Daeth yr ymgynghoriad i ben 25 Mawrth 2021.
Crynodeb o’r canlyniad
Mae'r y crynodeb o ymatebion bellach ar gael.
Manylion am y canlyniad
Crynodeb o'r ymatebion , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 450 KB
Ymgynghoriad gwreiddiol
Hoffem gael eich barn ar y broses o gynllunio a darparu gwasanaethau i bobl sydd mewn perygl o gael niwed i'r ymennydd yn gysylltiedig ag alcohol neu sydd wedi dioddef niwed o’r fath.
Disgrifiad o'r ymgynghoriad
Rydym yn gofyn am eich barn ar y fframwaith drafft, sy'n edrych ar ffyrdd o atal niwed i'r ymennydd yn gysylltiedig ag alcohol ac ar drin y rhai y mae'r cyflwr yn effeithio arnynt.
Bydd y fframwaith yn helpu cynllunwyr a darparwyr yn y maes iechyd a gofal cymdeithasol i gynllunio a darparu gwasanaethau o safon ar gyfer niwed i’r ymennydd yn gysylltiedig ag alcohol.