Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r ffigurau diweddaraf yn dangos gostyngiad sylweddol yn nifer y rheini sy'n cael eu lladd neu'u hanafu ar ffyrdd Cymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
13 Mawrth 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae heolydd Cymru yn saffach hefyd i blant - gyda gostyngiad o 15 y cant yn nifer y plant o dan 16 oed ac 16 y cant o ostyngiad yn nifer y bobl ifanc (16 - 24 oed) gafodd eu lladd neu'u hanafu o'u cymharu â 2016.

O gymryd y ffigurau i gyd, gwelwyd gostyngiad o 9.6 y cant yn y nifer gafodd eu hanafu neu'u lladd (anafusion) ar ffyrdd Cymru yn 2017, gyda heddluoedd Cymru'n cofnodi cyfanswm o 6,194 o anafusion.

Gwelwyd gostyngiad o 4.3 y cant yn y nifer gafodd eu lladd neu eu hanafu'n ddifrifol, cyfanswm o 1,060 o anafusion.

Cafodd 5,134 anafiadau 'mân' eu cofnodi, sy'n 10.6 y cant yn llai na ffigur 2016.

Dywedodd Dirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth, Lee Waters:

"Wrth i'n priffyrdd fynd yn brysurach, rhaid inni fod yn ymwybodol y dylai mwy o bobl ar y ffyrdd olygu mwy o ddamweiniau.

"Pan gyhoeddon ni ein Fframwaith Diogelwch ar y Ffyrdd yn 2013, gosodon ni dargedau anodd inni'n hunain i wneud ein heolydd yn fwy diogel.

"Fel mae'r ystadegau hyn yn eu dangos, rydym wedi llwyddo i ostwng nifer y bobl sy'n cael eu lladd neu eu hanafu'n ddifrifol ar ein ffyrdd, gyda'r gostyngiad mwyaf yn nifer y bobl ifanc.

“Fodd bynnag, mae’r ffigurau’n dangos hefyd bod cerddwyr a beicwyr yn wynebu lefel uwch o risg.  Er bod pethau’n gwella, mae angen inni wneud mwy i wneud ein heolydd yn fwy diogel i ddefnyddwyr hawdd eu niweidio, a normaleiddio cerdded a beicio.

"Rydyn ni'n dal i gefnogi'n partneriaid i daro targedau a chynnal gweithgareddau'r Fframwaith Diogelwch ar y Ffyrdd a byddwn yn cyhoeddi cyn hir pa awdurdodau lleol a fydd yn cael £4m y grant cyfalaf diogelwch ar y ffyrdd a'r £1.9m o refeniw diogelwch ar y ffyrdd yn 2019/2020.

"Mae'r grantiau Llwybrau Diogel i Ysgolion, fydd yn werth £5 miliwn yn 2019/20, a'r grantiau Teithio Llesol, yn helpu grwpiau sy'n annog mwy o deithio llesol ymhlith plant sy'n teithio i'r ysgol a'r gymuned ehangach."