Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Mae’r fframwaith NYTH yn offeryn cynllunio wedi’i gydgynhyrchu ar gyfer sefydliadau ac arweinwyr strategol i rannu egwyddorion ac iaith allweddol ar gyfer iechyd meddwl a llesiant.

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i greu dull system gyfan o ymdrin â gwasanaethau iechyd meddwl a llesiant ar gyfer babanod, plant, pobl ifanc a’u teuluoedd. Mae gweithredu fframwaith NYTH yn rhan allweddol o gefnogi gwasanaethau i weithio mewn partneriaeth er mwyn darparu gwasanaethau meithrin, grymuso, diogel a dibynadwy mwy cydgysylltiedig.

Mae’r diweddariad blynyddol hwn ar weithredu NYTH yn dwyn ynghyd adroddiadau o hunanasesiadau NYTH Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol a Llywodraeth Cymru i ddangos y cynnydd sy’n cael ei wneud wrth roi NYTH ar waith.

Gweithredu cenedlaethol

Ym mis Chwefror 2024, lansiwyd offeryn hunanasesu NYTH. Cafodd yr offeryn ei gydgynhyrchu â phobl ifanc, ymarferwyr ac arweinwyr strategol a chafodd ei dreialu mewn gwahanol sectorau cyn cael ei gyhoeddi.

Daeth dros 300 o bobl i’n digwyddiad gweithdy i lansio offeryn hunanasesu a hyfforddiant NYTH a gofynnodd 135 arall am recordiad o’r digwyddiad.

Yn ogystal, rydym yn cynnal fforwm NYTH cenedlaethol misol i roi cymorth wrth gwblhau hunanasesiadau NYTH.

Roedd adborth o'r gweithdy yn cynnwys:

Ro’n i’n meddwl ei fod [y gweithdy] yn ardderchog – fe wnes i wir fwynhau. Gwych clywed gan bobl ifanc yn ogystal â siaradwyr rhagorol a chlywed am y gwaith peilot.

NYTH ar draws Llywodraeth Cymru

Roedd NYTH yn alluogwr allweddol ar gyfer cyflawni i’r strategaeth iechyd meddwl a llesiant meddyliol ddrafft a chafodd hynny gefnogaeth yn yr ymgynghoriad cyhoeddus.

Mae cod ymarfer y fframwaith cenedlaethol ar gyfer comisiynu gofal a chymorth yn ei gwneud yn ofynnol i gomisiynwyr ddefnyddio’r fframwaith NYTH yn eu harferion comisiynu, defnyddio offerynnau a hyfforddiant NYTH a sicrhau “dull dim drws anghywir”. Mae hefyd yn argymell bod gan ddarparwyr ddealltwriaeth dda o egwyddorion NYTH wrth ddarparu gwasanaethau.

Mae weledigaeth genedlaethol ddrafft ar gyfer babanod, plant a phobl ifanc ag anabledd dysgu yn cael ei llywio gan fframwaith NYTH ac mae’n cynnwys llawer o’r un egwyddorion a gwerthoedd sylfaenol.

Mae NYTH yn cael ei gynnwys yng nghanllawiau’r grant plant a chymunedau (CCG) newydd gydag argymhelliad bod pob prosiect a ariennir drwy’r CCG yn ymgymryd â hyfforddiant NYTH ac yn defnyddio’r offeryn hunanasesu. Mae cyfle i ddarparu astudiaethau achos ar sut mae NYTH yn cael ei weithredu drwy’r CCG.

Mae’r rhaglen gwella gwasanaethau niwrowahaniaeth (NDIP) wedi’i alinio â NYTH er mwyn sicrhau bod teuluoedd plant sy’n niwrowahanol neu sydd o bosib yn niwrowahanol yn gallu cael cymorth gan wasanaethau ehangach. Mae NDIP yn cynnig cymorth i uwchsgilio gwasanaethau ehangach er mwyn diwallu anghenion plant niwrowahanol a’u teuluoedd. Mae rhanbarthau’n gweithio gyda phartneriaid i integreiddio cymorth niwrowahanol ac iechyd meddwl.

Mae ein cymuned ymarfer NYTH yn parhau i fod yn fforwm bywiog a dymunol gyda 40 o ymarferwyr a phartneriaid strategol ar gyfartaledd yn dod ynghyd o bob sector a phroffesiwn sy’n gysylltiedig ag iechyd meddwl a llesiant plant.

Mae gwaith wedi’i wneud i nodi gwaith ieuenctid rhanbarthol a chynrychiolwyr chwarae i weithio gyda Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol gyda’r nod o gefnogi gwell cydweithio. Mae hyn wedi cynnwys datblygu briff chwarae a lles NYTH ar gyfer y sector ehangach.

NYTH a hyfforddiant hawliau plant

Ym mis Chwefror 2024, lansiwyd ein cyflwyniad i NYTH a hyfforddiant hawliau plant ar blatfform dysgu Y Tŷ Dysgu. Cafodd ei gydgynhyrchu â phobl ifanc, Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol (BPRh) Gwent a Chomisiynydd Plant Cymru.

Ym mis Hydref 2024, roedd 147 o bobl wedi cofrestru ar y cwrs ac roedd 70 wedi’i gwblhau.

Mae'r graff yn dangos sut wnaeth dysgwyr raddio hyfforddiant NYTH:

Image
Siart far yn dangos bod 92% o ddysgwyr wedi nodi bod hyfforddiant NYTH yn dda neu'n rhagorol ar raddfa o 1 i 5.

Mae'r siart gylch yn dangos cyfranogwyr hyfforddiant NYTH yn ôl sefydliad:

Image
Siart gylch yn dangos bod 60% o ddysgwyr yn staff y GIG, 20% yn staff awdurdod lleol, 3% yn y trydydd sector a dywedodd 17% o ddysgwyr eu bod yn y sector preifat neu mewn sector arall.

Adborth

Roedd y rhai a gymerodd ran yn dweud bod yr enghreifftiau ymarferol o sut mae’r fframwaith NYTH wedi’i roi ar waith yn arbennig o ddefnyddiol.

Tynnwyd sylw at y ffaith bod cynnwys lleisiau plant ac enghreifftiau go iawn yn agwedd bwerus a difyr o’r hyfforddiant.

Nododd yr ymatebwyr fod yr hyfforddiant yn rhoi mewnwelediadau gwerthfawr y gallent eu cymhwyso’n uniongyrchol i’w rolau, yn enwedig wrth hyrwyddo hawliau plant ac ymgorffori’r fframwaith NYTH yn eu gwaith.

Gofynnodd y rhai a gymerodd ran am ragor o dystebau fideo ac enghreifftiau o’r fframwaith NYTH ar waith.

Roedd y rhai a gymerodd ran yn awgrymu y dylid ymgorffori mwy o raffeg ac elfennau rhyngweithiol i wneud y cynnwys yn fwy deniadol.

Roedd yr adborth yn cynnwys:

Byddaf yn sicrhau fy mod yn cydweithio â phob asiantaeth i sicrhau bod llais y plentyn yn cael ei glywed.

Enghreifftiau diddorol iawn o sut roedd NYTH wedi cael ei ddefnyddio i gefnogi cydgynhyrchu a datblygu gwasanaethau.

Roedd yn ddefnyddiol bod lleisiau’r bobl ifanc yn rhan o’r hyfforddiant, a’r holl wybodaeth am y gwaith sy’n cael ei wneud ganddyn nhw a gyda nhw.

Roeddwn i’n meddwl ei fod yn gwrs hyfforddi da iawn, ac wedi’i gynllunio’n dda. Roedd gweithgareddau wedi’u rhannu ac roedd llawer iawn o brofion gwybodaeth drwy gydol y cwrs. Fe wnes i wir fwynhau’r hyfforddiant.

Safbwyntiau rhanbarthol

Ym mis Hydref 2024, fe wnaeth pob Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol (BPRh) gyflwyno hunanasesiadau NYTH. Mae’r adroddiad hwn yn ymdrin â’r themâu, yr arferion da a’r pryderon a ddaeth yn sgil dadansoddi’r hunanasesiadau hynny.

I ffurfio eu hunanasesiadau, cynhaliodd pob BPRh weithdai gyda phartneriaid gan wrando ar blant, pobl ifanc a theuluoedd. Fe wnaeth llawer o brosiectau a ariannwyd gan y Gronfa Integreiddio Rhanbarthol gwblhau hunanasesiadau NYTH hefyd a llywiodd y rheiny’r cyflwyniadau rhanbarthol.

Mae’r adroddiad hwn yn defnyddio 6 egwyddor allweddol NYTH i ddangos y cynnydd sy’n cael ei wneud wrth weithredu. Wrth ymyl pob egwyddor, fe welwch y "sgôr taith NYTH" cyfartalog. Cyfartaledd yw hwn o holl raddfeydd pob BPRh a hunan-ddyfarnwyd ar raddfa o 1 i 4:

  • 1 yw lefel sylfaenol: derbyn yr egwyddor ac ymrwymo i weithredu
  • 2 yw cynnydd cynnar: datblygiad cam cyntaf a chynllun gweithredu
  • 3 yw cynnydd sylweddol: camau gweithredu cam cyntaf wedi’u cwblhau gyda chanlyniadau da
  • 4 yw wedi’i sefydlu (cylch myfyrio a gwella): arferion da wedi’u sefydlu, adolygu parhaus, dysgu o ymchwil

Oedolion y gellir ymddiried ynddynt

Sgôr taith NYTH ar gyfartaledd ar draws pob rhanbarth: 2.3.

Mewn sawl rhanbarth, roedd yr egwyddor o gael oedolion y gellir ymddiried ynddynt yn cael ei gyflwyno i brosesau recriwtio a chadw. Roedd hyn yn cynnwys:

  • goruchwyliaeth staff
  • polisïau i gefnogi’r gwaith o gadw staff
  • pobl ifanc yn rhan o brosesau recriwtio
  • egwyddor o oedolion y gellir ymddiried ynddynt mewn swydd‑ddisgrifiadau

Roedd y camau hyn yn ymateb i’r angen a nodwyd am brosesau gwell o gadw staff a gofalu am staff sydd angen gweithio yn y tymor hir a darparu parhad i feithrin perthnasoedd o ran oedolion y gellir ymddiried ynddynt. Nodwyd rhwystrau ychwanegol i’r dull hirdymor hwn fel contractau tymor byr a chyllid.

Roedd manteision a phwysigrwydd hyfforddiant sy’n ystyriol o drawma ar gyfer oedolion y gellir ymddiried ynddynt yn cael sylw helaeth yn yr hunanasesiadau gyda chydnabyddiaeth bod ymarfer sy’n ystyriol o drawma yn creu amodau o ran oedolion y gellir ymddiried ynddynt.

Siaradodd rhanbarthau am yr angen i ddiffinio’r term oedolion y gellir ymddiried ynddynt a chafwyd cydnabyddiaeth o’r cymhlethdodau y mae’r term yn eu cyflwyno. Mae rhai yn gweithio gyda phlant a phobl ifanc i greu dealltwriaeth gyffredin ranbarthol o’r term a’r egwyddor.

Er bod rhanbarthau’n adlewyrchu ar bwysigrwydd gweithio gydag oedolion y gellir ymddiried ynddynt mewn perthynas â’r plentyn dan sylw i’w helpu i gefnogi’r plentyn hwnnw, tynnwyd sylw hefyd at bwysigrwydd ymddiriedaeth rhwng gwasanaethau a gweithwyr proffesiynol er mwyn sicrhau prosesau pontio a chyfeirio dirwystr.

Adborth o ranbarth Gwent:

Mae timau fel Cynefin a Seicoleg Gymunedol Plant a Theuluoedd Gwent yn gweithio’n uniongyrchol gydag oedolion y gellir ymddiried ynddyn nhw, nid dim ond rhieni ond hefyd gweithwyr proffesiynol fel athrawon a gweithwyr cymdeithasol, i ddatblygu dealltwriaeth gyffredin o anghenion y plentyn. Mae’r dull cyfannol hwn sy’n seiliedig ar bartneriaeth yn helpu i greu amodau lle mae anghenion seicolegol ac emosiynol plant yn cael eu deall a’u cefnogi’n well.

Adborth gan ranbarth Cwm Taf Morgannwg:

Un agwedd allweddol ar sefydlu oedolion y gellir ymddiried ynddyn nhw yw ymgysylltu cyson, hirdymor.

Ar gyfer rhanbarth gorllewin Cymru, mae’r cysyniad o oedolion y gellir ymddiried ynddyn nhw yn:

faes gorlawn gyda gwahanol ddulliau athronyddol, yn dibynnu ar eich safbwynt proffesiynol.

Llesiant ar draws addysg

Sgôr taith NYTH ar gyfartaledd ar draws pob rhanbarth: 2.1.

Er bod pob rhanbarth yn cydnabod pwysigrwydd cymorth iechyd meddwl a llesiant mewn addysg fel rhan o’r system gyfan, roedd llawer o ardaloedd yn ei chael hi’n anodd cael cynrychiolaeth addysg ar eu gweithgorau neu grwpiau plant ac roedd ganddynt gamau gweithredu o ran cynyddu hyn.

Roedd y rhan fwyaf o ranbarthau’n canolbwyntio ar ddarpariaeth ysgolion yn yr adran hon. Roedd cydnabyddiaeth o bwysigrwydd y "dull ysgol gyfan o ymdrin ag iechyd a llesiant emosiynol" a mewngymorth CAMHS ac roedd llawer o gydgysylltwyr yn rhan o waith partneriaeth BPRh. Nododd rhai rhanbarthau yr angen am arweiniad cliriach ar yr aliniad rhwng y ddau fframwaith a sut y dylai NYTH fod yn rhan o ddulliau ysgolion o ymdrin â llesiant. Soniodd llawer o ranbarthau am yr angen i gynyddu’r wybodaeth mewn ysgolion am y gwasanaethau iechyd meddwl a llesiant sydd ar gael a chreu cysylltiadau rhwng addysg a gwasanaethau. Roedd hyn yn cael ei weithredu mewn sawl ffordd, gan gynnwys:

  • fforymau
  • adnoddau ar-lein
  • cydlynwyr addysg

Roedd iechyd meddwl a llesiant y rhai a addysgir heblaw yn yr ysgol yn bryder ac roedd rhai ardaloedd yn darparu cymorth wedi’i dargedu ar gyfer plant a phobl ifanc sy’n derbyn addysg ddewisol yn y cartref a dysgwyr mewn unedau cyfeirio disgyblion.

Yn ogystal, amlygodd rhanbarthau yr angen i gynnwys gofal plant mewn ystyriaethau am lesiant ar draws addysg. Amlygwyd hyn o ran cynrychiolaeth ar weithgorau a’r angen i fewnosod NYTH ym maes gofal plant. Mewn rhai rhanbarthau roedd hyn yn ymestyn i’r blynyddoedd cynnar yn fwy cyffredinol. Nododd rhai rhanbarthau fod angen cydweithio’n agosach ag addysg uwch ac addysg bellach ac roedd ganddynt gamau gweithredu i sicrhau cynrychiolaeth ar weithgorau.

Sut byddai da yn edrych i ranbarth Caerdydd a'r Fro:

Negeseuon clir a chyson i ysgolion a phartneriaid addysg sy’n rhoi dealltwriaeth o NYTH a hyder yn yr aliniad rhwng NYTH a’r dull ysgol gyfan o ymdrin â llesiant emosiynol a chynnwys lleoliadau gofal plant sy’n gofalu am ein babanod a’n plant cyn oed ysgol wrth weithredu NYTH.

Adborth gan ranbarth Cwm Taf Morgannwg:

Mae angen cynrychiolaeth gywir ar grwpiau presennol a phresenoldeb rheolaidd.

Adborth o ranbarth gogledd Cymru:

Materion addysg yn y cartref. Mae’n anodd rhoi systemau nad ydyn nhw’n systemau addysg ar waith os nad oes ymgysylltiad â’r gymuned ehangach yn bodoli’n barod. Carfan o rieni nad ydyn nhw’n ymgysylltu â gwasanaethau, dim llesiant, sy’n creu risgiau diogelu.

Dylid diweddaru’r adran hon i gynnwys darpariaeth gofal plant o ansawdd. Yn enwedig ar gyfer y blynyddoedd cynnar gan fod ganddo ddylanwad mor gryf ar gefnogi sylfeini cryf i blant a’u rhagolygon i’r dyfodol.

Arloesedd drwy gydgynhyrchu

Sgôr taith NYTH ar gyfartaledd ar draws pob rhanbarth: 2.1.

Gofynnir i bob sefydliad a phartneriaeth sy’n cwblhau hunanasesiad NYTH sicrhau bod lleisiau plant a theuluoedd yn llywio eu myfyrdodau. Roedd rhywfaint o arferion da gyda llais plant yn llywio hunanasesiadau NYTH, ond nid oedd hyn yn wir ymhob rhan o’r wlad ac roedd bylchau sylweddol o ran ymgysylltu â phlant a theuluoedd. Fodd bynnag, yn yr achosion lle nad oedd llais plant yn cael ei gynnwys mewn asesiadau, roedd yn cael ei amlygu fel bwlch ac roedd camau i fynd i’r afael â’r mater.

Roedd llawer o ranbarthau’n gallu rhoi enghreifftiau da o wasanaethau’n cydgynhyrchu eu darpariaeth a’u cynllunio unigol a’u pocedi o arferion da, ond yr hyn a oedd yn ddiffygiol yn gyffredinol (ond nid yn gyfan gwbl) fodd bynnag, oedd dull rhanbarthol o fynd i’r afael ag ymgysylltu â phlant a theuluoedd mewn gwaith cynllunio strategol. Roedd rhanbarthau’n cydnabod yr angen i gwblhau’r sgwrs adborth gyfan a sicrhau bod cydgynhyrchu ac ymgysylltu yn cael eu gwneud yn dda.

Roedd gan ranbarthau gynlluniau i ddatblygu eu gwaith ymgysylltu â phlant a phobl ifanc ymylol, gan gynnwys:

  • pobl ifanc ddigartref
  • plant â chyflyrau sy’n cyfyngu ar fywyd
  • plant a phobl ifanc dieiriau

Nododd y rhan fwyaf o ranbarthau yr angen i gynnwys lleisiau rhieni a gofalwyr, gyda chamau gweithredu i wneud hynny, gan gynnwys sefydlu fforwm rhieni i ddylanwadu ar benderfyniadau strategol. Roedd llais babanod a phlant iau yn absennol i raddau helaeth o hunanasesiadau.

Adborth teulu gan Cwm Taf Morgannwg:

Gwrandewch ar blant a’u teuluoedd, dyw pob ateb ddim yn addas i bawb.

Adborth o ranbarth Gwent:

Mae plant a rhieni wedi bod yn rhan o’r panel cyfweld ar gyfer staff newydd mewn rhai gwasanaethau, gan sicrhau bod eu safbwyntiau’n dylanwadu ar bwy sy’n cael eu cyflogi i weithio gyda nhw.

Adborth gan ranbarth Caerdydd a'r Fro:

Rydyn ni hefyd wedi gweithio gyda Tŷ Hafan i ddatblygu adnodd ar gydgynhyrchu gyda phlant â chyflyrau sy’n cyfyngu ar fywyd a’r effaith gadarnhaol y gall hyn ei gael ar eu llesiant.

Adborth gan ranbarth Powys:

Mae cynlluniau ar gyfer y dyfodol yn cynnwys datblygu fforwm rhianta er mwyn rhoi cyfle i rieni gyfrannu mewn ffordd weithredol at gynllunio prosiectau a gwasanaethau.

Dywedodd Gorllewin Morgannwg y byddan nhw:

yn sefydlu ffyrdd o weithio gyda phartneriaid i sicrhau bod busnes y rhaglen plant a phobl ifanc yn ddolen barhaus o fewnbwn, adborth a chyflawni er mwyn sicrhau bod llais y plentyn yn cael ei glywed a’n bod yn gweithredu arno.

Mynediad hawdd at arbenigedd

Sgôr taith NYTH ar gyfartaledd ar draws pob rhanbarth: 2.1.

Soniodd rhanbarthau am y rhwystrau o ran cael mynediad at arbenigedd a gwasanaethau yn gyffredinol a nodwyd natur wledig ardaloedd a chysylltiadau trafnidiaeth yn ogystal â thlodi fel y prif rwystrau. Soniodd y Gogledd am yr angen i gael mynediad at wasanaethau yn y Gymraeg tra bod rhanbarthau eraill yn amlygu’r angen i ieithoedd eraill fod ar gael.

Soniodd rhanbarthau am greu neu gynnal gwefannau sy’n cynnig gwybodaeth am iechyd meddwl a gwasanaethau, gan gynnwys gwefannau a gydgynhyrchwyd a gwella tudalennau gwe byrddau iechyd ar gyfer CAMHS a niwroamrywiaeth. Amlygodd rhai rhanbarthau rôl gwasanaethau gwybodaeth i deuluoedd i ddarparu mynediad hawdd at arbenigedd i deuluoedd.

Cafwyd adborth bod gwasanaethau’n teimlo’n fwy syml a chydlynol wrth gael eu darparu drwy’r Gronfa Integreiddio Rhanbarthol. Fodd bynnag, nod y gwasanaethau a’r teuluoedd mai’r prif rwystr oedd rhestrau aros hir i gael mynediad at arbenigedd.

Adborth gan ogledd Cymru:

Mae mynediad hawdd yn fwy na mynediad at wybodaeth yn unig. Mae angen i bobl allu cael mynediad at rai gwasanaethau yn gorfforol. Bydd pobl mewn llefydd gwledig yn y Gorllewin yn cael trafferth mynychu gwasanaethau wyneb yn wyneb, oherwydd cludiant cymunedol gwael. Mae angen i weithwyr proffesiynol ddeall pa mor anodd y gall fod i deuluoedd gael mynediad at arbenigedd.

Adborth gan ranbarth Caerdydd a'r Fro:

Cydnabyddir y gall diffyg dealltwriaeth am niwroamrywiaeth a sut i gefnogi plentyn a allai fod â’r anghenion hyn effeithio’n sylweddol ar lesiant plentyn a’i deulu, ac y gall alinio dulliau o ymdrin â lles emosiynol a niwroamrywiaeth sicrhau buddion sylweddol i blant, teuluoedd a’r system sy’n eu cefnogi.

Adborth gan ranbarth Powys:

Mae’r gwasanaeth gwybodaeth i deuluoedd yn enghraifft dda o wybodaeth yn cael ei rhannu gyda theuluoedd lleol yn rheolaidd.

Adborth o ranbarth Gwent:

Yn ogystal â darparu arbenigedd yn uniongyrchol i deuluoedd, mae llawer o wasanaethau hefyd yn blaenoriaethu rhannu gwybodaeth gyda gweithwyr proffesiynol eraill sy’n gweithio gyda phlant a phobl ifanc. Mae hyn yn cynnwys cynnig sesiynau ymgynghori ac ymarfer myfyriol i athrawon, gweithwyr cymdeithasol a staff gofal iechyd, gan helpu i feithrin eu gallu i gefnogi teuluoedd.

Cymunedau diogel a chefnogol

Sgôr taith NYTH ar gyfartaledd ar draws pob rhanbarth: 1.8.

Dyma’r sgôr isaf ar gyfer yr holl egwyddorion, gyda rhanbarthau’n nodi ehangder y gwaith i’w wneud. Unwaith eto, tynnwyd sylw at natur wledig ardaloedd a thrafnidiaeth fel rhwystrau yn yr adran hon yn ogystal â thueddiad i ganolbwyntio ar drefi mwy ar gyfer darpariaeth ar draul pentrefi gwledig. Yn ogystal, soniwyd am hygyrchedd mannau gwyrdd a llefydd i chwarae mewn sawl rhanbarth fel meysydd sy’n peri pryder gyda rhanbarthau yn cydnabod pwysigrwydd mynediad o’r fath fel ffactorau ataliol ar gyfer iechyd meddwl a llesiant.

Nododd sawl rhanbarth gamau gweithredu i weithio gyda Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus ar faterion llesiant ac roedd llawer naill ai wedi dechrau cynnwys, neu wedi cymryd camau i gynnwys, dylanwadau ehangach ar iechyd meddwl a llesiant plant, gan gynnwys gwaith ieuenctid, gwaith chwarae a thai yn eu partneriaethau.

Roedd llawer o ranbarthau’n adlewyrchu ar bwysigrwydd darpariaeth ieuenctid a gweithgareddau cymunedol wedi’u targedu at grwpiau agored i niwed neu grwpiau ymylol. Soniodd rhai rhanbarthau hefyd am bresgripsiynu cymdeithasol fel ffordd o hwyluso mynediad hawdd at arbenigedd ac i gysylltu â chymunedau diogel a chefnogol.

Dywedodd Gorllewin Morgannwg, un enghraifft o gymunedau diogel a chefnogol ar waith:

yw clwb ieuenctid ar nos Wener a gwasanaeth allgymorth. Mae’n cefnogi pobl ifanc sy’n agored i Linellau Cyffuriau, ymddygiad gwrthgymdeithasol, camfanteisio, a’r rhai nad ydyn nhw mewn addysg na hyfforddiant.

Adborth o ranbarth gorllewin Cymru:

Eleni rydyn ni wedi parhau i ddatblygu gwaith ar bresgripsiynu cymdeithasol er mwyn cynyddu dealltwriaeth o gymorth cymunedol ehangach i deuluoedd a phlant a mynediad ato.

Adborth gan ranbarth Powys:

Materion gyda mannau gwyrdd hygyrch, fel ysgolion yn cau giatiau neu’n cyfyngu ar fynediad i gaeau chwarae y tu allan i oriau.

Dim drws anghywir

Sgôr taith NYTH ar gyfartaledd ar draws pob rhanbarth: 2.3.

Adroddodd rhanbarthau ar hyd a lled y wlad eu bod yn rhoi amser ac yn buddsoddi i wella gweithdrefnau dim drws anghywir, a dyma’r egwyddor a gafodd un o’r sgorau uchaf. Roedd pob rhanbarth naill ai’n datblygu pwyntiau mynediad unigol neu weithdrefnau dim drws anghywir trwy ddysgu o arferion da rhanbarthau eraill, neu, lle’r oedd gan ranbarthau fodelau o’r fath ar waith eisoes, roeddent yn cael eu hadolygu i sicrhau eu bod yn effeithiol. Roedd y rhain yn gamau mawr a hirdymor a oedd yn cynnwys agweddau ar newid diwylliant, trefniadau gweithio mewn partneriaeth a chytundebau rhannu data.

Roedd rhai rhanbarthau yn ystyried ymestyn neu gynnwys trefniadau dim drws anghywir i gynnwys niwroamrywiaeth a darpariaeth argyfwng. Yn ogystal, roedd enghreifftiau da o wasanaethau’n cydweithio i ddarparu cymorth cofleidiol ac ategol i’r teulu cyfan.

Disgrifiodd Gorllewin Morgannwg sut byddai da yn edrych:

An integrated and streamlined access route to health, community and social care services for all children and young people and their families. This would mean a 'first contact, right response' approach with the focus on presenting need and what matters.

Llwybr mynediad integredig a symlach i wasanaethau iechyd, cymunedol a gofal cymdeithasol ar gyfer pob plentyn a pherson ifanc a’u teuluoedd. Byddai hyn yn golygu dull ‘cyswllt cyntaf, ymateb cywir’ gyda’r ffocws ar yr angen sy’n ymgyflwyno a’r hyn sy’n bwysig.

Adborth gan ranbarth Caerdydd a'r Fro:

Rydyn ni am ddatblygu llwyddiant model ymyrraeth gynnar ac atal dim drws anghywir trwy fabwysiadu’r dull hwn ar gyfer cymhlethdod yr anghenion ac ochr argyfwng y system. Mae ymrwymiad i ailadrodd y dull hwn hefyd ar gyfer niwroamrywiaeth.

Adborth gan ogledd Cymru:

Datblygu diwylliant o gefnogi teuluoedd i lywio yn ogystal â chyfeirio. Mae rhieni wedi gofyn am wybodaeth syml, hygyrch sydd ddim yn cynnwys jargon.

Adborth o ranbarth gorllewin Cymru:

Mae hyfforddiant wedi’i ddarparu ar gyfer ymwelwyr iechyd i ddatblygu cysylltiadau gweithio agosach gyda gwasanaethau niwroamrywiaeth. Mae llwybr atgyfeirio wedi’i ddiwygio er mwyn sicrhau bod ymwelwyr iechyd yn archwilio gwaith ymyrraeth gynnar gyda phlant a theuluoedd cyn atgyfeirio at wasanaeth niwroamrywiaeth.

Casgliadau

Mae rhoi NYTH ar waith wedi symud ymlaen gryn dipyn eleni gyda datblygiad yr offeryn hunanasesu cenedlaethol a hyfforddiant. Mae hyn wedi sicrhau cynnig safonedig ledled y wlad gyda rhanbarthau yn eu tro yn cynnig cymorth penodol i’r ardal. Mae ymrwymiad i’r fframwaith ledled Cymru ac mae cynnydd da yn cael ei wneud wrth weithredu. Fodd bynnag, mae’n parhau i fod yn wir bod NYTH yn uchelgais hirdymor o newid diwylliant a bydd angen i’r system gyfan gydweithio er mwyn cyflawni hynny.

Ynghyd â’r Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol, bydd Llywodraeth Cymru yn gweithio i barhau i roi NYTH ar waith yn gyflym, gyda chefnogaeth y strategaeth iechyd meddwl a llesiant meddyliol newydd, a gyhoeddir yn 2025. Yn benodol, byddwn yn datblygu canllawiau ar gyfer cynnwys darpariaeth gofal plant a’r blynyddoedd cynnar wrth weithredu NYTH, gan gydnabod pwysigrwydd iechyd meddwl a llesiant meddyliol plant iau a’r rhai sydd yn y sefyllfa orau i’w cefnogi gyda hynny. Byddwn yn gweithio i alinio ymhellach ein dull ysgol gyfan ar gyfer iechyd a llesiant emosiynol a’r fframwaith NYTH a’r broses o’i weithredu, gan gydnabod y cyfleoedd i ddod ag addysg yn agosach at drefniadau partneriaeth presennol. Rydym yn cydnabod y gwaith rhagorol sy’n cael ei wneud o amgylch gweithdrefnau dim drws anghywir a byddwn yn datblygu ar hyn er mwyn sicrhau tegwch ledled y wlad a dull system gyfan o gael gafael ar gymorth.

Yn olaf, byddwn yn parhau i ymateb i’r anghenion a’r datblygiadau sy’n dod i’r amlwg trwy’r holl bartneriaid sy’n gweithio gyda ni i weithredu NYTH a sicrhau bod lleisiau babanod, plant, pobl ifanc a theuluoedd yn parhau i lywio a ffurfio ein gwaith.