Neidio i'r prif gynnwy

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi fframwaith newydd ar gyfer gwella ysgolion, gan sicrhau bod cynnydd a lles dysgwyr yn cael lle canolog ym mhob ymdrech i gyrraedd safonau uchel a gwireddu uchelgais.

Cyhoeddwyd gyntaf:
27 Mehefin 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae hyn yn golygu y bydd categoreiddio cenedlaethol yn dod i ben ac yn cael ei ddisodli gan system hunanwerthuso gadarn lle gellir rhannu arferion da a mynd i'r afael â methiant ar frys.

Bydd rhieni nawr yn gallu cael gwybodaeth fwy diweddar, manwl a chynhwysfawr. Wrth symud oddi wrth gategoreiddio, caiff crynodeb o flaenoriaethau gwella a chynllun datblygu pob ysgol ei ddarparu a'i gyhoeddi.

Mae adolygiadau wedi dangos bod y gwahaniaeth rhwng asesiadau disgyblion a systemau atebolrwydd ysgolion wedi bod yn aneglur yn rhy aml, gan arwain at ganlyniadau anfwriadol yn yr ystafell ddosbarth.

Adnodd i’w ddefnyddio er budd y disgyblion yw asesiadau, gan alluogi athrawon i addasu strategaethau addysgu i gefnogi eu cynnydd. Mae systemau atebolrwydd, ar y llaw arall, dan arweiniad Estyn, yn sbarduno gwelliant drwy sicrhau mwy o dryloywder a’i gwneud yn bosibl pennu dyfarniad ar berfformiad. Mae'r fframwaith a gyhoeddwyd heddiw yn gwahanu'r ddau mewn ffordd bendant.

Cynhelir arolygiadau Estyn yn fwy rheolaidd hefyd. O fis Medi ymlaen, bydd Estyn yn arolygu ysgolion o dan eu fframwaith newydd, ac mae cynlluniau i gynyddu nifer yr arolygiadau o fis Medi 2024. 

Dywedodd Jeremy Miles, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg:

Drwy roi’r lle canolog i ddysgwyr yn ein camau diwygio, fe fyddwn ni’n cefnogi pob dysgwr i gyrraedd ei lawn botensial.

Mae asesu ac atebolrwydd yn hanfodol i godi safonau, ond mae gan y naill a’r llall rôl wahanol iawn i'w chwarae, mae asesu'n ymwneud â deall anghenion disgybl unigol ac mae atebolrwydd yn ymwneud â sut mae perfformiad cyffredinol yr ysgol yn cael ei werthuso. Ond mae'r gwahaniaeth rhwng y ddau wedi mynd yn aneglur, a hynny’n gallu cael effaith andwyol ar yr addysgu a’r dysgu.

Drwy ddod â chategoreiddio cenedlaethol i ben, rydyn ni’n gwneud dau beth. Yn gyntaf, gosod fframwaith yn lle’r hen system sy'n nodi disgwyliadau clir fel bod pob disgybl yn cael ei gefnogi'n briodol.

Ac yn ail, darparu gwybodaeth well a mwy diweddar am gynlluniau gwella pob ysgol, fel bod y ffocws ar gynnydd dysgwyr yn hytrach nag ar y disgrifiad pennawd. Dw i'n hyderus y bydd y fframwaith hwn yn annog mwy o gydweithio rhwng ysgolion, a fydd yn helpu i gyrraedd safonau uchel a gwireddu uchelgais ar gyfer ein holl ddysgwyr, ac yn cefnogi eu lles.

Dywedodd Owen Evans, Prif Arolygydd Estyn:

Rydyn ni’n croesawu canllawiau Llywodraeth Cymru i ddarparwyr ledled Cymru ar wella ysgolion, ac rydyn ni’n cyd-fynd yn llwyr â'r dull gweithredu.

Mae cynnydd a lles dysgwyr yn gwbl ganolog i’n gwaith ni yn Estyn, ac mae'r penderfyniad i symud oddi wrth werthuso ar sail pwyslais anghymesur ar nifer fach o fesurau perfformiad yn cael ei adlewyrchu yn ein dull newydd o arolygu ysgolion ac unedau cyfeirio disgyblion.

Fe fyddwn ni’n parhau i arolygu ysgolion a phennu dyfarniadau ar sail ystod eang o dystiolaeth a gwybodaeth, gan edrych ar holl weithgarwch yr ysgol. Rydyn ni yma i sicrhau atebolrwydd pob darparwr addysg yng Nghymru, ac fe fyddwn ni’n parhau i weithio'n galed i sicrhau bod pob dysgwr yn cael yr addysg a'r hyfforddiant y mae’n ei haeddu, gan fonitro ysgolion drwy waith dilynol os nad yw’r safonau'n ddigon uchel.

Rydyn ni wedi gwneud nifer o newidiadau i'n dull o arolygu ysgolion ac unedau cyfeirio disgyblion, gan gynnwys cyflwyno adroddiadau arolygu heb raddau crynodol, ond sy’n cynnwys trosolwg allweddol o ganfyddiadau sy'n canolbwyntio ar gryfderau ysgol a meysydd i'w datblygu. Rydyn ni’n hyderus y bydd hyn yn cynnig mewnwelediad ystyrlon a fydd yn helpu darparwyr i wella heb dynnu sylw at ddyfarniad.