Mae’r Gweinidog Iechyd, Eluned Morgan, yn annog pawb i dderbyn y cynnig i gael eu brechiad COVID, yng ngoleuni’r cadarnhad y bydd pob person ifanc 16 ac 17 oed yng Nghymru wedi cael cynnig brechlyn COVID erbyn diwedd yr wythnos hon.
Mae hyn yn dilyn canllawiau diweddar gan y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu (JCVI) ar frechu pobl ifanc dros 16 oed.
Mae clinigau galw heibio ar agor ledled Cymru, yn cynnig y cyfle i bobl gael y brechlyn COVID ar adeg sy’n gyfleus iddyn nhw, ac mae Byrddau Iechyd yng Nghymru yn parhau i fanteisio ar bob cyfle i frechu’r boblogaeth.
Yr wythnos hon, bydd uned frechu symudol yn Sioe Sir Benfro, yn cynnig cyfle i’r rheini a fydd yn bresennol gael eu brechlyn COVID, os nad ydynt eisoes wedi gwneud hynny. Er bod Sioe Sir Benfro ond ar agor i’r rheini sy’n cymryd rhan eleni, mae trefnwyr yn disgwyl y bydd hynny dal yn tua 10,000 o bobl, sy’n gyfle da i gynnig y brechiad i unrhyw un a fyddai’n dymuno manteisio ar y cyfle hwn.
Mae hyn yn dilyn esiamplau gan Fyrddau Iechyd ar draws Cymru sy’n parhau i ymateb i anghenion a chyfleodd yn eu hardaloedd drwy redeg clinigau symudol, gweithio gyda chyflogwyr mawr, gweithio gyda sefydliadau partner i roi gwybodaeth am y brechlyn, trefnu trafnidiaeth i glinigau brechu a gweithio un i un gyda phobl agored i niwed.
Dywedodd Eluned Morgan, y Gweinidog Iechyd:
Mae ein rhaglen frechu yn un o’r radd flaenaf, ond rydyn ni’n gwybod bod rhai pobl heb dderbyn y cynnig i gael y brechlyn o hyd. Rydyn ni’n arbennig o awyddus i sicrhau bod pobl ifanc, gan gynnwys y rheini dros 16 oed sydd bellach yn gymwys i gael y brechlyn, yn derbyn y cynnig fel bod eu risg yn llai o ran effeithiau’r coronafeirws nawr eu bod yn gallu cymdeithasu fwy.
Y brechlyn yw’r ffordd orau bosibl o’n diogelu rhag y coronafeirws, ac rydym am sicrhau na chaiff neb ei adael ar ôl. Dyma pam y mae mor bwysig ein bod yn ei gwneud yn hawdd ac yn gyfleus i bobl allu cael y brechiad.
Dyw hi ddim yn rhy hwyr i gael y brechlyn. Derbyniwch eich cynnig neu ewch i glinig galw heibio er mwyn eich diogelu chi eich hun a’ch anwyliaid, a Diogelu Cymru.