Yn ôl adroddiad newydd, roedd ffynonellau ynni adnewyddadwy wedi cynhyrchu digon o drydan yr ateb hanner anghenion Cymru yn 2018.

Cyhoeddwyd gyntaf:
23 Hydref 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Rhannu’r dudalen hon

Y llynedd roedd ffynonellau adnewyddadwy wedi cynhyrchu cyfwerth â 50% o’r trydan a ddefnyddiwyd yng Nghymru o gymharu â 48% yn 2017, sy’n dangos bod y wlad yn parhau ar drywydd i gyflawni’r targedau uchelgeisiol ar gyfer ynni glân erbyn 2030.

Roedd adroddiad Cynhyrchu Ynni yng Nghymru 2018 wedi dangos bod Cymru wedi cynhyrchu ddwywaith y trydan a ddefnyddiwyd y llynedd, gan wneud Cymru yn allforiwr trydan o bwys i Loegr, Iwerddon a’r rhwydwaith Ewropeaidd ehangach.

Mae’r adroddiad yn dangos chwe pheth:

  • Roedd 25% o’r trydan a gynhyrchwyd yn deillio o ffynonellau adnewyddadwy, o gymharu â 22% yn 2017. Defnyddiodd Cymru 14.9 TWh o drydan a chynhyrchu 7.4 TWh o drydan o ffynonellau ynni adnewyddadwy.
  • Mae tua 67% o’r trydan adnewyddadwy sy’n cael ei gynhyrchu yng Nghymru yn dod o’r gwynt.
  • Mae bron 69,000 o brosiectau ynni adnewyddadwy yng Nghymru sydd a chapasiti ar y cyd o ryw 3,900 MW. Mae 83% o’r capasiti hwn yn drydan adnewyddadwy ac 17% yn gapasiti gwres adnewyddadwy.
  • Y prosiect trydan adnewyddadwy mwyaf i’w gomisiynu yn 2018 oedd fferm wynt Gorllewin Brechfa sy’n cynhyrchu 57.4 MW yn Sir Gaerfyrddin.
  • Mae Cymru yn cynhyrchu tua 2.2 TWh o wres adnewyddadwy, sy’n gyfwerth â 13% o’r galw am wres domestig yng Nghymru.
  • Mae gan Gymru bellach 783 MW o gapasiti ynni adnewyddadwy dan berchnogaeth leol o gymharu â’r targed o 1GW (1,000 MW) erbyn 2030.

Mae sawl prosiect ynni adnewyddadwy yn parhau i fynd o nerth i nerth ar draws Cymru. Ynni solar ffotofoltäig yw’r dechnoleg sydd â’r fwyaf o osodiadau gyda 54,560 o brosiectau tra bo technoleg ynni gwynt ar y tir sydd â’r capasiti fwyaf wedi’i osod gyda 740 o brosiectau yn cynhyrchu 1,106 MW.

Dywedodd y Gweinidog Lesley Griffiths:

Mae’n galonogol iawn gweld perfformiad y sector ynni adnewyddadwy wrth inni barhau tuag at gyflawni ein targedau uchelgeisiol. Fodd bynnag, mae heriau sylweddol yn parhau wrth inni geisio cyflawni ein targedau, megis diffyg cymorth o ran prisiau cynhyrchu ynni adnewyddadwy a phrosiectau newydd yn cael trafferth cysylltu â’r rhwydwaith.

Rydym yn deall ei bod yn bwysig trawsnewid system ynni Cymru wrth inni symud o danwydd ffosil i ffynonellau ynni adnewyddadwy, er mwyn sicrhau Cymru fwy ffyniannus a glân.