Neidio i'r prif gynnwy

Trosolwg

Rydym ni wedi ymrwymo i gefnogi ffermwyr i gynhyrchu bwyd mewn ffordd gynaliadwy ond gan weithredu hefyd i ymateb i’r argyfwng hinsawdd a helpu i wyrdroi’r dirywiad mewn bioamrywiaeth. Cyflwynir cymorth ariannol i ffermwyr, rheolwyr tir a’r sectorau gwledig cysylltiedig trwy fframwaith hyblyg o gymorth o dan yr Amcanion Rheoli Tir yn Gynaliadwy a amlinellir yn Neddf Amaethyddiaeth (Cymru) 2023 (‘y Ddeddf Amaethyddiaeth’):

  • cynhyrchu bwyd mewn modd cynaliadwy
  • lliniaru ac addasu i’r newid yn yr hinsawdd
  • cynnal a gwella gwytnwch ecosystemau a’r manteision maent yn eu darparu, a
  • cadw a gwella cefn gwlad ac adnoddau diwylliannol a hyrwyddo mynediad y cyhoedd iddynt a’u hymgysylltiad â hwy, a chynnal y Gymraeg a hyrwyddo a hwyluso ei defnydd 

Mae rhagor o wybodaeth am gynlluniau sy’n cael eu datblygu ar gael yn Grantiau a thaliadau gwledig | Is-bwnc | LLYW.CYMRU.

Adran A: cyflwyniad

Mae'r nodiadau canllaw hyn yn egluro'r Cynllun Sbarduno Busnesau Bwyd (FBAS) a'r math o brosiectau a allai fod yn gymwys am gymorth grant.  Darllenwch nhw'n ofalus. Os byddwch yn credu wedyn y gallai eich cynlluniau buddsoddi fod yn gymwys am grant a'ch bod am wneud cais am gymorth o dan y cynllun hwn, darllenwch ‘Sut i Wneud Cais’ yn adran C.

Y gyllideb ddangosol a ddyrannwyd yw £5 miliwn.

Bwriad yr FBAS yw helpu'r busnesau hynny sy'n cynnig manteision clir a mesuradwy i'r diwydiant bwyd a diod yng Nghymru. Ei nod yw gwella perfformiad, cynaliadwyedd ac effeithlonrwydd busnesau newydd a rhai sydd eisoes yn bod a’u gwneud yn fwy cystadleuol; eu helpu i ymateb i'r galw ymhlith defnyddwyr; eu hannog i arallgyfeirio; ac adnabod a gwasanaethu marchnadoedd newydd a marchnadoedd cyfredol a manteisio arnynt.

Mae'r FBAS yn talu am fuddsoddi cyfalaf mewn offer prosesu, gan ganolbwyntio ar gynhyrchiant a chynaliadwyedd ynghyd â rhai costau cysylltiedig, ac yn cefnogi prosiectau sy'n cynnig manteision clir a mesuradwy i'r diwydiant bwyd a diod yng Nghymru. 

Rhaid i ymgeiswyr hefyd ddangos bod yna farchnad hyfyw ar gyfer eu cynnyrch, bod ganddynt gynllun credadwy i'w gwerthu i'r farchnad honno, ac na fyddai'r prosiect yn mynd ei flaen heb y grant. 

Gellir defnyddio'r grant i wella cynhyrchiant a chynaliadwyedd, e.e. uwchraddio offer prosesu yn sylweddol, gwelliannau i effeithiolrwydd ynni a gwastraff.   

Darllenwch reolau a chanllawiau'r cynllun a chwblhau’r cais cyn cymhwyso i asesu a yw eich prosiect yn gymwys.

Rhaid i chi allu cwblhau a hawlio’r holl eitemau Gwariant erbyn dyddiad gorffen Dyfarniad Grant neu 31 Mawrth 2026 pa un bynnag ddaw gyntaf. Byddwn yn gwrthod hawliadau sy'n cyrraedd ar ôl y dyddiad hwn.

Amcanion strategol

Mae gan Lywodraeth Cymru weledigaeth hirdymor ar gyfer y diwydiant bwyd a diod sy’n cael ei disgrifio yn ‘Gweledigaeth ar gyfer y diwydiant Bwyd a Diod o 2021 Mae’n cynnig gweledigaeth o ddiwydiant cryf, bywiog gydag enw da trwy’r byd am ragoriaeth ac sydd ag un o'r cadwyni cyflenwi mwyaf amgylcheddol a chymdeithasol gyfrifol yn y byd. 

Cenhadaeth y Weledigaeth yw:

  • cynyddu gwerth, cynhyrchiant a maint busnesau
  • bod llwyddiant busnesau’n dod â budd i bobl a chymdeithas; a
  • hyrwyddo Cymru a dathlu ein llwyddiant fel Cenedl Fwyd

Rhaid i bob prosiect sy'n cael ei gefnogi drwy'r FBAS gyfrannu at wireddu’r Weledigaeth, gan gynnwys unrhyw ddiweddariadau dilynol, a gwneud cyfraniad amlwg.  Bydd y cyfraniad at wireddu’r weledigaeth yn cael ei asesu yn ystod yr arfarniad.  O ran yr FBAS yr amcanion mwyaf perthnasol i’r Weledigaeth yw:

Tyfu: Bob blwyddyn, bydd gwerth trosiant sector bwyd a diod Cymru’n tyfu’n gymesur yn fwy na gweddill y DU, ac i o leiaf £8.5bn erbyn 2025.

Cynhyrchiant: Bydd cyfartaledd tair blynedd Gwerth Ychwanegol Gros (GVA) yr awr a weithir yn y diwydiant yn cynyddu’n gymesur yn fwy na gweddill y DU. 

Gwaith Teg: Bob blwyddyn, bydd cyfran gweithwyr y sector sy’n derbyn Cyflog Byw Cymru o leiaf yn cynyddu, i gyflawni 80% erbyn 2025. 

Er bod y Weledigaeth yn canolbwyntio ar weithgynhyrchu a phrosesu bwyd, mae'n cyfuno â strategaethau eraill Llywodraeth Cymru sydd â chysylltiadau â'r gadwyn gyflenwi ehangach: amaethyddiaeth a physgodfeydd, pecynnu, cyfanwerthu, manwerthu - mae'r system yn gysylltiedig. 

Hanfod y Weledigaeth yw datblygu busnesau cyfrifol mewn amgylchedd deinamig. Mae’n rhoi pwyslais ar y cymorth busnes a’r gwaith datblygu busnesau sy’n gysylltiedig ag ymrwymiadau Rhaglen Lywodraethu Llywodraeth Cymru sy’n anelu at wneud Cymru’n lle gwell, sydd wedi’i grynhoi yn Bwyd o Bwys: Cymru

Adran B: pwy sy’n gymwys am FBAS

Rydych yn gymwys i wneud cais os ydych yn:

Fusnes sydd wedi’i gofrestru ar gyfer TAW ac sy’n cynnal prosesau cynradd a/neu eilaidd mewn cynnyrch amaethyddol ac anamaethyddol, fel: 

  • cwmnïau cyfyngedig preifat a chyhoeddus
  • unig fasnachwyr a phartneriaethau
  • busnesau fferm sy’n prosesu cynnyrch amaethyddol
  • busnesau newydd, gan gynnwys hen fusnesau sy'n dechrau arallgyfeirio a busnesau sydd newydd eu sefydlu
  • cwmnïau dielw, cwmnïau cydweithredol a mudiadau cymunedol, cyhoeddus a gwirfoddol

Rhaid bod gan fusnesau sydd eisoes yn bod sgôr hylendid bwyd o 4 fan leiaf cyn cael gwneud cais. 

Gweithgareddau cymwys

Mae'r cynllun hwn yn cynnig cymorth ar gyfer buddsoddiadau diriaethol a/neu anniriaethol mewn gweithgareddau prosesu sy'n dod â manteision clir a mesuradwy i'r diwydiant bwyd a diod yng Nghymru a'i gadwyni cyflenwi.

Gall ffrwyth y gweithgaredd fod yn unrhyw fath o gynnyrch bwyd a diod i'w fwyta gan bobl; cynhyrchion bwyd anifeiliaid fferm neu anwes; cynhyrchion bwyd swyddogaethol eraill.

Gweithgareddau anghymwys

Mae nifer o fuddsoddiadau a chynhyrchion nad ydynt yn gymwys i gael cymorth:

  • buddsoddiadau ar lefel manwerthu yn unig – sef prynu nwyddau ar gyfer eu hailwerthu neu i'w defnyddio ar gyfer ychwanegu at werth gwasanaeth fel mewn tai bwyta, caffis, safleoedd bwyd cyflym gan gynnwys safleoedd symudol.
  • buddsoddiadau i brynu eitemau yn lle’r rhai a brynwyd gyda chymorth grant cyhoeddus (yn yr un busnes)
  • buddsoddiadau mewn cludo a/neu ddosbarthu
  • cynnyrch nad oes prawf bod marchnad realistig ar ei gyfer
  • gwella safle a/neu offer i ateb gofynion yn sgil camau gorfodi statudol neu a brynwyd o dan hawliad yswiriant
  • gosod a phrynu paneli solar

Costau cymwys

Gellir defnyddio’r cymorth o dan y cynllun hwn i brynu asedau diriaethol fel gwelliannau cynaliadwyedd adeiladau, peiriannau, a chyfarpar, ac asedau diriaethol fel meddalwedd gyfrifiadurol, yn amodol ar gyfyngiadau:

  1.  ni ddylai adeiladu, neu wella eiddo sefydlog olygu bod angen caniatâd cynllunio neu dylid bod wedi cael caniatâd cynllunio eisoes cyn cyflwyno’r cais.
  2. prynu peiriannau a chyfarpar newydd hyd at werth yr ased ar y farchnad a chostau gosod cysylltiedig, yn destun amod 1.
  3. prynu neu ddatblygu meddalwedd cyfrifiadurol, sydd wedi’i gysylltu’n uniongyrchol a phrosiect gwella gweithgarwch prosesu ac eithio unrhyw gostau ar gyfer tanysgrifio neu drwyddedau, hawlfraint neu nodau masnach. 

Mae cyfarpar ail-law yn gymwys os yw'r ymgeisydd yn gallu dangos y canlynol:

  • bod yr offer yn bodloni'r ddeddfwriaeth iechyd a diogelwch gyfredol
  • ei fod yn ateb y gofyn
  • y disgwylir iddo allu para o leiaf bum mlynedd arall.

Costau anghymwys

Mae’r eitemau canlynol yn enghreifftiau o wariant nad ydynt yn gymwys am gymorth grant.  Nid yw hon yn rhestr gynhwysfawr, a bydd pob un o'r eitemau gwariant yn cael eu hystyried fesul achos:

  • prynu adeiladau
  • unrhyw waith ffisegol ar y safle a wneir cyn dyddiad dechrau swyddogol y gwaith (os bydd unrhyw waith wedi’i wneud, gellid gwrthod y grant cyfan)
  • gwaith dros dro nad yw’n uniongyrchol gysylltiedig â chynnal y prosiect
  • prynu cerbydau ar gyfer cludiant allanol neu’r tu allan i’r safle (mae wagenni fforch godi, neu’u tebyg, at ddiben cludo a thrafod mewnol yn gymwys)
  • prynu stoc i’w werthu
  • cyfalaf gweithio
  • TAW y gellir ei hawlio yn ôl
  • costau cynnal a chadw
  • eich costau llafur a’ch cyfarpar eich hun
  • cyfnewid peiriannau neu gyfarpar am rai newydd yr un fath,
  • nwyddau traul (eitemau sy’n cael eu dileu o fewn blwyddyn fel arfer)
  • cyfarpar hamdden (er efallai y gallai setiau teledu, taflunyddion ac ati at ddibenion addysgol neu fusnes fod yn gymwys am grant)
  • gwaith tirlunio ac addurno a darparu cyfleusterau hamdden
  • cyfarpar a dodrefn swyddfa cyffredinol
  • costau refeniw fel cyflogau ar gyfer staff allweddol; hyfforddiant ar gyfer cyfarwyddwyr a staff allweddol; mynychu ffeiriau masnach; treuliau cyfarwyddwyr allanol
  • costau sy’n gysylltiedig â chontract lesio fel elw’r lesydd, costau cyllido llog, gorbenion a thaliadau yswiriant
  • costau trefnu gorddrafft, benthyciadau neu gyfleusterau cymorth ariannol eraill, gan gynnwys unrhyw ffioedd cysylltiedig neu daliadau eraill
  • gorbenion ar gyfraddau lawer uwch na’r rhai a ddefnyddir ar gyfer gwaith tebyg a wneir gan yr ymgeisydd
  • gwariant tybiannol
  • talu am weithgarwch o natur wleidyddol
  • dibrisiant, amorteiddio ac amhariad asedau a brynwyd gyda chymorth grant
  • rhwymedigaethau digwyddiadol
  • hapddigwyddiadau / darpariaethau
  • elw a wneir gan yr ymgeisydd
  • difidendau
  • cyfraddau llog
  • taliadau gwasanaeth am lesio, hurbwrcasu a threfnu credyd
  • costau sy’n deillio o ohirio talu credydwyr
  • costau sy’n ymwneud â dirwyn cwmni i ben
  • taliadau am ddiswyddo annheg
  • taliadau i gynlluniau pensiwn preifat
  • taliadau ar gyfer pensiynau heb eu cyllido
  • iawndal am golli swydd
  • iawndal a delir i drydydd partïon am ddifeddiant, cnydau heb eu cynaeafu ac ati
  • drwgddyledion sy’n deillio o fenthyciadau i weithwyr, perchenogion, cyfarwyddwyr, partneriaid, gwarantwyr, cyfranddalwyr neu berson sy’n gysylltiedig ag unrhyw un o’r rhain
  • talu am anrhegion a rhoddion
  • adloniant
  • dirwyon a chosbau statudol
  • trethi statudol (ac eithrio trethi na ellir eu hawlio yn ôl)
  • dirwyon ac iawndal troseddol
  • treuliau cyfreithiol yn ymwneud â chyfreitha

Rhaid i gostau sy’n gysylltiedig ag adnewyddu a/neu addasu unrhyw adeilad fod yn gymesur â maint, natur a bwriad y prosiect. Prif ffocws y grant fydd cynhyrchu a phrosesu cynhyrchion a chynnig manteision clir a mesuradwy i'r diwydiant bwyd a diod yng Nghymru.

Er mwyn cael grant ar gyfer costau sy’n gysylltiedig â phrynu cyfarpar (newydd a/neu ail law), rhaid bod yr hawliwr wedi talu’r costau hynny.  Hynny yw, nid yw costau llawn unrhyw gyfarpar sy’n cael ei brynu trwy hurbwrcas neu brydles neu drefniant ariannol arall yn gymwys am gymorth grant. 

Cyfradd uchaf y grant a throthwy uchaf y grant

Y grant fydd cyfraniad y sector cyhoeddus at y prosiect buddsoddi, a gall hynny gynnwys: arian oddi wrth Lywodraeth Cymru; arian oddi wrth adrannau ac asiantaethau eraill y llywodraeth, cyrff cyhoeddus anadrannol ac awdurdodau lleol; arian oddi wrth gyrff a reolir gan y llywodraeth fel y Gwasanaeth Busnesau Bach a'r Loteri Genedlaethol; ac arian oddi wrth ardollau.

Os ceir arian o ffynonellau cyhoeddus eraill i gefnogi costau’r prosiect, tynnir swm cyfwerth o’r grant Sbarduno Busnesau Bwyd.

Y grant mwyaf a roddir fesul menter ar gyfer unrhyw brosiect buddsoddi unigol yw £500,000

Y grant lleiaf a roddir fesul menter ar gyfer unrhyw brosiect buddsoddi unigol yw £20,000

  • FBAS  – Y Grant Mwyaf y gellir gwneud cais amdano yw £500,000

Mae’r cyfraddau grant uchaf fel a ganlyn:

40% o gyfanswm y gost buddsoddi 

Mae'r grant yn darparu hyd at 40% o gyfraniad tuag at fuddsoddiad cyfalaf (ac eithrio TAW) ar sail costau gwirioneddol wedi’u hanfonebu.

Er enghraifft, os cynigir grant i chi i brynu peiriant gwneud selsig gwerth £60,000, y grant mwyaf y gallwch ei gael yw £24,000. 

Os bydd cost cwblhau’r buddsoddiad yn fwy na £60,000, ni chaiff y grant fynd yn uwch na’r gost wreiddiol a nodwyd yn y cais h.y. 40% neu £24,000.

Os bydd cost cwblhau'r buddsoddiad yn llai na'r gost wreiddiol a gyflwynwyd yn y cais e.e. £58,000, bydd y grant y gallwch ei hawlio yn gostwng i £23,200 (40% o'r gwariant gwirioneddol).

Dewis prosiectau llwyddiannus 

Bydd y broses cyn-gymhwyso gychwynnol yn cadarnhau bod y meini prawf sylfaenol wedi eu bodloni’n llawn.  Bydd yr wybodaeth sydd ei hangen yn cynnwys manylion busnes, crynodeb o'r prosiect, cyweddu strategol a gwerth y ceisiadau am gyllid. 

  • Sylwer, bydd unrhyw ddyfarniad o gyllid yn cael ei gapio i'r swm y gofynnwyd amdano a gofnodir ar eich cais cyn-gymhwyso.  

Os bydd eich prosiect yn gymwys, cewch eich gwahodd i lenwi ffurflen gais ar-lein. Sylwer nad yw cael eich derbyn cyn-gymhwyso yn gwarantu y bydd cyllid grant yn cael ei ddyfarnu.

Cwblhewch y cais cyn-gymhwyso.

Darllenwch y canllawiau hyn ar y cyd â'r ffurflen gais.

Y prif ofynion 

Wrth ichi gyflwyno Ceisiadau Llawn, rhaid dangos hefyd eich bod wedi rhoi sylw i’r materion hyn:

  • eich bod wedi cael caniatâd cynllunio, lle bo’i angen
  • eich bod wedi cael yr holl gydsyniadau, trwyddedau a mathau eraill o ganiatâd, lle bo’u hangen
  • ar gyfer busnesau sydd eisoes yn bod, rhaid dangos bod y prosiect a'r busnes yn hyfyw yn economaidd, drwy ddarparu cyfrifon ar gyfer 3 blynedd yn olynol yn union cyn dyddiad y cais, a'r rhagolygon ariannol ar gyfer cyfnod y prosiect.

Bydd gofyn i fusnesau newydd ddarparu manylion llawn am gefndir a phrofiadau'r cyfarwyddwyr ynghyd â thystiolaeth arall sydd ei hangen er mwyn dilysu'r cynllun busnes a chynigion y prosiect ac mae’n rhaid i bob busnes sy’n gwneud cais ddangos sut y bwriedir cyflawni’r canlynol:

  1. ni ddylai'r prosiect geisio disodli unrhyw weithgaredd busnes arall
  2. dylai prosiectau hyrwyddo ac annog cyfleoedd cyfartal a mynd i’r afael ag allgáu cymdeithasol
  3. rhaid recriwtio staff allweddol drwy gystadleuaeth deg ac agored
  4. cydymffurfio â’r safonau gofynnol a’r gofynion deddfwriaethol o ran yr amgylchedd, hylendid, lles anifeiliaid a safonau iechyd a diogelwch (gan gynnwys cael cymeradwyaeth Gwasanaeth Hylendid Cig a'r Swyddog Iechyd yr Amgylchedd lleol)
  5. sicrhau bod gan y busnes y sgiliau a'r cymwyseddau technegol angenrheidiol neu ymrwymiad i drefnu hyn o fewn amserlen y prosiect

Rhaid cwblhau’r prosiect a hawlio'r grant erbyn dyddiad cwblhau’r Dyfarniad Grant neu 31 Mawrth 2026 pa un bynnag ddaw gyntaf. Ni fydd hawliadau a fydd yn cyrraedd ar ôl y dyddiad hwnnw yn cael eu hystyried ac ni fyddant yn cael eu talu.

Bydd angen ichi ddangos y canlynol:

  •  Fod y prosiect gynnig manteision uniongyrchol neu anuniongyrchol i gynhyrchwyr cynradd yn y sector amaethyddiaeth neu gynnig manteision clir a mesuradwy i'r diwydiant bwyd a diod yng Nghymru.
  • Bod marchnad arferol (hyfyw) ar gyfer cynnyrch/cynhyrchion y prosiect.
  • Na fyddai’r prosiect yn mynd rhagddo heb gymorth grant.
  • Dim ond un grant FBAS sy’n cael ei gynnig ichi ar y tro.

Rhaid prynu pob eitem yn unol â gofynion Caffael a Thendro Cystadleuol Llywodraeth Cymru. Gweler Adran E am ragor o fanylion.

Sicrhewch fod yr holl fuddsoddiadau mewn seilwaith wedi'u cwblhau a bob pob eitem rydych wedi’i phrynu ar y safle pan fyddwch yn cyflwyno’ch hawliad.

Tystiolaeth eich bod yn gweithio tuag at Gynllun Lleihau Carbon

Sefydliad Masnach y Byd a rheoli cymorthdaliadau 

Mae'n rhaid i chi sicrhau bod y defnydd o'r Cyllid yn gydnaws â Deddf Rheoli Cymhorthdal 2022 a'r cytundebau cymwys sydd wedi'u cynnwys yn rheolau Sefydliad Masnach y Byd, Cytundeb Masnach a Chydweithrediad y DU a'r UE ac unrhyw Gytundeb Masnach Rydd sy'n cynnwys y DU a Phrotocol Gogledd Iwerddon.

Ystyrir bod y cymorthdaliadau a roddir o dan y cynllun hwn yn daliadau sy’n dod o dan y Pwyllgor Cymorthdaliadau a Mesurau Cyfosod.

Am hynny, caiff y cynllun gan gynnwys dyfarniadau unigol sydd werth rhagor na £100,00 ei hysbysu o dan drefn rheoli cymorthdaliadau’r DU. 

Contract Economaidd Llywodraeth Cymru

Bydd angen i bob ymgeisydd llwyddiannus gofrestru ar gyfer Y Contract Economaidd | Busnes Cymru cyn y gellir cynnig grant iddo. 

Adran C: gwneud cais am FBAS

RPW Ar-lein

Rhaid cyflwyno cais cyn-gymhwyso i FBAS@llyw.cymru

Cynllun Sbarduno Busnesau Bwyd: ffurflen cyn-gymhwyso | LLYW.CYMRU

Ceisiadau Cyn-gymhwyso Ddewiswyd: cyflwyno cais llawn

Dylai pob ymgeisydd gofrestru ar RPW Ar-lein cyn cyflwyno Cais Cyn-gymhwyso (PQA), gan y bydd pob gwahoddiad i Gais Llawn yn cael ei roi ar RPW Ar-lein. 

Os oes gennych Gyfeirnod Cwsmer (CRN) eisoes, fe ddylech fod wedi cael llythyr gyda’ch Cod Defnyddio arno ichi allu agor cyfrif. Os ydych wedi’i golli, ffoniwch y Ganolfan Gyswllt i Gwsmeriaid ar 0300 062 5004 (Llun i ddydd Gwener 09:00am – 4.00pm) a rhoi’ch CRN i’r cysylltydd. Caiff Cod Defnyddio newydd ei anfon atoch. 

I gofrestru manylion eich busnes am y tro cyntaf, mae angen i chi gwblhau’r ffurflen gofrestru ar-lein. Darllenwch y canllaw ar sut i gofrestru am ragor o wybodaeth. Mae modd gwneud y rhan fwyaf o unrhyw newidiadau sydd angen eu gwneud i fanylion eich busnes ar-lein. Fodd bynnag, mae’n bosibl y bydd angen hysbysu Llywodraeth Cymru am unrhyw newidiadau mawr. I gael mwy o wybodaeth, cysylltwch â’r Ganolfan Gyswllt i Gwsmeriaid.

Ar ôl cofrestru, byddwch yn cael mynd i’ch cyfrif RPW Ar-lein. Mae'r cais am y Grant Sbarduno Busnesau Bwyd ar gael yn yr adran "Ceisiadau a Hawliadau". 

Os oes gennych asiant yn gweithio ar eich rhan, bydd gofyn iddo gofrestru fel asiant ar RPW. Os nad yw wedi gwneud eto, dylai gwblhau copi ar-lein neu gopi caled o’r ffurflen Manylion Cwsmer Asiant / Undeb Amaeth (Cymru) ar unwaith. Mae’r ffurflen ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru. Ar ôl derbyn y ffurflen, byddwn yn anfon Cyfeirnod Cwsmer Asiant a Chod Defnyddio RPW Ar-lein ato. Hefyd, bydd angen i chi lenwi Ffurflen Awdurdodi Cysylltiad ar ôl cofrestru gyda RPW Ar-lein. Darllenwch y canllaw ar sut i gofrestru.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am gofrestru ar RPW Ar-lein, ffoniwch y Ganolfan Gyswllt i Gwsmeriaid ar 0300 062 5004. Byddan nhw’n gallu’ch cynghori a rhoi gwybod ichi ble gallwch fynd am help digidol.

Cewch ragor o fanylion am RPW Ar-lein ar wefan Llywodraeth Cymru.

Y broses ymgeisio

Rhennir y broses ymgeisio ar gyfer yr FBAS yn ddau gam.

Y cam cyntaf yw’r Cais Cyn-cymhwyso (PQA).

Os caiff eich PQA ei ddewis, byddwn yn gofyn i chi gyflwyno cais llawn, a fydd ar gael i chi ar RPW Ar-lein. Bydd angen lanlwytho’r holl ddogfennau ategol hefyd drwy eich cyfrif RPW ar-lein.

Bydd ail gam y broses yn gwerthuso’ch cais llawn. 

Ni fydd yr asesiad yn dechrau nes bydd yr holl ddogfennau ategol wedi cyrraedd.  Os daw’r dogfennau atodol i law wedi’r dyddiad cau, mae’n bosibl y caiff y cais ei wrthod. 

Rhoddir 12 wythnos i chi gyflwyno eich cais llawn a’r dogfennau ategol trwy eich cyfrif RPW Ar-lein. Mae'r llyfryn Sut i Lenwi yn esbonio’n fanwl sut i wneud hyn.

Yn y cais llawn, bydd ymgeiswyr yn gorfod ateb cwestiynau am:

  • y ffit strategol
  • addasrwydd y buddsoddiad
  • cyflawni’r prosiect
  • risg a rheoli risg
  • cynaliadwyedd hirdymor
  • gwerth am arian
  • ariannol a chydymffurfiaeth

Hefyd, bydd y cais yn gofyn i chi egluro sut y bydd y prosiect yn cyfrannu at themâu trawsbynciol Llywodraeth Cymru:

  • Cyfle cyfartal a Phrif ffrydio rhywedd
  • Trechu Tlodi ac Allgáu Cymdeithasol
  • Y Gymraeg

Dangosyddion a Chanlyniadau

Bydd gofyn ichi ddewis y dangosyddion a'r canlyniadau mwyaf perthnasol a fydd yn cael eu cyflawni o ganlyniad i'r buddsoddiad. Mae'r dangosyddion a'r canlyniadau wedi'u rhannu'n benawdau 'Gorfodol' a 'Gwirfoddol' ac fe'u rhestrir isod. Bydd angen dewis a thystiolaethu pob dangosydd a chanlyniad 'Gorfodol' a bydd angen dewis o leiaf un dangosydd a chanlyniad 'Gwirfoddol' a thystiolaeth o symud ymlaen gyda'r Cais Llawn.  Bydd angen monitro yr holl ddangosyddion a chanlyniadau a ddewiswyd gennych, a bydd angen ichi roi gwybodaeth yn cadarnhau lefel y dangosyddion yr ydych yn eu cyflawni pan gaiff cais ei gyflwyno yn ogystal â chadarnhau y lefel fydd wedi’i chyflawni ddwy flynedd ar ôl eich Dyfarniad Grant. Po fwyaf o ddangosyddion y gallwch ddangos llwyddiannau yn eu herbyn, uchaf fydd eich cais a byddwch yn fwy tebygol o gael cynnig Grant.  Pan fydd busnes eisoes wedi cyflawni dangosydd gwirfoddol, byddai yr un dangosydd yn anghymwys o fewn y cais 

Dangosyddion a Chanlyniadau Gorfodol

Y Dangosyddion a'r canlyniadau gorfodol a fydd yn cael eu monitro o ganlyniad i'r buddsoddiad yw:

Twf 

• Twf – Cynnydd gwerth mewn Trosiant

Bydd tystiolaeth sylfaenol yn cael ei chymryd o'r wybodaeth a ddarperir yn y cais a'r dogfennau ategol.

Bydd angen i chi ddarparu copi o'ch cyfrifon neu lythyr gan eich cyfrifydd yn nodi'r cynnydd mewn trosiant a gyflawnwyd.

Gwaith Teg a Lleihau Carbon 

• Gwaith Teg – Nifer y gweithwyr sy'n derbyn o leiaf Gyflog Byw Cymru Beth ydyw? - Cyflog Byw Cymru 

Bydd tystiolaeth sylfaenol yn cael ei chymryd o'r wybodaeth a ddarperir yn y cais a'r dogfennau ategol.

Gall tystiolaeth i gadarnhau hyn gynnwys slipiau cyflog neu lythyr gan eich cyfrifydd yn cadarnhau nifer y gweithwyr sy'n derbyn Cyflog Byw Cymru.

• Lleihau carbon

Yn ogystal â darparu'r wybodaeth yn y cais, bydd gofyn i chi gynnal asesiad carbon annibynnol i bennu ôl troed carbon y busnes.  Rhaid darparu'r adroddiad o fewn y terfyn amser ymgeisio o 12 wythnos.

Bydd angen i chi ddarparu tystiolaeth i gadarnhau eich ôl troed carbon presennol a nifer y camau y bydd angen eu rhoi ar waith i fodloni'r Targedau Lleihau Allyriadau fel y nodir yn eich cynllun carbon annibynnol.

Swyddi Gwyrdd 

Nifer y Swyddi Gwyrdd newydd a grëwyd

Bydd tystiolaeth sylfaenol yn cael ei chymryd o'r wybodaeth a ddarperir yn y cais a'r dogfennau ategol.

Nifer y Swyddi Gwyrdd sy’n cael eu diogelu

Bydd tystiolaeth sylfaenol yn cael ei chymryd o'r wybodaeth a ddarperir yn y cais a'r dogfennau ategol.

Dangosyddion a Chanlyniadau Gwirfoddol

Y dangosyddion a'r canlyniadau gwirfoddol a fydd yn cael eu monitro o ganlyniad i'r buddsoddiad yw:

Cynhyrchiant 

• Cynhyrchiant - Gwerth Ychwanegol Gros (GVA) fesul awr o weithio

Bydd tystiolaeth sylfaenol yn cael ei chymryd o'r wybodaeth a ddarperir yn y cais a'r dogfennau ategol. Mewn rhai amgylchiadau, efallai y bydd angen gofyn am wybodaeth ychwanegol fel rhan o'r broses arfarnu. Gofynnir i chi ddarparu cyfrifiannell GVA a/neu ddarparu unrhyw ddogfennau ategol sydd eu hangen.

Marchnadoedd Newydd a Busnesau Fferm 

• Nifer y Marchnadoedd Newydd a Gyrchwyd

Bydd tystiolaeth sylfaenol yn cael ei chymryd o'r wybodaeth a ddarperir yn y cais a'r dogfennau ategol.

Bydd angen i chi ddarparu enwau a chyfeiriadau'r sefydliadau a gyrchir yn y farchnad newydd. Bydd angen tystiolaeth sy'n cadarnhau gwerthiant i'r marchnadoedd hyn hefyd e.e. archebion neu anfonebau gwerthu.

• Nifer o fusnesau Fferm Cymru sy’n cael eu cefnogi

Bydd tystiolaeth sylfaenol yn cael ei chymryd o'r wybodaeth a ddarperir yn y cais a'r dogfennau ategol.

Bydd angen i chi ddarparu manylion i gefnogi'r cynnydd yn nifer y ffermydd a gefnogir. Bydd angen tystiolaeth sy'n cadarnhau pryniant o'r ffermydd hyn hefyd e.e. anfonebau.

Cynyddu Cynnyrch Cymreig - Cynhyrchion, Prosesau Newydd 

  • Nifer y Cynnyrch Newydd wedi'u lansio

Bydd tystiolaeth sylfaenol yn cael ei chymryd o'r wybodaeth a ddarperir yn y cais a'r dogfennau ategol.

Bydd angen i chi ddarparu manylion a manylebau cynnyrch yn y cais a'r dogfennau ategol.

  • Nifer o Ddatblygiadau Technolegol Newydd wedi'u lansio

Bydd tystiolaeth sylfaenol yn cael ei chymryd o'r wybodaeth a ddarperir yn y cais a'r dogfennau ategol.

Bydd angen i chi ddarparu manylion cynnyrch a manylebau proses yn y cais a dogfennau ategol.

Creu cadwyni cyflenwi lleol gan ddefnyddio Cynnyrch Cymreig 

  • Nifer y cynhwysion Cymreig newydd neu ychwanegol 

Bydd tystiolaeth sylfaenol yn cael ei chymryd o'r wybodaeth a ddarperir yn y cais a'r dogfennau ategol.

Bydd angen i chi ddarparu manylion a manylebau cynnyrch yn y cais a'r dogfennau ategol.

Dogfennau ategol

Yn ogystal â chwblhau'r cais llawn ar-lein, bydd angen i chi gyflwyno'r dogfennau ategol canlynol ar-lein o fewn 12 wythnos ar ôl ichi gael gwybod eich bod wedi’ch dewis er mwyn i Lywodraeth Cymru allu eu gwerthuso:

  • 3 blynedd o Gyfrifon Ardystiedig (Os nad oes cyfrifon ardystiedig ar gael am y cyfnod ariannol diweddaraf, dylid cyflwyno cyfrifon rheoli ar gyfer y cyfnod hwn)
  • Treuliau ariannol 3 blynedd. (Dylid cyfrif am y buddsoddiad arfaethedig yn y rhagolygon ariannol)
  • Cynllun Busnes 3 mlynedd
  • Tystiolaeth bod arian ar gael gennych (benthyciad gan fanc, gorddrafft, ac ati)
  • Nid oes angen dyfynbris ar gyfer eitemau sy'n werth llai na £1,000
  • Un dyfynbris sydd ei angen ar gyfer eitemau gwerth rhwng £1,000 a £4,999
  • Tri dyfynbris sydd ei angen ar gyfer eitemau gwerth £5,000 neu uwch
  • Caniatâd Cynllunio Llawn ac unrhyw gymeradwyaeth arall, ble y bo angen
  • Tystiolaeth/dilysu annibynnol gan randdeiliaid allweddol i gefnogi datganiadau a wnaed o dan Addasrwydd y Buddsoddiad.  Mae hyn yn cynnwys adroddiad cyllid a thechnegol.  Bydd y gofynion yn cael eu trafod os yw'r ymgeisydd yn llwyddo i gael ei wahodd i gais llawn.
  • Cynllun Lleihau Carbon

Os na ddarperir unrhyw ran o’r wybodaeth uchod o fewn y cyfnod o 12 wythnos, gallai hynny olygu y bydd eich cais yn cael ei wrthod.

Cynllun busnes

Dylai'r cynllun busnes roi manylion llawn y busnes. Dylai’r cynllun busnes bara o leiaf am y 3 blynedd nesaf a chynnwys y canlynol:

  • manylion y busnes
  • crynodeb gweithredol
  • prif ragdybiaethau
  • dadansoddiad o'r farchnad – cyfleoedd a bygythiadau
  • dadansoddiad o’r busnes – cryfderau a gwendidau
  • ffactorau llwyddiant critigol
  • strategaeth fasnachol
  • strategaeth gweithrediadau
  • cynllun gweithgareddau
  • cynlluniau ariannol
  • rheoli risg
  • parodrwydd sefydliadol

Dylai'r cynllun gynnwys y busnes cyfan a safle'r prosiect penodol i egluro sut mae'r prosiect a'r busnes wedi'u hintegreiddio.

Ni fydd yr asesiad yn dechrau nes bod y cais a’r HOLL ddogfennau ategol yn dod i law Llywodraeth Cymru. Gallwch ddarparu dogfennau a thystiolaeth arall yn ogystal â’r uchod er mwyn cefnogi’ch cais.

Gallwch ddefnyddio ymgynghorydd i baratoi’ch cais os dymunwch, ond eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau bod y cais wedi’i gwblhau’n gywir a bod yr wybodaeth a ddarperir i gefnogi’ch prosiect yn gywir.  Ni allwch hawlio am ffioedd yr ymgynghorydd.

Os bydd unrhyw un yn gwneud datganiad ffug neu gamarweiniol yn fwriadol neu'n ddi-hid er mwyn cael grant o dan y FBAS, bydd hynny’n golygu y bydd ei gais yn cael ei wrthod, y bydd unrhyw daliadau a wnaed yn cael eu hadennill, ac y gellir ei erlyn.   

Arfarnu’r cais llawn

Bydd y cais llawn yn cael ei werthuso yn unol â Chanllawiau’r Cynllun a’r rheolau ynghylch pwy sy’n gymwys. Caiff archwiliadau ac arfarniad llawn o ran diwydrwydd dyledus eu cynnal (os oes angen), a dim ond bryd hynny y caiff penderfyniad terfynol ei wneud i gynnig grant neu i wrthod y cais. Nid oes unrhyw gwarant y bydd cynnig sy’n amlinellu prosiect yn cael ei gymeradwyo ar gyfer grant.

Ein nod yw arfarnu’r cais o fewn  90 diwrnod ar ôl y diwrnod cau ar gyfer cyflwyno cais. Os byddwch yn hir yn ateb cais am ragor o wybodaeth, gwrthodir eich cais.

Bydd yr wybodaeth a gawn gennych yn cael ei hasesu ar sail y meini prawf sgorio canlynol ac ar sail hynny y penderfynir rhoi’r grant neu wrthod y cais:

  • uchel: mae’r ymgeisydd wedi rhoi ymatebion trylwyr a manwl o ran yr holl dystiolaeth y gofynnir amdani
  • canolig: mae’r ymgeisydd wedi rhoi ymatebion boddhaol a manwl o ran y rhan fwyaf o’r dystiolaeth y gofynnir amdani
  • isel: mae’r ymgeisydd wedi rhoi ymatebion anghyflawn neu annigonol o ran un neu fwy o’r darnau o dystiolaeth y gofynnir amdani

 Sgôr Canolig yw’r trothwy ansawdd ym mhob un o’r categorïau.

  • Sylwer: rydym yn eich cynghori i ddilyn y canllawiau'n ofalus er mwyn sicrhau eich bod yn darparu'r wybodaeth y gofynnir amdani gyda'r cais.

Ar ôl cwblhau'r arfarniad, bydd y cais a chanfyddiadau’r arfarniad yn cael eu hasesu gan banel sy'n cynnwys swyddogion Llywodraeth Cymru. Gwneir hynny er mwyn sicrhau bod y prosiect yn cyflawni amcanion y cynllun ac yn rhoi gwerth am arian. 

Canlyniad yr arfarniad a Chynnig Grant

Mae tri chanlyniad posibl ar ôl i’r cais llawn gael ai arfarnu:

Nid yw’ch prosiect yn gymwys i gael grant.  Byddwn yn rhoi gwybod ichi 

  1. drwy’ch cyfrif RPW Ar-lein y rhesymau pam nad yw’ch cais wedi bod yn llwyddiannus.
  2. Mae’ch prosiect yn gymwys i gael ei ystyried, ond nid yw’n cael ei gymeradwyo ar gyfer y grant. Cewch wybod y rhesymau pam na fu’ch cais yn llwyddiannus. Gallwch ymgeisio eto gyda’r un prosiect (gan newid y cais os dymunwch) cyn belled nad ydych wedi dechrau ar y gwaith.
  3. Mae’ch prosiect yn gymwys ac yn cael ei gymeradwyo ar gyfer grant.  Bydd Llythyr Dyfarniad Grant yn cael ei gyflwyno i chi trwy’ch cyfrif RPW Ar-lein a fydd yn nodi telerau ac amodau’r grant. Gofynnir i chi ei dderbyn o fewn 30 niwrnod i ddangos eich bod yn cytuno â’r amodau a’r telerau hynny. Bydd y Llythyr Dyfarniad Grant yn rhoi’r awdurdod i chi ddechrau ar y gwaith. Bydd angen i chi dderbyn neu wrthod y Dyfarniad Grant o fewn 30 diwrnod. Os na fyddwch wedi derbyn y Dyfarniad Grant o fewn y 30 niwrnod, caiff y Dyfarniad Grant ei dynnu’n ôl.

Byddwn yn anfon nodyn atgoffa atoch trwy’ch cyfrif RPW Ar-lein cyn y dyddiad cau ar gyfer derbyn y cynnig.

Caiff manylion llawn ynghylch pryd y bydd yn rhaid ichi dderbyn y Dyfarniad Grant a phryd y bydd yn rhaid ichi brynu'r eitemau a hawlio amdanynt eu nodi yn eich Dyfarniad Grant.

Os ydych yn derbyn y Dyfarniad Grant a gynigir ichi, bydd gofyn ichi hefyd gwblhau proffil cyflawni i gadarnhau pryd y byddwch yn gwneud eich hawliadau, a gwerth yr hawliadau hynny.

  • Ar ôl ichi gael eich dewis, os byddwch yn penderfynu peidio â bwrw ymlaen â'ch Dyfarniad Grant neu os na fyddwch wedi cadarnhau’ch bod yn derbyn y Dyfarniad Grant o fewn yr amser a ganiateir, ni chewch wneud cais am FBAS yn y dyfodol. Os byddwch yn penderfynu gadael y contract cyn cwblhau'r gwaith neu os nad ydych yn cwblhau'r holl waith a gymeradwywyd yn eich Dyfarniad Grant, efallai na fyddwch yn cael gwneud cais o dan y FBAS yn y dyfodol.

Yn amodol ar ofynion Cod Ymarfer Llywodraeth Cymru ar Ganiatáu i'r Cyhoedd Weld Gwybodaeth, Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 a Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004: bydd yr holl wybodaeth a roddir i Lywodraeth Cymru yn cael ei thrin yn gwbl gyfrinachol. Os bydd eich cais yn llwyddiannus, dylech fod yn ymwybodol bod Llywodraeth Cymru yn cadw’r hawl i gyhoeddi enw’ch cwmni, cyfanswm y grant a ddyfarnwyd i chi a chrynodeb o’ch prosiect. 

Rydym ni (Llywodraeth Cymru) eisiau gweithio gyda sefydliadau sy'n falch o'u henw da a’r hyn y maent yn ei gyflenwi, a'u hymddygiad. Bydd y ddolen ganlynol yn eich cyfeirio at ganllawiau sydd wedi'u cynllunio i amlygu ac egluro'r mathau o ymddygiadau, diwylliannau a gwerthoedd y mae Llywodraeth Cymru yn disgwyl eu gweld gan y rhai sy’n derbyn grant.

Yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei ddisgwyl gan y rhai hynny sy’n derbyn grant [HTML] | LLYW.CYMRU

Dechrau ar y gwaith 

Peidiwch â dechrau ar y gwaith tan y bydd y Dyfarniad Grant wedi cael ei gynnig i chi. Os byddwch yn dechrau ar y gwaith cyn hynny, mae’n bosibl y bydd Llywodraeth Cymru yn gwrthod y gwaith sydd wedi’i wneud neu’n diddymu’r y Dyfarniad Grant ac yn gofyn am unrhyw daliadau sydd wedi’u gwneud yn ôl.

Adran D: amodau grant

Daw’r FBAS o dan nifer o ddarnau o ddeddfwriaeth berthnasol (gweler Adran K). Rhaid i Lywodraeth Cymru a’r ymgeisydd/derbynnydd weithredu yn unol â’r ddeddfwriaeth honno.

 Mae grant y Cynllun Sbarduno Busnesau Bwyd yn cael ei gynnig yn amodol ar delerau ac amodau, a fydd yn cael eu nodi’n llawn yn eich Llythyr Dyfarniad Grant, gan gynnwys y telerau a’r amodau a nodir isod. Bydd y Dyfarniad Grant yn dechrau o'r dyddiad y rhoddir y Llythyr Dyfarniad Grant. Gallai peidio â bodloni telerau ac amodau’r grant arwain at ganslo’r grant a/neu at adennill yr arian sydd eisoes wedi’i dalu i chi, neu leihau swm y grant sydd i’w dalu i chi. 

Yr amodau

  • Rhaid derbyn neu wrthod y Dyfarniad Grant a gynigir i chi o fewn 30 diwrnod ar ôl ei gynnig. 

Mae’r grant yn cael ei gynnig ar sail y datganiadau a wnaed gennych chi neu’ch cynrychiolwyr ar y ffurflen gais ac mewn gohebiaeth ddilynol. Bod y manylion rydych wedi’u rhoi yn eich cais ac unrhyw ddogfennau ategol, hyd eithaf eich gwybod a’ch cred, yn wir, yn gywir ac yn gyflawn. 

  • Mae’n drosedd gwneud datganiadau anwir neu gamarweiniol.

Peidiwch â dechrau gweithio ar y prosiect nes y byddwch wedi cael awdurdod ysgrifenedig i wneud hynny gan Lywodraeth Cymru.

Byddwch wedi prynu'r offer ac wedi hawlio trwy RPW Ar-lein erbyn y dyddiad cau ar gyfer hawlio a nodir yn y Llythyr Dyfarnu Grant a gynigir. 

  • Os na fyddwch wedi hawlio erbyn hynny, caiff y cynnig grant ei wrthod.

Efallai y bydd angen i Lywodraeth Cymru o bosibl ddiweddaru’r rheolau a’r amodau yng ngoleuni newidiadau i ofynion deddfwriaethol y DU, gan gynnwys Deddf Llywodraeth Cymru 2006.

Rhaid ichi ymrwymo i fodloni unrhyw rwymedigaethau statudol o dan gyfraith y DU, megis Iechyd a Diogelwch; cyflogaeth; hylendid; rheoli a diogelu'r amgylchedd; iechyd a lles anifeiliaid neu gnydau a fydd yn gymwys yn ystod cyfnod y prosiect hwn.

Ni chaniateir newid y prosiect, gan gynnwys lleoliad y gweithgaredd, heb gymeradwyaeth ysgrifenedig Llywodraeth Cymru.

Rhaid ichi gytuno i gadw at unrhyw newidiadau ar ôl cael gwybod amdanynt gan Weinidogion Cymru.

Ni chaniateir gwaredu, trosglwyddo na gwerthu unrhyw offer a brynir gyda chymorth grant heb gael cydsyniad ysgrifenedig ymlaen llaw gan Lywodraeth Cymru, yn ystod cyfnod cyflawni’r prosiect nac am bum mlynedd wedi dyddiad gorffen y prosiect.

Rydych yn cydnabod na fydd Llywodraeth Cymru nac unrhyw gynghorydd a benodir gan Lywodraeth Cymru yn atebol am unrhyw gyngor a roddir, gan gynnwys, ymhlith pethau eraill, unrhyw gyngor a roddir mewn perthynas â'r cais, ac mai chi sy’n llwyr gyfrifol am bob penderfyniad busnes a wneir.

Mae’n ofynnol i’r ymgeisydd gydymffurfio â’r rheolau ynghylch gwariant cymwys, yn unol â’r Nodyn perthnasol yng Nghanllawiau’r Cynllun.

Rhaid cyflwyno hawliadau ar ffurflen Hawlio Contract RPW Ar-lein yn y fformat cywir a chyda’r holl ddogfennau eraill sy’n angenrheidiol o dan y cynllun. 

Mae’n rhaid cyflwyno hawliadau yn unol â’r amserlen y cytunwyd arni.  Ni chewch newid yr amseriad y cytunwyd arno na gwerth eich hawliadau heb gael cytundeb ysgrifenedig gan Lywodraeth Cymru.

Rhaid cyflwyno'r cais cyntaf ddim hwyrach na phedwar mis o ddyddiad dechrau'r contract Dyfarnu Grant. 

  • Os nad yw’r hawliad cyntaf yn cael ei wneud o fewn y cyfnod hwn, bydd y cynnig grant yn cael ei derfynu’n awtomatig.

RHAID cwblhau’r prosiectau o fewn yr amserlen y cytunwyd arni gyda Llywodraeth Cymru.  Ni chewch newid hyn heb gytundeb ysgrifenedig ymlaen llaw Llywodraeth Cymru. Ni fydd hawliadau’n sy’n cyrraedd ar ôl 31 Mawrth 2026 yn cael eu talu.

Dim ond ar gyfer gwariant sydd wedi'i dalu y gellir rhoi'r grant, hynny yw, taliadau sydd wedi clirio o gyfrif banc.

Rhaid prynu pob eitem yn unol â gofynion Caffael a Thendro Cystadleuol Llywodraeth Cymru.

Rhaid i chi ymrwymo i fodloni, yn ôl yr angen, unrhyw rwymedigaethau o ran caniatâd cynllunio 

Rhaid i chi gadarnhau nad oes unrhyw rai o'r eitemau sy’n rhan o’r cais yn eitemau a brynwyd yn lle eitemau eraill o dan hawliad yswiriant.

Mae’n rhaid i chi gadarnhau nad ydych wedi gwneud cais am unrhyw gyllid cyhoeddus arall (boed hynny o ffynonellau’r Deyrnas Unedig neu eraill). Os daw’n amlwg eich bod wedi derbyn cyllid cyhoeddus o ffynhonnell arall, gall hynny arwain at wrthod eich hawliad, adennill taliadau a chyflwyno cosbau.

Rhaid i unrhyw gyhoeddusrwydd a roddir i’r prosiect gyfeirio at gyfraniad Llywodraeth Cymru at ei ariannu.

Mae’n rhaid cadw cofnodion ynghylch gweithgaredd y busnes a chynnal y prosiect, gan gynnwys yr holl anfonebau gwreiddiol a dogfennau eraill perthnasol megis tendrau cystadleuol neu ddyfynbrisiau, am o leiaf saith mlynedd ar ôl dyddiad gorffen y prosiect fel y'i nodir yn y Llythyr Dyfarnu Grant.

Mae’n rhaid i chi ganiatáu i gynrychiolwyr Llywodraeth Cymru, Archwilydd Cyffredinol Cymru, neu eu cynrychiolwyr archwilio’r prosiect. Pan ofynnir ichi, rhaid i chi roi gwybodaeth iddynt a/neu adael iddynt weld dogfennau gwreiddiol am y prosiect.

Mae’r wybodaeth a ddarperir yn y cais ac unrhyw ddogfennau ategol yn destun gofynion Cod Ymarfer Llywodraeth Cymru ar Ganiatáu i'r Cyhoedd Weld Gwybodaeth, Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 a Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004. 

  • Dylech fod yn ymwybodol, os byddwch yn llwyddiannus, fod Llywodraeth Cymru yn cadw’r hawl i gyhoeddi enw’ch busnes neu gwmni, swm y grant a roddwyd ichi a chrynodeb o’ch prosiect.

Daw'r wybodaeth yn y datganiad o ddiddordeb a’r cais llawn o dan yr Hysbysiad Preifatrwydd. Mae’r Hysbysiad Preifatrwydd yn esbonio’r ffordd y bydd Llywodraeth Cymru yn prosesu ac yn defnyddio’ch data personol a’ch hawliau o dan y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR).

Adran E: caffael a thendro cystadleuol

Rhaid i chi ddilyn canllawiau a gofynion Llywodraeth Cymru ar gyfer Caffael a Thendro Cystadleuol.  Mae canllawiau ar gael drwy’r ddolen ganlynol: Grantiau gwledig: canllawiau tendro cystadleuol. 

Adran F: taliadau

Hawliadau

Er mwyn cael yr FBAS, rhaid ei hawlio gan ddefnyddio’r ffurflen Hawlio Contract ar eich cyfrif RPW Ar-lein. Cewch wneud hawliadau interim yn ystod eich prosiect. Mae’r ffurflen hawlio contract: canllawiau sut i gwblhau yn esbonio sut i hawlio.

Ni chewch eich talu nes bydd eich hawliad wedi cael ei ddilysu'n llwyddiannus. Dim ond pan fydd Llywodraeth Cymru yn fodlon bod y gwariant perthnasol wedi’i wneud a bod y gwaith wedi’i gwblhau yn unol â’r Llythyr Dyfarnu Grant fydd hawliadau’n cael eu talu. Bydd taliadau’n cael eu gwneud drwy drosglwyddiad electronig i’ch cyfrif banc.

Rhaid cyflwyno'r cais cyntaf ddim hwyrach na phedwar mis o ddyddiad dechrau'r contract Dyfarnu Grant.

Dylid cyflwyno hawliadau terfynol ar gyfer talu grant cyn gynted â phosibl ar ôl cwblhau’r gwaith ffisegol ar y prosiect, a ddim hwyrach na dyddiad diwedd y Dyfarniad Grant.  Rhaid i bob hawliad terfynol ein cyrraedd ddim hwyrach na 31 Mawrth 2026.

  • Ni roddir estyniad i'r dyddiad cau ar gyfer cyflwyno hawliad terfynol ar ôl 31 Mawrth 2026.

Gall peidio â chwblhau'r prosiect a chyflwyno'r hawliad terfynol erbyn y dyddiad cau uchod arwain at adennill y grant a dalwyd hyd yma.

RHAID cwblhau prosiectau o fewn yr amserlen y cytunwyd arni gyda Llywodraeth Cymru.  Ni chewch ei newid heb gytundeb ysgrifenedig gan Lywodraeth Cymru.

Yn ystod oes y grant, pan fydd hawliadau’n cael eu cyflwyno, efallai y byddant yn cael eu harchwilio i sicrhau bod y gwariant yn gymwys ac yn unol â’r hyn a gymeradwywyd yn y cais gwreiddiol. 

Dogfennau ategol i’w cyflwyno wrth hawlio

I gael taliad FBAS, rhaid bodloni’r canlynol:

  • wedi derbyn y cynnig o Ddyfarniad Grant FBAS o fewn 30 niwrnod calendr ar ôl dyddiad ei gynnig a byddwch yn cadw at yr holl ofynion.
  • sicrhau eich bod wedi cynnal unrhyw fuddsoddiadau heblaw am y rheini a restrir yn eich Llythyr Dyfarnu Grant ar ôl i chi gael cynnig Dyfarniad Grant.
  • sicrhau erbyn diwedd eich Dyfarniad Grant, eich bod wedi cwblhau'r prosiect fel y nodwyd yn eich cais a'i fod wedi ei gymeradwyo.
  • sicrhau bod yr holl fuddsoddiadau wedi’u cynnal yn unol â gofynion Caffael a Thendro Cystadleuol Llywodraeth Cymru.
  • sicrhau bod yr holl eitemau a brynwyd ar y safle pan fyddwch yn cyflwyno’ch hawliad
  • cyflwyno yr hawliad gan ddefnyddio’r ffurflen Hawlio Contract ar eich cyfrif RPW Ar-lein ar ôl i chi dderbyn y Llythyr Dyfarnu Grant, erbyn y dyddiad cau ar gyfer hawlio a nodir yn eich Llythyr Dyfarnu Grant, gyda'r holl ddogfennau ategol.

Byddwn yn anfon hyd at 2 nodyn i’ch atgoffa bod hawliadau heb eu gwneud trwy’ch cyfrif RPW Ar-lein cyn y dyddiad cau ar gyfer hawlio.

  • Nid yw hawliad yn cael ei ystyried yn ddilys oni bai ei fod wedi'i gyflwyno drwy ffurflen Hawlio Contract RPW Ar-lein gyda'r holl ddogfennau ategol. 

Gallwch gyflwyno’ch hawliad unrhyw adeg ar ôl cwblhau’r buddsoddiad. 

Dim ond o dan amgylchiadau eithriadol y gellir caniatáu cais am estyniad i'r dyddiad cau ar gyfer hawlio a rhaid ei wneud yn ysgrifenedig gydag esboniad drwy’ch cyfrif RPW Ar-lein cyn y dyddiad cau ar gyfer hawlio. 

  • Ond, ni roddir unrhyw estyniadau ar ôl 31 Mawrth 2026.

Dogfennau ategol i’w cyflwyno wrth hawlio

Rhaid i chi gyflwyno'r canlynol gyda phob hawliad:

  • tystiolaeth bod y gwariant ar gyfer pob eitem sy’n destun hawliad wedi cael ei wneud.
  • anfonebau ar gyfer eitemau sy'n cael eu hawlio.

Os na fyddwch wedi darparu tystiolaeth, gwrthodir yr hawliad

Rhaid rhoi’r gair ‘anfoneb’ yn glir ar anfonebau a chynnwys y canlynol:

  • rhif adnabod unigryw
  • enw a chyfeiriad eich cwmni a manylion y cyswllt
  • enw a chyfeiriad y cwmni anfonebu a manylion cyswllt
  • disgrifiad clir o'r hyn yr ydych yn talu amdano
  • dyddiad darparu'r nwyddau neu'r gwasanaeth (dyddiad cyflenwi)
  • dyddiad yr anfoneb
  • y swm(au) sy'n cael ei godi
  • y TAW, os yw'n gymwys
  • y cyfanswm sy'n ddyledus 

Dylid ddarparu tystiolaeth am daliadau drwy gyflwyno cyfriflenni banc. Os nad yw gwerth y trafodiad yn cyd-fynd â gwerth yr anfoneb (er enghraifft os ydych wedi prynu eitemau nad ydynt yn rhan o’r prosiect oddi wrth yr un cyflenwr) bydd angen ichi esbonio’r taliad cyfan gydag anfonebau ategol. 

Os ydych yn talu â siec, yna bydd angen sganio neu ffotograffio'r siec ysgrifenedig, cyn ei chyflwyno i'r cyflenwr, ynghyd â'r gyfriflen banc. 

Cam-hawlio a chosbau

Eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau bod pob hawliad sy’n cael ei gyflwyno yn gymwys a chywir; ei fod ar gyfer gwariant sydd wedi’i wneud (bod yr arian wedi gadael eich cyfrif banc), yr holl eitemau a chostau’n gymwys a’r hawliad wedi’i gyflwyno yn brydlon.

  • Mae’n rhaid i’r holl fuddsoddiadau a gymeradwywyd fod wedi eu cynnal ar ôl derbyn y Dyfarniad Grant.

Byddwch wedi cam-hawlio os:

  • yw’r buddsoddiadau wedi’u gwneud cyn i’r Dyfarniad Grant gael ei gynnig.
  • erbyn diwedd eich Dyfarniad Grant, nid ydych wedi cwblhau'r prosiect fel y cafodd ei gymeradwyo.
  • nad ydych wedi cyflwyno hawliad na dogfennau ategol erbyn y dyddiad cau ar gyfer hawlio.  Nad yw pob un o'r buddsoddiadau a hawlir yn bresennol yn ystod ymweliad â'ch safle.
  • nad yw’r buddsoddiadau wedi’u gwneud yn unol â gofynion Caffael a Thendro Cystadleuol Llywodraeth Cymru. 

Os yw hawliad yn anghywir, bydd yn cael ei leihau i’r cyfanswm cymwys. Bydd y grant sydd i’w dalu yn cael ei gyfrif yn unol â hynny. Fodd bynnag, os gwelir bod yr eitemau anghymwys yn fwy na 10% o'r costau cymwys, tynnir swm sy'n cyfateb i werth yr eitemau anghymwys o'ch taliad.

Os ydych yn ansicr ynghylch unrhyw beth sydd ei angen arnoch ar gyfer eich prosiect, mae'n hanfodol eich bod yn cael cadarnhad ysgrifenedig ei fod yn gymwys cyn eich bod yn talu amdano.

Os gwelwn nad yw eitemau a brynwyd yn bodloni'r gofynion uchod, bydd taliadau'n cael eu lleihau i werth yr eitemau a brynwyd yn unol â’r gofynion.

Er enghraifft:

Mae cwsmer yn hawlio’r eitemau FBAS canlynol, sy’n werth cyfanswm o £49,000, mewn un hawliad.

 

Eitem FBASGwerth y Grant
System TG awtomatig£3,000
Offer gwneud selsig£33,000
Beltiau cludo£6,000
Cyfanswm£49,000

Enghraifft 1: prynwyd yr eitem gwerth £3,000 cyn ei chymeradwyo felly mae’r eitem anghymwys yn werth llai na 10% o'r costau cymwys (£46,000) felly cyfanswm y taliad sy'n ddyledus yw £46,000.

Enghraifft 2: Nid oedd y beltiau cludo gwerth £6,000 ar gael i'w harchwilio, mae hyn yn gwneud £6,000 yn anghymwys. Tynnir yr eitem anghymwys o'r hawliad gwreiddiol o £49,000 gan adael hawliad cymwys o £42,000. Gan fod gwerth yr eitem anghymwys yn fwy na 10% o'r costau cymwys (£42,000), mae swm sy'n cyfateb i werth yr eitem anghymwys neu £6,000 hefyd yn cael ei dynnu o'r swm sy'n weddill. Cyfanswm y taliad sy'n ddyledus yw £36,000.

Os na fyddwch yn cynnal y buddsoddiadau yn unol â gofynion Tendro Cystadleuol a Chaffael Llywodraeth Cymru gellir cosbi’ch hawliad. 

Newidiadau i brosiect a gymeradwywyd

Mae Newid Prosiect (Ail-werthuso) yn golygu’r broses o gytuno ar newidiadau arwyddocaol i brosiect sydd wedi’i gymeradwyo. Os bydd y prosiect y byddwch yn ei gynnal yn wahanol i'r hyn y cytunwyd arno, mae angen i chi ofyn am ail-werthusiad a gofyn am gymeradwyaeth i’r newidiadau.

Os newidir y prosiect, rhaid i roddwr y grant gydsynio yn ysgrifenedig i’r newid. Pan fyddwch yn rhoi gwybod i ni bod angen newid eich prosiect, byddwn yn esbonio wrthych sut y byddwn yn trin y newidiadau.

Troseddau

Mae rheoliad 13 o Reoliadau Rhaglenni Datblygu Gwledig (Cymru) 2014 (Rhif 3222 (Cy.327)) yn pennu troseddau a chosbau mewn perthynas ag elfennau penodol o gyllid datblygu gwledig. Mae’r Rheoliad hwnnw a’r troseddau hynny yn berthnasol i’r Cynllun Sbarduno Busnesau Bwyd.  Mae enghreifftiau o droseddau yn cynnwys darparu gwybodaeth ffug neu gamarweiniol, yn fwriadol neu drwy esgeulustod, mewn perthynas â chyllid datblygu gwledig, rhwystro arolygydd neu swyddog, a gwrthod darparu gwybodaeth ar gais.

Ymddygiad annerbyniol

Ni ddylai swyddogion, unigolion neu sefydliadau Llywodraeth Cymru sy'n cyflawni dyletswyddau ar ran Llywodraeth Cymru fod yn destun ymddygiad ymosodol neu sarhaus na gofynion afresymol a chwynion gan ymgeiswyr/hawlwyr na'u cynrychiolwyr.  Mae hyn hefyd yn berthnasol i aelodau'r Panel Apeliadau Annibynnol.

Mae dogfen Rheoli Ymddygiad Annerbyniol Cwsmeriaid Llywodraeth Cymru ar gael yn Rheoli ymddygiad annerbyniol cwsmeriaid Llywodraeth Cymru | LLYW.CYMRU ar wefan Llywodraeth Cymru sy'n esbonio beth rydym yn ei ystyried yn ymddygiad annerbyniol

Adran G: newidiadau i reolau’r cynllun

Newidiadau i ddeddfwriaeth (gan gynnwys newidiadau o ran dehongli)

Mae’n bosibl y bydd deddfwriaeth yn newid o dro i dro a bydd gofyn i chi gydymffurfio ag unrhyw newidiadau i’r cynllun ar ôl i Lywodraeth Cymru roi gwybod ichi amdanynt.

Newidiadau i reolau neu ddyfarniad grant y cynllun

Mae’n bosibl y bydd angen i ni newid rheolau’r cynllun a/neu eich Dyfarniad Grant am nifer o resymau. Er enghraifft, efallai y bydd angen i ni ddiweddaru’r amodau rheoli ar sail y cyngor gwyddonol diweddaraf, neu ddiwygio rheolau’r cynllun er mwyn ystyried unrhyw newidiadau yn y ddeddf. Byddwn yn cyhoeddi newidiadau ar wefan Llywodraeth Cymru ac yn cysylltu â chi os oes angen

Adran H: mesurau rheoli, monitro a chadw cofnodion

Mesurau rheoli 

Mae’n rhaid i Lywodraeth Cymru orfodi rheolau’r Cynllun FBAS.

Gall eich hawliad gael ei ddewis ar gyfer ymweliad i gadarnhau bod y buddsoddiad wedi’i wneud cyn talu’r grant ichi neu ar ôl talu’r grant i chi.

Bydd yr holl fanylion yn eich cais, y manylion yn eich hawliad a’r datganiadau a wnaethoch wrth gyflwyno’r cais a’r hawliad yn cael eu gwirio. 

Bydd Llywodraeth Cymru a’r cyrff rheoli arbenigol yn ceisio sicrhau bod yr ymweliadau yn tarfu cyn lleied â phosibl arnoch, ond mae rhai archwiliadau’n gofyn am ymweliadau dirybudd, sy’n golygu na fydd yn bosibl eich rhybuddio ymlaen llaw. Mae’n bosibl y byddwch yn cael mwy nag un ymweliad yn ystod blwyddyn galendr. 

Os byddwch yn gwrthod caniatáu ymweliad, yn rhwystro swyddog neu ddim yn rhoi cymorth rhesymol, mae’n bosibl y byddwn yn gwrthod eich talu, y gallwn ofyn ichi dalu arian sydd wedi’i dalu i chi yn ôl ac fe allech gael eich erlyn.

Monitro

Mae’n rhaid monitro pob dyfarniad grant a gwerthuso effaith y grant ar y busnes am 5 mlynedd ar ôl cwblhau’r Dyfarniad Grant.

Mae’n rhaid i chi ganiatáu i swyddogion Llywodraeth Cymru neu eu cynrychiolwyr archwilio’r eitemau sydd wedi’u prynu o fewn y cyfnod o bum mlynedd.

Yn ystod oes y grant, wrth ichi gyflwyno hawliadau, efallai y gwnawn ni eu harchwilio i sicrhau bod y gwariant yn gymwys ac yn unol â’r hyn a gymeradwywyd yn y cais gwreiddiol. 

Ar ôl cwblhau'r gwaith ffisegol, cynhelir ymweliad â’r safle a chaiff asesiad manwl o’r prosiect ei gynnal.  Bydd angen yr wybodaeth ganlynol arnom gan gynnwys: anfonebau gwreiddiol, rhifau cyfresol/offer, tystysgrif gwblhau Rheoliadau Adeiladu (os yn briodol); system Iechyd a Diogelwch, gan gynnwys dadansoddiad risg; dogfennau Asesu Risgiau Tân yn unol â Gorchymyn Diwygio Rheoleiddio (Diogelwch Tân) 2005; cofnodion y Drefn Lanhau, cofnodion Rheoli Plâu a chofnodion Rheoli Ansawdd.  Caiff y grant ei dalu ar yr amod y gwelir cynnydd digonol.

Un o ofynion y grant yw bod angen cadw’r cyfarpar a brynwyd gyda chymorth grant ar y safle, gan sicrhau ei fod yn weithredol ac mewn cyflwr da. Hefyd, rhaid iddo gael ei ddefnyddio at yr un diben â’r hyn a nodwyd yn y cais gwreiddiol, am o leiaf bum mlynedd ar ôl dyddiad cwblhau’r prosiect a nodir yn y contract. Gwneir hyn er mwyn sicrhau oes hir i’r prosiect a sicrhau bod cynhyrchwyr cynradd yn cael cyfran barhaus o fanteision y prosiect.

Ymwelir â chanran o’r prosiectau a gymeradwywyd o fewn pum mlynedd i ddyddiad cwblhau’r prosiect (Dyddiad Diwedd y Contract) i sicrhau bod yr ymgeisydd yn dal i ddefnyddio’r cyfarpar a brynwyd gyda’r grant a bod y busnes yn perfformio yn ôl y disgwyl.

Cadw cofnodion 

Mae’n rhaid i chi gadw’r holl gofnodion a gwybodaeth sydd eu hangen arnoch i ddangos eich bod wedi darparu gwybodaeth gyflawn a chywir a’ch bod wedi cydymffurfio â’ch ymrwymiadau am bum mlynedd.

Bydd gofyn ichi hefyd:

  • ddarparu unrhyw wybodaeth i Lywodraeth Cymru am eich Dyfarniad Grant FBAS yn unol â’r amserlen a bennir gan Lywodraeth Cymru.
  • darparu cofnodion, cyfrifon, derbynebau a gwybodaeth arall gan gynnwys data ar gyfrifiadur sy’n ymwneud â’ch Dyfarniad Grant FBAS i Lywodraeth Cymru, ei phersonau awdurdodedig neu ei hasiantwyr.  Bydd gofyn ichi ganiatáu i Lywodraeth Cymru gymryd unrhyw ddogfen neu gofnod i wneud copïau neu i godi darnau ohoni/ohono.

Adran I: y drefn apelio a chwyno

Y drefn apelio 

Nid oes unrhyw seiliau dros apelio yn ystod y cam Cyn-gymhwyso.

(i)    Dyfarniad cyn-grant
(a)    Cyfnod Cyn-gymhwyso

Nid oes unrhyw sail dros apelio yn y cam Cyn-gymhwyso.

(b)    Cais llawn

Gallwch ofyn am adolygiad mewnol o benderfyniad a wnaed ar Gais Llawn. Rhaid i'ch gwrthwynebiadau, gan gynnwys tystiolaeth ategol, gael eu cyflwyno o fewn 60 diwrnod i'r llythyr yn amlinellu'r penderfyniad yr ydych am gael ei adolygu. Dylid cyflwyno hyn yn ysgrifenedig drwy eich cyfrif RPW Ar-lein.

Bydd swyddogion yn adolygu ac yn gwneud penderfyniad terfynol ac yn eich hysbysu ynghyd â'r rhesymau dros y penderfyniad hwnnw.

ii)    Dyfarniad ôl-grant

Mae apeliadau ynghylch penderfyniad Llywodraeth Cymr unwaith y bydd dyfarniad grant wedi'i gynnig yn cael eu hystyried o dan y 'Broses Apelio Annibynnol ar gyfer Grantiau a Thaliadau Gwledig'. Mae'r broses hon yn eich galluogi i ofyn am adolygiad os ydych yn credu nad yw Llywodraeth Cymru wedi dod i benderfyniad cywir yn unol â rheolau'r cynllun.

Mae'r broses apelio yn cynnwys dau gam:

  • Cam 1: adolygiad gan RPW
  • Cam 2: adolygiad gan y Panel Apelio Annibynnol (os ydych yn anfodlon â’r ymateb yng ngham 1).

Mae’r Panel Annibynnol yn gwneud argymhellion i Weinidogion Cymru, sy’n gwneud y penderfyniad terfynol, gan ddod â’r broses i ben.

Nid oes tâl am gynnal cam 1 y broses ond mae tâl am gynnal cam 2 - £50 am wrandawiad ysgrifenedig neu £100 am wrandawiad llafar.  Byddwn yn ad-dalu’r costau hyn yn llawn os bydd cam 2 yr apêl yn llwyddiannus neu’n rhannol lwyddiannus.

Rhaid i apeliadau, gan gynnwys y dystiolaeth, ddod i’n llaw trwy RPW Ar-lein o fewn 60 diwrnod ar ôl dyddiad y llythyr sy’n disgrifio’r penderfyniad rydych am apelio yn ei erbyn. 

Mae croeso ichi anfon apeliadau atom yn y Gymraeg a byddwn yn ateb unrhyw lythyr Cymraeg yn y Gymraeg. Ni fydd hynny’n arwain at unrhyw oedi. 

Mae rhagor o wybodaeth am y broses apelio a sut i gyflwyno apêl trwy ddefnyddio’r ffurflen apelio ar-lein ar gael gan y Ganolfan Gyswllt i Gwsmeriaid neu ein gwefan: Apeliadau grantiau a thaliadau gwledig.

Y Drefn Gwyno 

Ymdrinnir â chwynion o dan weithdrefn Llywodraeth Cymru ar gwynion. Cewch ragor o wybodaeth am sut i wneud cwyn oddi wrth y Tîm Cynghori ar Gwynion:

Llywodraeth Cymru
Adeiladau'r Goron 
Parc Cathays 
Caerdydd
CF10 3NQ

Ffôn: 03000 251378

E-bost: complaints@gov.wales 

Gwefan: Cwyn am Lywodraeth Cymru

Gallwch hefyd ddewis cysylltu ag Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru:

1 Ffordd yr Hen Gae 
Pen-coed
CF35 5LJ

Ffôn: 0300 790 0203

Gwefan: Ombwdsmon Cymru 

Adran J: hysbysiad preifatrwydd - grantiau Llywodraeth Cymru

Sut byddwn yn trin unrhyw ddata personol rydych chi’n eu rhoi yng nghyswllt eich cais am grant neu’ch cais am gyllid grant

Mae Llywodraeth Cymru yn cynnal amrywiaeth o gynlluniau grant er mwyn helpu i roi ein polisïau ar waith a chreu Cymru decach, fwy ffyniannus.

Llywodraeth Cymru fydd y rheolydd data ar gyfer unrhyw ddata personol a ddarperir gennych mewn perthynas â'ch cais am grant neu gyllid. Bydd yr wybodaeth yn cael ei phrosesu fel rhan o'n gorchwyl cyhoeddus (h.y. arfer ein hawdurdod swyddogol i ymgymryd â rôl a swyddogaethau craidd Llywodraeth Cymru) ac yn ein helpu i asesu a ydych yn gymwys i gael cyllid. 

Cyn i ni roi cyllid grant i chi, byddwn yn cynnal archwiliadau er mwyn atal twyll ac atal gwyngalchu arian, ac i ddilysu eich manylion adnabod. Fel rhan o’r archwiliadau hyn, mae'n ofynnol i ni brosesu data personol amdanoch chi gydag asiantaethau atal twyll trydydd parti.

Os byddwn ni, neu asiantaeth atal twyll, yn penderfynu eich bod yn peri risg o ran twyll neu wyngalchu arian, gallwn wrthod darparu’r cyllid grant y gwnaethoch gais amdano, neu gallwn stopio darparu cyllid grant rydych chi eisoes yn ei gael 

Bydd cofnod o unrhyw risg gysylltiedig â thwyll neu wyngalchu arian yn cael ei gadw gan yr asiantaethau atal twyll, a allai olygu y bydd sefydliadau eraill yn gwrthod darparu gwasanaethau, cyllid neu gyflogaeth i chi.

Er mwyn asesu cymhwyster, efallai y bydd angen i ni hefyd rannu gwybodaeth bersonol sy'n ymwneud â'ch cais gyda’r canlynol.

  • Awdurdodau rheoleiddio, megis Cyllid a Thollau Ei Fawrhydi, yr Awdurdodau Lleol, yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch a’r Heddlu.

Gall eich gwybodaeth, gan gynnwys eich gwybodaeth bersonol, fod yn destun cais gan aelod arall o'r cyhoedd. Wrth ymateb i geisiadau o’r fath, efallai y bydd yn rhaid i Lywodraeth Cymru ryddhau gwybodaeth, gan gynnwys eich gwybodaeth bersonol, er mwyn cyflawni ei rhwymedigaethau o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000, Deddf Gwybodaeth Amgylcheddol 2004, Ddeddf Diogelu Data 2018 neu Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018.

Bydd Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi manylion y symiau a dalwyd i fuddiolwyr Cymorth Gwledig. Cyhoeddir data am bob buddiolwr, a bydd yn cynnwys enw a lleoliad y ffermwr/rheolwr tir a manylion y symiau a’r cynllun. Ond, ni ddatgelir enwau’r rheini sy’n cael llai na’r hyn sy’n gyfwerth â £1,250 mewn cymorthdaliadau. Cyhoeddir y data bob blwyddyn ar 31 Mai a bydd y data ar gael am ddwy flynedd o’r dyddiad y cawsant eu cyhoeddi. 

Byddwn yn cadw gwybodaeth bersonol mewn ffeiliau yn unol â'n polisi cadw gwybodaeth. Os bydd eich cais yn llwyddiannus, byddwn yn cadw’ch data personol am 7 mlynedd ar ôl y dyddiad pan fyddwch chi, fel derbynnydd y grant, yn rhydd rhag holl amodau'r grant, a phob taliad wedi'i wneud. Fodd bynnag, os dyfernir y cyllid o dan Eithriad Bloc Cyffredinol neu De Minimis, bydd eich data personol yn cael ei gadw am 10 mlynedd ar ôl i unrhyw ddyfarniad cymorth ddod i ben. Os ydych yn aflwyddiannus, bydd eich manylion yn cael eu cadw am flwyddyn ar ôl y dyddiad y gwnaethoch eu darparu.

O dan y ddeddfwriaeth diogelu data, mae gennych chi hawl:

  • i weld y data personol sydd gan Lywodraeth Cymru amdanoch
  • i fynnu ein bod yn cywiro unrhyw beth anghywir yn y data hynny
  • i wrthwynebu neu gyfyngu (o dan amgylchiadau penodol) ar brosesu eich data personol
  • i ofyn (o dan rai amgylchiadau) inni 'ddileu' eich data
  • i gyflwyno cwyn i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth, sef y rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data

I gael rhagor o fanylion am yr wybodaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei chadw a'r ffordd mae'n cael ei defnyddio, neu os ydych am arfer eich hawliau o dan y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data, gweler y manylion cyswllt isod:

Y Swyddog Diogelu Data
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
CAERDYDD

CF10 3NQ

E-bost: DataProtectionOfficer@llyw.cymru

Dyma’r manylion ar gyfer cysylltu â Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth:

Yr Ail Lawr, Tŷ Churchill
Ffordd Churchill
Caerdydd 
CF10 2HH

Ffôn: 0330 414 6421

Gwefan: https://ico.org.uk/

Os oes gennych unrhyw ymholiadau am y datganiad preifatrwydd hwn, cysylltwch â Chanolfan Gyswllt i Gwsmeriaid RPW.

Hysbysiad preifatrwydd: grantiau Llywodraeth Cymru | LLYW.CYMRU

Adran K: deddfwriaeth

Mae’r cynllun Sbarduno Busnesau Bwyd yn cyflawni amrywiaeth o ymrwymiadau ac amcanion y Llywodraeth sydd wedi’u rhestru isod, yn unol â’r ddeddfwriaeth a’r prosesau llywodraethu perthnasol.

Mae'r Cynllun Sbarduno Busnesau Bwyd yn cael ei lywodraethu gan Reoliadau Cyngor Cyfraith yr UE a Ddargedwir Rhif. 1305/2013, 1303/2013 a 1306/2013, Rheoliad Gweithredu Rhif 808/2014 a rhif  809/2014 a Rheoliadau Dirprwyedig 640/2014 ac 807/2014 (fel y'u diwygir o bryd i'w gilydd). 

Rhoddir cyfraith yr UE a ddargedwir ar waith yng Nghymru trwy’r gyfraith ddomestig ganlynol (fel y’i diwygir o dro i dro), gan gynnwys drwy Reoliadau Cymorth Amaethyddol (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2021/400 (Cy.129):

  • Rheoliadau Rhaglenni Datblygu Gwledig (Cymru) 2014/3222 (Cy.327)
  • Rheoliadau’r Polisi Amaethyddol Cyffredin (System Integredig Gweinyddu a Rheoli a Gorfodi a Thrawsgydymffurfio) (Cymru) 2014/3223 (Cy.328)

Bydd cymorth ariannol ar gyfer ffermwyr, rheolwyr tir a sectorau gwledig cysylltiedig yn ymateb i bedwar amcan strategol Llywodraeth Cymru, sef:

  • gwneud amaethyddiaeth yn fwy cystadleuol
  • cyfrannu tuag at reoli adnoddau naturiol mewn ffordd gynaliadwy fel y’i nodir yn Rhan 1 o Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016
  • sicrhau cadernid hinsawdd
  • sicrhau datblygiad tiriogaethol cytbwys o economïau a chymunedau gwledig gan gynnwys creu a chynnal cyflogaeth

Hefyd, bydd y Cynllun yn gofyn i ymgeiswyr nodi sut y bydd eu prosiect yn cyfrannu at themâu trawsbynciol canlynol Llywodraeth Cymru:

  • Cyfle cyfartal a phrif ffrydio rhywedd
  • Trechu tlodi ac allgáu cymdeithasol
  • Y Gymraeg

Yn ogystal, bydd ceisiadau i’r Cynllun Sbarduno Busnesau Bwyd yn ystyried amcanion strategol a thematig Llywodraeth Cymru.

Bydd gweithgareddau yn ymwneud ag o leiaf un o flaenoriaethau canlynol Llywodraeth Cymru:

  1. meithrin y broses o drosglwyddo gwybodaeth ac arloesi mewn amaethyddiaeth, coedwigaeth a meysydd gwledig
  2. gwneud ffermydd yn fwy hyfyw a chystadleuol mewn pob math o amaethyddiaeth, a hyrwyddo technolegau fferm arloesol a dulliau cynaliadwy o reoli coedwigoedd;
  3. hyrwyddo trefniadaeth y gadwyn fwyd, gan gynnwys prosesu a marchnata cynnyrch amaethyddol, lles anifeiliaid a rheoli risg ym maes amaethyddiaeth;
  4. adfer, gwarchod a gwella ecosystemau sy'n dibynnu ar amaethyddiaeth a choedwigaeth;
  5. hyrwyddo’r defnydd effeithiol o adnoddau a chefnogi'r newid tuag at economi carbon isel sy'n gallu gwrthsefyll y newid yn yr hinsawdd yn y sectorau  amaethyddiaeth, bwyd a choedwigaeth;
  6. hyrwyddo cynhwysiant cymdeithasol, lleihau tlodi a datblygu economaidd mewn ardaloedd gwledig.

Adran L: cysylltiadau

Ymholiadau am y Cynllun 

Os oes gennych ymholiadau am eich Datganiad o Ddiddordeb, cysylltwch â FBAS@llyw.cymru

Pob ymholiad arall: Y Ganolfan Gyswllt i Gwsmeriaid

Ar gyfer eich holl ymholiadau, cysylltwch â Canolfan Gyswllt i Gwsmeriaid RPW 

Gallwch gyflwyno ymholiadau trwy RPW Ar-lein ar unrhyw adeg.

Mynediad i swyddfeydd Llywodraeth Cymru ar gyfer pobl ag anableddau neu anghenion arbennig

Os oes gennych unrhyw anghenion arbennig nad ydych yn teimlo bod ein cyfleusterau yn eu diwallu, cysylltwch â’r Ganolfan Gyswllt i Gwsmeriaid ar 0300 062 5004 i gael swyddogion Llywodraeth Cymru i wneud trefniadau addas ar eich cyfer.

Gwefan Llywodraeth Cymru 

I gael yr wybodaeth ddiweddaraf am Amaethyddiaeth a Materion Gwledig, ewch i wefan Llywodraeth Cymru. Wrth ymweld â’r wefan, gallwch hefyd gofrestru i gael yr e-gylchlythyr Materion Gwledig sy’n anfon y newyddion diweddaraf yn syth i’ch mewnflwch e-bost.

Gwlad

E-gylchlythyr Gwlad yw e-gylchlythyr Llywodraeth Cymru ar gyfer busnesau fferm a choedwigaeth a phawb sy’n ymwneud ag amaethyddiaeth a chefn gwlad Cymru. Mae’n llawn newyddion, cyngor a gwybodaeth hawdd eu ffeindio a’u deall. I sicrhau eich bod yn parhau i glywed am y newyddion a’r datblygiadau diweddaraf gallwch gofrestru i dderbyn e-gylchlythyr Gwlad. I wneud hyn naill ai ewch i  Hysbysiadau | LLYW.CYMRU neu   Cofrestrwch ar gyfer newyddion amaethyddiaeth a choedwigaeth