Neidio i'r prif gynnwy

Cefndir

Cyflwyniad

Mae’r Fframwaith Ymgysylltiad a Chynnydd Ieuenctid (‘y Fframwaith’) yn amlinellu proses i sefydliadau gydweithio i adnabod pobl ifanc sydd angen cymorth, a darparu cymorth priodol i sicrhau eu bod yn cael deilliannau cadarnhaol.

Mae’r Fframwaith yno i roi cymorth i:

  • bobl ifanc 11 i 18 oed sydd mewn perygl o beidio â phontio’n gadarnhaol i addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant pan fyddant yn gadael yr ysgol
  • pobl ifanc 16 i 18 oed nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant (NEET)
  • pobl ifanc rhwng 11 a 18 oed sydd mewn perygl o fod yn ddigartref

Drwy’r Fframwaith, rydym yn bwriadu mynd i’r afael â’r deilliannau canlynol:

  • i fwy o bobl ifanc bontio’n gadarnhaol i addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant
  • i atal digartrefedd rhag digwydd yn llawer cynharach, trwy adnabod a chefnogi pobl ifanc a allai fod mewn perygl

Yn sail i’r gwaith o gyflawni’r Fframwaith, mae’r gydnabyddiaeth bod iechyd meddwl a lles emosiynol da yn hanfodol, os yw pobl ifanc yn mynd i allu cymryd rhan mewn dysgu ac elwa arno, a chael profiad pontio llyfnach i fod yn oedolion ifanc, gan gynnwys peidio â phrofi digartrefedd.

Rydym am i bobl ifanc:

  • gymryd rhan mewn gweithgareddau sy’n ystyrlon iddynt
  • teimlo’n rhan o’u cymunedau
  • meddu ar ymdeimlad o berthyn

Cyhoeddwyd y Fframwaith gyntaf yn 2013 ac mae’n cael ei gryfhau fel un o ymrwymiadau’r Rhaglen Lywodraethu. Mae'r Fframwaith diwygiedig yn berthnasol i'r rhai 11 i 18 oed, ac mae'n gweithio ar y cyd â'r Warant i Bobl Ifanc, sy'n berthnasol i bawb rhwng 16 a 24 oed. Gyda'i gilydd, bydd y Fframwaith a'r Warant yn sicrhau bod strwythur i gefnogi pobl ifanc gydol eu taith yn yr ysgol, hyd nes y byddant yn symud i gyflogaeth neu hunangyflogaeth.

Datblygwyd y Fframwaith gwreiddiol gyda'r nod o leihau cyfraddau NEET ac mae ffocws cryf yn parhau i fod ar hyn. Fodd bynnag, fel yr amlinellwyd uchod, mae’r Fframwaith hefyd yn cynnwys camau atal digartrefedd ymhlith pobl ifanc nawr. Mae’r dangosyddion bod yn agored i niwed ar gyfer adnabod y perygl o NEET yn gallu gorgyffwrdd â dangosyddion ar gyfer y perygl o deulu’n chwalu ac o ddigartrefedd ymhlith pobl ifanc. Mae’r dull hwn yn golygu ein bod yn ystyried yn gyfannol pa anawsterau mae pobl ifanc yn eu profi, gan feithrin gwell dealltwriaeth o’u hamgylchiadau, gyda hyn yn ei dro yn ein galluogi i gynnig cymorth wedi’i dargedu.

Mae cryfhau'r Fframwaith newydd yn golygu ehangu a thyfu ei sylfaen rhanddeiliaid i rymuso partneriaethau lleol i wella'r modd y caiff ei gyflawni. Mae hyn yn cynnwys y partneriaid sy’n darparu’r Warant i Bobl Ifanc, gan gynnwys Cymru’n Gweithio, a’r sector gwaith ieuenctid gwirfoddol, nad yw eu rôl o ran cyflawni’r Fframwaith wedi’i datblygu’n ddigonol hyd yma.

Mae 6 chydran i’r Fframwaith ac mae defnyddio’r rhain yn unigol yn dibynnu ar ba mor agored i niwed yw’r unigolyn ac oedran yr unigolyn. Dyma’r cydrannau:

  1. Adnabod unigolion yn gynnargynnar
  2. Broceru
  3. Monitro cynnydd
  4. Darpariaeth
  5. Cyflogadwyedd a chyfleoedd cyflogaeth
  6. Atebolrwydd

Mae pob un o’r cydrannau hyn yn cael eu trafod mewn mwy o fanylder yn y Llawlyfr hwn. Mae’r diagram isod yn dangos sut mae’r 6 chydran yn cyfuno i sicrhau canlyniadau gwell i bobl ifanc.

Diagram: canlyniadau gwell i bobl ifanc

Image
Diagram yn dangos bod y 6 chydran o'r Fframwaith yn gysylltiedig â’i gilydd, o fewn cylch o adolygiad a myfyrdod.

Y ffordd ymlaen

Mae angen ffocws cydweithredol, ar draws y system, i gael gwared ar y seilos o ran cyflawni sydd wedi datblygu ers cyhoeddi’r Fframwaith gyntaf. Mae angen i asiantaethau a darparwyr mewn ardal leol ddefnyddio eu hadnoddau cyfunol i gadw mewn cysylltiad â phobl ifanc a'u cefnogi'n well.

Bydd cryfhau’r Fframwaith yn gofyn am atebolrwydd a chyfrifoldeb ar y cyd er mwyn ei gyflawni. Gall cyrff cyhoeddus adeiladu ar yr ymdeimlad hwn o atebolrwydd a chyfrifoldeb ar y cyd wrth i ni gydweithio tuag at gyflawni cerrig milltir cenedlaethol, yn enwedig y garreg filltir genedlaethol i gael o leiaf 90% o bobl ifanc 16 i 24 oed mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant erbyn 2050.

Un o'n prif nodau yw sefydlu diwylliant o gydweithio a gwelliant parhaus ymhlith yr holl bartneriaid a rhanddeiliaid sy'n ymwneud â chyflawni’r Fframwaith. Bydd hyn yn cynnwys partneriaid yn cymryd rhan mewn proses adolygu a myfyrio i:

  • nodi, fel partneriaethau, yr hyn y gellid bod wedi'i wneud yn wahanol
  • dysgu gwersi
  • ysgogi gwelliannau
  • darparu dewis gwell o gymorth a chyfleoedd o ansawdd uchel i bobl ifanc

Rydym am sicrhau bod cynifer o bobl ifanc â phosibl yn pontio’n llwyddiannus i addysg, cyflogaeth a hyfforddiant (EET) pan fyddant yn gadael yr ysgol. Bydd cadw mewn cysylltiad yn rheolaidd â’r bobl ifanc hynny y nodwyd eu bod mewn perygl o ddod yn NEET yn gwella’r tebygolrwydd y byddant yn pontio’n llwyddiannus i EET, ac yn lleihau’r tebygolrwydd y byddant yn dod yn ‘anhysbys’ yn ddiweddarach. Mae statws ‘anhysbys’ yn cyfeirio at y rhai nad ydynt yn hysbys i Gyrfa Cymru, ac felly nid yw’n hysbys a oes ganddynt gynlluniau ar gyfer EET, ac a ydynt felly mewn perygl o ddod yn NEET.

Mae angen i bartneriaid sy’n ymwneud â chyflawni’r Fframwaith hefyd adolygu a myfyrio ar y data sydd ar gael ar gyfer y rheini rhwng 16 a 18 oed y mae eu statws yn ‘anhysbys,’ a gweithio mewn partneriaeth i gysylltu â’r grŵp hwnnw.

Drwy’r Fframwaith a’r Warant i Bobl Ifanc, bydd Llywodraeth Cymru yn monitro lefelau NEET er mwyn pennu cynnydd yn erbyn y garreg filltir genedlaethol, sef bod o leiaf 90% o bobl ifanc 16 i 24 oed mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant erbyn 2050.

Pan fydd sefydliadau'n gosod eu dangosyddion perfformiad allweddol , dylent archwilio sut y gallant gynnig cymorth ar y cyd a sefydlu dangosyddion perfformiad allweddol i adlewyrchu’r targedau a'r uchelgeisiau a amlinellir yn y cerrig milltir cenedlaethol perthnasol hyn orau. Dylai dangosyddion perfformiad allweddol hefyd ganolbwyntio ar gydnabod anghenion yr unigolyn ifanc sydd mewn perygl.

Mae cydweithio mewn partneriaeth hefyd yn hanfodol ar gyfer ymyrraeth gynnar ac atal digartrefedd ymhlith pobl ifanc. Mae rôl y Cydgysylltydd Digartrefedd ymhlith Pobl Ifanc yn y gwasanaeth ieuenctid, a dylai weithio’n agos gyda’r Cydlynydd Ymgysylltiad a Chynnydd (EPC) i helpu i adnabod pobl ifanc a allai fod mewn perygl o ddigartrefedd yn iau, er mwyn rhoi cymorth addas yn ei le. Mae hefyd yn bwysig bod y rolau hyn yn gweithio gyda chydweithwyr yn y sector tai, gwasanaethau cymdeithasol, addysg a gwirfoddol i sicrhau bod mecanweithiau atgyfeirio, cyfeirio a llwybrau cymorth priodol ar gael i bobl ifanc sydd eu hangen.

Mae’r Llawlyfr hwn yn annog yr holl ddarparwyr a rhanddeiliaid i gydweithio i ddarparu cymorth a chyfleoedd i bobl ifanc yng Nghymru. Dylid ei ddarllen ar y cyd â’r ‘Fframwaith Ymgysylltiad a Chynnydd Ieuenctid: Trosolwg’, sy’n nodi’r naratif strategol o amgylch y Fframwaith ac yn dangos sut mae’n cyd-fynd â blaenoriaethau’r llywodraeth.

Mae'r Llawlyfr hwn yn ceisio creu eglurder trwy nodi'r arferion a'r prosesau sy’n ofynnol ar gyfer gwahanol gydrannau'r Fframwaith. Mae’r Llawlyfr hefyd yn cynnwys nifer o astudiaethau achos, sy’n arddangos arferion gwaith sydd eisoes yn digwydd mewn gwahanol rannau o Gymru, neu’n dangos ffyrdd posibl o weithio.

Adnabod unigolion yn gynnar

Adnabod yn gynnar bobl ifanc sy’n wynebu rhwystrau i ymgysylltu neu i aros yn eu cartref ac sydd angen cymorth yw sylfaen y Fframwaith. Mae adnabod unigolion yn gynnar yn golygu bod modd gweithredu cymorth wedi’i dargedu yn gynt i ddiwallu anghenion pobl ifanc. Nid yn unig y mae hyn yn rhoi’r cyfle gorau inni atal sefyllfaoedd fel digartrefedd, y mae pobl ifanc mewn perygl yn agored iddynt, ond gall hefyd gynyddu ymgysylltiad unigolion, gwella cyrhaeddiad a datblygu llwybrau cadarnhaol at gyflogaeth.

Rydym yn gwreiddio’r broses o adnabod a chefnogi pobl ifanc sydd mewn perygl o fod yn ddigartref yn ffurfiol yn y Fframwaith. Gellir defnyddio’r systemau adnabod yn gynnar sydd eisoes ar waith o dan y Fframwaith i weithio’n rhagweithiol gyda’r unigolion hynny yn gynharach. Roedd yr adborth o ‘Diwygio'r Fframwaith Ymgysylltu a Datblygu Ieuenctid: adroddiad’ (2021) ('yr ymgynghoriad ar y Fframwaith') yn cefnogi’r dull hwn.

Roedd yr ymgynghoriad ar y Fframwaith hefyd yn dangos bod systemau adnabod yn gynnar yn un o gryfderau’r Fframwaith cyfredol. Fodd bynnag, gallwn wella’r systemau hyn ymhellach drwy gael mwy o safoni mewn dulliau (fel mewn perthynas â’r data a gesglir), i helpu i sicrhau mwy o degwch o ran mynediad i bobl ifanc ledled Cymru.

I gyflawni hyn, byddwn yn gweithio gyda rhanddeiliaid ac yn datblygu canllawiau cynhwysfawr, cyfoes ar adnabod unigolion yn gynnar, sy’n cynnwys adnabod y rhai sydd mewn perygl o ddigartrefedd. Bydd hyn yn caniatáu mwy o safoni mewn dulliau ledled Cymru. Bydd gwaith yn dechrau ar y canllawiau newydd hyn yn 2022.

Mae’r astudiaethau achos isod yn seiliedig ar adnabod yn gynnar bobl ifanc sydd mewn perygl o ddod yn NEET, gan mai dyma’r maes sydd wedi’i ddatblygu fwyaf.

I bobl ifanc yn yr ysgol, mae systemau adnabod yn gynnar wedi canolbwyntio ar ddangosyddion presenoldeb, ymddygiad a chyrhaeddiad, ac mae pob awdurdod lleol yng Nghymru wedi ychwanegu eu dangosyddion lleol perthnasol eu hunain.

Defnyddir data adnabod yn gynnar mewn cyfarfodydd amlasiantaeth tymhorol lle mae sefydliadau partner yn rhannu gwybodaeth berthnasol pan fo’r unigolyn o dan 16 oed. Mae hyn er mwyn sicrhau bod pobl ifanc sydd angen cymorth gan fwy nag 1 sefydliad yn cael gwasanaeth di-dor ac effeithiol; a bod gwasanaethau'n gydgysylltiedig, yn gydlynol ac yn cyflawni'r deilliannau a fwriedir. Mae’r data felly’n cael ei lywio gan fewnbwn ymarferwyr, lle mae’r drafodaeth yn cadarnhau statws unigolyn ifanc mewn perygl.

Astudiaeth achos: cyfarfodydd amlasiantaeth yn Sir Benfro

Mae'r paneli amlasiantaeth neu wasanaeth Tîm o Amgylch y Disgybl, y Rhiant a’r Lleoliad (TAPPAS) yn weithredol ym mhob ysgol uwchradd ac uned yn Sir Benfro, ac yn fenter strategol blaenoriaeth uchel a gefnogir gan y Gyfarwyddiaeth Plant ac Ysgolion. Mae’r paneli’n gweithredu fel pwynt canolog i adnabod dysgwyr sydd mewn perygl o ymddieithrio o’u haddysg (neu ddod yn NEET) yn gynnar, ac i froceru cymorth a/neu ddarpariaeth i ddysgwyr unigol neu grwpiau.

Mae paneli TAPPAS yn cyfarfod bob tymor, ac yn cael eu clercio a'u cadeirio gan yr awdurdod lleol. Mae’r aelodau’n cynnwys staff ysgol sy’n gyfrifol am ddysgwyr sy’n agored i niwed (gan gynnwys y rheini ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY)), gwasanaethau awdurdod lleol (er enghraifft, Cynhwysiant, 14 i19, gwasanaeth ieuenctid), darparwyr ôl-16 (Coleg Sir Benfro a dysgu seiliedig ar waith), Gyrfa Cymru, gwasanaethau ieuenctid y sector gwirfoddol, a gwasanaethau iechyd (gan gynnwys iechyd emosiynol).

Mae ysgolion neu wasanaethau partner yn gyfrifol am atgyfeirio pobl ifanc, yr ystyrir eu bod yn agored i niwed, at TAPPAS am drafodaeth broffesiynol. Cyn cyfarfodydd, mae’r awdurdod lleol yn llunio ac yn rhannu cronfa ddata o ddangosyddion adnabod yn gynnar a gwybodaeth berthnasol i’w thrafod am ddysgwyr, gan gynnwys presenoldeb, ymddygiad, deilliannau addysg, ADY, rhwystrau i addysg a chyfranogiad hysbys gan asiantaethau. Cyfrifir sgôr proffil asesu bregusrwydd gan ddefnyddio naill ai statws coch, melyn neu wyrdd. Ar gyfer dysgwyr Blwyddyn 11, mae'r ysgol yn rhoi sgôr ar gyfer y tebygolrwydd y byddant yn dod yn NEET. Trafodir carfan Blwyddyn 11 gyda darparwyr ôl-16 ar ddechrau cyfarfodydd, fel y gallant adael cyn trafodaeth am ddysgwyr iau.

Mae trafodaeth amlasiantaethol broffesiynol yn galluogi dealltwriaeth gyfannol, ddyfnach o'r angen i gefnogi'r unigolyn ifanc. Cesglir anghenion, a llunnir cynllun gweithredu yn enwi'r gweithiwr arweiniol cyfrifol. Os oes angen, cytunir ar froceriaeth bellach o wasanaethau neu ddarpariaeth. Caiff cynlluniau gweithredu a chynnydd dysgwyr eu hadolygu mewn cyfarfodydd dilynol. Yn ystod blwyddyn academaidd 2021 i 2022, trafodwyd 779 o ddysgwyr yn TAPPAS, gyda 202 o ddysgwyr yn cael eu rhyddhau ar ddiwedd y flwyddyn wrth i’w hanghenion gael eu diwallu. Y 3 maes arwyddocaol o gefnogaeth a frocerwyd yn ystod y cyfnod hwn oedd pontio, ymddygiad dysgwyr ac iechyd a lles emosiynol.

Astudiaeth achos: dull Abertawe o adnabod unigolion yn gynnar

Mae awdurdod lleol Abertawe'n defnyddio dull sy'n seiliedig ar ddata i adnabod a chefnogi pobl ifanc ar bob cam o'u taith. Maent yn adnabod pobl ifanc trwy ddefnyddio eu data proffil asesu bregusrwydd. Maent yn ystyried y bobl ifanc hynny sy'n sgorio uchaf (coch a melyn), yn ogystal â'r rhai a gefnogir eisoes gan eu Canolfannau Cymorth Cynnar (CCC). Wrth ystyried pobl ifanc â’r sgôr asesu uchaf, maent wedyn yn edrych ar ddynodwyr ychwanegol fel cyfranogiad gwasanaethau cymdeithasol blaenorol neu gyfredol, cymorth CCC blaenorol neu gyfredol, anghenion lles, p’un a ydynt wedi gwneud cais neu wedi cyfweld ar gyfer cyrchfan ôl-16 ac a ydynt wedi methu unrhyw apwyntiadau gyrfaoedd.

Bob tymor, mae rheolwr y CCC yn cadeirio cyfarfod amlasiantaeth gyda’r ysgol, swyddogion gyrfaoedd, cymorth bugeiliol, cymorth Cynnydd a lles addysg. Yn ystod y cyfarfod maent yn trafod y canlynol:

  • lefelau cymorth ar gyfer pobl ifanc o oedran ysgol statudol sydd wedi’u hadnabod o fod mewn perygl mawr
  • pwy fydd yn arwain y cymorth
  • a oes angen atgyfeiriad cynnar

Yna mae pob gweithiwr proffesiynol yn cytuno ar sgôr i gwestiwn graddio (mae 0 yn golygu nad yw’n hyderus y bydd y person ifanc yn pontio ac mae 10 yn golygu ei fod yn hyderus iawn y bydd y person ifanc yn pontio). Yn y cyfarfod hwn, mae pob gweithiwr proffesiynol hefyd yn cael y cyfle i ychwanegu pobl ifanc eraill at y rhestr.

Yn ystod tymor yr haf, bydd Gyrfa Cymru hefyd yn blaenoriaethu’r bobl ifanc ym Mlwyddyn 10, maent yn eu hadnabod fel y rhai sydd yn y perygl mwyaf. Bydd y bobl ifanc hynny yn cael:

  • cynnig cyfleoedd i gyfarfod gyda’u gweithiwr gyrfaoedd
  • cymorth i’w helpu i benderfynu ar eu dewisiadau EET ôl-16

Rhwng mis Ebrill a mis Hydref bob blwyddyn, daw atgyfeiriadau i'r tîm gwaith arweiniol ôl-16 gan arweinwyr bugeiliol ysgol neu Cynnydd, cynghorwyr Gyrfa Cymru a gweithwyr arweiniol CCC ynghylch pobl ifanc ym Mlwyddyn 11. Cynigir cymorth i'r bobl ifanc hynny sydd yn y perygl mwyaf o beidio â chael profiad pontio ôl-16 llwyddiannus.

Rhwng mis Gorffennaf a mis Tachwedd, mae achosion yn cael eu monitro’n wythnosol gan ddefnyddio'r data sydd ar gael trwy Gyrfa Cymru a'r tîm gwaith arweiniol ôl-16. Mae hyn yn cynnwys diweddariadau rheolaidd ac adborth ar unigolion i sicrhau eu bod yn pontio’n llwyddiannus i EET.

Elfennau allweddol o’r broses adnabod unigolion yn gynnar

Mae data yn hollbwysig yn y broses o adnabod unigolion yn gynnar. Mae barn broffesiynol hefyd yn hanfodol, oherwydd efallai y bydd gan weithwyr proffesiynol fewnwelediad i’r hyn sy’n digwydd ym mywyd unigolyn ifanc, nad yw’n cael ei gyfleu gan y data yn unig.

Astudiaeth achos: sut y gall barn broffesiynol wneud gwahaniaeth

Mae Siân yn 14 oed ac wedi gwneud yn dda yn yr ysgol erioed. Fodd bynnag, ers iddi ddechrau ym Mlwyddyn 10, mae wedi cael ei bwlio gan grŵp o ferched ac mae hyn yn dechrau cael effaith arni. Mae Siân wedi dod yn fwyfwy pryderus a thawedog. Nid yw Siân wedi siarad â’i hathrawon am hyn gan ei bod yn meddwl y bydd hynny’n gwneud pethau’n waeth.

Mae Siân yn mynd i ganolfan ieuenctid wirfoddol leol, lle’r oedd y gweithiwr ieuenctid wedi sylwi bod Siân yn cymryd cam yn ôl ac nad oedd yn cymryd rhan mewn gweithgareddau, a'i bod fel pe bai wedi colli ei hyder. Cafodd y gweithiwr ieuenctid sgwrs gyda Siân, a dechreuodd siarad am y bwlio, a'r effaith a gafodd ar ei hunanhyder. Dywedodd Siân ei bod yn teimlo wedi'i llethu a'i bod yn poeni bod ei gwaith ysgol yn dioddef, gan ei bod yn teimlo mor ofidus a’i meddwl yn bell. Roedd hi'n ei chael hi'n fwyfwy anodd cymryd rhan yn y dosbarth ac roedd wedi colli pob cymhelliant.

Gofynnodd y gweithiwr ieuenctid i Siân a fyddai ots ganddi pe bai’n siarad â’r awdurdod lleol a/neu’r ysgol, i fynd i’r afael â’r bwlio a chael cymorth ychwanegol i Siân, a chydsyniodd Siân i’r cam hwn.

Cysylltodd y gweithiwr ieuenctid â'r EPC i dynnu sylw at beth a oedd yn digwydd i Siân. Roedd yr EPC yn cydnabod bod angen cymorth ar Siân a threfnodd i’r gweithiwr ieuenctid weithredu fel gweithiwr arweiniol Siân, i eirioli ar ei rhan. Cytunodd yr EPC hefyd i siarad â’r pennaeth i’w wneud yn ymwybodol o’r bwlio a’r effaith yr oedd yn ei chael ar Siân, ac i archwilio sut y gellid defnyddio systemau bugeiliol yr ysgol i fynd i’r afael â’r bwlio a rhoi cymorth pellach i Siân. Cytunwyd y byddai achos Siân yn cael ei ystyried yn y cyfarfodydd amlasiantaeth tymhorol yn yr ysgol, er mwyn monitro ei chynnydd ac addasu’r cymorth yn ôl yr angen.

Gweithio gyda sefydliadau gwaith ieuenctid gwirfoddol

Mae lle i wella’r cysylltiadau rhwng sefydliadau gwaith ieuenctid gwirfoddol a chydlynwyr ymgysylltiad a chynnydd, fel y gallant roi cymorth ychwanegol i’r broses o adnabod unigolion yn gynnar, pan fyddant yn gweithio gyda phobl ifanc y tu allan i leoliadau awdurdod lleol. Mae Llywodraeth Cymru yn hwyluso cyfarfodydd rheolaidd sy’n cynnwys chydlynwyr ymgysylltiad a chynnydd, cynrychiolwyr Gyrfa Cymru, a chynrychiolaeth o Gyngor Cymreig y Gwasanaethau Ieuenctid Gwirfoddol (CWVYS). Gan nad yw CWVYS yn cynnwys pob sefydliad gwaith ieuenctid gwirfoddol, mae angen gwneud cysylltiadau ar lefel leol hefyd rhwng cydlynwyr ymgysylltiad a chynnydd a sefydliadau gwaith ieuenctid gwirfoddol eraill, er mwyn galluogi dull cydgysylltiedig.

Adnabod unigolion yn gynharach

Mae’r Fframwaith yn gymwys i bobl ifanc rhwng 11 ac 18 oed. Fodd bynnag, yn ystod yr ymgynghoriad ar y Fframwaith, cafwyd llawer o gefnogaeth i ddechrau’r broses o adnabod unigolion yn gynnar yn yr ysgol gynradd, ym Mlwyddyn 5 neu 6, er mwyn cael ymyriadau cynharach ac i roi cymorth ar waith ar gyfer pontio o'r ysgol gynradd i'r ysgol uwchradd.

Mae rhai awdurdodau lleol wedi bod yn ystyried defnyddio prosesau adnabod yn gynnar gyda dysgwyr ysgolion cynradd. Mae'r dull hwn y tu allan i gwmpas y Fframwaith ar hyn o bryd. Fodd bynnag, bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i gysylltu ag awdurdodau lleol er mwyn parhau i ganolbwyntio ar ddeilliannau’r dull hwn.

Astudiaeth achos: Sir Fynwy’n defnyddio’r broses o adnabod unigolion yn gynnar gyda Blynyddoedd 5 a 6

Yn Sir Fynwy, estynnwyd y defnydd o Offeryn Adnabod yn Gynnar NEET (EIT) i Flwyddyn 5 a Blwyddyn 6 ym mis Rhagfyr 2020. Addaswyd yr EIT presennol a ddefnyddiwyd mewn ysgolion uwchradd i’w ddefnyddio gyda dysgwyr Cyfnod Allweddol 2, gan barhau’n gyson â dangosyddion, phwysoliadau a throthwyon, gyda rhaniadau data yn cael eu darparu 3 gwaith y flwyddyn:

  • ar ddiwedd tymor yr hydref
  • ar ddiwedd tymor y Pasg
  • ar ddiwedd y flwyddyn academaidd

Cysylltwyd â phob un o’r 30 ysgol gynradd yn y sir a chafwyd trafodaethau gyda 29 o’r rhain, gyda mwyafrif yr ysgolion yn optimistaidd am y gwaith, gan gyfathrebu’n gadarnhaol a chydnabod y gorgyffwrdd rhwng y dysgwyr hynny a nodwyd drwy’r EIT, a’r rhai yr amlygwyd ganddynt fel rhai sydd angen cymorth.

Ym mis Ionawr 2021, penderfynwyd gweithio gyda dysgwyr Blwyddyn 6 yn unig gan fod y galw am gymorth yn cynyddu a’r capasiti ar gyfer Blwyddyn 5 yn gyfyngedig. Trafodwyd 180 o blant (allan o 874 posibl) ar draws y 29 Ysgol Gynradd ym Mlwyddyn 6, gyda chymorth yn cael ei ganolbwyntio’n ddiweddarach ar 121 o ddysgwyr Blwyddyn 6 ar draws 19 ysgol, a fyddai’n cael eu cefnogi gyda’u cyfnod pontio Blwyddyn 7, ar draws 4 ysgol uwchradd yr awdurdod lleol.

Mae COVID-19 wedi cyflwyno llawer o broblemau. I ddechrau, cynhaliwyd pob cyfarfod gyda staff ysgol ar-lein, lle trafodwyd pryderon a chafwyd trafodaethau proffesiynol. Pan fu’n ddiogel gwneud hynny, ymwelwyd ag ysgolion cynradd yn bersonol, cyfarfuwyd â’r plant, a thrafodwyd eu hanghenion, eu pryderon a'u cymorth yn unigol. Lluniwyd amserlenni ar gyfer ymweld â'r dysgwyr yn eu hysgolion uwchradd.

Mae adborth gan ysgolion cynradd ac uwchradd, rhieni, gofalwyr a dysgwyr yn dangos bod y dull wedi bod yn llwyddiannus iawn, gyda 93% o’r disgyblion a gymerodd ran yn croesawu’r cymorth. Mae'r dull a ddefnyddir yn cael ei addasu a'i ddatblygu'n gyson, i weddu i anghenion yr ysgolion a'r dysgwyr.

Adnabod unigolion yn gynnar rhwng 16 ac 18 oed

Ar ôl i bobl ifanc symud i EET ôl-16, efallai y byddant yn gweld bod angen cymorth arnynt, hyd yn oed os nad oeddent wedi bod angen unrhyw gymorth o'r blaen. Mae blaenlencyndod yn gyfnod o newid mawr a gall fod yn heriol i bobl ifanc ei lywio.

Os yw pobl ifanc yn cael trafferth, os ydynt yn dechrau ymddieithrio neu wedi ymddieithrio, dylai prosesau adnabod yn gynnar ddechrau er mwyn dangos y gallai fod angen cymorth ychwanegol arnynt. Disgwyliwn i ddarparwyr addysg neu hyfforddiant ôl-16 (neu’r unigolyn ifanc) ddweud wrth Gyrfa Cymru pan fydd angen cymorth ychwanegol ar bobl ifanc (a gall Gyrfa Cymru eu halinio â’r haen briodol ym model ymgysylltu 5 haen Gyrfa Cymru).

Ar gyfer y rhai y nodwyd eu bod mewn perygl o ddigartrefedd, dylai darparwyr addysg neu hyfforddiant ôl-16 gyfeirio pobl ifanc at yr awdurdod lleol neu Shelter Cymru, i sicrhau y gellir rhoi cymorth cynnar ar waith i atal yr unigolyn ifanc rhag dod yn ddigartref.

Hunanwerthuso systemau adnabod yn gynnar

Ym mhob maes o’r Fframwaith, rydym yn disgwyl i bartneriaid fynd ati i gydweithio i ddatblygu a gwella dulliau o adnabod pobl ifanc sydd mewn perygl o ddod yn NEET neu ddod yn ddigartref. Rhan bwysig o’r broses adnabod yn gynnar yw adolygu a myfyrio ynghylch a yw’r system adnabod yn gynnar yn gweithio, er mwyn llywio datblygiad parhaus y broses.

Mae deall pa mor dda mae'r broses adnabod yn gynnar yn gweithio yn mynd y tu hwnt i edrych ar y cyfraddau NEET. Efallai y bydd rhai pobl ifanc yn NEET ar 31 Hydref, ond ar fin dechrau swydd neu gwrs hyfforddi. Oni bai bod perygl na fyddant yn pontio’n llwyddiannus i EET ôl-16, ni fyddent yn peri pryder. Mae’n bwysicach ystyried yr achosion hynny lle nad yw unigolion wedi pontio’n llwyddiannus neu wedi dod yn ddigartref yn y pen draw, er gwaethaf y ffaith bod cymorth mewn lle. Neu fel arall, i ddeall pam nad yw system adnabod yn gynnar wedi adnabod unigolyn sydd wedyn yn dod yn NEET neu'n ddigartref. Mae'r broses adolygu a myfyrio yn caniatáu i gydlynwyr ymgysylltiad a chynnydd a'u partneriaid ddatblygu dealltwriaeth ddyfnach o ba mor dda mae'r broses yn gweithio a lle gellir gwneud gwelliannau.

Byddem yn disgwyl i dîm craidd arwain gweithgareddau hunanwerthuso ym mhob ardal leol, dan arweiniad cydlynwyr ymgysylltiad a chynnydd, gan weithio gyda chydgysylltwyr digartrefedd ymhlith pobl ifanc, partneriaid lleol, Gyrfa Cymru (gan gynnwys Cymru’n Gweithio i’r Warant i Bobl Ifanc), Partneriaethau Sgiliau Rhanbarthol, mentoriaid Rhaglen Cyflogadwyedd Cymunedol, yn ogystal â chynrychiolwyr o'r sector gwaith ieuenctid gwirfoddol. Dylai hyn gynnwys proses o fyfyrio, gan weithio, fel y bo’n briodol, gyda phartneriaid a/neu’r unigolyn ifanc, ac ystyried:

  • a oedd ymadawyr ysgol sy'n NEET ar 31 Hydref wedi'u hadnabod yn flaenorol fel rhai mewn perygl o fod yn NEET. Os na chawsant eu hadnabod, archwiliwch pam
  • a oedd yr holl ymadawyr addysg wedi symud ymlaen i gyrchfan gadarnhaol, ac os nad oeddent wedi gwneud hynny, pam
  • beth arall y gellid ei wneud i gysylltu â phobl ifanc mewn cyrchfan ‘anhysbys’
  • a yw pobl ifanc a gafodd gymorth o dan y Fframwaith wedi llwyddo i symud ymlaen i gyrchfan gadarnhaol, ac os nad ydynt wedi gwneud hyn, pam
  • a oedd pobl ifanc a oedd mewn perygl o fod yn ddigartref yn cael eu hadnabod drwy system adnabod yn gynnar y Fframwaith
  • pobl ifanc a gafodd eu hadnabod o fod mewn perygl o NEET, a oedd hefyd mewn perygl o ddod yn ddigartref

Broceru

Agweddau ar froceru

Mae gwahanol agweddau ar froceru o dan y Fframwaith:

Strategol

Mae angen cynnal trosolwg strategol o’r gwasanaethau a gynigir ym mhob ardal awdurdod lleol i gefnogi’r rhai sydd dan anfantais neu’n agored i niwed, ac i froceru cymorth priodol i bobl ifanc. Er mwyn gweithredu’r Fframwaith yn llwyddiannus mae’n rhaid bod gwasanaethau'n gweithio gyda'i gilydd a’u bod ar gael yn rhwydd i'r rhai ag anghenion cymhleth a lluosog. Gall hyn gynnwys pobl ifanc ag ADY neu anableddau, neu sydd angen cymorth ar gyfer eu hiechyd meddwl, pobl ifanc sy’n ymwneud â’r system cyfiawnder ieuenctid, gofalwyr ifanc, yn ogystal â phobl ifanc sydd mewn perygl o ddod yn ddigartref. Mae'r agweddau hyn ar froceriaeth yn cael eu cwmpasu gan rolau’r cydlynwyr ymgysylltiad a chynnydd a rolau cydgysylltwyr digartrefedd ymhlith pobl ifanc.

Gweithredol

Sicrhau bod parhad o ran cymorth a chyswllt i’r bobl ifanc sydd yn y perygl mwyaf. Ymdrinnir â'r agwedd hon gan rôl y gweithiwr arweiniol.

Rôl yr EPC

Bydd swyddogaeth yr EPC yn parhau i chwarae rhan hanfodol a strategol, gan oruchwylio'r Fframwaith ar lefel awdurdod lleol. Dylai pob awdurdod lleol fod wedi sefydlu swyddogaeth EPC effeithiol gyda digon o ddylanwad ar lefel uwch ar draws yr awdurdod lleol a sefydliadau partner. Mae'r EPC yn allweddol wrth hwyluso cytundebau ag arweinwyr gwasanaeth ynghylch argaeledd ac ansawdd y gwasanaethau a gynigir. Mae hyn yn cynnwys broceru gwasanaethau cymorth ar gyfer grwpiau penodol y nodwyd bod angen cymorth pwrpasol arnynt.

Dylai'r swyddogaeth EPC gydlynu a goruchwylio partneriaeth leol a fydd yn eu cynorthwyo i ystyried darlun cyffredinol y ddarpariaeth, a sut y gallant gydweithio'n llwyddiannus i ddiwallu anghenion pobl ifanc yn eu hardal.

Bydd y cydlynwyr ymgysylltiad a chynnydd hefyd yn adrodd i uwch arweinwyr yn yr awdurdod lleol yn rheolaidd. Byddant yn rhoi diweddariadau i Lywodraeth Cymru, drwy’r system adrodd ar gyfer y Grant Cymorth Ieuenctid, sef un o delerau ac amodau’r grant. Bydd y cydlynwyr ymgysylltiad a chynnydd hefyd yn gweithio gyda swyddogion Llywodraeth Cymru i ddatblygu adroddiad blynyddol i Weinidogion Cymru ar gyfraniad y Fframwaith (gweler Atebolrwydd).

Bydd rôl yr EPC yn cynnwys gweithio gyda phartneriaethau lleol i:

  • reoli'r broses ddata ac arwain y system adnabod yn gynnar ar lefel awdurdod lleol, i fod yn ymwybodol o ba bobl ifanc sydd leiaf tebygol o bontio’n llwyddiannus yn 16 oed neu o fod yn destun pryder cyn-16 oed
  • hwyluso'r broses neu'r systemau i ddechrau adnabod anghenion cymorth penodol pobl ifanc, i'w bwydo i'r sgwrs froceru
  • datblygu dealltwriaeth rhwng partneriaid ynghylch pa sefydliadau sy'n gwneud beth i gefnogi unigolyn ifanc ar unrhyw adeg benodol. Mae hyn yn cynnwys cynnal sianeli cyfathrebu â swyddogion awdurdod lleol perthnasol (er enghraifft addysg yn y cartref, Teuluoedd yn Gyntaf) a gwasanaethau eraill
  • hwyluso’r gwaith o ddatblygu rhwydwaith o weithwyr arweiniol profiadol sy'n gallu gweithio gyda phobl ifanc
  • defnyddio'r canfyddiadau o’r broses adnabod yn gynnar i froceru trafodaeth rhwng asiantaethau cymorth allweddol i nodi a ddylid neilltuo gweithiwr arweiniol i unigolyn ifanc ac os felly, pa sefydliad sydd yn y sefyllfa orau i chwarae'r rôl honno, yn ogystal â phwy arall fydd yn darparu cymorth
  • sicrhau bod gweithwyr arweiniol yn cael eu dyrannu fel y bo'n briodol, a sicrhau bod cymorth gweithiwr arweiniol yn cael ei gynnig i'r rhai y nodir bod angen cymorth ychwanegol arnynt
  • derbyn adborth (drwy fecanweithiau y cytunwyd arnynt) gan weithwyr arweiniol, lle nad yw cymorth yn helpu unigolyn ifanc i symud ymlaen, a gweithio gyda phartneriaid i ddod o hyd i atebion newydd
  • rheoli'r cam o fapio darpariaeth ar lefel awdurdod lleol i lywio prosbectws lefel leol i bobl ifanc (gweler Darpariaeth)
  • rheoli'r rhyngwyneb rhwng yr awdurdod lleol a Gyrfa Cymru, a llywio'r model 5 haen gyda diweddariadau ar bobl ifanc yn Haenau 1 a 2 drwy'r taenlenni misol

Astudiaeth achos: Caerffili yn broceru cymorth i blant sy’n derbyn gofal

Yn awdurdod lleol Caerffili, mae plant sy'n derbyn gofal wedi'u hadnabod fel rhai sy’n arbennig o agored i niwed. Mae'r EPC wedi broceru lefel ychwanegol o gymorth ar gyfer y garfan hon.

Ar gyfer y garfan cyn-16 oed, mae’r EPC yn cynnal 6 chyfarfod amlasiantaethol y flwyddyn gydag ysgolion, darparwyr, a gweithwyr proffesiynol eraill (gan gynnwys cydweithwyr sy’n gweithio ar atal digartrefedd ymhlith pobl ifanc), er mwyn adnabod a chefnogi dysgwyr agored i niwed, gan gynnwys plant sy’n derbyn gofal, i EET. Mae unigolyn ifanc sy’n derbyn gofal, ac sy’n ansicr neu’n anesmwyth am ei ddyfodol, yn cael ei gefnogi gan weithiwr plant sy’n derbyn gofal. Mae'r gweithiwr plant sy’n derbyn gofal yn mynychu'r cyfarfodydd ac yn gweithio'n agos gyda'r EPC i hwyluso rhaglen gymorth gan Gyrfa Cymru ac i gyrchfan ôl-16 oed. Mae cymorth yn cynnwys darparu cymorth gyda cheisiadau, ymweld â lleoliadau a dechrau EET newydd.

Ar gyfer y garfan ôl-16 oed o bobl ifanc mewn gofal, mae'r EPC yn trefnu gwybodaeth, cyngor a chymorth i EET. Mae’r EPC yn gwneud atgyfeiriadau ar sail gwybodaeth gan baneli ac adrannau eraill yn yr awdurdod lleol, yn ogystal â dangosyddion data Haen 1 a 2. Mae'r EPC yn mynychu cyfarfodydd gyda gweithwyr proffesiynol eraill yn rheolaidd, i olrhain cynnydd ac adrodd arno.

Gall pobl ifanc sydd mewn gofal ddod yn ddigartref weithiau, a dyna lle mae cyfranogiad swyddogion awdurdodau lleol sy’n gweithio ar atal digartrefedd ymhlith pobl ifanc yn dod yn hollbwysig. Mae’r awdurdod lleol wedi sefydlu’r cynllun Cynnydd, lle mae’r rhai sy’n gadael gofal yn cael eu nodi ar gyfer cyfleoedd mewn EET ac yn cael cymorth gyda’r cyfle hwnnw gan yr EPC a gweithiwr cynnydd a ariennir gan Llamau. Mae’r opsiynau yn cynnwys addysg bellach, hyfforddeiaethau a chynllun Symud Ymlaen Llamau.

Yn ystod yr ymgynghoriad ar y Fframwaith, codwyd pryderon ynghylch sut i adnabod pobl ifanc a addysgir yn y cartref sydd angen cymorth, ac sydd y tu allan i'r system ysgolion. Gall broceru cymorth ar gyfer grwpiau penodol felly gynnwys pobl ifanc sy’n cael eu haddysgu yn y cartref, er mwyn sicrhau y cyfeirir y bobl ifanc hyn at gymorth ychwanegol os oes ei angen arnynt. Er mwyn cyflawni hyn, mae angen i sianeli cyfathrebu da fod ar waith rhwng cydlynwyr ymgysylltiad a chynnydd a swyddogion addysg yn y cartref awdurdodau lleol.

Pan dynnir pobl ifanc oddi ar gofrestr yr ysgol i gael eu haddysgu yn y cartref, mae’n rhoi cyfle i awdurdodau lleol gynnig cymorth. Gallai hyn gynnwys:

  • sicrhau ymwybyddiaeth o ddarpariaeth gwaith ieuenctid i sicrhau bod yr unigolyn ifanc yn cael cyfleoedd parhaus i gymdeithasu a mynediad at ystod eang o brofiadau
  • gwahodd pobl ifanc sy'n cael eu haddysgu yn y cartref i ddigwyddiadau gyrfaoedd neu ddiwrnodau agored
  • trefnu digwyddiadau gyrfaoedd neu gynefino pwrpasol ar gyfer grwpiau o bobl ifanc sy'n cael eu haddysgu yn y cartref

Rôl y cydgysylltydd digartrefedd ymhlith pobl ifanc

Bydd angen cymorth ychwanegol ar rai pobl ifanc i’w hatal rhag dod yn ddigartref. Mae’r cydgysylltydd digartrefedd ymhlith pobl ifanc yn bodoli i sicrhau bod pobl ifanc sydd mewn perygl o ddod yn ddigartref yn cael eu hadnabod yn gynt, a’u bod yn cael y cymorth angenrheidiol i’w helpu i aros yng nghartref y teulu neu bontio i fyw’n annibynnol lle bo’n briodol. Mae Grant Cymorth Ieuenctid Llywodraeth Cymru yn darparu cyllid blynyddol i awdurdodau lleol ar gyfer swydd cydgysylltydd digartrefedd ymhlith pobl ifanc. Mae hon yn rôl benodol sydd â'r nod o sefydlu trefniadau gweithio cydweithredol mewn partneriaeth ar draws y sectorau tai, iechyd, addysg, gofal cymdeithasol, a gwirfoddol, ac ystod eang o wasanaethau a phartneriaid, er mwyn sicrhau dull cydgysylltiedig ac arferion gwaith a rennir.

Dylai’r cydgysylltydd digartrefedd ymhlith pobl ifanc:

  • weithio gyda’r EPC i gryfhau system adnabod yn gynnar y Fframwaith, i roi cyfrif am ddangosyddion sy’n gysylltiedig â phobl ifanc sydd mewn perygl o ddigartrefedd
  • datblygu mecanweithiau atgyfeirio, cyfeirio, a llwybrau cymorth priodol.
  • datblygu a darparu hyfforddiant a arweinir gan y gwasanaeth ieuenctid i ymarferwyr ar draws ystod o wasanaethau lleol, er mwyn datblygu ymwybyddiaeth o ffactorau risg ar gyfer digartrefedd ymhlith pobl ifanc, a deall sut i gefnogi pobl ifanc yn effeithiol, i'w hatal rhag dod yn ddigartref

Nod y rôl yw atal digartrefedd rhag digwydd ymhlith pobl ifanc, yn hytrach na rheoli argyfwng pan fo unigolyn ifanc eisoes yn ddigartref. Mae hyn yn golygu y dylai cydgysylltwyr digartrefedd ymhlith pobl ifanc ganolbwyntio ar weithio gyda phobl ifanc o dan 16 oed, gan eu hadnabod yn gynnar a rhoi cymorth addas ar waith. Dylai’r rôl gael ei lleoli o fewn gwasanaeth ieuenctid awdurdodau lleol ac nid o fewn eu cyfarwyddiaethau tai. Er mwyn osgoi dyblygu wrth adnabod pobl ifanc mewn perygl a darparu cymorth, mae'n bwysig bod y cydgysylltydd digartrefedd ymhlith pobl ifanc yn gweithio'n agos gyda'r EPC.

Rôl gweithiwr arweiniol pobl ifanc mewn perygl o ddod yn NEET

Bwriad swyddogaeth y gweithiwr arweiniol yw sicrhau bod parhad o ran cymorth a chyswllt i'r bobl ifanc sydd yn y perygl mwyaf i aros mewn EET, neu i fynd i EET. Dylai ganolbwyntio ar y rhai y mae angen cymorth parhaus arnynt, a chynnig cymorth ychwanegol i unigolyn.

Fodd bynnag, ar gyfer pobl ifanc hyd at 18 oed, rydym yn disgwyl i gydlynwyr ymgysylltiad a chynnydd ddefnyddio amrywiaeth o adnoddau, gan gynnwys staff awdurdod lleol (er enghraifft gweithwyr ieuenctid, staff Teuluoedd yn Gyntaf), a gweithio gyda phartneriaid (er enghraifft Gyrfa Cymru a gwasanaethau ieuenctid gwirfoddol), yn ogystal â chysylltu â gwasanaethau cymorth eraill fel Rhaglenni Cyflogadwyedd Cymunedol.

Ar gyfer pobl ifanc 16 i 18 oed, dyrennir cymorth y gweithiwr arweiniol yn erbyn model ymgysylltu 5 haen Gyrfa Cymru.

Mae’r canlynol yn swyddogaethau penodol sy’n gysylltiedig â rôl y gweithiwr arweiniol:

  • bod yn unigolyn penodol sy'n gyfrifol am gadw mewn cysylltiad rheolaidd â'r unigolyn ifanc
  • bod yn ymwybodol o'r ystod o gymorth sydd yn ei le o amgylch unigolyn, ac os oes angen, trafod gyda gwasanaethau cymorth a gweithwyr proffesiynol eraill ac eirioli ar ran yr unigolyn ifanc fel y bo'n briodol
  • tynnu sylw goruchwyliwr neu EPC os nad yw cymorth yn helpu unigolyn ifanc i symud ymlaen
  • helpu i feithrin gwytnwch unigolyn ifanc mewn ffyrdd sy’n berthnasol i sefydliad y gweithiwr arweiniol a’i ffocws a’i arbenigedd penodol
  • adolygu ‘statws’ yr unigolyn ifanc yn erbyn model ymgysylltu 5 haen Gyrfa Cymru, a rhoi adborth i’r EPC

Felly bydd gweithwyr arweiniol yn cynnwys ystod o weithwyr proffesiynol o wahanol sefydliadau. Yn gyffredinol, dylai’r rhai sy’n cyflawni swyddogaeth gweithiwr arweiniol:

  • feithrin perthynas â'r unigolyn ifanc, ac ennill ymddiriedaeth y person ifanc
  • meddu ar y sgiliau, y cymhwysedd a'r gallu i helpu'r unigolyn ifanc i wneud cynnydd o ran EET neu symud i EET
  • meddu ar wybodaeth am ddarpariaeth leol a gwasanaethau cymorth eraill
  • meddu ar y sgiliau cyfathrebu i weithio gyda gweithwyr proffesiynol eraill ac eirioli ar ran yr unigolyn ifanc

Gan roi’r unigolyn ifanc yn y canol, mae’r diagram isod yn dangos pa sgiliau, gwybodaeth a rhinweddau sydd eu hangen ar y gweithiwr arweiniol.

Canolbwyntio ar y person ifanc

Image
Gyda’r person ifanc yn y canol, mae'r diagram isod yn dangos pa sgiliau, gwybodaeth a rhinweddau sy'n ofynnol gan y gweithiwr arweiniol.

Dylai'r broses o ddyrannu'r adnodd gweithiwr arweiniol gael ei lywio gan systemau adnabod yn gynnar, yn seiliedig ar ddata a mewnbwn ymarferwyr. Swyddogaeth y gweithiwr arweiniol yw cynnig cymorth ychwanegol i bobl ifanc sydd wedi’u hadnabod drwy systemau adnabod yn gynnar. Dylid ystyried amgylchiadau penodol yr unigolyn ifanc wrth benderfynu pa sefydliad sydd fwyaf cymwys i ddarparu rôl y gweithiwr arweiniol.

Mae’r canllawiau hyn yn darparu rhai tybiaethau cychwynnol ynghylch pa bobl ifanc a allai gael y budd pennaf o gael cymorth gweithiwr arweiniol, a phwy allai fod yn y sefyllfa orau i chwarae’r rôl. Fodd bynnag, bydd angen i'r penderfyniad terfynol gael ei lywio gan fewnbwn ymarferwyr, a chytunir arno drwy drafodaeth rhwng partneriaid lleol.

Astudiaeth achos: sut y gall gweithiwr arweiniol gefnogi unigolyn ifanc

Cysylltodd gweithiwr ieuenctid o dîm ymgysylltiad a chynnydd ieuenctid yr awdurdod lleol ag unigolyn ifanc, a oedd wedi ymddieithrio ar ddechrau Mehefin 2021, drwy alwadau ffôn i ddechrau ac yn olaf drwy gnocio drws. Roedd David, yr unigolyn ifanc, yn gyndyn iawn o siarad â'r gweithiwr ieuenctid, ond mynegodd ddymuniad i fynd i'r coleg. Er mwyn iddo symud ymlaen, roedd angen cymorth pellach arno. Roedd wedi mynd yn ynysig yn gymdeithasol oherwydd COVID-19, roedd wedi profi newid yn ei hunaniaeth rhywedd, ac wedi datblygu problemau yn sgil gorbryder. Ar yr adeg hon, nid oedd wedi mynychu'r ysgol am 12 mis nac wedi gadael y cartref ers dros 4 mis.

Daeth y gweithiwr ieuenctid yn weithiwr arweiniol i David. Ar ôl ychydig o gyfarfodydd gyda’i weithiwr arweiniol, cynyddodd hyder David, a chytunodd i gwrdd â’i weithiwr arweiniol y tu allan i’r cartref. Ar ôl meithrin perthynas o ymddiriedaeth gyda’r gweithiwr arweiniol, a ddangosodd wahanol gyfleoedd o ddarpariaeth iddo, mynegodd David ddiddordeb mewn cwrs cyn-alwedigaethol mewn coleg lleol. Cefnogodd y gweithiwr arweiniol David gyda’i gais, a sefydlwyd cyfarfod pontio gyda’r coleg i sicrhau bod David yn cael cymorth pellach ar ôl i’r cwrs ddechrau.

Derbyniwyd David ar y cwrs a chafodd gymorth gan ei weithiwr arweiniol i wneud cais am y grant Lwfans Cynhaliaeth Addysg, a chafodd wybodaeth am y Grant Cynhwysiant Digidol. Fe wnaeth y gweithiwr arweiniol hefyd helpu David i gael cerdyn eithrio gan y coleg fel na fyddai’n rhaid iddo wisgo masg. Trefnodd y gweithiwr arweiniol gyfarfod yn y coleg er mwyn iddo allu siarad â gwasanaethau dysgwyr a darparu cefndir pellach ar David, er mwyn helpu David i bontio i’r coleg.

Roedd y gweithiwr arweiniol yn gallu cefnogi David yn y coleg ar ei ddiwrnod cynefino. Roedd gan David apwyntiad blaenorol, felly trefnodd ei weithiwr arweiniol amser dechrau gwahanol ar gyfer ei sesiwn gynefino. Yn ystod y sesiwn, dangosodd David arwyddion o orbryder mawr, ond llwyddodd ei weithiwr arweiniol i dawelu ei feddwl a'i gysuro. Fe wnaeth y cymorth a gafodd David ei helpu i symud ymlaen i'r coleg.

Dyrannu gweithwyr arweiniol i bobl ifanc 11 i 16 oed sydd mewn perygl o ddod yn NEET

Mae’r tabl isod yn dangos pryd y bydd gweithiwr arweiniol yn cael ei ddynodi i unigolyn ifanc ai peidio, a phwy y gallai’r gweithiwr arweiniol hwnnw fod.

Dyrannu gweithwyr arweiniol

Amgylchiadau’r unigolyn ifanc

A yw gweithiwr arweiniol yn cael ei gynnig? Gweithiwr proffesiynol posibl

Unigolyn ifanc wedi setlo yn y ddarpariaeth a bernir ei fod mewn perygl isel o ymddieithrio

 

Nac ydy Amherthnasol
Unigolyn ifanc yn ymwneud â’r ddarpariaeth a bernir ei fod mewn perygl isel i ganolig, neu ganolig, o ymddieithrio o EET Nac ydy

Dylid defnyddio systemau bugeiliol neu gymorth yr ysgolion neu’r darparwyr eu hunain fel y bo’n briodol

 

Unigolyn ifanc yn ymwneud â’r ddarpariaeth a bernir ei fod mewn perygl canolig i uchel, neu uchel, o ymddieithrio

 

Ydy

Systemau bugeiliol ysgolion neu ddarparwyr neu weithiwr ieuenctid

Unigolyn ifanc wedi ymddieithrio o EET

 

Ydy

Gweithiwr ieuenctid, asiantaeth wirfoddol neu arbenigol

Dyrannu gweithwyr arweiniol i bobl ifanc 16 i 18 oed sydd mewn perygl o ddod yn NEET/sydd yn NEET

I bobl ifanc 16 i 18 oed, dyrennir cymorth yn erbyn model ymgysylltu 5 haen Gyrfa Cymru. Nod y model yw arwain ac nid cyfyngu ar weithrediadau seilo ledled Cymru. Gwaith partneriaeth cryf i gefnogi unigolion i gael deilliant EET cadarnhaol yw nod terfynol pawb dan sylw.

Model ymgysylltu 5 haen Gyrfa Cymru i bobl ifanc 16 i 18 oed
Haen Pobl ifanc Gweithiwr arweiniol Olrhain a chymorth ar ffurf  gwybodaeth, cyngor a chyfarwyddyd ynghylch gyrfaoedd

Haen 5:

Mewn addysg bellach neu EET

 

  • Mewn EET.
  • Gweithio neu astudio’n rhan-amser am dros 16 awr.

Ni thybir bod angen gweithiwr arweiniol o ystyried bod y person ifanc eisoes wedi ymgysylltu ac ni thybir ei fod mewn perygl o ymddieithrio. Dylid defnyddio systemau bugeiliol neu gymorth y darparwyr eu hunain fel y bo’n briodol.

Gyrfa Cymru

Haen 4:

Mewn perygl o roi’r gorau i EET
  • Y rhai sy’n cael llai nag 16 awr o EET.
  • Y rhai y nodwyd eu bod mewn perygl o ymddieithrio cyn 16 oed a/neu y tybiwyd eu bod mewn perygl o beidio â phontio’n gadarnhaol sydd wedyn mewn addysg bellach, y chweched dosbarth neu hyfforddiant.
  • Y rhai y mae darparwyr EET wedi tynnu sylw Gyrfa Cymru atynt am eu bod mewn perygl o roi’r gorau i EET, neu lle mae’r unigolion eu hunain wedi rhoi gwybod am hynny.

Mae dynodi gweithiwr arweiniol yn dibynnu ar lefel y pergyl:

  • Ar gyfer y rhai perygl isel a chanolig dylid defnyddiosystemau bugeiliol darparwyr a/neu ddynodi anogwr dysgu fel gweithiwr arweiniol.
  • Ar gyfer y rhai perygl uchel gellir dynodi gweithiwr arweiniol naill ai o’r Gwasanaeth Ieuenctid neu Gyrfa Cymru neu os yw Teuluoedd yn Gyntaf mewn cysylltiad â’r unigolyn, bydd Tîm o Amgylch y Teulu yn penderfynu dynodi gweithiwr arweiniol.
Gyrfa Cymru

Haen 3:

NEET neu sydd wrthi’n ceisio EET, ond sy’n hysbys i Gyrfa Cymru
  • Yn ymgysylltu â Gyrfa Cymru a/neu gwyddys eu bod yn ceisio EET; naill ai’n barod i ddechrau EET, neu wedi’u hasesu fel rhai y mae angen cymorth arnynt i reoli eu gyrfa neu i ddysgu sgiliau cyflogadwyedd er mwyn dechrau EET.
  • Dylai’r haen hon hefyd gynnwys y rhai y mae Gyrfa Cymru yn gwybod amdanynt ac sy’n ceisio EET yn rhagweithiol ond nad oes angen cymorth ychwanegol gan Gyrfa Cymru arnynt, er enghraifft maent yn cael cymorth drwy gyrfacymru.llyw.cymru neu’n aros am ddyddiad dechrau yn y coleg.
  • Gweithiwr arweiniol wedi ei nodi ar gyfer 100% o’r garfan.
  • Bydd Gyrfa Cymru yn darparu’r gweithiwr arweiniol ym mhob achos bron.
Gyrfa Cymru

Haen 2:

Pobl ifanc sy’n hysbys i Gyrfa Cymru, sy’n NEET ac nad ydynt yn barod neu nad ydynt ar gael i geisio EET
  • Gweithiwr arweiniol wedi ei nodi ar gyfer 100% o’r garfan.
  • Bydd y Gwasanaeth Ieuenctid yn darparu gweithiwr arweiniol ym mhob achos bron (mewn rhai achosion gall y rôl hon gael ei dynodi i wasanaethau neu sefydliadau eraill sy'n darparu cymorth personol dwys).
Gyrfa Cymru

Haen 1:

Statws EET yn anhysbys i Gyrfa Cymru
  • Anhysbys i Gyrfa Cymru.

Ar ôl i unigolion gael eu nodi cânt eu rhoi mewn haen briodol a chaiff gweithiwr arweiniol ei ddynodi yn unol â hynny.

Gyrfa Cymru

Rydym yn disgwyl i EPC fod yn ymwybodol o'r bobl ifanc hyn (er enghraifft y rhai sydd â salwch hirdymor, sydd yn y ddalfa, yn feichiog neu'n famau ifanc) a chael trefniadau i gadw mewn cysylltiad. Lle mae gan unigolion rwystrau lluosog a’u bod yn cael eu cefnogi gan wasanaethau fel Teuluoedd yn Gyntaf, Rhaglenni Cyflogadwyedd Cymunedol, gwasanaethau cymdeithasol, gall eu gweithiwr proffesiynol arweiniol weithredu fel gweithiwr arweiniol.

Cefnogi rôl y gweithiwr arweiniol

I gefnogi a chryfhau rôl y gweithiwr arweiniol, bydd Llywodraeth Cymru’n gwneud y canlynol:

  • comisiynu adolygiad o weithwyr arweiniol i ganfod faint o weithwyr arweiniol y gall awdurdodau lleol alw arnynt, a pha mor aml maent yn ymgysylltu â phobl ifanc unigol
  • ystyried cyfleoedd i rannu arfer da a rhwydweithio gan weithwyr arweiniol ar draws awdurdodau lleol a sefydliadau

Monitro cynnydd

Mae monitro cynnydd pobl ifanc yn golygu edrych ar ba gymorth a/neu ddarpariaeth y maent yn eu derbyn, a’u heffaith, fel y gellir eu haddasu yn ôl yr angen. Gall partneriaethau ardal leol werthuso, fesul achos, a yw'r cymorth maent wedi'i roi ar waith yn gweithio i unigolyn ifanc. Mae hyn yn sicrhau y gellir gwneud addasiadau lle bo angen.

Mae monitro cynnydd hefyd yn cynnwys cymryd camau i adnabod pobl ifanc sydd wedi disgyn y tu allan i'r system fonitro a sefydlu a ydynt mewn EET ai peidio. Mae hyn yn hollbwysig ar ddiwedd blynyddoedd 11, 12 ac 13, pan allai ymadawyr ysgol fod mewn perygl o beidio â phontio’n gadarnhaol i gyrchfan ôl-16. Dylid lleoli pobl ifanc sydd â chyrchfan ‘anhysbys’ ar ôl gadael yr ysgol, neu sydd wedi rhoi’r gorau i addysg neu hyfforddiant ôl-16, a chynnig cymorth iddynt o dan y Fframwaith os oes angen.

Monitro cynnydd pobl ifanc cyn 16 oed

Mae cydlynwyr ymgysylltiad a chynnydd awdurdodau lleol yn rheoli’r broses o gynnal cyfarfodydd amlasiantaeth cyn-16 oed bob tymor ym mhob ysgol, i adnabod y dysgwyr sydd yn y perygl mwyaf o beidio â symud ymlaen i EET wrth adael addysg orfodol. Mae hyn yn golygu bod gan gydlynwyr ymgysylltiad a chynnydd a phartneriaid syniad da o ba bobl ifanc sydd angen cymorth cyn diwedd Blwyddyn 11. Dylai'r rhai sy'n mynychu'r cyfarfodydd hyn gynnwys staff bugeiliol ysgolion neu swyddogion ymgysylltu â theuluoedd, gweithwyr ieuenctid a chynghorwyr Gyrfa Cymru. Drwy'r broses hon, caiff anghenion cymorth penodol pobl ifanc eu nodi, fel y gellir broceru cymorth priodol.

Pan fydd dysgwyr wedi’u hadnabod fel rhai sy’n wynebu mwy o berygl o ddod yn NEET, mae cael prosesau effeithiol ar waith yn sicrhau y gall asiantaethau ymyrryd yn gynnar pan fydd pobl ifanc yn ymddieithrio.

Astudiaeth achos: Dull Merthyr Tudful o gefnogi pobl ifanc mewn addysg heblaw yn yr ysgol

Ym Merthyr Tudful mae proses benodol ar waith ar gyfer dysgwyr sydd mewn addysg heblaw yn yr ysgol (AHY), ac sydd mewn mwy o berygl o ddod yn NEET. Mae hyn yn cynnwys cyfarfodydd amlasiantaeth misol i ystyried cynnydd dysgwyr a chaniatáu ymyrraeth gyflym os oes angen.

Mae gan yr awdurdod lleol brotocolau rhannu gwybodaeth ar waith gyda phartneriaid, er mwyn rhannu gwybodaeth bersonol â phartneriaid cyn-16 ac ôl-16. Cynhelir paneli amlasiantaeth 'Adolygiad NEET' bob mis i sicrhau bod cymorth priodol ar gael i ddysgwyr AHY o flwyddyn 7 i 11. Erbyn diwedd Blwyddyn 10 mae'n amlwg pa bobl ifanc mewn AHY fydd mewn mwy o berygl o NEET, a rhoddir cymorth ar waith i leihau'r risg hon.

Gydol Blwyddyn 11, mae partneriaid yn rhoi diweddariadau misol o’r cam y mae pob unigolyn ifanc wedi’i gyrraedd yn ei gyfnod pontio, a chynigir cymorth i’r unigolyn ifanc symud ymlaen. Ar ddiwedd Blwyddyn 11, bydd Gyrfa Cymru a’r EPC yn ystyried unrhyw ddysgwr AHY a allai fod mewn perygl uchel o ddod yn NEET, ac os nad yw’n barod neu ar gael i geisio EET, caiff ei ddynodi yn erbyn Haen 2 yn y model 5 haen.

Mae panel NEET ôl-16 misol yn sicrhau bod achosion sy'n newydd i Haen 2 yn cael eu hystyried a'u cyfeirio at brosiect ôl-16 am gymorth. Pan gredir bod y rhai sy’n gadael AHY yn barod am waith, cânt eu cyfeirio at Cymru’n Gweithio i gael rhagor o gymorth i fynd i EET. Mae'r rhai nad ydynt yn ymwneud â darpariaeth Haen 2, neu'n rhoi'r gorau iddi, yn cael eu dyrannu i ddarparwr arall er mwyn gwneud rhagor o ymdrechion; mae hyn yn parhau tra byddant yn aros yn Haen 2.

Er na all y broses hon sicrhau bod pawb sy’n gadael AHY yn ymgysylltu ag EET, mae’n galluogi’r tîm sy’n gweithio gyda phobl ifanc sy’n NEET, neu sydd mewn perygl o ddod yn NEET, i gynnig cymorth, ac mae’n helpu i sicrhau nad oes unrhyw bobl ifanc agored i niwed ag amgylchiadau ‘anhysbys’ ar ôl gadael yr ysgol.

Monitro cynnydd ymadawyr ysgol i EET

Ymadawyr ysgol gyda statws ‘anhysbys’

Gydol misoedd yr haf, wrth i bobl ifanc adael Blwyddyn 11, dylai cyfarfodydd amlasiantaethol barhau, gyda chyfraniad timau ôl-16 a Gyrfa Cymru, i sicrhau cefnogaeth barhaus.

Er gwaethaf ymyrraeth gynnar, bob blwyddyn ceir rhai ymadawyr ysgol ym Mlwyddyn 11 sydd â statws ‘anhysbys’. Mae hyn yn golygu nad ydynt yn hysbys i Gyrfa Cymru, ac felly ni wyddys a oes ganddynt gynlluniau ar gyfer EET, neu a ydynt mewn perygl o ddod yn NEET. Mae Gyrfa Cymru yn trosglwyddo manylion y bobl ifanc ‘anhysbys’ i gydlynwyr ymgysylltiad a chynnydd ym mis Gorffennaf. Yna mae'r cydlynwyr ymgysylltiad a chynnydd , gan weithio gyda'r gwasanaeth ieuenctid a'r bartneriaeth Fframwaith ehangach, yn ceisio cysylltu â'r bobl hynny i ganfod eu cynlluniau. Gall hyn olygu ymweliad â chartrefi i siarad â phobl ifanc.

Astudiaeth achos: Dull Sir Gaerfyrddin o leoli a monitro cynnydd unigolion â statws ‘anhysbys’

Mae Gyrfa Cymru yn rhannu gwybodaeth am unigolion ‘anhysbys’ Haen 1 gydag awdurdod lleol Sir Gaerfyrddin. Yna mae staff yr awdurdod lleol yn defnyddio dulliau amrywiol i gysylltu â phobl ifanc, gan gynnwys galwadau ffôn, e-byst, llythyrau, ymweliadau â chartrefi a gadael cardiau ymweld. Mae heriau i’r broses hon. Mae gwybodaeth gyswllt weithiau'n anghywir neu'n hen, gan gynnwys rhifau ffôn, sy'n rhwystredig ac yn cymryd llawer o amser i'w ddatrys.

Profwyd mai ymweliadau â chartrefi yw'r dull mwyaf llwyddiannus. Drwy ryngweithio’n uniongyrchol â phobl ifanc, roedd staff awdurdod lleol yn gallu:

  • sefydlu pa bobl ifanc sydd eisoes yn ymwneud ag EET
  • pa bobl ifanc sydd angen cymorth ychwanegol i roi'r cymorth hwnnw ar waith, a diweddaru eu cofnodion yn unol â hynny
  • cyfeirio unigolion nad oes ganddynt unrhyw gyrchfan wedi'i chynllunio i Gyrfa Cymru, i gael gwybodaeth, cyngor a chyfarwyddyd
  • sicrhau bod cymorth priodol yn cael ei gynnig i bobl ifanc sydd â rhwystrau sylweddol rhag ymgysylltu

Mae pobl ifanc sydd â statws ‘anhysbys’ yn cael eu hystyried yng nghyfarfodydd misol SEET (Cefnogi Ymgysylltu ag Addysg, Cyflogaeth a Hyfforddiant), lle mae’r holl asiantaethau partner wedi ymrwymo i’r Protocol Rhannu Gwybodaeth a gymeradwyir, sef Cytundeb Rhannu Gwybodaeth Bersonol Cymru (WASPI). Gall asiantaethau partner fod yn ymgysylltu â'r bobl ifanc neu'n gweithio gyda brodyr a chwiorydd neu deuluoedd. Gall yr wybodaeth gyfun hon helpu i adnabod pa unigolion sydd angen cymorth. Mae’r swyddogaeth SEET wedi profi i fod yn ddull effeithiol o fonitro cynnydd unigolion â statws ‘anhysbys’ a’r rhai â rhwystrau sylweddol, oherwydd y canlynol:

  • mae diweddariadau'n cael eu bwydo'n ôl i Gyrfa Cymru
  • mae cynnydd pobl ifanc yn erbyn model ymgysylltu 5haen Gyrfa Cymru yn cael ei gofnodi
  • mae symudiad i mewn ac allan o ardal yr awdurdod lleol yn cael ei gofnodi

Amharodd pandemig COVID-19 rywfaint ar y gwaith o leoli pobl ifanc â statws ‘anhysbys’ ac ni fu’n bosibl ymweld â chartrefi oherwydd cyfyngiadau. Fodd bynnag, mae ymatebion gan bobl ifanc drwy ddulliau eraill o gysylltu, gan gynnwys platfformau cyfryngau cymdeithasol, wedi cynyddu.

Astudiaeth achos: cymorth i unigolyn o Wrecsam yn Haen 1

Mae gan Brosiect Haen 1 awdurdod lleol Wrecsam dîm o 2 aelod o staff, a’u rôl yw lleoli pobl ifanc yn Haen 1 a sicrhau bod y rhai sy’n NEET yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt.

Mae'r tîm yn gweithio trwy'r rhestr o bobl ifanc yn Haen 1, yn seiliedig ar ardaloedd cod post, ac yn galw yng nghartrefi pobl ifanc ar y rhestr. Os nad oes ateb, mae'r tîm yn gadael llythyr yn cynnig cymorth i'r unigolyn ifanc. Mae ymweliadau â chartrefi yn cael eu hailadrodd. Gall unigolyn ifanc gael 2 i 3 ymweliad mewn cyfnod o 6 wythnos. Gan y gall pobl ifanc yn Haen 1 fod yn anodd eu cyrraedd, mae'r dyfalbarhad hwn yn bwysig er mwyn cael canlyniadau.

Roedd Joshua yn un o'r bobl ifanc a dargedwyd gan dîm Prosiect Haen 1. Ar ôl iddo orffen ym Mlwyddyn 11, ymwelodd y tîm â chartref Joshua nifer o weithiau. Nid oedd yn y tŷ ar unrhyw achlysur. Yn y pen draw, anfonodd neges destun at y rhif ffôn symudol ar y llythyr a adawyd gan dîm Prosiect Haen 1, yn gofyn am gymorth.

Gwnaeth aelod o dîm prosiect Haen 1 gyfarfod Joshua mewn lleoliad anffurfiol, dros baned, a chynhaliodd asesiad o’i anghenion. Roedd hyn yn dangos bod gan Joshua rai rhwystrau sylweddol rhag symud ymlaen, ac yn unol â hynny fe'i dyrannwyd yn erbyn Haen 2. Yna cafodd Joshua ei gyfeirio gan y gweithiwr prosiect at y prosiect MAPS (Ysgogi Cyflawni Cyfranogi Llwyddo neu Motivate Achieve Participate Succeed), a oedd yn cefnogi pobl ifanc trwy gynllun mentora pwrpasol. Trefnodd gweithiwr MAPS i gyfarfod Joshua yn ei gartref.

Siaradodd y gweithiwr MAPS â Joshua a'i fam a phenderfynodd mai'r ddarpariaeth fwyaf addas ar gyfer Joshua fyddai Cymunedau am Waith. Cyfeiriodd Joshua at y rhaglen hon. Pan fethodd Joshua ei apwyntiad cychwynnol, rhoddodd Cymunedau am Waith wybod i’w weithiwr MAPS a gysylltodd â Joshua, a pharhaodd i’w gefnogi a’i annog i ymgysylltu â darpariaeth addas.

Beth sy’n digwydd ar ôl dod o hyd i ddysgwr ‘anhysbys’

Unwaith y bydd unigolyn ifanc wedi’i leoli ac ar ôl siarad ag ef, bydd asesiad o anghenion yn nodi lefel ei ymgysylltiad yn erbyn y model ymgysylltu 5 haen. Yna caiff yr wybodaeth hon ei bwydo i Atlas, system rheoli cysylltiadau cwsmeriaid Gyrfa Cymru, drwy daenlen fisol.

O fis Gorffennaf bob blwyddyn, mae cydlynwyr ymgysylltiad a chynnydd, staff gwasanaethau ieuenctid a staff Gyrfa Cymru yn gweithio'n ddwys gyda phobl ifanc yn haenau 2 a 3 i'w cefnogi i gyrraedd cyrchfan gadarnhaol. Neilltuir gweithiwr arweiniol i bobl ifanc yn yr haenau hyn, sy'n gyfrifol am gadw mewn cysylltiad â nhw'n rheolaidd ac adrodd yn ôl yn ffurfiol i'r EPC wedyn. Bydd y gweithiwr arweiniol yn rhoi gwybod os nad yw’r pecyn cymorth a’r ymyriadau a roddwyd ar waith ar gyfer unigolyn yn ei helpu i ailgysylltu a symud ymlaen.

O fis Gorffennaf ymlaen, mae sefydliadau addysg bellach, darparwyr hyfforddiant ac ysgolion a cholegau addysg bellach yn cyflwyno gwybodaeth i Gyrfa Cymru yn dangos pa bobl ifanc sydd wedi dechrau EET. (Mae darparwyr hyfforddiant yn anfon rhestr wythnosol o ddechreuwyr ac ymadawyr at Gyrfa Cymru, oherwydd bod symudiad unigolion i mewn ac allan o ddarpariaeth hyfforddiant yn fwy rhwydd.) Yna mae Gyrfa Cymru yn diweddaru statws pobl ifanc yn erbyn ei fodel 5 haen. Mae'r wybodaeth hon yn hanfodol i adnabod nid yn unig y bobl ifanc sydd wedi dechrau EET, ond hefyd y rhai nad ydynt wedi dechrau ar y ddarpariaeth yn ôl y bwriad.

Mae gwybodaeth gyfoes am ddechreuwyr ac ymadawyr yn arbennig o ddefnyddiol, gan ei bod yn sicrhau bod ymadawyr yn cael cynnig cymorth cyn gynted â phosibl, fel y gellir eu hailgysylltu.

Yn yr hydref, mae Llywodraeth Cymru hefyd yn rhoi data o gofnod Dysgu Gydol Oes Cymru (LLWR) i Gyrfa Cymru, i gadarnhau'r wybodaeth a dderbyniwyd eisoes am ddechreuwyr ac i dynnu sylw at unrhyw ddechreuwyr newydd nad oedd yn hysbys i Gyrfa Cymru. Mae data LLWR fel arfer yn cyrraedd beth amser ar ôl y digwyddiad, ac felly mae'n fwyaf defnyddiol ar gyfer gwirio'r data sydd eisoes yn cael ei gadw.

Mae cynghorwyr Gyrfa Cymru yn newid statws y dysgwyr o Flwyddyn 11 i’w statws cywir yn erbyn model ymgysylltu 5 haen Gyrfa Cymru (er enghraifft, Haen 5: cwrs coleg llawn amser). Felly mae newid y statws yn llywio'r model 5 haen. Cedwir gwybodaeth am statws haen ar Atlas.

Mae arolwg blynyddol Hynt Disgyblion Gyrfa Cymru’n rhoi gwybod am hynt dysgwyr o’r holl ysgolion a gynhelir ac ysgolion arbennig ledled Cymru sydd wedi cyrraedd oedran gadael statudol (Blwyddyn 11), a myfyrwyr sy’n gadael yr ysgol ym mlynyddoedd 12 a 13. Mae’r wybodaeth hon yn giplun o weithgarwch hysbys y dysgwr ar 31 Hydref ar ôl iddynt adael yr ysgol. Cyhoeddir yr wybodaeth ar wefan Gyrfa Cymru, yn gynnar yn y flwyddyn galendr ganlynol.

(Mae’n bwysig nodi nad yw Gyrfa Cymru yn gallu cyfuno’r holl ddata a dderbynnir ganddynt i gyhoeddi’r arolwg o hynt disgyblion i’w cronfa ddata rheoli cwsmeriaid eu hunain. Dim ond pan fydd ganddynt gytundeb ar waith y gall Gyrfa Cymru gyfuno a chadw data ar bobl ifanc unigol. Bydd y cytundeb hwn yn cael ei gynnal gyda'r unigolyn ifanc yn uniongyrchol, ysgol yr unigolyn ifanc, neu'r awdurdod lleol.)

Ar ôl 31 Hydref bob blwyddyn, dylai cydlynwyr ymgysylltiad a chynnydd a’r bartneriaeth Fframwaith lleol barhau i fonitro nifer y bobl ifanc 16 i 18 oed yn Haen 1, a chydweithio i’w lleoli. Os oes gan unigolyn ifanc 16 i 18 oed statws ‘anhysbys’ a bod pryderon ynghylch ei ddiogelwch, dylai’r EPC a/neu ei dîm gysylltu ag arweinydd diogelu’r awdurdod lleol neu’r Bwrdd Diogelu Plant am gyngor. Mae canllawiau Llywodraeth Cymru, Cadw dysgwyr yn ddiogel: rôl awdurdodau lleol, cyrff llywodraethu a pherchnogion ysgolion annibynnol o dan Ddeddf Addysg 2002 (2021), yn cynnwys gwybodaeth fanwl am y broses a’r disgwyliadau o ran diogelu mewn ysgolion, ac yn y system ehangach.

Llif data system rheoli cysylltiadau cwsmeriaid Gyrfa Cymru (Atlas)

Image
Dangos sut y mae gwybodaeth gan ddarparwyr, cydlynwyr ymgysylltiad a chynnydd a Gyrfa Cymru yn bwydo i mewn i system Atlas Gyrfa Cymru. Mae hyn yn cynhyrchu data NEET, at ddibenion monitro.

Rhannu data

Deddf Diogelu Data 2018 yw gweithrediad y DU o’r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR y DU). (Er hwylustod, mae’r canllawiau hyn yn cyfeirio at GDPR y DU, ac yn ymdrin â deddfwriaeth diogelu data yn gyffredinol.)

Un o’r negeseuon allweddol o’r ymgynghoriad ar y Fframwaith oedd yr heriau o rannu data ers cyflwyno GDPR y DU, o ran rhwystrau rhag rhannu data a hefyd y canfyddiad o ofynion GDPR y DU. (Mae pryder am ofynion GDPR hefyd wedi’i nodi yn adroddiad Estyn, Partneriaethau ôl-16: Cynllunio a darpariaeth ar y cyd rhwng ysgolion, a rhwng ysgolion a cholegau, (2021).)

Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (y Swyddfa) yw’r awdurdod annibynnol, a sefydlwyd i gynnal hawliau gwybodaeth. Mae gwybodaeth fanwl a chanllawiau ar GDPR y DU ar gael ar wefan Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth, gan gynnwys canllawiau manwl ar rannu data a phlant. Mae canllawiau’r Swyddfa ar rannu data a phlant yn nodi y gall sefydliadau rannu data personol plant, ar yr amod eu bod yn gallu dangos rheswm cymhellol dros wneud hynny, gan ystyried lles pennaf y plentyn. Dylai sefydliadau gynnwys hyn ym mhob system a phroses yn eu trefniadau rhannu data.

Mae sefydliadau sy’n ymwneud yn uniongyrchol ag iechyd, addysg, diogelwch, atal troseddu a lles cymdeithasol pobl yng Nghymru yn defnyddio WASPI i’w helpu nhw i rannu gwybodaeth bersonol yn effeithiol ac yn gyfreithlon. Mae gwefan WASPI yn cynnwys canllawiau i helpu sefydliadau i benderfynu pa fath o gytundeb rhannu data sy'n ofynnol mewn amgylchiadau penodol. Ar gyfer rhannu data o dan y Fframwaith, mae’r cytundebau WASPI canlynol yn cael eu defnyddio’n gyffredin, gan ddibynnu a yw’r llif data yn unffordd neu’n ddwyffordd:

Yn sail i’r gwaith o fonitro cynnydd unigolion o dan y Fframwaith, defnyddir y DDA a’r ISP fel y bo'n briodol.

Rhaid hysbysu unigolion pa wybodaeth bersonol fydd yn cael ei phrosesu a pham, ble, sut a phryd, a gyda phwy y caiff ei rhannu. Darperir yr wybodaeth hon fel arfer trwy hysbysiad preifatrwydd, yn ddelfrydol pan gysylltir gyntaf ag unigolyn neu pan fydd ei ddata'n cael eu casglu a'u prosesu am y tro cyntaf. Gall fod yn rhan o ffurflen gofrestru neu ganiatâd neu’n ddogfen annibynnol.

Disgwylir i ysgolion a gynhelir gan awdurdodau lleol gyhoeddi hysbysiad preifatrwydd i'w dysgwyr a/neu rieni, gofalwyr a gwarcheidwaid, sy'n adlewyrchu'r DDA a’r ISP sydd ar waith.

Dylai’r hysbysiad preifatrwydd hefyd nodi:

  • hunaniaeth y rheolydd data a manylion cyswllt y swyddog diogelu data
  • y sail gyfreithiol ar gyfer prosesu data personol
  • sut a pham mae'r data personol yn cael eu prosesu
  • am ba hyd y bydd y data personol yn cael eu cadw
  • hawliau'r unigolion o dan ddeddfwriaeth diogelu data

Y rheolydd data yw’r sefydliad (corff cyfreithiol) sy’n gwneud penderfyniadau ynghylch pam, beth, sut a phryd y caiff data eu casglu, ar gyfer beth y caiff eu defnyddio, sut y caiff eu cadw ac am ba hyd. Y rheolydd data yw’r prif benderfynwr o ran sut mae gwybodaeth bersonol pobl yn cael ei thrin, a sut mae’n cael ei chadw’n ddiogel. Gyrfa Cymru yw'r rheolydd data ar gyfer yr wybodaeth y mae'n ei storio ar Atlas.

Gyda’r prosesau priodol yn eu lle, gellir monitro cynnydd pobl ifanc fel bod modd adnabod unigolyn ifanc mewn perygl o beidio â phontio’n llwyddiannus i EET, a chynnig cymorth iddo.

Astudiaeth achos: sut mae rhannu data yn galluogi pobl ifanc i gael eu cefnogi o dan y Fframwaith

Roedd Alisha ym Mlwyddyn 11 yn yr ysgol ac roedd ganddi ddiddordeb yn y gwaith. Roedd yn gweithio'n galed tuag at ei harholiadau TGAU ac yn gobeithio mynd i sefydliad addysg bellach lleol i astudio Technoleg Gwybodaeth. Roedd hi weithiau'n profi gorbryder, ond roedd yn gallu rheoli ei chyflwr gyda chefnogaeth a dealltwriaeth ei mam a'i ffrindiau.

Ym mis Mawrth 2020, ar ôl i’r cyfyngiadau symud cyntaf gael eu cyhoeddi, gwaethygodd orbryder Alisha. Dros gyfnod o wythnosau, dechreuodd Alisha gysgu’n wael, ac roedd hi’n bigog. Roedd Alisha yn gweld eisiau ei ffrindiau yn fawr ac roedd hefyd yn poeni y byddai ei mam, a oedd yn gweithio fel gofalwr, yn dal COVID-19.

Wrth i’r cyfyngiadau gael eu llacio ym mis Mehefin 2020, gwnaeth gorbryder Alisha wella wrth iddi allu cyfarfod â ffrindiau. Roedd hi'n hapus gyda'i chanlyniadau TGAU a chofrestrodd yn ei choleg addysg bellach lleol ar y cwrs o’i dewis.

Fodd bynnag, ar ôl iddi ddechrau ar y cwrs addysg bellach ym mis Medi, roedd Alisha yn teimlo wedi’i llethu gan yr adroddiadau am achosion cynyddol o Covid. Cynyddodd ei lefelau o orbryder ac roedd yn ei chael yn anodd canolbwyntio ar ei chwrs newydd. Gadawodd y coleg tua dechrau mis Tachwedd.

Roedd gan y coleg ddogfen Fframwaith Ymgysylltiad a Chynnydd Ieuenctid WASPI ar waith, a oedd yn ei alluogi i hysbysu Gyrfa Cymru bod Alisha wedi gadael y coleg. Yna dywedodd y coleg wrth gynghorydd cyswllt Gyrfa Cymru fod Alisha wedi gadael y coleg, gan ddisgrifio'r newid yn ei hamgylchiadau a'i rhwystrau presennol rhag parhau mewn addysg.

Cofnodwyd yr wybodaeth a gafwyd gan y coleg yn syth ar Atlas, a gwnaed newid statws i Haen 2. Arweiniodd y newid statws hwn at atgyfeiriad i'r EPC drwy'r hyb data, lle gallai'r EPC gyrchu'r nodiadau yn disgrifio pam y gadawodd Alisha’r coleg a'r rhwystrau y mae'n eu hwynebu ar hyn o bryd.

Gofynnodd yr EPC i aelod o dîm ymgysylltu’r awdurdod lleol gysylltu ag Alisha a chynnig cymorth priodol. Cytunodd Alisha i gwrdd ag aelod o'r tîm i gael asesiad o'i hanghenion.

Dangosodd yr asesiad fod angen cymorth ar Alisha i reoli ei gorbryder a gwella ei hunan-barch, a chytunodd Alisha i gael atgyfeiriad at ddarpariaeth cwnsela awdurdod lleol a gwasanaethau ieuenctid i helpu i ddiwallu’r anghenion hyn. Siaradodd gweithiwr arweiniol o’r tîm ymgysylltu â’r coleg ar ran Alisha, a chytunodd y coleg y gallai Alisha gofrestru ar nifer o gyrsiau blasu, i’w helpu i benderfynu ar y cwrs gorau iddi.

Darpariaeth

Ein nod yw sicrhau bod y cymysgedd o ddarpariaeth sydd ar gael ym mhob rhan o Gymru yn gallu diwallu anghenion ein pobl ifanc. Yng nghyd-destun y Fframwaith, mae ‘darpariaeth’ yn cyfeirio at raglenni sy’n cadw pobl ifanc mewn cysylltiad ag EET ac atal digartrefedd ymhlith pobl ifanc. Mae rhagor o wybodaeth am y ddarpariaeth ar gael yn Atodiad A, er nad yw hon yn rhestr gyflawn.

Efallai y bydd angen cyfeirio rhai pobl ifanc hefyd at gymorth penodol i hybu eu hiechyd meddwl, eu lles a’u hunan-barch: mae Atodiad B yn rhoi rhagor o wybodaeth am y cymorth gwahanol sydd ar gael.

Bydd y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil yn goruchwylio’r cam cynllunio strategol o’r ddarpariaeth addysg a sgiliau ar draws yr holl addysg a hyfforddiant ôl-orfodol, gan gynnwys ariannu, contractio, ansawdd, a monitro ariannol. Bydd hyn yn dod â mwy o gydlyniad ac effeithlonrwydd i ddarpariaeth ôl-16.

Gall pobl ifanc y nodwyd bod angen cymorth ychwanegol arnynt elwa ar weithgarwch cyn-ymgysylltu wedi'i dargedu. Gall hyn sicrhau eu bod yn ymwybodol o'u dewisiadau, a’u bod yn hyderus wrth wneud penderfyniadau am yr hyn y byddant yn ei wneud wrth adael amgylchedd yr ysgol.

Astudiaeth achos: Rhaglen cyn-ymgysylltu yn Sir Benfro

Yn Sir Benfro ceir rhaglenni cyn-ymgysylltu, sef rhaglenni pontio wedi’u targedu ar gyfer dysgwyr Blwyddyn 11 agored i niwed, y nodwyd eu bod ‘mewn perygl’ o fod yn NEET neu ‘o beidio â phontio’n llwyddiannus’ i addysg, hyfforddiant neu gyflogaeth ôl-16.

Mae'r rhaglenni'n cael eu rhedeg mewn partneriaeth â darparwyr ôl-16 gyda chyllid wedi'i sicrhau trwy grant gwasanaeth cynhwysiant. Ym mlwyddyn academaidd 2020 i 2021, roedd dysgwyr yn mynychu’r rhaglenni 1 diwrnod yr wythnos yn ystod tymhorau’r gwanwyn a’r haf.

Roedd cludiant a chinio yn cael eu darparu i bob dysgwr, waeth a oeddent yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim ai peidio.

Nodau’r rhaglen oedd:

  • atal neu leihau nifer y bobl ifanc a oedd yn NEET
  • lleihau cyfraddau gadael a chynyddu cyfraddau cadw ar raglenni ôl-16
  • lleihau'r gorbryder sy'n gysylltiedig â'r pontio i EET ôl-16
  • helpu unigolion i ymgyfarwyddo â lleoliadau ôl-16
  • cynnal cymhelliant, ymgysylltiad a phresenoldeb
  • cefnogi dysgwyr wrth iddynt wneud penderfyniadau
  • cynyddu gwybodaeth dysgwyr am ddewisiadau a llwybrau ôl-16

Dyma gynnwys y rhaglen:

  • ystod o sesiynau blasu galwedigaethol
  • gwybodaeth, cyngor a chyfarwyddyd ar bob dewis ôl-16
  • cyfle am gyfweliad cyfarwyddyd gyrfaoedd un-i-un gyda chynghorwyr Gyrfa Cymru
  • gweithgareddau ymgyfarwyddo
  • ymweliadau â darparwyr ôl-16 eraill a chan ddarparwyr ôl-16 eraill
  • gweithgareddau iechyd, ffitrwydd a lles
  • gweithgareddau meithrin tîm a difyr
  • cymorth i ddatblygu sgiliau mewn meysydd fel technoleg gwybodaeth a chyfathrebu (TGCh), llythrennedd a rhifedd yn ogystal â sgiliau rhyngbersonol (sgiliau ymchwil, cwblhau a chyflwyno ceisiadau a thechnegau cyfweld)

Ym mlwyddyn academaidd 2020 i 2021, o’r 119 o ddysgwyr a atgyfeiriwyd at y rhaglenni cyn-ymgysylltu, cwblhaodd 89 y rhaglen, gyda 95% o’r holl ddysgwyr a gymerodd ran yn symud ymlaen i gyrchfan ôl-16 lwyddiannus.

Roedd y canlynol yn allweddol i lwyddiant y rhaglenni:

  • cymorth uwch arweinwyr ar lefel awdurdod lleol ac ysgol
  • cael system adnabod yn gynnar effeithiol
  • hyblygrwydd a pharodrwydd y darparwyr
  • datblygu cysylltiadau da rhwng yr awdurdod lleol, ysgolion, darparwyr, rhieni, gofalwyr a dysgwyr

Astudiaeth achos: cynnig amrywiaeth o ddarpariaeth i ddiwallu anghenion unigolyn ifanc

Roedd Harry wedi ymddieithrio o'r ysgol brif ffrwd ac yn ddidaro’n gyffredinol ynghylch y broses addysgol. Roedd ganddo broblemau ymddygiad, a arweiniodd ato’n cael ei wahardd yn barhaol o un ysgol uwchradd, a chael ei drosglwyddo i un arall, ac yna cafodd le mewn uned cyfeirio disgyblion am 2 dymor. Roedd ar gyrion camfanteisio’n droseddol ar blant.

Cyfeiriwyd Harry gan banel Anodd eu Lleoli/AHY yr awdurdod lleol at ei dîm cynnydd, a ddyrannodd weithiwr arweiniol i gefnogi Harry. Roedd y gweithiwr arweiniol yn adnabod y teulu, gan ei fod wedi cefnogi brodyr a chwiorydd hŷn, ac yn adnabod y rhiant. Ymwelodd y gweithiwr arweiniol â'r cartref i ddechrau, nes i Harry deimlo'n ddigon hyderus i gwrdd y tu allan i'r cartref.

Gofynnodd y gweithiwr arweiniol i Harry beth roedd yn ei hoffi a'i ddiddordebau, a sicrhaodd bod pecyn pwrpasol addysg yn cael ei roi. Mynychodd Harry gwrs chwaraeon wythnosol ac yna cwrs celf 12 wythnos, a chyflawnodd bresenoldeb 100% yn y rhain. Er iddo roi'r gorau i fynychu'r ysgol, roedd yn dal ar gofrestr yr ysgol. Dechreuodd Harry fynychu cwrs paratoi milwrol gyda choleg paratoi milwrol (MPCT). Fodd bynnag, bu digwyddiad gyda chyffuriau a chollodd Harry ei le gyda’r MPCT.

Cyfeiriwyd achos Harry gan y tîm cynnydd at banel penderfyniadau ADY yr awdurdod lleol, a gytunodd y byddai Harry hefyd yn cael budd o fynychu uned cyfeirio disgyblion allgymorth, i roi profiad addysgol ehangach iddo, wrth barhau â’r cwrs chwaraeon a chwblhau’r cwrs celf.

Yn yr uned cyfeirio disgyblion, sicrhaodd y staff ei fod yn ail-ymgysylltu ag addysg, trwy gynllunio a chyflwyno’r cwricwlwm yn fedrus. Fel mesur o ymgysylltiad gwell Harry, roedd yn defnyddio cludiant cyhoeddus i’r uned bob dydd, a chyflawnodd bresenoldeb o 100%.

Roedd Harry bellach yn mynychu darpariaeth 3.5 diwrnod yr wythnos, trwy gyfuniad o'r cwrs chwaraeon a'r uned cyfeirio disgyblion.

Gan fod pryderon o hyd ynghylch camfanteisio’n droseddol ar blant, gofynodd y tîm cynnydd a’r EPC am gyfarfod â’r darparwyr, Harry a’i fam i drafod ymddygiadau a phryderon. Cysylltodd y tîm cynnydd â’r heddlu a’r gwasanaethau cyfiawnder ieuenctid i gael cymorth ychwanegol. Ar rai achlysuron, canfuwyd bod Harry hefyd â chanabis yn ei feddiant, felly fe’i cyfeiriwyd gan y tîm cynnydd at dîm cyffuriau ac alcohol yr awdurdod lleol, a gynhaliodd sesiwn grŵp ar ymwybyddiaeth o gyffuriau yn y cwrs chwaraeon. Yn dilyn hynny, dangosodd Harry ei fod yn gallu trafod camddefnyddio sylweddau a'i fod yn gyfforddus yn cael ei herio ar ei farn. Roedd yn gallu ystyried goblygiadau negyddol camddefnyddio sylweddau a chytunodd i barhau i fynychu sesiynau grŵp ac unigol ar gamddefnyddio sylweddau.

Mae Harry wedi ennill rhai cymwysterau yn yr uned cyfeirio disgyblion ac mae'n astudio tuag at gymwysterau ychwanegol. Yn ddiweddar, sicrhaodd leoliad gwaith wythnosol gyda garej cerbydau modur leol.

Astudiaeth achos: cynnig darpariaeth i gyd-fynd â diddordebau unigolyn ifanc

Mae Lewis wedi bod yn mynychu canolfan galw heibio wirfoddol leol ers iddo fod yn 13 oed. Mae'n dod o deulu mawr cymysg. Dechreuodd Lewis fynychu’r ganolfan gyntaf pan oedd yn yr ysgol, lle nad oedd yn gwneud yn dda iawn yn academaidd ac roedd yn cael ei ystyried yn aflonyddgar. Fodd bynnag, ffynnodd yn y ganolfan ieuenctid a bu'n allweddol wrth helpu staff i ddatblygu prosiect coginio.

Sylweddolodd y gweithwyr ieuenctid yn gyflym iawn fod Lewis yn gyfforddus iawn yn y gegin, lle bu’n cefnogi staff i brynu cynhwysion, coginio bwyd a gweini’r aelodau yn eu noson swper. Roedd Lewis hefyd wedi mwynhau datblygu ryseitiau newydd yn fawr iawn a dechreuodd werthu smwddis ac ysgytlaethau â blas. Drwy gydol y cyfnod hwn, roedd Lewis yn dal i gael anawsterau y tu allan i'r prosiect ieuenctid ac yn cael ei anfon adref yn rheolaidd am ei fod yn yfed ar y stryd a bod ei ymddygiad yn ymylu ar fod yn gwrthgymdeithasol. Weithiau, roedd ei ymddygiad yn anodd yn y prosiect ieuenctid, ond tra roedd yn brysur a gyda diddordeb, roedd yn gwneud yn dda. Cafodd gyfle i ennill cymhwyster hylendid bwyd, cymhwyster cymorth cyntaf ac uned Agored Cymru mewn cynllunio digwyddiadau.

Anogwyd Lewis gan y gweithwyr ieuenctid i gymryd mwy a mwy o gyfrifoldeb yn eu caffi, ac fe wnaeth Lewis hefyd redeg caffi dros dro mewn gŵyl leol.

Llwyddodd Lewis i gael lle mewn coleg lleol i astudio arlwyo, ac ar ôl cwblhau’r cwrs cafodd swydd mewn ysbyty lleol, gyda rôl ddeuol mewn arlwyo a glanhau.

Helpu pobl ifanc i ennill sgiliau ar gyfer byw'n annibynnol

Yng nghyd-destun darpariaeth digartrefedd ymhlith pobl ifanc, tynnodd yr ymgynghoriad ar y Fframwaith sylw at y ffaith fod pobl ifanc eisiau canolbwyntio mwy ar ddarparu cymorth ymarferol, i helpu i bontio i fywyd fel oedolyn annibynnol. Roedd y bobl ifanc eisiau gwella eu gwybodaeth a’u dealltwriaeth o feysydd amrywiol, gan gynnwys:

  • dewisiadau tai
  • cyfrifon banc
  • slipiau cyflog a chyflogau
  • trethi
  • biliau
  • yswiriant

Astudiaeth achos: darpariaeth i helpu i atal digartrefedd ymhlith pobl ifanc

Mae Amgylchedd Dysgu Rhithwir (VLE) Sir Benfro yn blatfform ar-lein a ddyluniwyd gyda phobl ifanc, gan bobl ifanc ac ar gyfer pobl ifanc. Mae’n darparu gwybodaeth, cymorth ac adnoddau dysgu i bontio’n llwyddiannus i fyw’n annibynnol ac i helpu i atal digartrefedd ymhlith pobl ifanc.

Mae'n defnyddio profiadau pobl ifanc i lywio cynnwys a sicrhau bod eu hanghenion yn cael sylw. Mae’r wefan yn cynnal 7 modiwl datblygu sgiliau rhyngweithiol sy’n cwmpasu amrywiaeth o bynciau, gan gynnwys:

  • cyllidebu
  • hawliau a chyfrifoldebau
  • tasgau sy'n ymwneud â rhedeg cartref newydd.
  • eitemau sydd eu hangen ar gyfer cartref newydd
  • gweinyddu tenantiaeth
  • dewisiadau tai
  • canlyniadau tenantiaeth yn methu

Mae'r modiwlau hyn yn cynnwys gweithgareddau, fideos ac adnoddau sy'n cael eu cyd-ddatblygu a'u cynhyrchu gan bobl ifanc.

Mae’r platfform hefyd yn cynnwys elfen ‘Lleisiau’. Dyma lyfrgell o glipiau sain sy'n cynnwys pobl ifanc yn siarad am eu profiadau eu hunain o faterion cysylltiedig. Er mai prif nod hyn yw rhoi cyfle i ddefnyddwyr ddysgu gan eraill, mae hefyd yn rhoi cyfle i'r rhai sydd â phrofiadau bywyd i fynegi eu safbwyntiau a'u barn, a gyflwynir wedyn i sectorau a sefydliadau cysylltiedig i helpu i lunio eu gwasanaethau. Mae cyfleuster y ‘Botwm Mawr Glas’ yn galluogi pobl ifanc i gael mynediad at weithwyr ieuenctid yn fyw trwy fideo-gynadledda, neu ddarpariaeth negesydd o fewn y porth ei hun.

Yn olaf, nod y prosiect yn gyffredinol yw galluogi pobl ifanc i ymdrin â materion tai penodol sy'n effeithio arnynt, gan gynnwys y ffactorau sy'n cyfrannu at denantiaethau ymhlith pobl ifanc yn methu, a digartrefedd. Ymhellach, trwy gynnwys y grŵp oedran hwn ym mhob agwedd ar y prosiect, nid yn unig y ceisir hysbysu, addysgu ac arwain pobl ifanc, ond defnyddir eu profiadau bywyd i helpu eraill hefyd.

Mapio darpariaeth

Bydd yr EPC yn parhau i chwarae rhan hanfodol a strategol wrth fapio a chydlynu darpariaeth ar lefel partneriaeth leol er mwyn helpu i ystyried y darlun cyffredinol o ran darpariaeth, a sut y gall partneriaethau lleol gydweithio'n llwyddiannus i ddiwallu anghenion pobl ifanc yn eu hardal.

Unwaith y bydd pobl ifanc wedi’u hadnabod fel rhai sydd angen cymorth o dan y Fframwaith, mae sicrhau bod ganddynt y math cywir o gymorth yn hollbwysig. Roedd gwaith mapio cryfach o’r ddarpariaeth bresennol yn un o’r camau allweddol yn y Fframwaith gwreiddiol, a thynnodd yr ymgynghoriad ar y Fframwaith sylw at yr angen i sicrhau bod y rhai sy’n cydlynu cymorth yn ymwybodol o’r ddarpariaeth sydd eisoes yn eu hardal. Tynnodd yr ymgynghoriad ar y Fframwaith sylw hefyd at y pwysigrwydd o gael pobl ifanc yn teimlo’n wybodus am eu hystod lawn o ddewisiadau mewn addysg orfodol ac ôl-orfodol. Mae'n bwysig bod unigolion a gefnogir o dan y Fframwaith, sydd ag elfennau agored i niwed penodol, hefyd yn cael gwybod am wasanaethau cymorth allweddol eraill, megis gwasanaethau camddefnyddio cyffuriau ac alcohol.

Mae mapio yn parhau i fod yn flaenoriaeth allweddol i sefydliadau sy'n cefnogi pobl ifanc, i nodi'r hyn sydd ar gael yn eu hardal.

Ar lefel leol, mae ystod o ddarpariaethau gwahanol ar gael, a dyna pam bod mapio darpariaeth leol yn hollbwysig. Mae cydlynwyr ymgysylltiad a chynnydd yn gyfrifol am reoli’r gwaith mapio yn eu hawdurdodau lleol, er mwyn sicrhau bod ganddynt yr wybodaeth ddiweddaraf am ba gymorth sydd ar gael i bobl ifanc. Byddem yn disgwyl i gydlynwyr ymgysylltiad a chynnydd ymgynghori ar greu'r map darpariaeth a gwneud y ddogfen honno'n weladwy ac yn hygyrch i'r holl randdeiliaid a phartneriaid. I gefnogi’r broses hon, bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i gydlynwyr ymgysylltiad a chynnydd am unrhyw gymorth pellach a gyflwynir ganddi. Mae rhestr ar gael yn Atodiad A, ond nid yw hon yn rhestr gyflawn.

Mae Sefydliad Ymchwil Cymdeithasol ac Economaidd a Data Cymru (WISERD) ar hyn o bryd yn cynnal prosiect gyda Gyrfa Cymru, Llywodraeth Cymru a Sefydliadau Cymdeithas Sifil yng Nghymru, gyda’r nod o ddarparu map ffordd i gyfeirio pobl ifanc yn well at ystod ehangach o gymorth.

Astudiaeth achos: mapio darpariaeth yng Nghaerffili

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili wedi datblygu gwefan, Croeso i Lwybrau Caerffili, sy'n dangos yr ystod lawn o gyfleoedd addysg a hyfforddiant sydd ar gael i bobl ifanc yn y sir, gan gynnwys darpariaeth chweched dosbarth ysgolion, sefydliadau addysg bellach a darparwyr hyfforddiant seiliedig ar waith lleol.

Mae rhan fawr o'r wefan yn brosbectws ar-lein sy'n rhoi manylion y cyrsiau Safon Uwch a BTEC sydd ar gael. Mae rhannau eraill o'r wefan wedi'u dylunio i ddangos y llwybrau cynnydd, gyrfaoedd, graddau a phrentisiaethau i bobl ifanc, sy'n gysylltiedig â'r pynciau y gallent fod eisiau eu hastudio.

Manylion y ddarpariaeth sydd ar gael

Isod ceir y ddarpariaeth sydd ar gael o ran addysg a hyfforddiant ôl-16 (gweler hefyd Cyflogadwyedd a Chyfleoedd Cyflogaeth) yn ogystal â’r ddarpariaeth ar gyfer atal digartrefedd ymhlith pobl ifanc. Nid yw hon yn rhestr gyflawn, a bydd yn destun diweddariadau.

Gwarant i Bobl Ifanc

O 16 oed, gall pobl ifanc gael mynediad i’r Warant i Bobl Ifanc trwy wasanaeth Cymru’n Gweithio. Nod y Warant yw rhoi cymorth i bobl ifanc o dan 25 oed ledled Cymru i mewn i EET neu hunangyflogaeth. Bydd y Warant hefyd yn bresennol am y tro cyntaf ar wefan Cymru'n Gweithio, ynghyd â sgyrsiau gwe, Skype, e-bost a negeseuon testun SMS. Bydd cynghorwyr penodedigyn gweithredu ar-lein, ar y stryd fawr a thrwy gyfleusterau allgymorth gwell ledled Cymru.

Gall pobl ifanc hefyd ddefnyddio Canfod Cymorth Cymru'n Gweithio i chwilio am raglenni a fydd yn eu helpu i wella eu sgiliau a’u cyfleoedd gwaith, gyda rhagor o gymorth gan gynghorwyr. Yn ogystal, mae'r cyfleuster chwilio am gyrsiau’n darparu miloedd o gyfleoedd dysgu ar y gronfa ddata i ddewis ohonynt, gan gynnwys yr holl addysg bellach rhan-amser, addysg gymunedol, cyfleoedd gyda darparwyr preifat a dysgu seiliedig ar waith.

Addysg bellach

Yn 16 oed, gall pobl ifanc benderfynu aros yn yr ysgol neu symud i addysg bellach. Mae 13 sefydliad addysg bellach yng Nghymru. Mae’r rhan fwyaf yn golegau addysg bellach cyffredinol sy’n cyflwyno ystod eang o ddarpariaeth i ddysgwyr 16 oed a throsodd. Mae hyn yn cynnwys rhaglenni academaidd a galwedigaethol o lefelau mynediad i radd, prentisiaethau, dysgu oedolion a rhaglenni sgiliau byw'n annibynnol ar gyfer dysgwyr ag anableddau neu anawsterau dysgu. Mae mwy na 100,000 o ddysgwyr yn astudio mewn sefydliadau addysg bellach bob blwyddyn.

Mae yna hefyd ystod o raglenni cyflogadwyedd. Ewch i Gyflogadwyedd a Chyfleoedd Cyflogaeth yn y Llawlyfr hwn i ddysgu mwy amdanynt.

Darpariaeth ar gyfer atal digartrefedd ymhlith pobl ifanc

Mae cyllid grant hefyd wedi bod ar gael i awdurdodau lleol o 2019 i 2020, fel rhan o’r Grant Cymorth Ieuenctid, i ariannu rôl Cydgysylltydd Digartrefedd ymhlith Pobl Ifanc ym mhob awdurdod lleol, i ddatblygu cymorth i bobl ifanc sydd mewn perygl o fod yn ddigartref neu i’w cyfeirio at gymorth sydd ar gael yn barod a allai fod yn ofynnol, fel iechyd meddwl a lles. Mae hyn yn cynnwys darpariaeth gyffredinol fel darparu sesiynau codi ymwybyddiaeth mewn ysgolion a lleoliadau gwaith ieuenctid, gan dynnu sylw at arwyddion ac achosion o ddigartrefedd, yn enwedig digartrefedd cudd. Mae hefyd yn cynnwys cymorth wedi’i dargedu’n well fel cyfryngu teuluol, fel y gall pobl ifanc barhau i fyw yng nghartref y teulu, neu sgiliau byw’n annibynnol a sgiliau tenantiaeth, i helpu pobl ifanc i bontio’n llwyddiannus i fyw’n annibynnol pan fyddant yn barod i symud ymlaen.

Disgwylir i Gydgysylltwyr Digartrefedd ymhlith Pobl Ifanc ddatblygu mecanweithiau atgyfeirio, cyfeirio, a llwybrau cymorth priodol, trwy fapio'r ddarpariaeth leol berthnasol sydd ar gael i gefnogi'r rhai sydd mewn perygl o ddigartrefedd. Mae Shelter Cymru wedi datblygu Platfform Rhannu Padlet, Atal Digartrefedd ymhlith Pobl Ifanc yn Gynnar, lle gall cydgysylltwyr rannu adnoddau maent wedi'u datblygu.

Cyflogadwyedd a chyfleoedd cyflogaeth

Yn ogystal â defnyddio’r Fframwaith i wella ymgysylltiad a chynnydd i bobl ifanc, mae angen inni sicrhau bod y Fframwaith yn arwain at fwy o bobl ifanc yn symud i gyflogaeth sgil uchel, gyda chydbwysedd o brofiad gwaith, sgiliau, a llwybrau i gyflogaeth neu hunangyflogaeth. Yn y modd hwn, gallwn osod pobl ifanc ar lwybr sy’n rhoi’r cyfleoedd bywyd gorau posibl iddynt.

Mae cynllun cyflogadwyedd a sgiliau Llywodraeth Cymru, ‘Cymru gryfach, decach a gwyrddach: cynllun cyflogadwyedd a sgiliau: crynodeb’ (2022) yn nodi meysydd y canolbwyntir arnynt dros dro, am y 5 mlynedd nesaf, yn gysylltiedig â’r cerrig milltir cenedlaethol, sy’n cynnwys cynnal gwelliannau ôl-bandemig yn lefelau’r bobl ifanc mewn EET, gyda ffocws ar bontio i gyflogaeth.

Dangosodd yr ymgynghoriad ar y Fframwaith gefnogaeth ar gyfer darparu ystod ehangach a mwy hyblyg o ddewisiadau galwedigaethol. Amlygodd adborth gan bobl ifanc awydd i ganolbwyntio mwy ar gyflogaeth, cyflogadwyedd a phrofiad gwaith, ac am wybodaeth gynhwysfawr am eu dewisiadau. Roedd pobl ifanc eisiau cael cymorth a chyngor cyflogaeth neu hunangyflogaeth o safon ym mhob lleoliad addysg. Roeddent hefyd eisiau mwy o ganolbwyntio ar ddarparu cymorth ymarferol i'w helpu i bontio i fywyd fel oedolyn annibynnol.

Rydym wedi bod yn ystyried dewisiadau sydd ar gael i gyflwyno darpariaeth cyflogadwyedd oedolion ac ieuenctid yn ystod cyfnod adfer COVID-19, ac yn y tymor hirach yng Nghymru. Mae hyn yn cael ei gyflwyno trwy gyfuniad o raglenni newydd a phresennol, ar lefel genedlaethol a lleol. Mae'r Llawlyfr hwn yn cyfeirio at brosiectau cenedlaethol yn unig, a dylai sefydliadau partner hefyd fod yn ymwybodol o'r hyn sydd ar gael yn lleol.

Cyn-16 oed

Mewn ysgolion

Bydd pob unigolyn ifanc yn cael mynediad at wasanaethau gyrfaoedd yn yr ysgol. Dylai’r cwricwlwm mewn ysgolion alluogi dysgwyr i gael profiadau sy’n gysylltiedig â byd gwaith a gyrfaoedd, gan ddatblygu gwybodaeth am yr amrywiaeth o gyfleoedd sydd ar gael iddynt gydol eu hoes. Bydd y dysgu hwn yn eu helpu i wneud penderfyniadau gwybodus am eu llwybrau gyrfa. Mae pedwar diben y cwricwlwm (creu dysgwyr uchelgeisiol, galluog; unigolion iach, hyderus, cyfranwyr mentrus, creadigol; a dinasyddion egwyddorol, gwybodus), a’r sgiliau annatod sy’n sail iddynt, yn ganolog i baratoi dysgwyr ar gyfer gyrfaoedd a gwaith. Mae’r sgiliau hyn yn cefnogi dysgwyr i fod yn wydn, yn greadigol ac yn uchelgeisiol, gan ei gwneud yn ofynnol iddynt ddatrys problemau, ymgysylltu â gwahanol faterion, a gweithio’n annibynnol, yn ogystal â’u paratoi ar gyfer cyfleoedd a heriau realiti economaidd newidiol.

Mae dysgu am Addysg Gyrfaoedd a Phrofiadau sy’n Gysylltiedig â Byd Gwaith (Addysg a Phrofiadau Byd Gwaith) yn hanfodol i ddatblygu sgiliau gwaith a bywyd. Mae’n helpu dysgwyr i ddeall y berthynas rhwng eu dysgu a byd gwaith. Dylai profiadau anelu at agor llygaid dysgwyr i’r cyfleoedd sydd o’u blaenau, a dylent ddarparu cyngor o ansawdd uchel am sgiliau a llwybrau gyrfa, gan godi dyheadau dysgwyr na fyddent efallai fel arall yn ystyried y posibilrwydd bod cyfleoedd penodol ar gael iddynt. Ym mis Ionawr 2022, cafodd Canllawiau Gyrfaoedd y Cwricwlwm i Gymru eu diweddaru gyda’r canllawiau integredig ar gyfer Addysg Gyrfaoedd a Phrofiadau sy’n Gysylltiedig â Byd Gwaith. Mae mwyafrif y canllawiau ar gael yn Themâu trawsgwricwlaidd ar gyfer cynllunio eich cwricwlwm). Mae adrannau wedi’u diweddaru hefyd ar gyfer Addysg Gyrfaoedd a Phrofiadau sy’n Gysylltiedig â Byd Gwaith o fewn y meysydd dysgu a phrofiad yn yr adrannau trawsgwricwlaidd, yn ogystal â diweddariadau i’r adran ddeddfwriaeth. Bydd Fframwaith Cenedlaethol newydd Estyn yn cefnogi ysgolion i weithredu Addysg Gyrfaoedd a Phrofiadau sy’n Gysylltiedig â Byd Gwaith.

Gall mynediad at ddysgu entrepreneuriaeth helpu pobl ifanc i ddatblygu sgiliau entrepreneuraidd fel rhan o’u cwricwlwm. Mae'r sgiliau a'r profiadau hyn yn cael eu gwerthfawrogi gan gyflogwyr ac yn hanfodol ar gyfer dechrau a rhedeg busnes. Mae Syniadau Mawr Cymru yn rhoi cyfle i ddysgwyr archwilio menter a dysgu o brofiadau modelau rôl sy’n entrepreneuriaid. Mae'n rhoi gwybodaeth, cyngor a chyfarwyddyd i'w helpu ar y llwybr tuag at ddod yn hunangyflogedig neu ddechrau eu busnes eu hunain.

Prentisiaethau iau

Mae prentisiaethau iau yn cynnig cyfle i ddysgwyr Blwyddyn 10 ac 11 astudio'n llawn amser mewn coleg o 14 oed, ar gyfer gyrfa yn y dyfodol. Mae’r prentisiaethau’n cynnig rhaglen 2 flynedd o addysg gysylltiedig â byd gwaith, sy’n cynnwys profiad gwaith, ochr yn ochr â chwrs Lefel 2 sy'n cyfateb i 4 neu 5 TGAU, mewn ystod o wahanol lwybrau galwedigaethol. Mae pob prentis hefyd yn astudio TGAU mewn Mathemateg a Saesneg ochr yn ochr â'u dewis faes. Mae nifer o godau rhaglen yn y cyfeiriadur i adlewyrchu gwahanol lwybrau prentisiaethau iau.

Dylai pob prentis iau gael mynediad at gymorth gyda dysgu ac addysgu, cymorth gyda rheoli ymddygiad, a swyddog llesiant dynodedig i ddarparu gofal bugeiliol a chymorth o ddydd i ddydd.

Nod y brentisiaeth iau yw gwneud y dysgwr yn gyflogadwy neu’n barod i symud ymlaen i gwrs galwedigaethol lefel uwch neu brentisiaeth yn 16 oed.

Ariennir y rhaglen prentisiaethau iau yn bennaf gan yr awdurdod lleol ac felly mae'n hanfodol bod y coleg a'r awdurdod lleol priodol yn dod i gytundeb cyn cytuno ar y ddarpariaeth hon.

Cyngor, cymorth a darpariaeth ar gael i bobl ifanc ôl-16 oed

Mae pobl ifanc yn symud ymlaen i amrywiaeth o gyrchfannau yn 16 oed. Bydd y rhan fwyaf o bobl ifanc yn aros yn yr ysgol neu'n dewis symud ymlaen i addysg bellach ac uwch. Mae’n bosibl y bydd canran fach yn ddewis opsiwn o fewn y sector addysg gymunedol i oedolion.

Bydd rhai pobl ifanc yn dewis dysgu seiliedig ar waith yn syth ar ôl ysgol. Bydd rhaglen newydd Twf Swyddi Cymru+ Llywodraeth Cymru a phrentisiaethau yn gynigion prif ffrwd allweddol a fydd ar gael. Fodd bynnag, mae ystod o gyfleoedd hyfforddi a dysgu pellach ar gael, fel y nodir yn y ddogfen hon.

Yn aml, mae angen cymorth ar bobl ifanc yn ystod y cyfnod pontio hwn, sy’n gallu bod yn straen iddynt, fel cyngor pellach ar eu dewisiadau yn y dyfodol a sut i oresgyn rhwystrau. Mae rhai pobl ifanc yn poeni am wneud y penderfyniad anghywir ac yn bryderus ynghylch pa ddewisiadau sydd ar gael iddynt os ydynt yn newid eu meddwl a'u nodau gyrfa. Yn ogystal, mae pobl ifanc, nad ydynt yn meddwl am aros ymlaen yn yr ysgol neu addysg bellach, wedi adrodd yn ôl eu bod yn aml yn teimlo nad oes ganddynt yr wybodaeth na’r cymorth i archwilio dewisiadau eraill fel prentisiaethau, dysgu seiliedig ar waith neu gyflogaeth a hunangyflogaeth.

Gwasanaethau cynghori i bobl ifanc

Pan fydd pobl ifanc yn cyrraedd 16 oed, maent yn gymwys i gael mynediad at wasanaeth Cymru'n Gweithio. Mae'r gwasanaeth hwn yn darparu cyngor, arweiniad a mynediad am ddim at hyfforddiant ledled Cymru.

Mae Cymru’n Gweithio hefyd yn borth i’r Warant i Bobl Ifanc, ac mae ganddo dudalen we Gwarant i Bobl Ifanc benodol. Bydd prosesau cynghori a chyfarwyddyd Cymru’n Gweithio yn asesu pobl ifanc i benderfynu ar eu dewis mwyaf addas ac yn eu helpu i wneud penderfyniad gwybodus, i symud i’r math o ddarpariaeth a all eu cefnogi orau.

Gall pobl ifanc gofrestru ar wefan Cymru’n Gweithio ar gyfer y Warant i Bobl Ifanc. Byddant yn cael cymorth gan gynghorydd, lle bydd eu hanghenion yn cael eu hasesu drwy asesiad cyfarwyddyd, gan arwain at atgyfeiriad at ddarpariaeth. Bydd Cymru'n Gweithio yn mesur ac yn adrodd ar nifer y cofrestriadau a nifer yr atgyfeiriadau.

Yn ogystal, bydd llawer o bobl ifanc yn cael mynediad at wasanaethau cynghori ychwanegol sydd ar gael drwy addysg bellach ac uwch, yn ogystal â gwasanaethau Canolfan Byd Gwaith Llywodraeth y DU.

Dysgu seiliedig ar waith a dewisiadau cyflogadwyedd a hyfforddiant eraill

Twf Swyddi Cymru+

Lansiwyd rhaglen Twf Swyddi Cymru+ ym mis Mawrth 2022, ac mae ar gael i bobl ifanc rhwng 16 ac 18 oed. Ei nod yw symud pobl ifanc ymlaen i gyflogaeth neu ddysgu pellach, a chynyddu hyder a chymhelliant cyfranogwyr trwy ymgymryd â phecyn hyfforddi pwrpasol a chymorth i ddatblygu. 

Mae gan y rhaglen 3 llinyn:

1. Ymgysylltu

Ar gyfer y rhai sydd angen cadarnhau neu roi ffocws galwedigaethol/addysgol yn ei gyd-destun cyn dechrau dysgu pellach neu waith.

2. Datblygu

I'r rhai sy'n gallu dilyn rhaglen astudio sy'n arwain at Gymhwyster Lefel 1, ond a aseswyd fel rhai nad ydynt yn gallu dilyn rhaglen Lefel 2 neu uwch ar hyn o bryd.

3. Cyflogaeth

I'r rhai sy'n canolbwyntio ar alwedigaeth ac yn barod am swydd.

Mae'n bwysig bod gan gydlynwyr ymgysylltiad a chynnydd, Gyrfa Cymru a darparwyr Twf Swyddi Cymru+ gysylltiadau gwaith partneriaeth cryf ar waith. Mae hyn yn sicrhau bod pobl ifanc a fyddai'n cael budd o gymryd rhan yn y rhaglen Twf Swyddi Cymru+ (o'r rhai sydd bellaf i ffwrdd o'r farchnad lafur i unigolion sy'n barod am swydd) yn cael eu hadnabod yn gyflym ac yn cael cynnig cymorth priodol. Bydd hyn yn galluogi proses atgyfeirio esmwyth drwy Gymru’n Gweithio.

Prentisiaethau

Mae Prentisiaethau yng Nghymru yn agored i unrhyw un sy’n 16 oed neu’n hŷn. Maent yn cyfuno hyfforddiant ymarferol mewn swydd ag astudio. Bydd unigolion yn cael profiad gwaith ymarferol, yn dysgu sgiliau newydd ac yn ennill cymhwyster a gydnabyddir yn genedlaethol. Maent hefyd yn cael y cyfle i ennill cyflog ar yr un pryd. Gall gymryd rhwng 1 a 4 blynedd i gwblhau prentisiaethau.

Mae prentisiaethau ar gael o lefelau 2 i 6 ac maent yn gyfwerth â’r cymwysterau canlynol:

  • Prentisiaeth Sylfaen Lefel 2 = Yn gyfwerth â 5 TGAU neu NVQ Lefel 2
  • Prentisiaeth Lefel 3 = Yn gyfwerth â 2 Safon Uwch neu NVQ Lefel 3
  • Prentisiaeth Uwch Lefel 4 neu 5 = Yn gyfwerth â HNC, HND neu radd Sylfaen
  • Prentisiaeth Gradd Lefel 6 = Yn gyfwerth â gradd Baglor (mae Gradd-brentisiaethau ar gael ar hyn o bryd mewn galwedigaethau TGCh, digidol, peirianneg a gweithgynhyrchu uwch)

Mae prentisiaethau ar gael trwy gyfrwng y Gymraeg ac yn ddwyieithog, gan alluogi unigolion i hyfforddi a dysgu yn eu dewis iaith.

Mae prentisiaethau ar gael i'r rhai sydd ag anabledd, cyflyrau iechyd neu anawsterau dysgu. Gellir gwneud bron pob prentisiaeth yn hygyrch, a bydd y cyflogwr yn gweithio gyda'r unigolyn i sicrhau ei fod yn cael cymorth pwrpasol i ddiwallu ei anghenion, er mwyn gweithio'n hyderus.

Gellir dod o hyd i ragor o gyngor a chyfarwyddyd, gan gynnwys gwybodaeth ar y gwasanaeth chwilio am brentisiaeth wag, Dod o hyd i Brentisiaeth, a’r gwasanaeth Rheoli Prentisiaethau, drwy fynd i Llyw.cymru/prentisiaethau.

Entrepreneuriaeth: Cyngor Busnes a’r Prosiect Syniadau Mawr (16 i 24)

Mae Syniadau Mawr Cymru yn rhan o wasanaeth Busnes Cymru i feithrin talent entrepreneuraidd ifanc, ac i gefnogi pobl ifanc rhwng 16 a 24 oed i ddatblygu galluoedd menter a dechrau eu busnes eu hunain. Mae cymorth, i gael mynediad at wybodaeth a chyngor busnes, i drafod prosesau a dewisiadau cyllid, ac i helpu i adeiladu gwybodaeth a rhwydweithiau i gynorthwyo i greu mentrau cynaliadwy, ar gael trwy addysg bellach ac uwch, i grwpiau cymunedol ac i unigolion. 

Astudiaeth achos: rhaglen entrepreneuriaeth yn Rhondda Cynon Taf

Mae Gwasanaeth Ymgysylltu a Chyfranogiad Ieuenctid (YEPS) Rhondda Cynon Taf yn cefnogi pobl ifanc rhwng 11 a 25 oed i wella eu gwytnwch i fynd i’r afael â heriau’r presennol a’r dyfodol, gan gefnogi eu lles a’u hymgysylltiad cadarnhaol â’r cymunedau maent yn byw ynddynt, yn ogystal â chyfrannu atynt.

Yn ystod pandemig COVID-19, sylwodd tîm YEPS pa mor greadigol oedd pobl ifanc, gyda rhai yn defnyddio’u hobïau, diddordebau a sgiliau newydd i gynnal eu hunain, eu teuluoedd a’u cymunedau, a chodi arian at elusennau. Ychydig iawn o bobl ifanc, fodd bynnag, oedd wedi rhagweld y byddai'r diddordeb hwn yn troi’n fusnes hyfyw. Dyma lle’r oedd YEPS yn gallu helpu trwy gyfle cyffrous i ddarparu’r rhaglen entrepreneuriaeth gyntaf dan arweiniad pobl ifanc, mewn partneriaeth â Chanolfan Arloesi Menter Cymru, o’r enw ‘Clwb 5 - 9’. Roedd hyn yn golygu y gallai YEPS helpu pobl i ddysgu sut i droi’r sgiliau, y diddordebau a’r syniadau newydd hynny yn fusnes.

Datblygwyd rhaglen i roi'r offer i bobl ifanc farchnata eu syniad, gan ddangos iddynt sut i ddod o hyd i gyllid a dysgu gan entrepreneuriaid eraill i ddatblygu eu busnes eu hunain. Ymgysylltodd y rhaglen â grŵp o 15 o bobl ifanc bob wythnos. Fe’i cynigiwyd trwy ddull dysgu cyfunol, a olygai ei bod yn bosibl darparu ar gyfer cyfranogwyr a oedd eisiau dysgu wyneb yn wyneb, yn ogystal â’r rhai a oedd am fynychu sesiynau ar-lein. Roedd cymuned o gefnogaeth trwy gydol y rhaglen a thu hwnt, gyda grŵp WhatsApp, grŵp Facebook a chefnogaeth gan Ganolfan Arloesi Menter Cymru.

Nod y rhaglen hon oedd rhoi'r sgiliau a'r hyder i bobl ifanc (16 i 25 oed) fel y gallent lansio busnes newydd. Mae’r tîm YEPS yn obeithiol y bydd y bobl ifanc, a hwythau nawr wedi cwblhau'r rhaglen, yn cael y cyfle gorau posibl i wneud eu busnesau newydd yn llwyddiant. O 4 Hydref 2021, roedd 6 busnes newydd wedi cael cymorth i ddechrau masnachu gyda chyfarwyddyd a chymorth ariannol cychwynnol gan YEPS.

Cymunedau am Waith

Ariennir y rhaglen Cymunedau am Waith ar y cyd gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF) a Llywodraeth Cymru, gan weithio mewn partneriaeth â’r Adran Gwaith a Phensiynau. Mae’n targedu pobl sy’n economaidd anweithgar ac yn ddi-waith yn yr hirdymor, gan ganolbwyntio ar 2 grŵp gwahanol:

  • y rhai hynny sy’n 25 oed ac yn hŷn
  • y rhai hynny sy’n 16 i 24 oed sy’n NEET 

Mae Cymunedau am Waith yn cael ei ddarparu mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol, y trydydd sector a'r Ganolfan Byd Gwaith. Mae 52 o dimau darparu gyda mentoriaid awdurdodau lleol a thrydydd sector, a Chynghorwyr Cyflogaeth Arbenigol yr Adran Gwaith a Phensiynau ledled Cymru yn cynnig cymorth un-i-un cyfannol i fynd i’r afael ag ystod o rwystrau cymhleth y mae cyfranogwyr yn eu hwynebu.

Cymunedau am Waith a Mwy

Ariennir Cymunedau am Waith a Mwy gan Lywodraeth Cymru, i gefnogi’r ddarpariaeth barhaus o Gymunedau am Waith ac i ymestyn y cymorth cyflogadwyedd sydd ar gael i bobl mewn tlodi neu sydd mewn perygl o dlodi, nad ydynt yn gymwys ar gyfer Cymunedau am Waith neu raglenni ESF rhanbarthol eraill. Cyflwynir y rhaglen drwy awdurdodau lleol a phartneriaid trydydd sector.

Rhieni, Gofal Plant a Chyflogaeth (PaCE)

Mae rhaglen Rhieni, Gofal Plant a Chyflogaeth (PaCE) yn cael ei hariannu ar y cyd gan yr ESF a Llywodraeth Cymru, gan weithio mewn partneriaeth â’r Adran Gwaith a Phensiynau.

Mae PaCE yn targedu ei wasanaethau at rieni rhwng 16 a 24 oed sy’n NEET ac yn oedolion economaidd anweithgar (25+), sy’n ystyried mai gofal plant yw’r prif rwystr sy’n eu hatal rhag manteisio ar gyfleoedd EET.

Mae Cymunedau am Waith a PaCE i fod i gau ddiwedd mis Mawrth 2023 pan ddaw cyllid yr UE i ben. Mae Llywodraeth Cymru wedi dechrau cynllunio beth fydd y cynnig cyflogadwyedd cymunedol yn y dyfodol.

Y Gwasanaeth Di-waith

Mae'r Gwasanaeth Di-waith yn cefnogi pobl rhwng 16 a 24 oed sy'n NEET ac sy'n gwella o salwch meddwl a/neu gamddefnyddio sylweddau. Mae’n rhaglen arbenigol sy’n darparu ar gyfer y rheini na allant, neu na fyddant, yn ymgysylltu â gwasanaethau prif ffrwd, neu’r rhai nad yw gwasanaethau prif ffrwd yn addas ar eu cyfer. Darperir cymorth cyfrinachol am ddim gan fentoriaid cymheiriaid sydd â phrofiadau personol o salwch meddwl a/neu gamddefnyddio sylweddau.

Rhwng mis Tachwedd 2016 a mis Ebrill 2022, cefnogwyd dros 4300 o blant a phobl ifanc gan y Gwasanaeth Di-waith.

Mae Llywodraeth Cymru yn ymestyn cymorth cyllid EET tan 2025 ar gyfer pobl ifanc sy’n NEET ac sy’n gwella o salwch meddwl a/neu gamddefnyddio sylweddau.

ReAct+

Mae ReAct+ (ar gyfer unigolion 18 oed a throsodd) yn rhaglen grant cyflogadwyedd oedolion newydd, a lansiwyd ym mis Mehefin 2022. Mae'n dilyn ac yn disodli rhaglen ReAct, sy'n helpu pobl sydd wedi'u heffeithio gan ddiswyddiad neu ddiweithdra i ennill sgiliau newydd. Mae hefyd yn annog cyflogwyr sy'n recriwtio i gyflogi'r rhai sy'n ddi-waith neu sydd wedi cael eu diswyddo o gyflogaeth.

Mae'r rhaglen yn darparu cymorth unigol i'r rhai sy'n ceisio ymuno â'r farchnad lafur drwy ddileu rhwystrau rhag cyflogaeth ar sail unigol. Prif nod y rhaglen yw galluogi dilyniant i gyflogaeth barhaus.

Mae ReAct+ yn cynnig cymorth i’r carfannau canlynol:

  • unigolion 18 oed a throsodd, sydd o fewn 12 mis o gael eu diswyddo, ac sydd â rhwystrau rhag cyflogaeth
  • unigolion sy'n 18 oed ac yn hŷn, sydd o dan rybudd ffurfiol o gael eu diswyddo, neu sydd o fewn 12 mis o gael eu diswyddo, ac sydd â rhwystrau rhag cyflogaeth
  • cyn-droseddwyr a throseddwyr sy'n cyflawni eu dedfryd yn y gymuned
  • unigolion 18 i 24 oed sy'n NEET

Oherwydd y dirwedd gyflogadwyedd sy'n newid yn gyflym, mae nifer o gynlluniau peilot yn cael eu hyrwyddo i ddatblygu a siapio'r rhaglen hon i ddiwallu anghenion cyfnewidiol ceiswyr gwaith. Yn y dyfodol, efallai y bydd cymorth ychwanegol ar gael i’r grŵp oedran 18 i 24, a bydd yn bwysig sicrhau bod unrhyw newidiadau i’r cymorth sydd ar gael yn hysbys i bawb.

Cyfrifon Dysgu Personol

Mae’r Rhaglen Cyfrifon Dysgu Personol (CDP) yn darparu cymorth ledled Cymru i bobl gyflogedig 19 oed a throsodd ac sy’n ennill o dan yr incwm canolrifol, i gael sgiliau lefel uwch a fydd yn gwella eu rhagolygon ennill cyflog a gyrfa.

Yn benodol, mae’n galluogi pobl ar gyflogau is na'r cyfartaledd i gael enillion uwch ar sail gynaliadwy. Mae’n unigryw o ran cynnig hyblygrwydd ynghylch sut a phryd y mae pobl yn dysgu, trwy helpu colegau i gyflwyno cyrsiau sy’n cyd-fynd ag ymrwymiadau gwaith a theuluol unigolyn.

Mae’r rhaglen hefyd yn ymateb i ofynion uwchsgilio cyflogwyr, trwy flaenoriaethu sgiliau a chymwysterau i baratoi ar gyfer y dyfodol, i helpu cyflogwyr i ailadeiladu eu busnesau, ac yn ei dro, i gefnogi’r economi.

Ar y cyd â’r Partneriaethau Sgiliau Rhanbarthol, a gyda chyngor allweddol ganddynt, mae’r gwaith cyflawni wedi’i dargedu at y sectorau blaenoriaeth canlynol:

  • logisteg (yn enwedig gyrru Cerbydau Nwyddau Trwm a Cherbydau Nwyddau Mawr), gan gynnwys ffioedd trwydded yrru a phrofion
  • gwaith adeiladu gwyrdd a sero net (gan gynnwys ôl-osod, ynni gwynt, llanw a solar)
  • deunyddiau a gweithgynhyrchu uwch (gan gynnwys peirianwyr technegol)
  • lletygarwch (gan gynnwys cogyddion, cynorthwywyr arlwyo, staff gweini a blaen tŷ)
  • digidol
  • ail-ymgysylltu ag iechyd a gofal cymdeithasol

Mae gwybodaeth lawn am gymhwysedd a sut i wneud cais am CDP ar gael ar wefannau Gyrfa Cymru a Cymru'n Gweithio.

Yr Adran Gwaith a Phensiynau

Mae’r Adran Gwaith a Phensiynau’n darparu ystod o gymorth a chyfleoedd i bobl ifanc sy’n hawlio Credyd Cynhwysol a budd-daliadau eraill, i’w cefnogi i symud ymlaen i waith. Ar adeg cyhoeddi mae’r rhain yn cynnwys:

  • y cynllun Cymorth wedi'i Dargedu at gael Swydd (JETS), sy'n cynnig cynllun hyfforddi 6 mis i'r rhai sydd wedi bod yn ddi-waith ers dros 13 wythnos
  • y rhaglen Waith ac Iechyd, sy'n cynnig hyfforddiant a chymorth ac sydd ar gael i'r rhai sydd wedi bod yn ddi-waith am fwy na 12 mis
  • y Cynllun Restart sy'n cynnig 12 mis o gymorth dwys i'r rhai sydd wedi bod yn ddi-waith am fwy na 9 mis, gyda pheth cyfle ar gyfer mynediad cynnar
  • Cymorth Cyflogaeth Personol Dwys (IPES), sy'n rhaglen wirfoddol wedi'i hanelu at hawlwyr ag anableddau sydd hefyd ag anghenion cymhleth
  • Lwfans Menter Newydd, sy'n darparu mentora a lwfans i helpu'r rhai sydd â syniad i ddechrau eu busnes eu hunain
  • Mynediad at waith, sy'n helpu'r rhai sydd ag anableddau neu gyflwr iechyd corfforol neu feddyliol i gael gwaith, ac aros mewn gwaith

Atebolrwydd

Mae'r holl bartneriaid yn rhannu'r cyfrifoldeb am weithredu'r Fframwaith (gweler Rolau a Chyfrifoldebau). Fodd bynnag, amlygodd yr ymgynghoriad ar y Fframwaith ddiffyg atebolrwydd ar y cyd ar draws yr holl bartneriaid sy'n gweithio o fewn y Fframwaith.

Awdurdodau lleol sydd yn y sefyllfa orau i ddarparu'r arweinyddiaeth strategol a gweithredol ar gyfer gweithredu'r Fframwaith. Mae gan Lywodraeth Cymru ddiddordeb allweddol hefyd o ran cysoni â’r Warant i Bobl Ifanc a blaenoriaethau eraill y llywodraeth, fel y nodir yn y ‘Fframwaith Ymgysylltiad a Chynnydd Ieuenctid: Trosolwg’. Mae gan bartneriaethau lleol (gan gynnwys darparwyr) rôl hollbwysig i'w chwarae wrth gyflwyno darpariaeth i gefnogi'r Fframwaith. Mae hyn yn golygu bod angen i awdurdodau lleol a’u partneriaid gael sgyrsiau rheolaidd, gonest am yr hyn sy’n gweithio, a phryd y mae angen dull gwahanol.

Llywodraethu

Strwythur llywodraethu

Dylai uwch arweinwyr awdurdodau lleol oruchwylio’r gwaith o gyflwyno’r Fframwaith, yn ddelfrydol gydag uwch arweinydd yn gweithredu fel hyrwyddwr ar gyfer y Fframwaith. Mae hyn yn golygu bod angen i strwythur llywodraethu priodol fod yn ei le, gyda'r cydlynwyr ymgysylltiad a chynnydd yn rhoi diweddariadau rheolaidd i uwch arweinwyr ar berfformiad yn erbyn y Fframwaith. Lle mae’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus, a sefydlwyd o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, wedi nodi camau gweithredu i gefnogi pobl ifanc mewn ardal, mae cyfle i ymgyfuno’r Fframwaith â’i gynllun llesiant lleol. Mae’r awdurdod lleol yn aelod statudol o’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus.

Dylid rhoi diweddariadau hefyd i’r grwpiau amlasiantaeth sy’n ymwneud â chyflwyno’r Fframwaith, fel y gallant ysgogi gwelliant parhaus drwy ddeall pa ddulliau sydd wedi gweithio a lle mae gwersi i’w dysgu.

I’r rhai 11 i 16 oed, dylai diweddariadau gynnwys:

  • nifer y bobl ifanc y nodwyd eu bod mewn perygl o ddod yn NEET
  • nifer y bobl ifanc y nodwyd eu bod mewn perygl o ddod yn NEET a gefnogir gan y Fframwaith
  • nifer y bobl ifanc y nodwyd eu bod mewn perygl o ddod yn ddigartref
  • nifer y bobl ifanc y nodwyd eu bod mewn perygl o ddod yn ddigartref a gefnogir gan y Fframwaith
  • nifer y bobl ifanc y nodwyd eu bod mewn perygl o ddod yn ddigartref, y nodwyd hefyd eu bod mewn perygl o ddod yn NEET

I’r rhai 16 i 18 oed, dylai diweddariadau gynnwys:

  • nifer y bobl ifanc 16 i 18 oed y mae eu cyrchfan yn ‘anhysbys’, ac a oes unrhyw bryderon diogelu
  • nifer y bobl ifanc 16 i 18 oed sy'n NEET
  • y rhesymau sy'n sail i'r ffigurau NEET, a thueddiadau
  • pa mor hir mae unigolion wedi aros o fewn haen a’r cynnydd maent wedi’i wneud (gall fod yn briodol i rai pobl ifanc aros o fewn haen am fwy na nifer diffiniedig o ddiwrnodau, cyn belled â’u bod yn dal i wneud cynnydd)
  • gwybodaeth gefndir am y rhesymau pam nad yw rhai unigolion wedi symud rhwng haenau
  • y straeon llwyddiant a'r gwersi i'w dysgu a'u rhannu

Drwy roi’r holl wybodaeth ddiweddaraf i uwch arweinwyr ac uwchgyfeirio unrhyw faterion y tu allan i faes dylanwad y cydlynwyr ymgysylltiad a chynnydd , gall uwch arweinwyr weithredu eu dylanwad eu hunain pan fydd rhwystrau yng ngweithrediad y Fframwaith.

Astudiaeth achos: Uwch arweinwyr ym Mro Morgannwg yn cefnogi eu staff i leihau nifer y bobl ifanc sy’n NEET

Yn ystod blwyddyn ariannol 2018 i 19, dechreuodd Bro Morgannwg (‘y Fro’) weld cynnydd graddol yn ei ffigurau NEET drwy gydol y flwyddyn. Roedd y ganran NEET wedi cynyddu o 0.5% yn 2018 i 1.4% yn 2019.

Mae data NEET chwarterol yn cael eu harchwilio gan Fwrdd Strategol Fframwaith Ymgysylltiad a Chynnydd Ieuenctid y Fro, sy’n cymharu tueddiadau a chyfeiriad y daith. Uwchgyfeiriwyd y cynnydd yn nifer y bobl ifanc sy’n NEET at Bennaeth Safonau a Darpariaeth yr awdurdod lleol. Amlygodd yr EPC y gallai'r cynnydd yn nifer y bobl ifanc sy'n NEET gael ei liniaru gan well cyfathrebu rhwng sefydliadau partner.

Ymyrrodd y Pennaeth Safonau a Darpariaeth i wella ac agor sianeli cyfathrebu ar wahanol lefelau. Drwy weithio gyda Phennaeth Gwasanaeth Gyrfa Cymru, fe helpodd hynny i flaenoriaethu’r agenda NEET yn y Fro.

Datblygodd EPC y Fro gynllun gweithredu y cytunwyd arno gan bartneriaid, a’i lunio’n derfynol ganddynt, a threfnodd gyfarfodydd rheolaidd rhwng rheolwyr yn y gwasanaeth ieuenctid, yr EPC a Gyrfa Cymru. Trefnwyd cyfarfodydd wythnosol hefyd rhwng yr EPC a rheolwr Cymru'n Gweithio i fonitro nifer y bobl ifanc a neilltuwyd i Haen 3 yn y model 5 haen. Prif ffocws y cyfarfod oedd sicrhau bod pobl ifanc yn symud i Haen 3, o Haenau 1 neu 2, ac yn cael adborth ar gynnydd y rhai yn Haen 3 sy'n aros am gynigion neu ddyddiadau dechrau. Gan fod lleihau nifer y bobl ifanc a oedd yn NEET yn cael ei gydnabod yn flaenoriaeth uchel, roedd gwasanaeth ieuenctid y Fro yn gallu blaenoriaethu adnoddau i gynyddu pa mor aml yr ymwelwyd â chartrefi pobl ifanc â statws ‘anhysbys’.

Roedd rhestr yr awdurdod lleol o bobl ifanc yn Haen 1 yn cael ei rhannu’n rheolaidd â phartneriaid a Gyrfa Cymru. Roedd y rhestr yn cael ei diweddaru'n aml wrth i wybodaeth newydd ddod i'r amlwg. Roedd hyn yn golygu bod yr holl bartneriaid yn deall pa gynnydd a oedd yn cael ei wneud o ran lleoli pobl ifanc yn Haen 1.

Roedd y gefnogaeth gan benaethiaid gwasanaethau yn yr awdurdod lleol a Gyrfa Cymru yn fodd i ddatblygu strwythur llywodraethu a oedd yn cynorthwyo cydweithio agos a chyfathrebu gwell. Helpodd hyn i leihau canran y bobl ifanc a oedd yn NEET ar gyfer y flwyddyn ariannol ganlynol (2020 i 2021) o 1.4% i 0.9%.

Gwella atebolrwydd

Ar lefel genedlaethol, rydym yn cynnig y bydd swyddogion Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda chydlynwyr ymgysylltiad a chynnydd a chydgysylltwyr digartrefedd ymhlith pobl ifanc, i ddatblygu adroddiad blynyddol i Weinidogion Cymru ar gyfraniad y Fframwaith at leihau nifer y bobl ifanc sy’n NEET, a’r nifer sydd mewn perygl o ddigartrefedd ymhlith pobl ifanc a gefnogwyd. Bydd yr adroddiad hwn yn tynnu sylw at arferion effeithiol a heriau presennol, er mwyn rhoi diweddariad cyffredinol i Weinidogion ar gyfraniad y Fframwaith.

Mae ysgolion yn bartneriaid pwysig wrth gyflwyno’r Fframwaith, yn enwedig ar gyfer adnabod pobl ifanc sydd angen cymorth ychwanegol. Fodd bynnag, gall fod tensiynau, fel y nodwyd yn adroddiad Estyn, ‘Arferion cofrestru disgyblion’ (2019). Yn yr adroddiad nodwyd, ‘o ganlyniad i argaeledd cynyddol data cymharol, dechreuodd arweinwyr ysgol weld bod data yn elfen allweddol o atebolrwydd ‘lle mae llawer yn y fantol’’, yn enwedig teimlo pwysau i gael canlyniadau da ar ddiwedd Cyfnod Allweddol 4. Mae i hyn ganlyniadau anfwriadol, fel y nodir yn yr adroddiad. Mae tystiolaeth y gallai ysgolion fod yn tynnu enwau plant oddi ar y gofrestr neu ddefnyddio arferion cofrestru amhriodol eraill i wella eu data perfformiad. Nid yw hyn er lles gorau dysgwyr agored i niwed. Mae ‘Arferion cofrestru disgyblion’ yn cynnwys argymhellion i ysgolion a chyrff llywodraethu, awdurdodau lleol a Llywodraeth Cymru, er mwyn mynd i’r afael â’r arferion hyn.

Disgwylir i awdurdodau lleol, ysgolion, cyrff llywodraethu a darparwyr ôl-16 ystyried eu data NEET fel rhan o’u prosesau myfyrio a hunanwerthuso parhaus, ac mewn perthynas â’r nod cyffredinol o baratoi pobl ifanc ar gyfer cyfleoedd, cyfrifoldebau a phrofiadau bywyd fel oedolion.

Yn ogystal, disgwylir i awdurdodau lleol, ysgolion a darparwyr ôl-16 ddarparu data NEET cyfredol i arolygwyr Estyn yn ystod arolygiad.

Monitro perfformiad: pa wybodaeth sydd ar gael?

Mae hynt disgyblion, sy’n seiliedig ar arolwg blynyddol o ymadawyr ysgol, yn rhoi gwybod am hynt dysgwyr ledled Cymru sydd wedi cyrraedd oedran gadael statudol (Blwyddyn 11, a myfyrwyr sy’n gadael yr ysgol ym Mlynyddoedd 12 a 13). (Mae hyn yn berthnasol i ddysgwyr o bob ysgol a gynhelir ac ysgol anghenion arbennig.) Mae hefyd yn dangos nifer yr ymadawyr ysgol â statws ‘anhysbys’ (a nodir fel ‘Dim ymateb’). Mae’r wybodaeth am hynt dysgwyr yn seiliedig ar giplun o weithgarwch hysbys dysgwyr yn yr hydref ar ôl iddynt adael yr ysgol (fel arfer 31 Hydref), a chyhoeddir yr wybodaeth ar wefan Gyrfa Cymru.

Mae data am hynt disgyblion ar gael ar lefel genedlaethol ac awdurdod lleol. Mae ysgolion yn cael data am hynt disgyblion cyn iddynt gael eu rhyddhau, felly maent yn ymwybodol o nifer yr ymadawyr sy'n NEET.

O fewn awdurdodau lleol, defnyddir canfyddiadau Hynt disgyblion i adolygu perfformiad, yn enwedig o ran a yw nifer y bobl ifanc sy’n NEET wedi cynyddu neu ostwng o gymharu â blynyddoedd blaenorol. Dylai’r wybodaeth hon ategu gwaith adrodd a chraffu mewnol yr awdurdodau lleol.

Mae gwybodaeth yn cael ei bwydo i Atlas ac yna mae hyb data Gyrfa Cymru yn rhoi gwybodaeth fyw i gydlynwyr ymgysylltiad a chynnydd am bobl ifanc yn y model 5 haen. (Mae'r llif gwybodaeth i Atlas ac allbynnau'r hyb data wedi'u nodi yn Monitro Cynnydd.) Mae cydlynwyr ymgysylltiad a chynnydd yn gallu cyrchu gwybodaeth am y 5 haen ar yr hyb data, i lywio eu gweithdrefnau adrodd a chraffu mewnol. Gall cydlynwyr ymgysylltiad a chynnydd hefyd ddefnyddio'r hyb data i gael mynediad at wybodaeth fanylach am bobl ifanc yn Haenau 1 a 2, gan fod cydlynwyr ymgysylltiad a chynnydd yn ymwneud yn fwy uniongyrchol â rheoli cymorth i'r bobl ifanc hynny. Po fwyaf aml mae cydlynwyr ymgysylltiad a chynnydd yn gwirio'r wybodaeth ar yr hyb data ac yn ei chysoni â'u cofnodion eu hunain, y mwyaf cywir yw'r wybodaeth sydd ganddynt am bobl ifanc.

Mae'r rhan fwyaf o bartneriaid sy'n gweithio o fewn y Fframwaith yn gweithredu’n unol â dangosyddion perfformiad allweddol. Nododd yr ymgynghoriad ar y Fframwaith dystiolaeth o wahanol sefydliadau a rhaglenni yn gweithio tuag at wahanol dangosyddion perfformiad allweddol ac amcanion. Mae tystiolaeth anecdotaidd hefyd o’r model 5 haen yn cael ei defnyddio fel sail ar gyfer dangosyddion perfformiad allweddol, sy’n creu rhai tensiynau, gan nad dyma ddiben y model 5 haen. Er enghraifft, gall unigolyn ifanc yn Haen 2, sy'n profi rhwystrau sylweddol, wneud cynnydd, ond ni fydd hyn bob amser yn cael ei adlewyrchu mewn dangosyddion perfformiad allweddol sy'n seiliedig ar p’un a yw unigolion wedi symud ymlaen i haen arall yn unig.

Wrth osod eu dangosyddion perfformiad allweddol, dylai sefydliadau gydnabod anghenion yr unigolyn ifanc sydd wrth galon y gweithgaredd. Dylai sefydliadau archwilio sut y gallant fod yn berchen ar ddangosyddion perfformiad allweddol ar y cyd, ac adlewyrchu orau’r targedau a'r uchelgeisiau a amlinellir yn y cerrig milltir cenedlaethol perthnasol. Yn hytrach nag edrych ar gyrchfannau pobl ifanc yn syth, gellid llunio dangosyddion perfformiad allweddol ar sail deilliannau tymor hirach (er enghraifft, faint o bobl ifanc a gynorthwywyd o dan y Fframwaith sy’n dal mewn EET ar ôl blwyddyn), yn hytrach nag edrych ar gyrchfannau yn syth ar ôl gadael ysgol.

Ym mhob achos, mae'n hollbwysig bod anghenion yr unigolyn ifanc yn cael blaenoriaeth o flaen targedau rhaglen neu ddangosyddion perfformiad allweddol sefydliadol unigol.

Mae Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi amcangyfrifon o gyfranogiad pobl ifanc mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant bob blwyddyn, ac mae'r rhain yn rhoi gwybodaeth am weithgareddau dysgu a statws marchnad lafur pobl ifanc 16 i 24 oed yng Nghymru ar ddiwedd y flwyddyn galendr. Mae'r cyhoeddiad hwn hefyd yn darparu'r prif amcangyfrifon ar gyfer pobl ifanc sy’n NEET yng Nghymru (y gyfres Datganiad Ystadegol Cyntaf (SFR)). Cyhoeddir amcangyfrifon ar gyfer pobl ifanc 16 i 18 oed yn ogystal ag ar gyfer unigolion 19 i 24 oed. Dim ond yn ôl rhyw y gellir dadgyfuno'r amcangyfrifon hyn oherwydd cyfyngiadau yn y ffynonellau data sylfaenol amrywiol a ddefnyddiwyd i'w cyfrifo. Am y rhesymau hynny, mae Llywodraeth Cymru hefyd yn cyhoeddi ail fesur, y gyfres ‘Pobl ifanc heb fod mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant (NEET)’.

Mae’r gyfres ‘Pobl ifanc heb fod mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant (NEET)’ yn amcangyfrifon sy’n seiliedig ar arolygon, sy’n fwy amserol ond yn llai ystadegol gadarn, ac yn cael eu cyhoeddi bob chwarter gan Lywodraeth Cymru. Gellir eu dadgyfuno i ddangos cyfraddau NEET yn ôl blwyddyn unigol o ran oedran, rhywedd, rhanbarth a statws anabledd.

Mae data ar gael ar gyfer cyfraddau cyflogaeth, cyfraddau diweithdra a chyfraddau gweithgarwch economaidd (ac eithrio myfyrwyr) ar lefel genedlaethol a lleol.

Mae awdurdodau lleol yn darparu gwybodaeth ansoddol i Lywodraeth Cymru am weithrediad y Fframwaith drwy adroddiadau chwemisol a gyflwynir mewn perthynas â’r Grant Cymorth Ieuenctid.

Neges atebolrwydd allweddol

I grynhoi, mae datblygu llinyn atebolrwydd y Fframwaith yn golygu bod angen i’r holl bartneriaid sy’n ymwneud â’i gyflawni fod yn rhan o broses adolygu a myfyrio barhaus, er mwyn datblygu dealltwriaeth ddyfnach o ba mor dda mae’r Fframwaith yn gweithio yn eu hardal, ei lwyddiannau, ac ymhle y gellir gwneud gwelliannau. Dylai'r broses hon gael ei chefnogi gan uwch arweinwyr. Bydd y dull hwn yn helpu i ysgogi gwelliannau mewn cyfraddau NEET a gostyngiad mewn digartrefedd ymhlith pobl ifanc.

Rolau a chyfrifoldebau

Mae’r adran hon yn rhoi crynodeb o’r rolau a’r cyfrifoldebau allweddol ar gyfer gweithredu’r Fframwaith, a nodwyd gennym drwy’r ddogfen hon.

Llywodraeth Cymru

  • Gosod safonau a disgwyliadau craidd.
  • Cysylltu'r Fframwaith â pholisïau a rhaglenni cenedlaethol.
  • Dod â swyddogion polisi ynghyd i gydweithio ar yr agenda hon, drwy Dasglu'r Fframwaith Ymgysylltiad a Chynnydd Ieuenctid.
  • Darparu arweiniad i gryfhau gweithrediad y Fframwaith.
  • Hwyluso arferion gorau ar draws awdurdodau lleol.
  • Hwyluso’r gwaith o rannu arferion effeithiol.
  • Diweddaru’r cydlynwyr ymgysylltiad a chynnydd ar ddarpariaeth Llywodraeth Cymru sy'n cael ei chyflwyno.
  • Dwyn awdurdodau lleol a darparwyr i gyfrif.
  • Arwain ar y Warant i Bobl Ifanc i gefnogi pobl ifanc ledled Cymru.
  • Monitro lefelau NEET er mwyn pennu cynnydd yn erbyn y garreg filltir genedlaethol a’r Warant i Bobl Ifanc.
  • Bwrw ymlaen â chamau gweithredu a nodir yn y ddogfen ganllaw ‘Y Fframwaith Ymgysylltiad a Chynnydd Ieuenctid: Trosolwg’.

Awdurdodau lleol

  • Bod â throsolwg strategol o weithrediad y Fframwaith mewn perthynas â phobl ifanc hyd at 18 oed yn ardal yr awdurdod lleol.
  • Gweithio'n agos gyda phartneriaid cyflawni.
  • Darparu rôl EPC.
  • Darparu rôl Cydgysylltydd Digartrefedd ymhlith Pobl Ifanc.
  • Darparu rôl gweithiwr arweiniol ar gyfer pobl ifanc Haenau 1 a 2, a monitro'r rhai sy'n gwrthod cymorth ar unwaith.
  • Darparu a hyrwyddo darpariaeth addas i gynnal diddordeb pobl ifanc neu i leihau’r perygl ohonynt yn dod yn ddigartref.
  • Rhan o bartneriaeth hunanwerthuso, yn edrych ar ba mor dda mae systemau adnabod a chefnogi yn gweithio.

Gyrfa Cymru

  • Cofnodi gwybodaeth ar Atlas, eu system rheoli cysylltiadau cwsmeriaid.
  • Sicrhau bod gwybodaeth ar gael i awdurdodau lleol drwy hyb data Gyrfa Cymru, am bobl ifanc 16 i 18 oed yn Haenau 1 a 2.
  • Darparu swyddogaeth gweithiwr arweiniol ar gyfer pobl ifanc Haen 3. Rhan o bartneriaeth hunanwerthuso, yn edrych ar ba mor dda mae systemau adnabod a chefnogi yn gweithio.

Cymru’n Gweithio

  • Adnabod pobl ifanc 16 i 18 oed sy'n defnyddio’r Warant i Bobl Ifanc sydd â rhwystrau sylweddol, a'u cyfeirio at yr EPC a/neu gymorth Haen 2 priodol.

Darparwyr

Mae darparwyr yn cynnwys ysgolion, colegau addysg bellach, darparwyr dysgu seiliedig ar waith, Rhaglenni Cyflogadwyedd Cymunedol, darparwyr dan gontract sy'n cyflwyno’r rhaglen Twf Swyddi Cymru+, y sector gwirfoddol, gan gynnwys sefydliadau gwaith ieuenctid gwirfoddol. Mae eu rolau a’u cyfrifoldebau yn cynnwys:

  • helpu i adnabod pobl ifanc sydd mewn perygl o ymddieithrio, neu mewn perygl o fod yn ddigartref, neu sydd angen cymorth ar gyfer eu hiechyd meddwl a’u lles emosiynol
  • cefnogi cyflawniad gweithredol o’r Fframwaith, gan gynnwys:
    • darparu gweithwyr arweiniol ar gyfer pobl ifanc Haen 2 a 4 a/neu gymorth bugeiliol fel y bo'n briodol
    • rhoi darpariaeth addas i sicrhau bod pobl ifanc yn parhau i ymgysylltu neu i leihau eu perygl o ddod yn ddigartref
    • rhoi gwybod yn brydlon i Gyrfa Cymru am ddechreuwyr ac ymadawyr
  • gwella nifer y bobl ifanc sydd â chyrchfannau cadarnhaol yn 16, 17 a 18 oed, gan gynnwys eu cefnogi i baratoi ar gyfer cyfnod pontio llwyddiannus
  • monitro cyrchfan EET eu hymadawyr, i ysgogi gwelliant parhaus
  • bod yn rhan o'r bartneriaeth hunanwerthuso, yn edrych ar ba mor dda mae systemau adnabod a chefnogi yn gweithio

Atodiad A: Cyfeirio at gymorth iechyd meddwl a lles

Mae cysylltiad rhwng iechyd meddwl a lles pobl ifanc, eu hymgysylltiad ag EET a’u perygl o ddod yn ddigartref. Amlygodd yr ymgynghoriad ar y Fframwaith gyda phobl ifanc bwysigrwydd cysylltiadau cadarnhaol gydag athrawon unigol a staff cymorth. Roedd unigolion a siaradodd yn gadarnhaol am y cymorth a gawsant i helpu i barhau i ymgysylltu â’u haddysg yn teimlo bod y cymorth hwn yn gyfrannwr hanfodol at eu llwyddiannau mewn addysg a’u cynnydd yn y tymor hirachy.

Nododd yr ymgynghoriad ar y Fframwaith bryderon ynghylch bwlch mewn darpariaeth sy’n cefnogi pobl ifanc â mân anawsterau iechyd meddwl ac anawsterau iechyd meddwl cymedrol, i ymgysylltu ag addysg a hyfforddiant. Mae effaith y pandemig ar iechyd meddwl plant a phobl ifanc yn dra hysbys. Mae amrywiaeth o gymorth ar gael i hybu iechyd meddwl a llesiant emosiynol pobl ifanc, a gellir cyfeirio pobl ifanc at hyn.

Framework on embedding a whole school approach to emotional and mental well-being

I bobl ifanc yn yr ysgol, mae’r Fframwaith ar sefydlu dull ysgol gyfan ar gyfer llesiant emosiynol a meddyliol yn anelu at fynd i’r afael ag anghenion lles emosiynol a meddyliol pob plentyn ac unigolyn ifanc, yn ogystal â staff ysgol, fel rhan o gymuned yr ysgol gyfan. Mae’n cydnabod na all yr ysgol yn unig ddiwallu holl anghenion yr hyn sy’n boblogaeth gymhleth o bobl ifanc, y bydd eu hanghenion yn amrywio wrth iddynt symud ymlaen o fabandod i flaenlencyndod ac yna i fod yn oedolion ifanc. Yn bennaf mae'n ymwneud ag adeiladu gwytnwch a sicrhau camau ataliol. Fodd bynnag, mae hefyd yn rhoi arweiniad ar sut i adnabod yr arwyddion a mynd i’r afael â lles gwael pan fydd yn codi ac i sicrhau cymorth effeithiol i ysgolion a’r dysgwr, pan fydd dysgwr yn profi trallod mwy difrifol. Dylai’r Fframwaith ar sefydlu dull ysgol gyfan ar gyfer llesiant emosiynol a meddyliol gefnogi ac ategu’r Cwricwlwm i Gymru, , yn arbennig y Maes Dysgu a Phrofiad Iechyd a Lles.

Cwricwlwm i Gymru

Wrth wraidd fframwaith y Cwricwlwm i Gymru ceir pedwar diben sy'n ganolog i bob penderfyniad a wneir am y Cwricwlwm i Gymru. Un o’r pedwar diben yw cefnogi plant a phobl ifanc i ddod yn ‘unigolion iach a hyderus’.

Ceir cyflwyniad pellach i’r Cwricwlwm i Gymru yng nghanllawiau y Cwricwlwm i Gymru.

Mae’r Cwricwlwm i Gymru yn cynnwys Maes Dysgu a Phrofiad Iechyd a Lles  sy’n gwella ffocws cwricwlwm ar iechyd a lles dysgwyr. Am y tro cyntaf, mae gan iechyd a lles statws cyfartal yn y gyfraith â meysydd pwysig eraill y cwricwlwm ysgol. Mae hon yn rhan arloesol o’r Cwricwlwm i Gymru, a’i nod yw sicrhau bod dysgu a chymorth gyda materion fel iechyd corfforol, meddyliol ac emosiynol yn cael eu darparu i holl bobl ifanc Cymru.

Gwasanaethau cwnsela annibynnol

Mae’n ofynnol i awdurdodau lleol yng Nghymru roi darpariaeth resymol o wasanaethau cwnsela annibynnol i blant a phobl ifanc rhwng 11 ac 18 oed ar safle pob ysgol uwchradd a gynhelir ganddynt, ac ar gyfer dysgwyr ym Mlwyddyn 6 yr ysgol gynradd. Gall awdurdod lleol hefyd gynnig gwasanaethau cwnsela mewn lleoliadau eraill, er enghraifft mewn ysgolion annibynnol, colegau addysg bellach neu gyfleusterau cymunedol eraill.

Mewngymorth Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a'r Glasoed (CAMHS)

Sefydlwyd Rhaglen Beilot mewngymorth CAMHS i adeiladu capasiti (gan gynnwys sgiliau, gwybodaeth a hyder) mewn ysgolion i gefnogi iechyd meddwl a lles dysgwyr, a gwella mynediad ysgolion at gyswllt arbenigol, ymgynghoriaeth a chyngor pan fo angen. Mae'r gwerthusiad yn adrodd ar weithrediad y Peilot, gan gynnwys yr hyn a weithiodd yn dda a sut roedd yn cyd-fynd â mentrau eraill. Mae’r Rhaglen lywodraethu: diweddariad, yn cynnwys ymrwymiad i gyflwyno ‘mewngymorth CAMHS’ mewn ysgolion ledled Cymru.

Dulliau gwaith ieuenctid

Mae cyllid grant wedi bod ar gael i awdurdodau lleol ers blwyddyn ariannol 2019 i 2020, fel rhan o’r Grant Cymorth Ieuenctid, i gefnogi iechyd meddwl a lles emosiynol pobl ifanc drwy ddulliau gwaith ieuenctid. Mae gweithwyr ieuenctid, yn staff gwirfoddol a phroffesiynol cyflogedig fel ei gilydd, yn fedrus wrth weithio gyda phobl ifanc a datblygu cydberthnasau ymddiriedus â nhw. Maent yn aml mewn sefyllfa dda i adnabod a allai fod angen cymorth ychwanegol ar unigolyn ifanc, a phryd y gallai fod angen darparu’r cymorth hwnnw gan wasanaethau mwy arbenigol. Mae gan weithwyr ieuenctid sydd wedi'u lleoli yn yr awdurdod lleol gysylltiadau â chydlynwyr ymgysylltiad a chynnydd, a gallant roi gwybod iddynt pan fydd unigolion yn ei chael hi'n anodd.

Mae gwaith ieuenctid yn cefnogi pobl ifanc i ddatblygu'n gyfannol, gan hwyluso eu datblygiad cymdeithasol ac emosiynol, a’u galluogi i ddatblygu eu llais, eu dylanwad a'u lle mewn cymdeithas. Gall ddigwydd mewn ystod eang o leoliadau fel clybiau ieuenctid, ar-lein, trwy raglenni allgymorth, ac mewn lleoliadau eraill i ddiwallu anghenion pobl ifanc. Mae gwaith ieuenctid yn ymateb yn dda i greu ‘lle diogel’ i bobl ifanc sy’n cael trafferth gyda’u lles emosiynol, a gall natur anffurfiol yr ymgysylltiad wneud gwahaniaeth sylweddol i ganlyniad cadarnhaol.

Cyllid ar gyfer iechyd meddwl a lles mewn addysg bellach

Cyflwynwyd cyllid pwrpasol i sefydliadau addysg bellach gefnogi iechyd meddwl a lles yn y flwyddyn ariannol 2020 i 2021. Mae’n cefnogi prosiectau sefydliadol, cydweithredol a chenedlaethol sydd wedi’u cynllunio i wella lles dysgwyr a staff. Defnyddir y cyllid ar gyfer ystod eang o fentrau gan gynnwys cwnsela rheng flaen i ddysgwyr; cydgysylltwyr lles ymroddedig mewn colegau; dysgu proffesiynol; a datblygu rhaglenni tiwtorial. Mae prosiectau cenedlaethol wedi cynnwys datblygu pecynnau cymorth ar gamddefnyddio sylweddau ac ymarfer sy'n seiliedig ar drawma.

Y Gwasanaeth Di-waith

Mae'r Gwasanaeth Di-waith, sy'n cael ei esbonio'n fanylach o dan Gyflogadwyedd a chyfleoedd cyflogaeth, yn cefnogi pobl rhwng 16 a 24 oed sy'n NEET ac sy'n gwella o salwch meddwl a/neu gamddefnyddio sylweddau.

Dewis Cymru

Mae gwefan Dewis Cymru yn rhoi’r cyfle i unigolion ymchwilio i ba gymorth sydd ar gael ar gyfer eu lles.

Pecyn Cymorth Iechyd Meddwl

Mae’r Pecyn Cymorth Iechyd Meddwl yn cysylltu pobl ifanc 11 i 25 oed â gwefannau, apiau, llinellau cymorth a mwy, i adeiladu gwytnwch ar draws 6 chategori:

  • gorbryder
  • hwyliau isel
  • cadw'n iach
  • profedigaeth a cholled
  • gwybodaeth am y coronafeirws
  • argyfwng

Mae’r adnodd hwn yn galluogi defnyddwyr i gymryd rheolaeth o’u hiechyd meddwl, gyda gwybodaeth, hunangymorth, a chyngor ar sut i geisio cymorth pellach wedi’u cynnwys drwyddi draw. Bydd yr adnodd ar-lein hwn yn parhau i gael ei adolygu a'i ddiweddaru yn ôl yr angen.

SilverCloud

Mae SilverCloud yn gwrs ar-lein sy'n cynnig cymorth gyda gorbryder, iselder, a llawer mwy, i gyd yn seiliedig ar Therapi Gwybyddol Ymddygiadol (CBT). Gall unrhyw un sy'n 16 oed neu’n hŷn gofrestru yn nhswales.silvercloudhealth.com/signup/.

Llinell Wrando ar gyfer Iechyd Meddwl CALL

Mae CALL yn darparu llinell wrando a chymorth emosiynol iechyd meddwl sydd ar agor 24/7, ac sy’n gyfrinachol. Gall CALL hefyd gyfeirio unigolion at gymorth mewn cymunedau lleol ac ystod o wybodaeth ar-lein. I ddefnyddio CALL, ffoniwch 0800132737, tecstiwch ‘help’ i 81066 neu ewch i callhelpline.org.uk/.

Gwybodaeth sydd ar gael gan fyrddau iechyd lleol

Mae byrddau iechyd lleol wedi sicrhau bod gwybodaeth a chyngor clir ar gael o ran sut i gael mynediad at wasanaethau iechyd meddwl lleol, os oes angen. Maent i’w gweld ar wefannau byrddau iechyd unigol: