Fframwaith Ymgysylltiad a Chynnydd Ieuenctid: canllawiau ar adnabod yn gynnar
Canllawiau ar adnabod yn gynnar bobl ifanc sydd mewn perygl o fod yn bobl nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant (NEET) neu’n ddigartref.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Cyflwyniad
Mae'r canllawiau hyn yn canolbwyntio ar adnabod yn gynnar bobl ifanc sydd mewn perygl o fod yn bobl nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant (NEET) neu’n ddigartref. Eu nod yw darparu mwy o gysondeb wrth adnabod pobl ifanc yn gynnar ar lefel genedlaethol, gan fynd ati ar yr un pryd i gynnal hyblygrwydd o ran prosesau sydd ar waith mewn ardaloedd lleol.
Bydd y canllawiau hyn yn cyfrannu at y dasg o gyflawni ein cerrig milltir cenedlaethol, yn benodol y garreg filltir y bydd o leiaf 90% o bobl ifanc 16 i 24 oed mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant erbyn 2050.
Daeth y Fframwaith Ymgysylltiad a Chynnydd Ieuenctid wedi'i ddiweddaru ('y Fframwaith'), a gyhoeddwyd yn 2022, ag atal digartrefedd ymysg pobl ifanc o fewn cwmpas y Fframwaith. Tynnodd yr ymgynghoriad a gynhaliwyd fel rhan o'r diweddariad hwn sylw at yr angen i ddiweddaru'r canllawiau ar adnabod yn gynnar y bobl ifanc sydd mewn perygl o ymddieithrio.
Mae tystiolaeth o'r cysylltiad rhwng NEET a digartrefedd ymysg pobl ifanc, ac mewn sampl o bobl ddigartref yng Nghymru, mae ymchwil arall wedi dangos bod 59% yn ddigartref am y tro cyntaf cyn troi’n 21 oed. Ymhellach, roedd 78% o'r sampl wedi bod yn ddigartref fwy na 3 gwaith, gan ddangos ar ôl i rywun ddod yn ddigartref unwaith, ei fod yn debygol o ddigwydd eto. Mae hynny’n cryfhau'r ddadl dros fentrau atal ac adferiad cryf.
Rydym yn ymwybodol bod partneriaethau lleol yn defnyddio ystod eang o ddangosyddion i adnabod pobl ifanc sydd mewn perygl o fod yn NEET neu'n ddigartref (gellir dod o hyd i wybodaeth am bartneriaethau'r Fframwaith yn y Fframwaith Ymgysylltiad a Chynnydd Ieuenctid: Llawlyfr). Nid yw'r canllawiau hyn yn darparu rhestr gynhwysfawr o'r holl ddangosyddion posibl, ond mae'n nodi dangosyddion allweddol a fydd yn berthnasol ledled Cymru (sy'n cynnwys presenoldeb, gwaharddiadau o ysgolion, bod yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim, anghenion dysgu ychwanegol, cynnydd dysgwyr, anabledd a chyfranogiad gwasanaethau plant). Mae'r canllawiau hefyd yn awgrymu dangosyddion ychwanegol y gallai partneriaethau lleol fod am eu hystyried. Dylai partneriaethau lleol hefyd ystyried y bydd rhai plant a phobl ifanc yn ymgyflwyno gyda dangosyddion niferus, a allai ddynodi bregusrwydd ac anghenion cymorth sylweddol.
Rydym yn cydnabod yr effaith hirdymor y mae pandemig y coronafeirws (COVID-19) wedi'i chael ar ein plant a'n pobl ifanc ac, mewn llawer o achosion, mae wedi gwaethygu'r bregusrwydd a oedd yn bodoli eisoes.
Datblygwyd y canllawiau gyda rhanddeiliaid presennol, yn enwedig y Gweithgor Canllawiau Adnabod Cynnar a oedd yn cynnwys cynrychiolwyr o’r canlynol:
- awdurdodau lleol, gan gynnwys cydlynwyr ymgysylltiad a chynnydd (EPCs) a chydgysylltwyr digartrefedd ymysg pobl ifanc (YHCs)
- Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC)
Tynnodd y gweithgor sylw at yr angen i'r canllawiau hyn gael eu hategu gan ymchwil ategol lle bynnag y bo modd.
Buom hefyd yn edrych ar ganllawiau Llywodraeth yr Alban ar atal digartrefedd, a nododd ystod o ddangosyddion risg, gan gynnwys ymddygiad, anableddau corfforol, anableddau dysgu ac anawsterau llythrennedd a rhifedd. Nodwyd hefyd faterion iechyd corfforol neu feddyliol fel dangosydd risg ar gyfer digartrefedd, yn enwedig os ydynt yn dirywio neu lle mae diffyg hunanofal.
Prif amcan llinyn adnabod yn gynnar y Fframwaith yw sicrhau y gall awdurdodau lleol a'u partneriaid adnabod yn gywir ac yn systematig y bobl ifanc hynny sydd mewn perygl o ymddieithrio o addysg, cyflogaeth a hyfforddiant neu sydd mewn perygl o ddigartrefedd. Ar gyfer pobl ifanc o dan 16 oed, dylai'r system adnabod yn gynnar gael ei defnyddio hefyd gan y Cydlynydd Ymgysylltiad a Chynnydd (EPC) a'r Cydgysylltydd Digartrefedd ymysg Pobl Ifanc (YHC) wrth iddynt drafod â phartneriaid i gydlynu cymorth ac ymyriadau i leihau'r risg barhaus o ymddieithrio neu ddigartrefedd. Bydd adnabod pobl ifanc sydd mewn perygl yn gynnar mewn ffordd systematig, ynghyd â chymorth cydlynol ac ymyriadau effeithiol, yn meithrin eu gwytnwch a’u gallu i symud ymlaen yn llwyddiannus yn 16 oed.
Ffynonellau gwybodaeth
Gall y ffynonellau gwybodaeth y dylid eu cynnwys mewn prosesau adnabod yn gynnar gael eu grwpio'n fras fel a ganlyn:
- data
- mewnbwn gan ymarferwyr
- mewnbwn gan blant a phobl ifanc
Data
Dylai adnabod yn gynnar ddechrau gydag asesiad sy'n cael ei sbarduno gan ddata, yn seiliedig ar y dangosyddion y cytunwyd arnynt gan awdurdodau lleol ac a gefnogir gan bartneriaid. Bydd sefydlu system a arweinir gan ddata yn caniatáu creu dull systematig i adnabod yr holl bobl ifanc hynny sy'n dod o fewn y paramedrau a ddiffinnir gan awdurdod lleol. Yna, gall y data hwn gael ei asesu gan EPCs a YHCs ac ymarferwyr eraill sy'n gweithio i sefydliadau partner. Bydd hyn yn darparu'r 'gwiriad synnwyr' angenrheidiol, i gyflwyno dealltwriaeth ychwanegol na chipiwyd gan fodel a arweinir gan ddata, ac i gefnogi trafodaethau ar y blaenoriaethu a'r ddarpariaeth fwyaf priodol.
Gall data fod yn hynod ddefnyddiol fel rhan o broses sgrinio gychwynnol, gan ei fod yn darparu dangosydd o risg i adnabod pobl ifanc sydd angen cymorth ychwanegol. Mae defnyddio'r data hwn i nodi risg yn rhan o'r ymgyrch ehangach i ddefnyddio data'n benodol ac yn effeithiol o fewn y system ysgolion i wella deilliannau dysgwyr. Gall awdurdodau lleol ddefnyddio systemau gwybodaeth reoli sy'n cipio dangosyddion ac sy'n gallu cyflymu'r broses o adnabod yn gynnar.
Mae dangosyddion data hefyd yn caniatáu mwy o gysondeb o ran adnabod ar draws awdurdodau lleol, sef un o'r themâu a ddaeth i'r amlwg o ymgynghoriad 2021 ar y Fframwaith.
Astudiaeth achos: Ymarfer dadansoddi data i gynorthwyo i adnabod yn gynnar yn Sir Benfro
Mae Gwasanaethau Ieuenctid Sir Benfro yn cynnal ymarfer dadansoddi data blynyddol ar bobl ifanc 17 i 24 oed sy'n ddigartref. Mae hyn yn nodi prif achosion digartrefedd yn ôl-weithredol, ac yn croesgyfeirio'r rhai sy'n ymgyflwyno gydag MIS (system gwybodaeth reoli) y gwasanaeth ieuenctid ei hun. Mae hyn yn caniatáu i'r gwasanaeth ieuenctid ddeall pa bobl ifanc sydd eisoes yn hysbys iddynt, a sut.
Mae'r broses wedi datblygu dros amser, ac mae Sir Benfro bellach yn croesgyfeirio'r wybodaeth hon gydag MIS yr awdurdod lleol er mwyn gallu olrhain ymgysylltiad a hanes blaenorol unigolyn gyda gwasanaethau addysg, gofal cymdeithasol a chyfiawnder ieuenctid. Mae elfennau monitro ychwanegol yn cynnwys gwaharddiadau o ysgolion, anghenion dysgu ychwanegol (ADY), y rhai sy'n hysbys i ofal cymdeithasol (tra byddant yn yr ysgol), rhai a oedd yn derbyn gofal yn flaenorol gan yr awdurdod lleol, os oedd yr unigolyn yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim ac a oedd yn hysbys i wasanaethau cyfiawnder ieuenctid.
Mae'r ymarfer yn galluogi'r awdurdod lleol i olrhain rhyngweithiadau a chyswllt rhwng y bobl ifanc hyn ac amrywiaeth o weithwyr proffesiynol cyn iddynt ymgyflwyno fel person digartref. Yna, defnyddir yr wybodaeth hon yn rhagweithiol i lywio a llunio prosesau adnabod yn gynnar, nodi trefniadau cydweithio posibl a thargedu adnoddau'n effeithiol.
O'r 236 o'r rhai a ymgyflwynodd fel pobl ddigartrefedd yn 2022 i 2023:
- roedd 53 (28%) wedi profi gwaharddiad o ysgol
- roedd 137 (74%) yn hysbys i ofal cymdeithasol yn yr ysgol
- roedd gan 70 (38%) anghenion dysgu ychwanegol
- roedd 27 (14.5%) yn bobl ifanc sy'n derbyn gofal gan yr awdurdod lleol
- roedd 20 (11%) yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim (eFSM)
- roedd 66 (35%) yn hysbys i'r tîm cyfiawnder ieuenctid
Dalier sylw: o'r 236 o ymgyflwyniadau, ni lwyddwyd i olrhain 45 drwy systemau addysg a gofal cymdeithasol. Roedd 5 yn ymgyflwyniadau a nodwyd ddwywaith yn yr un flwyddyn, sy'n gadael 186 o ymgyflwyniadau. O'r rhif hwn y cyfrifwyd y canrannau. Hefyd, nid oedd peth o'r data eFSM wedi mudo i'r system newydd.
Rhannu data
Fel y dangosir yn y Fframwaith Ymgysylltiad a Chynnydd Ieuenctid: Llawlyfr, mae rhannu data yn rhan annatod o gyflawni'r Fframwaith, gan alluogi partneriaethau lleol i fonitro cynnydd pobl ifanc sydd mewn perygl o fod yn NEET neu'n ddigartref. Mae amseroldeb a chywirdeb rhannu data yn hanfodol, er mwyn sicrhau nad yw unrhyw berson ifanc yn llithro drwy'r rhwyd, gan alluogi:
- pobl ifanc sydd angen cymorth ar unwaith i gael eu hadnabod ac i gael cynnig help
- Gyrfa Cymru a'r awdurdod lleol i adnabod yn gyflym bobl ifanc yn Haenau 1 a 2 o fodel ymgysylltu 5 haen Gyrfa Cymru, a Gyrfa Cymru yn gweithio'n agos gyda'r EPC
- ymadawyr ysgol i bontio'n esmwyth i gyrchfannau ôl-16
Dylid defnyddio protocolau rhannu data i rannu gwybodaeth â phartneriaid ac i roi cymorth effeithiol ar waith.
Mae Cytundeb Rhannu Gwybodaeth Bersonol Cymru (WASPI) yn offeryn i helpu sefydliadau ar draws sectorau i rannu gwybodaeth bersonol yn effeithiol ac yn gyfreithlon. Mae gwefan WASPI yn cynnwys canllawiau i helpu sefydliadau i bennu pa fath o gytundeb rhannu data sy'n ofynnol o dan amgylchiadau penodol. Bydd cytundebau WASPI naill ai'n:
- gytundebau datgelu data (DDA) lle bydd data personol yn cael ei ddatgelu (hynny yw, ei drosglwyddo un ffordd) o un rheolydd data i un arall at ddiben penodol
neu'n - brotocolau rhannu gwybodaeth (ISP) sy'n cofnodi arferion sy'n cynnwys rhannu gwybodaeth bersonol yn rheolaidd (hynny yw, gwybodaeth yn llifo yn ôl ac ymlaen rhwng sefydliadau) rhwng rheolyddion data
Bydd EPCs ac YHCs yn dwyn ynghyd bartneriaethau lleol amlasiantaethol o dan y Fframwaith. Pan fydd data personol yn cael ei rannu o fewn y partneriaethau hyn, dylai hyn gael ei ategu gan gytundeb WASPI, a dylai gydymffurfio â'r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (neu GDPR y DU).
Mae'n bwysig bod cytundebau WASPI yn cael eu hadolygu a'u diweddaru'n rheolaidd i sicrhau eu bod yn adlewyrchu'r holl bartneriaid sy'n rhan ohonynt.
Mae hysbysiad preifatrwydd Gyrfa Cymru yn esbonio sut mae Gyrfa Cymru (fel rheolydd data) yn cydymffurfio â GDPR y DU ac yn berthnasol i holl wasanaethau Gyrfa Cymru, gan gynnwys cyfweliadau wyneb yn wyneb, sesiynau grŵp, trafodaethau ffôn, cyswllt ar y we ac ar y cyfryngau cymdeithasol (ac eithrio gwasanaeth Cymru'n Gweithio, sydd â'i ddatganiadau preifatrwydd ei hun).
Mae canllawiau hefyd ar gael i ysgolion ar reoli data ysgolion a chydymffurfio â GDPR y DU. Er mwyn i ddata gael ei drosglwyddo o ysgolion, rhaid i drefniadau rhannu data priodol fod ar waith, yn unol â'r canllawiau. Rhaid hysbysu dysgwyr, rhieni a gofalwyr am yr hyn sy'n digwydd gyda'u data cyn iddo gael ei gasglu a'i gofnodi.
Astudiaeth achos: Proses adnabod yn gynnar – Merthyr Tudful
Mae Tîm Ymgysylltiad, Cynnydd a Chydlynu Merthyr Tudful yn defnyddio pecyn cymorth adnabod yn gynnar i adnabod y bobl ifanc fwyaf agored i niwed sydd mewn perygl o ymddieithrio o addysg, cyflogaeth a hyfforddiant ac sydd mewn perygl o ddigartrefedd.
Fel rhan o'r broses adnabod yn gynnar, datblygwyd protocolau rhannu gwybodaeth i gefnogi rhannu gwybodaeth bersonol yn rheolaidd ar gyfer y Fframwaith.
Bwriad y protocolau yw helpu ymarferwyr i ddeall pa wybodaeth y gellir ei rhannu rhwng y partneriaid a restrir at y dibenion a nodwyd. Mae’n rhoi sicrwydd hefyd fod y partneriaid wedi ystyried gofynion deddfwriaeth diogelu data.
Mae cyfarfodydd partneriaethau lleol cyn-16 yn cael eu cadeirio gan yr EPC. Mae'r partneriaid yn cynnwys:
- gweithwyr arweiniol o Ysbrydoli i Gyflawni
- cynrychiolwyr o uwch dîm rheoli pob ysgol, addysg bellach a'r gwasanaeth troseddau ieuenctid
- y swyddog arweiniol ar gyfer addysg heblaw yn yr ysgol (EOTAS)
- cynghorwyr Gyrfa Cymru
- anogwyr dysgu
Ym mhob cyfarfod adolygu misol ar gyfer ysgolion uwchradd, yr ysgol arbennig a'r uned cyfeirio disgyblion, rhennir gwybodaeth bersonol â sefydliadau. Mae hyn yn caniatáu i'r bartneriaeth ddarparu gwasanaeth di-dor ac effeithiol, sy'n gydlynol ac wedi'i deilwra i anghenion penodol yr unigolyn.
Caiff pobl ifanc eu monitro drwy gydol yr ysgol uwchradd a'u hail-gategoreiddio lle bo angen i risg goch neu oren. Mae hyn yn cynnwys y rhai a nodwyd fel rhai sydd mewn perygl o ddigartrefedd sy'n cael eu hatgyfeirio i'r tîm iechyd meddwl a digartrefedd. Mae'r broses hon yn galluogi'r lefel briodol o gymorth i gael ei rhoi ar waith i gyflawni'r deilliannau a fwriadwyd ar gyfer yr unigolyn.
Yn ystod Blynyddoedd 10 ac 11, mae pobl ifanc sy'n wynebu rhwystrau rhag mynd i mewn i gyflogaeth, addysg a hyfforddiant yn cael eu nodi fel rhai 'NEET risg uchel', yn cael cynnig cymorth pontio a thrafodir eu cynnydd mewn cyfarfodydd. Bydd y bobl ifanc hynny sydd mewn perygl mawr o fod yn NEET (a'r grŵp ehangach o bobl ifanc sydd wedi'u graddio fel coch ac oren) yn parhau i gael eu monitro, ar ôl gadael yr ysgol, drwy gyfarfodydd gweithwyr arweiniol ôl-16 misol y Tîm Ymgysylltiad, Cynnydd a Chydlynu.
Dangosyddion data allweddol
Dylai'r dangosyddion data allweddol canlynol gael eu defnyddio gan bob awdurdod lleol i gyfrannu at systemau adnabod yn gynnar. Darparwyd gwybodaeth i esbonio pwysigrwydd y dangosyddion hyn yn y cyd-destun hwn.
Presenoldeb yn yr ysgol
Canfu ymchwil a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru mai presenoldeb gwael yw un o arwyddion rhybudd allweddol ymddieithrio. Yn ôl ymchwil arall, 'compared to those who were rarely or never absent from school, those with frequent absences from school were 7.5 times more likely to report lived experience of homelessness’.
O ran osgoi ysgol am resymau emosiynol, mae dysgwyr yn bryderus am fynychu'r ysgol, i'r graddau y gallent geisio osgoi mynd i'r ysgol fel ffordd o reoli eu gorbryder. Mewn achosion o'r fath, gall ysgolion gytuno i bresenoldeb addasedig neu amserlen lai ar gyfer dysgwyr fel mesur tymor byr (er mai'r nod fyddai ailymgysylltu dysgwyr â'r ddarpariaeth). Mae tystiolaeth bod cysylltiad agos rhwng materion iechyd meddwl â bod mewn perygl o fod yn NEET, a bod perthynas hefyd rhwng digartrefedd a phroblemau iechyd meddwl.
Er y gall amserlenni rhan-amser helpu dysgwyr i ailintegreiddio mewn ysgol ar ôl absenoldeb hir neu fod yn ffordd o atal mwy o absenoldebau, effaith hyn yn gyffredinol yw lleihau faint o amser y mae dysgwyr yn ei dreulio yn yr ysgol, gydag effaith negyddol bosibl ar eu cynnydd a'u llesiant. Hefyd, gall amserlenni rhan-amser roi pwysau ar deuluoedd ac arwain at ymddieithrio dysgwyr ymhellach o addysg.
Dim ond mewn amgylchiadau eithriadol y dylid defnyddio amserlenni rhan-amser, a hynny fel mesur tymor byr (chwe wythnos ar y mwyaf fel arfer), gyda'r bwriad o ddychwelyd i addysg amser llawn yn gynt, os yn bosibl. Mae rhagor o wybodaeth am ddefnyddio amserlenni rhan-amser ar gael yn ein canllawiau presenoldeb ac yn ein canllawiau gwahardd.
Gwaharddiadau o ysgolion
Canfu ymchwil a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru mai ymddygiad gwael yw un o arwyddion allweddol ymddieithrio a bod data gwaharddiadau yn aml yn ddangosydd procsi ar gyfer ymddygiad heriol. Yn ogystal, mae gwybodaeth am amgylchiadau pobl ifanc a mewnbwn ymarferwyr yn helpu i adnabod pobl ifanc ag ymddygiad heriol.
Mae canllawiau gan Centrepoint yn nodi gwaharddiad fel un o achosion digartrefedd ymysg pobl ifanc. Mae ymchwil yn nodi bod gwaharddiadau o ysgolion yn gysylltiedig ag ystod o ganlyniadau negyddol, gan gynnwys cyfnodau hir o ddiweithdra, iechyd meddyliol a chorfforol gwael, ac ymwneud â throseddau a digartrefedd. Canfu mai’r rhai sydd fwyaf tebygol o gael eu gwahardd o'r ysgol hefyd yw’r rhai sy’n debygol o fod y mwyaf agored i niwed mewn cymdeithas – maent 4 gwaith yn fwy tebygol o fod wedi tyfu i fyny mewn tlodi, 7 gwaith yn fwy tebygol o fod ag angen addysgol arbennig a 10 gwaith yn fwy tebygol o fod â phroblem iechyd meddwl.
Dylai awdurdodau lleol ystyried mynychder a hyd y cyfnodau gwahardd wrth benderfynu ar y raddfa risg i unigolion. Mae canllawiau ar gael ar waharddiadau o ysgolion ac unedau cyfeirio disgyblion.
Bod yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim (eFSM)
Mae tystiolaeth y gall tlodi plant gynyddu'r perygl o fod yn NEET a'r perygl o ddigartrefedd ymysg pobl ifanc. Defnyddir eFSM fel dangosydd procsi ar gyfer amddifadedd. Mae rhai awdurdodau lleol felly yn defnyddio eFSM fel dangosydd risg.
Mae awdurdodau lleol eraill sydd â digwyddedd uchel o amddifadedd wedi penderfynu rhoi mwy o amlygrwydd i ddangosyddion amgen i fireinio eu dealltwriaeth o anghenion pobl ifanc yn eu cymunedau.
Anghenion dysgu ychwanegol (ADY)
Mae gan ddysgwr rhwng 0 a 25 oed ADY os oes ganddo anhawster neu anabledd dysgu (p'un a yw'n deillio o gyflwr meddygol neu fel arall) sy'n galw am ddarpariaeth ddysgu ychwanegol. Mae gwybodaeth a chanllawiau ar y diffiniad a sut y caiff ei gymhwyso wedi'u cynnwys ym mhennod 2 Cod ADY Cymru. Mae'r Cod ADY hefyd yn esbonio'n fanwl hawliau pobl ifanc o dan y system ADY.
Cesglir data ar ADY yn flynyddol drwy'r Cyfrifiad Ysgolion Blynyddol ar Lefel Disgyblion (CYBLD).
Mae rhai awdurdodau lleol yn defnyddio ADY fel dangosydd ar gyfer bod mewn perygl o NEET. Yn ogystal, gall anawsterau neu anableddau dysgu, a all gynnwys cyflyrau niwroddatblygiadol megis awtistiaeth neu anhwylder diffyg canolbwyntio a gorfywiogrwydd (ADHD), gael effaith ar ymddygiad dysgwr, ac mae ymddygiad yn ddangosydd pwysig ar gyfer bod mewn perygl o NEET.(Mae'n werth nodi hefyd na fydd gan bob plentyn sy'n niwrowahanol ADY.) Mae tystiolaeth gref hefyd yn awgrymu bod oedolion awtistig yn cael eu gorgynrychioli ymhlith y rhai sy'n profi digartrefedd a bod awtistiaeth yn ffactor risg tebygol o ddod yn ddigartref.
Mewnbwn gan ymarferwyr
Nid yw pob dangosydd yn seiliedig ar ddata. Mae angen i ddangosyddion data gael eu hategu gan fewnbwn ymarferwyr. Gall trafodaethau rhwng ymarferwyr greu darlun cyfannol o'r unigolyn a'i sefyllfa, a all newid yn gyflym. Gall mewnbwn ymarferwyr amlygu:
- newidiadau i amgylchiadau teuluol
- dangosyddion ymddygiad heriol
- newidiadau mewn gofynion cymorth
ac mae'n hanfodol er mwyn sicrhau y gellir darparu cymorth effeithiol ar yr adeg gywir.
Mae mewnbwn ymarferwyr yn hanfodol i sicrhau bod y garfan gychwynnol a nodir gan y broses sy'n cael ei sbarduno gan ddata yn gywir ac yn briodol. Dylai mewnbwn ymarferwyr hefyd sicrhau bod yr wybodaeth ddiweddaraf am bobl ifanc sydd angen cymorth arnynt yn cael ei chyflwyno i'r system adnabod yn gynnar, gan gynnwys pan nad yw pobl ifanc sydd mewn perygl yn cael eu nodi drwy’r system ddata. Mewn ysgolion, gall penaethiaid blwyddyn fod yn hanfodol i'r broses hon, oherwydd eu gwybodaeth am ddysgwyr.
Dylai awdurdodau lleol ystyried sut y gellir cipio a dangos tystiolaeth o fewnbwn ymarferwyr yn eu prosesau adnabod yn gynnar.
Dangosyddion allweddol eraill
Dylai'r dangosyddion allweddol canlynol gael eu defnyddio gan awdurdodau lleol fel rhan o'u systemau adnabod yn gynnar. Darparwyd gwybodaeth i esbonio pwysigrwydd y dangosyddion hyn yn y cyd-destun hwn. Gall y dangosyddion hyn gael eu cefnogi gan ddata, er bod hyn yn dibynnu ar brosesau casglu gwybodaeth lleol, felly dylent gael eu cefnogi gan fewnbwn ymarferwyr.
Cynnydd dysgu (cyrhaeddiad)
Nododd ymchwil a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru fod cyrhaeddiad yn ddangosydd ar gyfer bod mewn perygl o NEET.
Mae gan gyrhaeddiad gysylltiadau hefyd â'r perygl o ddigartrefedd ymysg pobl ifanc, gan fod tystiolaeth bod pobl ifanc sy'n ddigartref heb sgiliau llythrennedd a rhifedd. Gall cyrhaeddiad isel gyfrannu at ddigartrefedd ymysg pobl ifanc lle nad oes gan bobl ifanc y cymwysterau sydd eu hangen i sicrhau cyflogaeth sy'n talu cyflog byw.
Mae canllawiau ar gael ar gasglu data cenedlaethol gan ysgolion (ar hyn o bryd, mae awdurdodau lleol yn derbyn data asesiad athrawon ar ddiwedd Cyfnod Allweddol 3 drwy'r casgliad hwn). Fodd bynnag, mae'r casgliad hwn a'r trefniadau asesu cysylltiedig yn berthnasol i ddysgwyr o dan Gwricwlwm 2008 yn unig, ac ni fyddant ar waith mwyach unwaith y bydd carfannau Blwyddyn 9 o dan y Cwricwlwm i Gymru (o fis Medi 2024). O dan y Cwricwlwm i Gymru, bydd ysgolion hefyd yn cadw eu data eu hunain ar gyrhaeddiad dysgwyr unigol a'u cynnydd wrth ddysgu. Oherwydd hyn, mae mewnbwn ymarferwyr yn hanfodol er mwyn helpu i nodi dysgwyr nad ydynt yn camu ymlaen ar y gyfradd ddisgwyliedig.
Anabledd
Mae pobl ifanc anabl yn llawer mwy tebygol o fod yn NEET na phobl ifanc nad ydynt yn anabl, fel y gwelir yn ystadegau chwarterol Pobl ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant (NEET), sy'n cynnwys data ar statws anabledd pobl ifanc sy'n NEET.
Canfu’r Sgwrs Genedlaethol ar y Warant i Bobl Ifanc fod pobl ifanc anabl yn wynebu rhwystrau sylweddol i aros mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant, neu gael mynediad at addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant. Canfu hefyd fod pobl ifanc anabl yn teimlo mai nhw oedd y lleiaf gwybodus o ran yr opsiynau sydd ar gael iddynt, yn enwedig ar ôl Blwyddyn 11, a bod pobl anabl 16 i 18 oed yn teimlo mai nhw oedd y lleiaf parod ar gyfer addysg neu hyfforddiant dilynol. Gall teimlo'n amharod neu heb ddigon o wybodaeth rwystro’r person hwnnw rhag aros mewn addysg neu hyfforddiant neu hyd yn oed symud ymlaen i gyflogaeth. Ar wahân, nododd gweithwyr cymorth nad oes llawer o gymorth ar gael i bobl ifanc anabl ar ôl iddynt orffen yn y coleg, ac nad yw rhieni a gofalwyr bob amser yn ymwybodol o'r dewisiadau sydd ar gael.
Cynnwys y gwasanaethau plant
Mae hyn yn cynnwys unrhyw blentyn sy'n hysbys i wasanaethau plant, plant sy'n derbyn gofal gan awdurdodau lleol, pobl sy'n gadael gofal, plant ar ffiniau gofal a phlant o dan warcheidiaeth (ffurfiol neu anffurfiol) aelod arall o'r teulu.
Mae tystiolaeth o fwlch mawr mewn cyrhaeddiad rhwng plant sy'n derbyn gofal gan yr awdurdod lleol a dysgwyr eraill ym mhob cam o addysg, a hynny ar ei waethaf yng Nghyfnod Allweddol 4 (Blynyddoedd 10 ac 11), sy’n effeithio ar eu cyfleoedd ar gyfer cynnydd.
Ymysg poblogaethau o bobl ifanc ddigartref, mae ymchwil yn dangos bod cyfran fawr iawn o bobl ifanc ddigartref wedi bod yn rhan o’r system lles plant. Mae ymchwil y DU hefyd wedi canfod bod traean o'r rhai sy'n gadael gofal wedi dod yn ddigartref yn ystod y 2 flynedd gyntaf ar ôl iddynt adael gofal, a chanfu astudiaeth ar wahân fod 24% o bobl ddigartref wedi bod mewn gofal ar ryw adeg yn eu bywydau. Bu astudiaeth ‘Don’t let me fall through the cracks’ gan glymblaid End Youth Homelessness Cymru yn archwilio pam mae pobl ifanc â phrofiad o fod mewn gofal mewn mwy o berygl o ddod yn ddigartref neu o gael eu gosod mewn llety ansefydlog na'u cyfoedion nad ydynt â phrofiad o fod mewn gofal.
Yng ngoleuni’r dystiolaeth hon, mae'n hanfodol bod gan EPCs ac YHCs gysylltiadau cryf â gwasanaethau plant yn eu hawdurdodau lleol. Gall swyddogion gwasanaethau plant rannu gwybodaeth am y plant a'r bobl ifanc sy'n hysbys i'w gwasanaeth a chael eu cynrychioli yng nghyfarfodydd amlasiantaethol y Fframwaith, oherwydd gallant gyfrannu at ddatblygiad y darlun cyfannol o sefyllfa'r plentyn neu'r person ifanc.
Dangosyddion ychwanegol
Gall awdurdodau lleol hefyd ystyried y dangosyddion ychwanegol canlynol, i adnabod ymhellach y rhai sydd mewn perygl o ymddieithrio neu ddod yn ddigartref. Gallai'r dangosyddion hyn gwmpasu dangosyddion sy'n seiliedig ar ddata a dangosyddion mewnbwn ymarferwyr. Mae rhai o'r dangosyddion ychwanegol isod wedi'u llywio gan wybodaeth a ddarparwyd gan awdurdodau lleol ynghylch eu systemau adnabod yn gynnar eu hunain.
Ymddygiad
Gall hefyd nodi bod mewn perygl o ddigartrefedd ymysg pobl ifanc, fel y gwelir yn y canllawiau ar wefan Centrepoint ar achosion digartrefedd ymysg pobl ifanc.
Fel y nodwyd uchod, gall data gwaharddiadau helpu i adnabod pobl ifanc ag ymddygiad heriol. Rydym hefyd yn cydnabod rôl bwysig mewnbwn ymarferwyr a gweithio mewn partneriaeth rhwng sefydliadau i adnabod plant a phobl ifanc sydd ag ymddygiad heriol.
Gall gwybodaeth fanwl am amgylchiadau pobl ifanc gan ymarferwyr helpu i nodi:
- sawl gwaith mae person ifanc wedi symud ysgol, er enghraifft drwy symudiad wedi'i reoli
- plant a phobl ifanc sydd wedi troseddu, er enghraifft drwy ymddygiad gwrthgymdeithasol, ymddygiad troseddol, troseddau gangiau, camfanteisio, delio cyffuriau ar linellau cyffuriau, cario arfau, troseddau difrifol, ymddygiad rhywiol niweidiol
- ynysigrwydd cymdeithasol, dadleuon gyda ffrindiau, bwlio
- problemau cyffuriau, toddyddion neu alcohol
- rhedeg i ffwrdd o gartref (o rieni neu ofalwyr) neu o ofal preswyl
- perthynas rhwng rhieni neu ofalwyr a'u plant yn chwalu
Trawma a phrofiadau niweidiol yn ystod plentyndod
Gall dioddef trawma a phrofiadau niweidiol yn ystod plentyndod (ACEs) gael effaith hirdymor ar ganlyniadau bywyd plant, gan gynnwys eu hiechyd, eu cyrhaeddiad addysgol a’u ffyniant economaidd. Mae ACEs yn cynnwys:
- cam-drin plentyn neu berson ifanc yn eiriol, yn gorfforol neu’n rhywiol
- esgeulustod corfforol neu emosiynol
- profedigaeth neu analluogrwydd gofalwr
- rhieni'n gwahanu neu berthynas yn chwalu
- salwch meddwl yn y cartref
- trais domestig yn y cartref
- camddefnyddio cyffuriau neu alcohol yn y cartref
- rhiant yn cael ei garcharu
Dangosodd adborth o'r ymgynghoriad ar y Fframwaith yn 2021 bryder gwirioneddol ynghylch yr effaith negyddol y gall ACEs ei chael ar gyfleoedd bywyd pobl ifanc. Er bod cefnogaeth i ystyried ACEs fel rhan o gyfres ehangach o ddangosyddion a ddefnyddir gan bartneriaethau lleol, mae Llywodraeth Cymru wedi nodi'n glir na ddylid cyfrif neu sgorio ACEs unigolyn i bennu:
- risg
- p'un ai i gynnig ymyrraeth ai peidio
- y math o ymyrraeth a gynigir
Yn ogystal, mae tystiolaeth hefyd o gyffredinrwydd ACEs yn y boblogaeth ddigartref.
Dylai ymarferwyr ystyried sut y maent yn ymateb i'r rhai sydd wedi profi trawma ac adfyd o bob math (gan gynnwys profiadau bywyd ceiswyr lloches a ffoaduriaid). Mae hyn yn golygu cydnabod bodolaeth trawma ac adfyd, deall ei effaith, gweithredu mewn ffyrdd sy'n osgoi trawma drachefn, a chydnabod a chefnogi cryfderau unigolyn i oresgyn effaith trawma. Mae'r Fframwaith Ystyriol o Drawma ar gyfer Cymru, a gyd-gynhyrchwyd gan Ganolfan ACE Cymru a Straen Trawmatig Cymru, yn cefnogi dull cyson o weithredu gwasanaethau ystyriol o drawma yng Nghymru, gan hyrwyddo perthnasoedd, gwasanaethau ac ymyriadau tosturiol, empathig a chefnogol.
Addysg ddewisol yn y cartref (EHE)
Nododd yr ymgynghoriad ar y Fframwaith yn 2021 bryderon cyfranogwyr ynghylch eu gallu i olrhain a chefnogi'r nifer cynyddol o ddysgwyr sydd mewn addysg ddewisol yn y cartref, yn enwedig o ystyried y cynnydd yn nifer y teuluoedd sy'n dewis addysg yn y cartref ers y pandemig.
Mae canllawiau statudol Llywodraeth Cymru ar addysg ddewisol yn y cartref yn nodi'n glir y dylai'r penderfyniad i addysgu yn y cartref fod yn ddewis cadarnhaol.
Mae Llywodraeth Cymru wedi gweithio gydag awdurdodau lleol i gytuno ar becyn ehangach o gymorth, a fydd yn sicrhau cysondeb yng nghynigion awdurdodau lleol i deuluoedd EHE a'u plant.
Ni all awdurdodau lleol drosglwyddo manylion teulu i sefydliadau allanol megis Gyrfa Cymru, oni bai bod y teuluoedd hynny'n cytuno i'w manylion gael eu rhannu. Arfer da yw i Swyddogion EHE Awdurdodau Lleol ysgrifennu at deuluoedd unigol a gofyn a ydynt yn cytuno i'w manylion gael eu trosglwyddo i Gyrfa Cymru. Os na, bydd swyddogion awdurdodau lleol yn rhoi manylion cyswllt Gyrfa Cymru i deuluoedd fel y gall y teuluoedd sy'n addysgu yn y cartref gysylltu â hwy eu hunain.
Mae cyfathrebu rhwng EPCs awdurdodau lleol a swyddogion EHE yn bwysig er mwyn sicrhau bod plant sy'n cael eu haddysgu yn y cartref yn cael eu cefnogi'n llawn.
Gall awdurdodau lleol roi cymorth i bobl ifanc sy'n cael eu haddysgu yn y cartref, er mwyn sicrhau bod modd cyfeirio'r bobl ifanc hyn at gymorth ychwanegol sydd ar gael iddynt gan wasanaethau perthnasol.
Saesneg fel iaith ychwanegol
Caiff hyn ei ddefnyddio gan rai awdurdodau lleol fel arwydd o fod mewn perygl o fod yn NEET, gan y gallai plant a phobl ifanc nad Saesneg yw eu hiaith gyntaf fod â bylchau yn eu gwybodaeth am iaith sy'n creu rhwystrau iddynt rhag cael mynediad at y cwricwlwm ac integreiddio i gymuned yr ysgol. Mae tystiolaeth bod Saesneg fel iaith ychwanegol yn gallu croestorri â hil, rhywedd a lefelau economaidd-gymdeithasol isel, gan arwain at leiafrifoedd ethnig yn cael eu gwthio i'r cyrion mewn ysgolion.
Ni fyddai hyn yn berthnasol i'r plant a'r bobl ifanc hynny y mae Cymraeg yn iaith gyntaf iddynt.
Ethnigrwydd
Mae’r ystadegau chwarterol Pobl ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant (NEET) yn cynnwys data ar ethnigrwydd pobl ifanc sy’n NEET. Yn ystod y cyfnod o 3 blynedd a ddaeth i ben ym mis Mehefin 2023, roedd pobl ifanc 16 i 24 oed o gefndir ethnig Gwyn yn fwy tebygol o fod yn NEET (13.8%) na phobl ifanc 16 i 24 oed o gefndir Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol (7.5%).
Mae Deilliannau dysgwyr mewn addysg ôl-16 a effeithiwyd gan bandemig y coronafeirws (COVID-19) yn darparu dadansoddiadau manylach ar wahanol grwpiau o ddysgwyr Blwyddyn 11 sy’n mynd ymlaen i addysg ôl-16.
Addysg heblaw yn yr ysgol (EOTAS)
Mae'r dangosydd hwn yn cael ei ddefnyddio gan rai awdurdodau lleol fel dangosydd o fod mewn perygl o fod yn NEET. Plant a phobl ifanc mewn addysg heblaw yn yr ysgol, yn enwedig mewn unedau cyfeirio disgyblion, yw rhai o'n dysgwyr mwyaf agored i niwed. Gall y plant a'r bobl ifanc hyn ddarganfod eu hunain yn dilyn patrymau ymddygiad negyddol sy'n effeithio ar eu dysgu, ac, o ganlyniad, bydd eu deilliannau dysgu'n llai na chadarnhaol.
Teuluoedd personél y lluoedd arfog
Mae hyn yn cael ei ddefnyddio gan rai awdurdodau lleol fel dangosydd o fod mewn perygl o fod yn NEET, o ystyried sefyllfa unigryw plant y lluoedd arfog.
Iechyd meddyliol a chorfforol
Mae tystiolaeth bod materion iechyd meddwl wedi'u cysylltu'n agos â bod mewn perygl o fod yn NEET.
Mae cysylltiad hefyd rhwng digartrefedd a phroblemau iechyd meddwl.
Mae rhai awdurdodau lleol yn defnyddio atgyfeiriadau iechyd neu wasanaethau cwnsela awdurdodau lleol i nodi problemau iechyd, gan gynnwys lles emosiynol a meddyliol gwael.
Mae'r Fframwaith Ymgysylltiad a Chynnydd Ieuenctid: Llawlyfr yn cynnwys adran sy'n cyfeirio at gymorth ar gyfer iechyd a lles meddyliol.
Astudiaeth achos: adnabod a chefnogi problemau iechyd meddwl yn gynnar
Roedd ‘Jase’ yn ddysgwr Blwyddyn 7 a nodwyd yn goch ar becyn cymorth adnabod yn gynnar yr awdurdod lleol, ar gyfer hunan-barch isel, iselder a materion iechyd meddwl. Yn dilyn y pandemig Covid, gwnaeth Jase barhau i brofi problemau iechyd meddwl.
Effeithiodd hyn ar ei bresenoldeb, a gwnaed atgyfeiriad i'r tîm iechyd meddwl a digartrefedd am gymorth.
Yn ystod sgwrs gyda'i weithiwr ieuenctid, agorodd Jase i fyny a datgelu syniadaeth hunanladdol. Yn dilyn ymyriadau gan dîm iechyd meddwl a digartrefedd y gwasanaeth ieuenctid, cafodd Jase strategaethau ymdopi a helpodd i reoli ei emosiynau mewn ffordd ddiogel.
Rhoddodd y gweithiwr ieuenctid y cyfle i Jase fynychu rhai gweithgareddau y tu allan i'r ysgol, a fu’n hwb i’w hyder a'i hunan-gred. Roedd Jase hefyd yn brin o hyder gyda delwedd y corff, felly darparwyd cymorth ychwanegol a gweithdy iddo. Ysbrydolodd hyn Jase a dechreuodd fynd i'r gampfa. Mae presenoldeb Jase yn yr ysgol wedi gwella, ac mae e bellach yn gwneud yn dda yn yr ysgol.
Tai
Fel y nodwyd uchod, yn ôl gwaith ymchwil, mewn sampl o bobl ddigartref yng Nghymru, profodd 59% ddigartrefedd am y tro cyntaf cyn troi’n 21 oed. Mae rhai awdurdodau lleol hefyd yn defnyddio materion tai fel arwydd o fod mewn perygl o fod yn NEET. Gallai hyn gynnwys edrych ar nifer y symudiadau cartref neu a yw person ifanc wedi symud i mewn gydag aelodau eraill o'r teulu yn anffurfiol oherwydd gall hyn chwalu ar fyr rybudd yn aml. Mae cael data gan swyddogion tai awdurdodau lleol ar blant a phobl ifanc sy'n byw mewn llety dros dro hefyd yn hanfodol. Gall byw mewn llety dros dro gael effaith niweidiol ar blant a'u teuluoedd. Mae'n llawer mwy na phroblem tai, mae'n effeithio ar iechyd, addysg a datblygiad plant.
Pobl ifanc LHDTC+
Mae un papur ymchwil yn dangos:
- bod pobl ifanc LHDTC+ 4 gwaith yn fwy tebygol o ddod yn ddigartref na'u cyfoedion
- bod anoddefgarwch yn y cartref yn sbardun allweddol i ddigartrefedd ymysg pobl ifanc LHDTC+
- bod pobl ifanc LHDTC+ mewn mwy o berygl o niwed pan fyddant yn ddigartref o gymharu â’u cyfoedion nad ydynt yn LHDTC+
I bobl ifanc draws yn benodol, nodwyd bod profiad o gam-drin domestig yn rôl achosol hanfodol yn eu digartrefedd.
Ar ben hynny, canfu astudiaeth yn y DU yn 2015 fod 24% o bobl ifanc ddigartref yn nodi eu bod yn LHDT.
Rydym yn cydnabod yr angen i barchu preifatrwydd pobl ifanc a hefyd yr angen i beidio â gwneud unrhyw ragdybiaethau ynghylch hunaniaeth. Ni fydd rhai pobl ifanc wedi dod allan i unrhyw un, tra bydd eraill yn gyfforddus yn trafod eu hunaniaeth LHDTC+ yn gyhoeddus. Dylai ymarferwyr gael eu harwain gan y person ifanc ynghylch a ydynt yn tynnu sylw at y ffaith y gallai eu hunaniaeth LHDTC+ fod yn ddangosydd risg posibl.
Mae Cynllun Gweithredu LHDTC+ Cymru yn nodi gweledigaeth gyffredinol i wella bywydau a deilliannau pobl LHDTC+.
Beichiogrwydd a bod yn rhiant ifanc
Archwiliodd adroddiad yn 2010 nodweddion NEET a sut y gall y llywodraeth weithio'n effeithiol i'w helpu. Dangosodd hyn fod y tebygolrwydd o fod yn NEET yn cael ei gynyddu 2.8 gwaith lle'r oedd person ifanc yn feichiog neu'n rhiant ifanc. Cefnogir hyn gan ymchwil ddiweddarach a nododd fod gofal plant yn 1 o'r 2 brif rwystr i leihau nifer y bobl ifanc sy'n NEET yn y DU.
Mae Cynnig Gofal Plant Cymru yn darparu cymorth gyda chostau gofal plant i rieni a gofalwyr cymwys plant 3 i 4 oed.
Ffoaduriaid a cheiswyr lloches
Mae rhai awdurdodau lleol yn defnyddio statws ffoaduriaid neu geiswyr lloches fel dangosydd o fod mewn perygl o fod yn NEET.
Mae Cynllun Cenedl Noddfa Llywodraeth Cymru hefyd yn cydnabod pa mor agored yw ffoaduriaid newydd i ddigartrefedd.
Gofalwyr ifanc
Mae tystiolaeth a gyhoeddwyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru yn dangos bod gofalwyr ifanc yn llai tebygol o fod mewn addysg llawn amser, yn fwy tebygol o fod â lefelau cyrhaeddiad addysgol is, yn profi lles meddyliol gwaeth ac mewn mwy o berygl o ymddieithrio o ddysgu.
Mae cyflwyno'r Cerdyn Adnabod Gofalwyr Ifanc cenedlaethol ar draws pob un o'r 22 ardal awdurdod lleol yn caniatáu i ofalwyr ifanc dderbyn cydnabyddiaeth a chymorth. Dylai hefyd helpu awdurdodau lleol a darparwyr gwasanaethau gofalwyr ifanc i gefnogi gofalwyr ifanc i fanteisio ar eu hawliau o dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, a'r Siarter ar gyfer Gofalwyr Di-dâl sy'n esbonio hawliau ac egwyddorion gofalwyr di-dâl.
Mewnbwn gan blant a phobl ifanc
Dylai partneriaethau'r Fframwaith ystyried sut y bydd y systemau bugeiliol presennol mewn lleoliadau addysgol ac ieuenctid ffurfiol yn caniatáu i blant a phobl ifanc hunanatgyfeirio pan fydd angen help arnynt, gan ddefnyddio dull dim drws anghywir. Pan fydd plant a phobl ifanc yn datgelu gwybodaeth i ymarferydd am eu hamgylchiadau, lle bo'n briodol gall y datgeliad hwn sbarduno prosesau adnabod yn gynnar ac atgyfeiriad i gymorth priodol o dan y Fframwaith.
Dylai'r partneriaethau ystyried sut y maent yn sicrhau cyfranogiad plant a phobl ifanc wrth ddatblygu a gwella prosesau hunanatgyfeirio. Dylai hyn gynnwys gofyn cwestiynau agored i gael adborth ar yr hyn sy'n wirioneddol bwysig o safbwynt y plentyn neu'r person ifanc.
Yn sgil trafodaethau gydag awdurdodau lleol, rydym yn gwybod, mewn rhai achosion, fod pobl ifanc yn aml yn fwy cyfforddus yn datgelu gwybodaeth i weithwyr ieuenctid y maent wedi meithrin perthynas o ymddiriedaeth â nhw, ac yn teimlo y byddent yn gwrando arnynt heb eu beirniadu.
Roedd awgrymiadau gan bobl ifanc ar gyfer gwella ymgysylltiad a'r broses hunanatgyfeirio yn cynnwys defnyddio grwpiau cynghori pobl ifanc, a gweithdai dylunio cydweithredol, yn ogystal â defnyddio technoleg ddigidol (gan gynnwys cyfarfodydd ar-lein, gwefannau, defnyddio codau QR i gyfeirio at ffynonellau cymorth a 'sgwrsfotiaid’). Awgrymwyd hefyd hybiau lles y gall pobl ifanc hunanatgyfeirio iddynt, sesiynau gwybodaeth a chodi ymwybyddiaeth, a hyfforddiant a chymorth.
Mae cyfranogiad effeithiol plant a phobl ifanc yn golygu sefydlu cylch lle gofynnir i blant a phobl ifanc am eu barn, lle mae eu barn yn cael ei hystyried a lle y cânt eu diweddaru ar ba gamau a gymerwyd o ganlyniad i'w hadborth.
Pwysoli dangosyddion
Mae rhai awdurdodau lleol yn dyrannu pwysoliad i ddangosyddion, i bennu lefel y cymorth sydd ei angen, fel y gwelir yn yr astudiaeth achos isod a'r astudiaeth achos ar offeryn adnabod yn gynnar Sir Fynwy (gweler yr atodiad).
Astudiaeth achos: pwysoli dangosyddion adnabod yn gynnar ym Merthyr Tudful
Roedd Tîm Ymgysylltiad, Cynnydd a Chydlynu Merthyr Tudful wedi cydnabod nad oedd eu prosesau adnabod yn gynnar yn canfod pob person ifanc a ddaeth yn NEET. Er mwyn mynd i'r afael â hyn, mireiniodd yr EPCs eu hofferyn adnabod yn gynnar, gan neilltuo mwy o bwysoliad i rai dangosyddion data, i wneud eu hofferyn adnabod yn gynnar yn fwy sensitif a chywir.
Roedd hyn yn cynnwys dyrannu sgôr risg coch yn awtomatig i blant a phobl ifanc:
- nad oedd gwybodaeth ar gael amdanynt (dysgwyr sy'n newydd i'r awdurdod lleol)
- a oedd â lefelau presenoldeb o dan 65%
- a oedd wedi'u gwahardd yn barhaol
- a oedd â thueddiadau gwahardd o 10 niwrnod neu fwy
- a oedd yn dilyn cwricwlwm amgen
- a oedd wedi symud ysgol deirgwaith neu fwy
Bu’r EPCs yn gweithio gyda'u tîm Systemau Gwybodaeth Reoli (MIS) i sicrhau bod y trothwyon hyn wedi'u hawtomeiddio o fewn eu systemau adnabod. Maent bellach yn gallu rhedeg eu hadroddiadau eu hunain ac nid ydynt yn dibynnu ar y tîm MIS i wneud hynny ar eu rhan. Mae hyn yn arbennig o ddefnyddiol rhwng mis Chwefror a mis Ebrill bob blwyddyn pan fydd angen i EPCs adnabod, cyn gynted â phosibl, ddysgwyr ym Mlwyddyn 11 y gallai eu sgôr risg fod wedi llithro'n annisgwyl i oren neu goch.
Trafodir plant a phobl ifanc a nodwyd drwy'r broses awtomataidd hon mewn cyfarfodydd partneriaethau lleol cyn-16, sydd wedi helpu i greu darlun mwy cyfannol o bob unigolyn. Mae'r mewnbwn gan ymarferwyr yn y cyfarfodydd hyn hefyd yn golygu y gellir adnabod unigolion sydd mewn perygl o ddigartrefedd ymysg pobl ifanc.
Mae'r newidiadau i'r offeryn adnabod yn gynnar a'r pwysoliadau newydd wedi arwain at raddfeydd 'risg' mwy cywir i’r awdurdod lleol.
Croestoriadedd
Mae croestoriadedd yn disgrifio sut mae nodweddion personol (er enghraifft, hil, dosbarth, rhywedd) yn 'croestorri' â'i gilydd ac yn gorgyffwrdd. Mae'r Athro Kimberlé Williams Crenshaw, a fathodd y term, yn ei ddisgrifio fel ‘a metaphor for understanding the ways that multiple forms of inequality or disadvantage sometimes compound themselves and create obstacles that often are not understood among conventional ways of thinking’. O ran adnabod pobl ifanc sydd mewn perygl o fod yn NEET neu'n ddigartref, dylai EPCs ac YHCs ystyried a yw dangosyddion risg lluosog sy'n cyd-ddigwydd yn golygu bod risg gyffredinol unigolyn yn gwaethygu.
Rôl darparwyr dysgu
Mae gan ddarparwyr dysgu gyfraniad allweddol i'w wneud o ran adnabod yn gynnar bobl ifanc sydd mewn perygl o fod yn NEET neu'n ddigartref. Maent yn cynnwys ysgolion, unedau cyfeirio disgyblion, colegau addysg bellach, darparwyr dysgu seiliedig ar waith, a rhaglenni cyflogadwyedd cymunedol, darparwyr dan gontract sy'n cyflwyno’r rhaglen Twf Swyddi Cymru+ ynghyd â'r sector gwirfoddol (gan gynnwys sefydliadau gwaith ieuenctid gwirfoddol).
Mae'r cyswllt rheolaidd y mae darparwyr dysgu yn ei gael gyda phlant a phobl ifanc yn golygu eu bod mewn sefyllfa dda i nodi ffactorau risg yn gynnar. Yn aml, mae ganddynt wybodaeth fanwl am amgylchiadau unigolion y gellir ei chasglu'n gynnar a'i rhannu, fel y bo'n briodol, o fewn y bartneriaeth leol, er mwyn tynnu sylw at ba bobl ifanc sydd angen cymorth, naill ai drwy rannu data priodol neu drwy fewnbwn rhagweithiol gan ymarferwyr.
Mae rolau a chyfrifoldebau darparwyr dysgu a sefydliadau eraill sy'n ymwneud â chyflwyno'r Fframwaith wedi'u hamlinellu yn y Fframwaith Ymgysylltiad a Chynnydd Ieuenctid: Llawlyfr.
Astudiaeth achos: sut y gwnaeth mewnbwn gan yr ysgol helpu i nodi materion ychwanegol
Nodwyd ‘Jo’, dysgwr Blwyddyn 10, drwy brosesau adnabod yn gynnar yr awdurdod lleol fel rhywun a oedd mewn perygl o ddod yn NEET ac yn ddigartref (gyda baneri coch ac oren priodol). Rhoddodd yr ysgol fewnbwn ymarferwyr a nododd gyfnodau ychwanegol o ddiffyg presenoldeb a gwaharddiadau, nad oeddent wedi bod yn rhan o asesiad risg cychwynnol yr awdurdod lleol. Nododd yr ysgol ddangosyddion risg ymddygiadol eraill hefyd, sef bod yn adweithiol ac osgoi gwersi. Cynyddodd yr wybodaeth ychwanegol hon sgoriau 'risg' Jo.
Gweithiodd gweithwyr atal NEET a digartrefedd gyda Jo i'w helpu i nodi a datgelu ffactorau personol eraill a oedd yn effeithio arni hi a'i theulu. Roedd Jo yn cael trafferth gyda'i rhywioldeb, roedd ei mam yn profi problemau cyfreithiol, a oedd wedi rhoi'r teulu mewn sefyllfa ariannol ansicr, roedd y teulu'n wynebu cael ei droi allan a phrin, os o gwbl, oedd cyswllt Jo â'i thad.
Gyda chytundeb yr ysgol, datblygwyd cynllun cymorth cydweithredol. Roedd y cynllun yn cynnwys eiriolaeth, mentora, cymhwyster galwedigaethol, hyfforddiant ymwybyddiaeth o lety a hyfforddiant ar ddigartrefedd, a chymorth lles bugeiliol ac emosiynol (roedd yr olaf yn cynnwys rheoli dicter a rheoli hunan-niweidio). Roedd yr awdurdod lleol hefyd yn gallu gweithio gyda’i sefydliadau partner yn y Fframwaith Ymgysylltiad a Chynnydd Ieuenctid i gael:
- cymorth ychwanegol
- cwnselydd pobl ifanc
- gweithiwr cymorth tai i fam Jo, i'w helpu i ymdopi â'r broses troi allan a oedd ar ddigwydd
O ganlyniad i'r ymyrraeth hon, llwyddodd Jo i gwblhau Blwyddyn 11 yn yr ysgol, sefyll ei harholiadau a chyflawni ei chymhwyster galwedigaethol, gyda chymorth ychwanegol yn cael ei ddarparu ar gyfer ei phontio i addysg bellach. Mae Jo a'i mam bellach mewn llety rhent preifat ac mae materion cyfreithiol ei mam wedi cael eu datrys.
Mae prosesau'r awdurdod lleol yn achos Jo wedi'u hamlinellu isod.
Gwaith amlasiantaethol
Mae gweithredu'r Fframwaith, a'r llinynnau adnabod yn gynnar ac olrhain yn benodol, yn golygu ymrwymiad a gwaith cydgysylltiedig sylweddol gan randdeiliaid. Bydd gan yr awdurdodau lleol hynny sydd eisoes wedi rhoi system adnabod yn gynnar ar waith yn llwyddiannus grwpiau llywio strategol a rhanddeiliaid ar waith i ddatblygu trafodaethau ar bynciau megis cytundebau rhannu data, mireinio eu dangosyddion a'u trothwyon a rheoli llwyth achosion.
Gellir defnyddio cyfarfodydd amlasiantaethol rheolaidd i ddyrannu gweithwyr arweiniol ac i gysylltu â gweithwyr arweiniol presennol ynghylch cynnydd, gan feithrin perthnasoedd proffesiynol sy'n cefnogi'r Fframwaith.
Plant a phobl ifanc sydd mewn perygl o ymddieithrio neu ddod yn ddigartref yw rhai o'r bobl mwyaf agored i niwed mewn cymdeithas ac, yn aml, mae ganddynt anghenion cymorth cymhleth ac amrywiol. Mae'n annhebygol y bydd yr anghenion hyn yn cael eu diwallu gan un man yn unig. Felly, mae angen cydweithio drwy waith amlasiantaethol i ddarparu cymorth effeithiol. Disgwylir y byddai hyn hefyd yn cynnwys mewnbwn gan y gwasanaethau plant os buont yn rhan o’r achos. (Mae cyfranogiad gwasanaethau plant bellach yn ddangosydd risg allweddol.) Mae Gyrfa Cymru, partner allweddol arall, yn rhoi blaenoriaeth i bobl ifanc y mae eu hamgylchiadau yn eu gwneud yn fwy tebygol o ddod yn NEET ar gyfer cyfweliadau cyfarwyddyd wyneb yn wyneb, ac ar gyfer cymorth ychwanegol o bosibl. Gall cymorth ychwanegol gynnwys cynghorwyr penodol ar gyfer pobl ifanc:
- sydd ag ADY
- sydd mewn addysg ddewisol yn y cartref
- sydd mewn addysg heblaw yn yr ysgol
Amlinellir rolau a chyfrifoldebau'r holl sefydliadau sy'n ymwneud â chyflawni'r Fframwaith yn y Fframwaith Ymgysylltiad a Chynnydd Ieuenctid: Llawlyfr.
Mae gwaith amlasiantaethol yn unol â Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, sy'n ei gwneud yn ofynnol i'r cyrff cyhoeddus a restrir yn y Ddeddf fabwysiadu'r egwyddor datblygu cynaliadwy ac ymgorffori'r 5 ffordd o weithio (gan gynnwys cydweithio). Mae integreiddio gwasanaethau yn helpu i ddatblygu dull cyfannol, gan sicrhau bod pobl ifanc sy'n agored i niwed 'ar y radar' ac yn cael cynnig cymorth pan fydd ei angen arnynt.
Astudiaeth achos: Gwaith amlasiantaethol yng Nghaerffili
Mae EPC a YHC y gwasanaeth ieuenctid yn cynnal cyfarfodydd ar y cyd bob tymor ysgol gyda phenaethiaid Blwyddyn 11 o bob ysgol ar draws yr awdurdod lleol, a hefyd cyfarfodydd pontio gyda phenaethiaid Blwyddyn 10 yn nhymor yr haf. Mae'r cyfarfodydd yn canolbwyntio ar y rhai sydd mewn perygl o fod yn NEET a digartrefedd ymysg pobl ifanc.
Ategir y dangosyddion data cychwynnol gan fewnbwn gan Benaethiaid Blwyddyn 11, athrawon, swyddogion lles addysg ac ymarferwyr Gyrfa Cymru. Mae'r ddeialog gydag ymarferwyr yn caniatáu archwilio dangosyddion ychwanegol, megis perthnasoedd teuluol, cyfranogiad gwasanaethau cymdeithasol, ymddygiadau neu risg o waharddiad. Mae hyn yn galluogi dull mwy cyfannol ac wedi'i deilwra ac yn sicrhau bod cymorth yn cael ei gydlynu a'i gynnig ar yr adeg iawn.
Mae gweithio mewn ffordd gydweithredol wedi cynnig cyfleoedd amserol i drafod a chodi ymwybyddiaeth o ddangosyddion cynnar allweddol gydag ymarferwyr ar draws yr awdurdod lleol a'u helpu i nodi dysgwyr a fyddai'n elwa ar gymorth ymyrraeth gynnar.
Camau allweddol er mwyn adnabod risg yn gynnar
Rhestr wirio ar gyfer awdurdodau lleol wrth ddatblygu system adnabod yn gynnar
1. Sicrhau bod EPC ac YHC ar waith
Sbarduno darpariaeth holl linynnau'r Fframwaith, gan gynnwys y llinyn adnabod yn gynnar.
2. Sefydlu trefniadau amlasiantaethol
Mae partneriaethau lleol ar waith ac yn cynnwys yr EPC a'r YHC ac yn ystyried pa bartneriaid ychwanegol y dylid eu gwahodd.
Dylai cytundebau rhannu data fod ar waith.
3. Ystyried dangosyddion
Dylai'r dangosyddion hyn gynnwys dangosyddion data allweddol a dangosyddion allweddol eraill fel y nodir yn y canllawiau hyn. Dylid ystyried pa ddangosyddion ychwanegol sy'n berthnasol i'ch ardal a’u mireinio ar gyfer eich ardal.
4. Cytuno ar drefniadau ar gyfer mewnbwn ymarferwyr
Sefydlu trefniadau ar gyfer mewnbwn ymarferwyr i helpu'r bartneriaeth leol i ddatblygu dealltwriaeth gyfannol o amgylchiadau unigolion a chymorth priodol ar eu cyfer nhw.
5. Sefydlu prosesau ar gyfer adolygu llwyth achosion
Cytuno o fewn y bartneriaeth leol sut beth yw llwyddiant, a’r prosesau ar gyfer newid y cymorth a gynigir i unigolion os credir nad yw'n gweithio neu pan nad oes angen cymorth mwyach ar gyfer unigolion.
Rhestr wirio ar gyfer darparwyr dysgu wrth adnabod yn gynnar
1. Gwneud cysylltiadau ag EPC ac YHC eich awdurdod lleol
Cytuno ar sut y byddwch yn cynnal deialog barhaus gyda nhw.
2. Ymgyfarwyddo â'r dangosyddion risg
3. Darparu mewnbwn ymarferwyr, gan gynnwys mewn cyfarfodydd amlasiantaethol
Efallai na fydd rhai pobl ifanc yn cael eu hadnabod gan systemau adnabod yn gynnar awdurdodau lleol. Dyma lle mae mewnbwn ymarferwyr yn amhrisiadwy ar gyfer adnabod pobl ifanc sy'n wynebu risg. Rhannwch eich gwybodaeth i helpu'r bartneriaeth leol i greu darlun cyfannol o amgylchiadau'r unigolyn. Codi pryderon brys gyda'r EPC a'r YHC.
Mae gwaith amlasiantaethol yn cael ei ategu gan gytundebau rhannu data.
4. Darparu data a gwybodaeth amserol a chywir
Mae hyn yn hanfodol er mwyn sicrhau bod pobl ifanc yn pontio'n esmwyth i gam nesaf eu haddysg a'u hyfforddiant a bod pobl ifanc mewn argyfwng yn cael eu hadnabod yn gyflym ac yn cael cynnig cymorth.