Neidio i'r prif gynnwy

Bron i flwyddyn ers cyflwyno'r terfyn cyflymder diofyn o 20mya yng Nghymru, mae Ken Skates, Ysgrifennydd y Cabinet dros Trafnidiaeth a Gogledd Cymru, wedi nodi'r camau nesaf.

Cyhoeddwyd gyntaf:
16 Medi 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Yn gynharach eleni, cyhoeddodd Ysgrifennydd y Cabinet gynllun tri cham ar 20mya, gan gynnwys Rhaglen Wrando Genedlaethol dros yr haf, a oedd yn annog pobl i gymryd rhan a dweud eu dweud. Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ganllawiau diwygiedig ar gyfer awdurdodau priffyrdd ym mis Gorffennaf.

Mae dau gam cyntaf y cynllun wedi’u cwblhau. Mae awdurdodau lleol bellach wrthi'n adolygu adborth gan bobl, busnesau a chymunedau ledled Cymru i sicrhau bod 20mya wedi'i dargedu ar y ffyrdd cywir.

Mae nifer o gynghorau bellach yn dechrau amlinellu cam olaf y cynllun drwy gyhoeddi gwybodaeth ar faint o adborth a gafwyd a’r camau nesaf.

Unwaith y bydd eu hadolygiad wedi'i gwblhau, os bydd awdurdodau lleol yn penderfynu newid y terfyn cyflymder ar ffordd unigol, bydd proses statudol Gorchymyn Rheoleiddio Traffig (TRO) yn dechrau – gan roi cyfle pellach i ymgysylltu â phobl leol.

Mae'r ystadegau diweddaraf yn arwydd calonogol bod pethau'n symud i'r cyfeiriad cywir, gyda chwymp yn nifer y gwrthdrawiadau a gostyngiad mewn cyflymder.

Dywedodd Ken Skates:

Roeddwn i eisiau rhoi llais i bobl ar 20mya yn eu hardal ei hunain, ac rwy'n ddiolchgar i bawb sydd wedi rhannu adborth gyda'u cyngor lleol dros y misoedd diwethaf.

"Rwyf am adeiladu o'r consensws eang bod 20mya yn iawn lle mae pobl yn byw, yn gweithio ac yn chwarae - mae hyn yn ymwneud â sicrhau’r cyflymderau cywir ar y ffyrdd cywir.

"Hoffwn ddiolch i'n partneriaid llywodraeth leol. Rwy'n falch bod awdurdodau lleol yn dechrau symud i gamau olaf y cynllun. Bydd y gwaith hwn yn datblygu ar gyflymder gwahanol mewn gwahanol leoedd, yn ôl amgylchiadau lleol a faint o adborth a gafwyd.

Ychwanegodd Cadeirydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, y Cynghorydd Andrew Morgan: 

Mae awdurdodau lleol yn croesawu'r cyllid a'r cymorth pellach a gynigir gan Lywodraeth Cymru i sicrhau'r cyflymderau cywir ar y ffyrdd cywir ond maen nhw'n wynebu penderfyniadau heriol. Bydd angen i ni gydbwyso'n ofalus y manteision a'r anfanteision o godi cyflymder. Bydd diogelwch pob defnyddiwr ffordd wrth wraidd y penderfyniadau a wnawn.