Fframwaith Rhaglen Comisiynu Prentisiaethau Cymru: hysbysiad preifatrwydd i gyflogwyr
Sut y byddwn yn defnyddio’r wybodaeth yr ydych yn ei rhoi inni ac am ba hyd y byddwn yn ei chadw.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Mae'r ffurflen yn gofyn i chi ddarparu data personol. Llywodraeth Cymru fydd y rheolwr data ar gyfer y wybodaeth hon a byddwn yn ei defnyddio yn unol â'n tasg gyhoeddus a'r awdurdod swyddogol a freiniwyd ynom.
Byddwn yn defnyddio'r wybodaeth hon i gysylltu â chi ynglŷn â'ch profiad o raglen brentisiaethau Llywodraeth Cymru. Bydd yr adborth hwn yn ein galluogi i ddeall yn well sut mae'r rhaglen yn gweithredu ac a ellid gwneud gwelliannau. I wneud hyn bydd eich data personol yn cael eu rhannu gydag ymchwilwyr trydydd parti a benodwyd gan Lywodraeth Cymru ac sy'n gweithredu ar ei rhan. Bydd asiantaethau ymchwil a sefydliadau academaidd yn gwneud gwaith ymchwil at ddibenion gwerthuso a gwaith ystadegol yn unig a byddant yn cysylltu â chi'n uniongyrchol.
Bydd eich data'n cael eu cadw am ddeng mlynedd ac ar ôl hynny byddant yn cael eu dinistrio.
O dan y ddeddfwriaeth diogelu data, mae gennych hawl:
- i wybod am y data personol a gedwir amdanoch chi a'i weld
- i’w gwneud yn ofynnol inni gywiro gwallau yn y data hynny
- (o dan rai amgylchiadau) i wrthwynebu neu gyfyngu ar brosesu’r data
- i ofyn i'ch data gael eu 'dileu' (o dan amgylchiadau penodol)
- (o dan rai amgylchiadau) i gludadwyedd data
- i gyflwyno cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth, ein rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data
I gael rhagor o fanylion am yr wybodaeth a gedwir gan Lywodraeth Cymru ac am y defnydd a wneir ohoni, neu os ydych am arfer eich hawliau o dan y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data, gweler y manylion cyswllt isod:
Gweler y manylion ar gyfer cysylltu â Swyddog Diogelu Data Llywodraeth Cymru isod:
Y Swyddog Diogelu Data
Welsh Government
Cathays Park
Caerdydd
CF10 3NQ
E-bost: DataProtectionOfficer@llyw.cymru
Dyma fanylion cyswllt Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth:
Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Swydd Gaer / Cheshire
SK9 5AF
Ffôn: 0165 545 745 neu 0303 123 1113
Gwefan: www.ico.org.uk