

“Hoffwn ddymuno Nadolig Llawen ichi i gyd, yng nghwmni anwyliaid yr ydych yn teimlo'n ofalgar ohonyn nhw, a hwythau'n teimlo'r un fath tuag atoch chi. Gadewch inni wneud yn siŵr nad yw'n rheini, nad ydyn nhw am fod ar eu pennau eu hunain, yn unig y Nadolig hwn.”