Neidio i'r prif gynnwy

Rôl a diben

Mae atal a mynd i'r afael â thrais a gweithio gyda'r rhai sy'n cyflawni trais a chamdriniaeth yn hanfodol i'n dull iechyd y cyhoedd o ymdrin â Thrais yn Erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol. Er mwyn cyflawni hyn, byddwn yn adeiladu ar y gwaith sy'n digwydd eisoes yn y maes hwn drwy ddatblygu dull seiliedig ar dystiolaeth sy'n mynd i'r afael ag achosion sylfaenol trais. I wneud hyn, bydd angen i ni fynd i'r afael â thrais ar lefel cymdeithas gyfan, yn ogystal â chynyddu ein ffocws ar y cyd ar y rhai sy'n cyflawni Trais yn Erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol.

Byddwn yn mabwysiadu dull a fydd yn herio ac yn cefnogi'r rhai sy'n cyflawni camdriniaeth er mwyn eu hatal a tharfu arnynt, rheoli risg a hwyluso newidiadau mewn ymddygiad. Byddwn yn gweithio i ymgorffori'r dull hwn o weithio o fewn y systemau troseddol a chyfiawnder sifil trwy gydweithio â gwasanaethau cyhoeddus ac o fewn gwasanaethau anstatudol sydd wedi'u hanelu at y rhai sy'n cyflawni Trais yn Erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol.

Byddwn yn ceisio sicrhau cydlyniant rhwng gwasanaethau cyflawnwyr a chymorth arbenigol i oroeswyr fel y gall y system gyfan fynd i'r afael â chamdriniaeth, ochr yn ochr â chefnogi dioddefwyr. Yn hollbwysig, byddwn yn gweithio gyda chomisiynwyr i sicrhau bod ymyriadau ar gyfer cyflawnwyr yn ddiogel, bod digon o adnoddau ar gael ar eu cyfer ac nad ydynt yn amharu ar lefel y ddarpariaeth i ddioddefwyr a goroeswyr.

Datganiad ar gydraddoldeb

Nid yw effaith VAWDASV yn unffurf, gan effeithio ar wahanol bobl mewn gwahanol ffyrdd. Yn fwyaf amlwg, mae VAWDASV yn effeithio'n anghymesur ar fenywod ac mae'r strategaeth yn cydnabod yr anghydbwysedd hwn rhwng y rhywiau. Mae hyn yn achos ac yn ganlyniad i anghydraddoldeb rhwng y rhywiau. Mae anghydraddoldeb rhwng y rhywiau yn gosod amodau sylfaenol ar gyfer trais yn erbyn menywod. Mae'n bodoli ar sawl lefel yn ein cymdeithas; o'r lefelau anghymesur o ddynion mewn rolau arweinyddiaeth a rolau gwneud penderfyniadau, ffactorau economaidd megis y bwlch cyflog rhwng y rhywiau, a rolau a disgwyliadau o ran teulu a chydberthnasau. Mae cysylltiad cryf a chyson rhwng anghydraddoldeb rhwng y rhywiau a thrais yn erbyn menywod.

Y tu hwnt i hyn, fodd bynnag, mae cysylltiad annatod rhwng profiad bywyd VAWDASV a ffactorau sy'n ymwneud ag ystod ehangach o nodweddion cydraddoldeb. O ganlyniad i fathau o wahaniaethu a gormes croestoriadol, mae rhai grwpiau o bobl yn profi trais gwahanol, amlach neu fwy difrifol neu'n wynebu rhwystrau ychwanegol i geisio cymorth. Yn hollbwysig, gall yr effaith ar bobl sydd â mwy nag un nodwedd o'r fath (e.e. menywod du neu blant LHDTC+) fod yn gronnol. Mae dull croestoriadol felly yn angenrheidiol i'n helpu i ddatblygu ein dealltwriaeth o VAWDASV ac i dynnu sylw at anghenion amrywiol pawb yr effeithir arnynt, gan gynnwys plant, pobl hŷn, pobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol, pobl anabl a chymunedau LHDTC.   Bydd angen i bob ffrwd waith ystyried y materion hyn drwy gydol eu gwaith er mwyn sicrhau bod ein canlyniadau yn hyrwyddo cydraddoldeb yn gyson a chynhwysfawr.

Rolau a chyfrifoldebau

Arweinydd y ffrwd waith

Rôl allweddol Arweinydd y Ffrwd Waith yw:

  • cyflawni gweledigaeth Glasbrint VAWDASV, mewn perthynas â Mynd i'r Afael â Chyflawni Trais
  • arwain y gwaith o gyflawni'r ffrwd waith, gan gynnwys sicrhau bod gweithgareddau o fewn y cwmpas ac ar y trywydd cywir
  • gwneud penderfyniadau pwysig o fewn ei awdurdod dirprwyedig a nodi achosion lle mae penderfyniadau y tu hwnt i'r cwmpas ac y mae angen eu huwchgyfeirio drwy'r strwythurau llywodraethu perthnasol
  • sicrhau bod cymorth ac ymrwymiad gan ei sefydliad ei hun, gan gydnabod y gall gofynion y rôl graidd a newidiadau iddi effeithio ar ei allu i arwain y gwaith
  • dwyn aelodau o grŵp y ffrwd waith i gyfrif am gamau gweithredu a gweithgareddau a ddirprwyir
  • rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd i Fyrddau Rhaglen Glasbrint VAWDASV, gyda chymorth gan y tîm cyflawni craidd
  • helpu Uwch-swyddogion Cyfrifol y Glasbrint i ddatblygu'r ffrwd waith, monitro cynnydd drwy'r cynllun cyflawni, datrys materion a rhoi camau cywirol priodol ar waith i gefnogi sicrwydd y rhaglen
  • sicrhau bod y lefel gywir o sgiliau ac adnoddau tîm yn cael ei nodi er mwyn sicrhau y gellir cyflawni'r ffrwd waith yn llwyddiannus
  • sicrhau ymgysylltiad a chytundeb ymhlith rhanddeiliaid o ran yr amcanion a'r buddiannau
  • sicrhau bod y ffrwd waith yn gweddu'n strategol, gan ystyried damcaniaethau newid a gwireddu buddiannau
  • sicrhau bod y gwersi a ddysgwyd yn cael eu nodi

Tîm cyflawni rhaglen glasbrint VAWDASV

  • Helpu Arweinydd y Ffrwd Waith i gyflawni blaenoriaethau'r ffrwd waith. 
  • Goruchwylio a monitro risgiau, materion a'r gwaith o gyflawni amcanion drwy gynnal cofrestr risgiau a chynllun cyffredinol o'r rhaglen. 
  • Rhoi gwybod i Arweinydd y Ffrwd Waith lle mae angen gwneud penderfyniadau allweddol neu gymryd camau cywirol i gefnogi'r gwaith o gyflawni'r rhaglen.
  • Helpu Arweinydd y Ffrwd Waith i sicrhau bod gweithgarwch y ffrwd waith yn cael ei integreiddio â ffrydiau gwaith/prosiectau eraill a/neu'n ystyried ffrydiau gwaith/prosiectau eraill fel y bo'n briodol a'i fod yn gyson â gweithgarwch/blaenoriaethau strategol ehangach.
  • Helpu Arweinydd y Ffrwd Waith i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i Fyrddau Rhaglen y Glasbrint.

Aelodau ffrydiau gwaith

Gofynnir i aelodau ffrydiau gwaith helpu arweinwyr y ffrwd waith i gyflawni gweledigaeth y ffrwd waith drwy wneud y canlynol: 

  • cyfrannu at y gwaith o gyflawni cynllun prosiect y ffrwd waith ac arwain ar bwyntiau gweithredu unigol, lle y bo'n briodol
  • cyfrannu cyngor, arbenigedd, amser ac adnoddau i helpu'r gwaith o ddatblygu cynhyrchion y ffrwd waith
  • helpu Arweinwyr y Ffrwd Waith i nodi cyfleoedd, monitro risgiau a materion a nodi datrysiadau
  • helpu Arweinwyr y Ffrwd Waith i ddatblygu polisi strategol, gan gyfrannu at y Bwrdd Partneriaeth Cenedlaethol
  • gofyn am gymorth ac ymrwymiad gan eich sefydliad eich hunain wrth i chi gymryd rhan yn y gwaith hwn
  • helpu i gyflawni'r cynllun ymgysylltu a chyfathrebu â rhanddeiliaid drwy hyrwyddo'r gwaith hwn mewn fforymau a phartneriaethau perthnasol
  • bod yn gyfrifol am nodi achosion posibl o wrthdaro buddiannau mewn perthynas â'ch rôl eich hun (e.e. mewn perthynas â thrafod cyfleoedd posibl i wneud cynigion yn y ffrwd waith) a chymryd camau priodol i ddileu'r risg
  • lle na all aelodau craidd fynychu cyfarfod ac na allant anfon dirprwy, rhaid darparu diweddariad ysgrifenedig cyn y cyfarfod i sicrhau momentwm y ffrwd waith

Cymorth i aelodau

Mae llwyddiant y ffrwd waith yn ddibynnol iawn ar gydweithio a gwaith partneriaeth llwyddiannus. Caiff cyfathrebu dirwystr ei annog yn fawr ac i gefnogi hyn, bydd Rheolwr Cyflawni'r Prosiect ar gael i bob aelod y tu allan i gyfarfodydd y ffrwd waith. Gall pob aelod gysylltu â Rheolwr Cyflawni'r Prosiect mewn perthynas ag unrhyw ymholiadau y gall fod ganddo neu weithgareddau sy'n ymwneud â'r ffrwd waith a Strategaeth VAWDASV.

Cydnabyddir i raddau helaeth fod cymryd rhan yn ffrwd waith VAWDASV yn ymrwymiad gwaith ychwanegol i aelodau'r gweithgor. Os bydd gan aelodau unrhyw bryderon am eu gallu i gyfrannu at y ffrwd waith, gallant gysylltu â Rheolwr Cyflawni'r Prosiect a fyddai'n fodlon trafod hyn gyda nhw, a lle y bo'n bosibl, gweithio gyda nhw i ddod o hyd i ateb ymarferol.

Gall trafod a gweithio ar bynciau VAWDASV achosi trallod, sbarduno hen drawma a/neu achosi trawma mechnïol. Mae'n hollbwysig bod y ffrwd waith yn parhau i ddefnyddio dull ystyriol o drawma, ac mae hyn yn cynnwys bod yn sensitif i anghenion pob un o aelodau'r gweithgor. Gall aelodau gysylltu â Rheolwr Cyflawni'r Prosiect os oes ganddynt unrhyw bryderon am sut y gall bod yn rhan o'r grŵp effeithio arnynt, neu os bydd ganddynt unrhyw bryderon eraill sy'n gysylltiedig â VAWDASV neu'u llesiant meddyliol.  Ni all Rheolwr Cyflawni'r Prosiect ddarparu cymorth therapiwtig ond byddai ar gael i wrando'n gyfrinachol a chyfeirio aelodau at y cymorth mwyaf priodol. Gall aelodau hefyd ddymuno siarad â'u rheolwr llinell a/neu gysylltu a chael adnoddau gan:

  • Byw Heb Ofn, sy'n darparu help a chyngor ar atal trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol: 0808 8010 800
  • C.A.L.L., Llinell Gymorth Iechyd Meddwl ar gyfer Cymru: 0800 132 737, neu tecstiwch ‘help’ i 81066

Aelodaeth

Gwahoddir aelodau i fod yn bresennol. 

Nid yw'r rhestr hon yn gynhwysfawr ac efallai y caiff partneriaid eu gwahodd i fod yn bresennol fesul achos, fel sy'n ofynnol. 

Cyd-gadeiryddion

  • Cymorth i Ferched Cymru
  • Gwasanaeth Carchardai a Phrawf Ei Fawrhydi

Cyflawni'r glasbrint a pholisi Llywodraeth Cymru

  • Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu De Cymru
  • Polisi VAWDASV Llywodraeth Cymru

Aelodau

  • Cynghorydd Cenedlaethol
  • Heddlu Gwent
  • Heddlu De Cymru
  • Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu De Cymru
  • Gwasanaeth Carchardai a Phrawf Ei Fawrhydi
  • Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd Ei Fawrhydi
  • Cynghorwyr Rhanbarthol
  • Yr Uned Atal Trais
  • Iechyd Cyhoeddus Cymru
  • Llwybrau Newydd
  • Calan DVS
  • Plan UK
  • BAWSO
  • Threshold
  • Prifysgol Caerdydd
  • Relate

Amlder cyfarfodydd ac amserlenni

Caiff cyfarfodydd eu cynnal bob chwarter a byddant yn dilyn agenda strwythuredig a chyson sy'n cyflawni diben busnes y cyfarfod. Bydd grwpiau Gorchwyl a Gorffen yn cyfarfod fel y bo'n ofynnol ac yn rhoi diweddariadau ar gynnydd i gyfarfodydd chwarterol y ffrwd waith. 

Caiff cymorth gweinyddol ar gyfer y cyfarfodydd ei ddarparu gan Dîm Cyflawni Cynllun y Glasbrint.

Caiff cyfarfodydd eu cynnal o bell, drwy Microsoft Teams, neu wyneb yn wyneb os bydd yr aelodau yn cytuno ar hynny.

Cworwm

Bydd angen cynrychiolaeth strategol gan o leiaf 1 arweinydd ffrwd waith (neu ei Ddirprwy penodedig a/neu gymorth gan dîm craidd y Glasbrint) er mwyn i gyfarfodydd y Ffrwd Waith fynd rhagddynt, yn ogystal â'r aelodau craidd.

Panel Cyfranogiad a Chraffu Llais Goroeswyr

Sefydlwyd Panel Cyfranogiad a Chraffu Llais Goroeswyr (‘y Panel’ o hyn ymlaen) trwy'r Glasbrint er mwyn cael mewnwelediad gwerthfawr a chyfranogiad gan oroeswyr VAWDASV. Bydd y Panel yn craffu ac yn cynnig awgrymiadau ar y gwaith a ddatblygir gan bob un o ffrydiau gwaith y Glasbrint. Er mwyn hwyluso gwaith craffu, bydd y Panel yn cael cofnodion pob cyfarfod ffrwd waith, ac unrhyw ddogfennaeth berthnasol arall a luniwyd ar gyfer y Glasbrint pan ofynnir amdani.