Neidio i'r prif gynnwy

Adran 1. Pa gamau gweithredu y mae llywodraeth cymru yn eu hystyried a pham?

Mae Llywodraeth Cymru wedi datblygu ac ymgynghori ar 'Fframwaith Lleihau Arferion Cyfyngol' y bwriadwn ei gyhoeddi’n derfynol fis Gorffennaf 2021. Bydd y canllawiau diwygiedig yn disodli’r Fframwaith ar gyfer Polisi ac Arferion o ran Ymyriad Corfforol Cyfyngol, Llywodraeth Cynulliad Cymru (2005). Rhoddwyd cytundeb Gweinidogol ar gyfer y Fframwaith yn mis Gorffennaf 2021 gyda chefnogaeth yr Asesiad Effaith Integredig hwn.

Bwriad y Fframwaith yw hyrwyddo mesurau ac arferion a fydd yn arwain at leihau arferion cyfyngol. Mae’r fframwaith yn ceisio sicrhau hefyd, os yw arferion cyfyngol yn cael eu defnyddio, bod hyn yn cael ei lywio gan gynllunio sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn, o fewn cyd-destun y lleoliad gwasanaeth ac mewn modd sy’n diogelu’r unigolyn, y rhai y mae’n rhyngweithio â nhw, a’r rhai sy’n darparu gwasanaethau ar ei gyfer.

Mae’r fframwaith yn nodi disgwyliadau Llywodraeth Cymru y dylai’r defnydd o arferion cyfyngol fod o fewn cyd-destun y Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol ac yn unol a’r egwyddorion a ddisgrifir yn y ddogfen Human Rights Framework on Restraint a gyhoeddwyd gan y  Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol. Mae'r dull a nodir yn y Fframwaith yn ceisio hyrwyddo'r hawliau a'r egwyddorion a nodir yng Nghonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn (CCUHP); Egwyddorion y Cenhedloedd Unedig ar gyfer Pobl Hŷn  a Chonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl ag Anableddau.

Bwriedir i’r Fframwaith ddarparu gwybodaeth i gomisiynwyr gwasanaethau a darparwyr gwasanaethau, a dylent gyfeirio at y fframwaith wrth lunio polisïau a gweithdrefnau, adolygu trefniadau presennol a threfnu neu gomisiynu hyfforddiant. Nid yw’r Fframwaith yn rhoi cyngor ar y camau gweithredu unigol sy’n ofynnol o dan amgylchiadau penodol neu mewn lleoliadau gwasanaeth penodol, ac nid yw’n argymell dulliau penodol o ataliaeth. 

Bu’r Grŵp Cynghori a fu’n llywio datblygiad y Fframwaith yn ystyried yn fanwl yr opsiwn o baratoi Fframwaith statudol, yn hytrach na Fframwaith anstatudol fel sy’n cael ei gynnig, a chynnwys canllawiau mwy penodol i’r sector. Fodd bynnag, y brif resymeg dros y penderfyniad i baratoi Fframwaith anstatudol oedd cytundeb bod angen newid diwylliant ar draws sectorau, wedi’i ategu gan bolisïau ar lefel sector a datblygu’r gweithlu. Y teimlad ar  y cyfan oedd mai’r dull gorau oedd pennu disgwyliadau ac annog perchnogaeth ar lefel sector. 

Er nad yw’r Fframwaith hwn yn statudol, mae'n nodi disgwyliadau ar gyfer polisi ac ymarfer o ran lleihau arferion cyfyngol ar draws lleoliadau gofal plant, addysg, iechyd a gofal cymdeithasol fel rhan o ddull sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn. Felly bydd yr Arolygiaethau: Arolygiaeth Iechyd Cymru ac Arolygiaeth Gofal Cymru yn ystyried cydymffurfiaeth â'r dull gweithredu sydd yn y Fframwaith wrth gynnal arolygiadau.

Bwriad y Fframwaith yw helpu i sicrhau mai dim ond pan fetho popeth arall y defnyddir arferion cyfyngol, er mwyn atal niwed i'r unigolyn neu i eraill. Mae'r Fframwaith yn cydnabod y niwed y gall arferion cyfyngol ei gael ar bobl. Darperir cyngor ar fesurau a fydd yn cefnogi arferion ar draws lleoliadau a fydd yn hyrwyddo llesiant, yn lleihau'r defnydd o arferion cyfyngol ac yn helpu i sicrhau, pan gânt eu defnyddio pan fetho popeth arall, fod hyn mewn ffordd ddiogel sy'n parchu hawliau dynol pobl. 

Disgwylir i sectorau, sefydliadau a lleoliadau ystyried y Fframwaith wrth wneud penderfyniadau am eu polisïau, eu cyngor ar ymarfer, eu trefniadau a'u cynlluniau datblygu'r gweithlu. Mae'r Fframwaith yn cynghori y dylai pobl sy'n defnyddio gwasanaethau fod yn rhan o'r gwaith o lywio'r mesurau hyn. 

Bydd gwybodaeth am y Fframwaith yn cael ei chyhoeddi yn Gymraeg ac yn Saesneg ar gyfer pobl sy'n defnyddio lleoliadau a gwasanaethau a'r bobl sy'n bwysig iddynt. Bydd yr wybodaeth hon hefyd ar gael mewn fersiynau sy’n hawdd eu darllen ac sy’n addas i bobl ifanc. Bydd hyn yn helpu i godi ymwybyddiaeth o fwriadau'r Fframwaith ar gyfer pobl sy'n defnyddio lleoliadau lle defnyddir arferion cyfyngol, a'u teuluoedd/gofalwyr. 

Bydd Llywodraeth Cymru yn ariannu ymgyrch gyfathrebu ddwyieithog i godi ymwybyddiaeth i gefnogi’r gwaith cychwynnol o roi’r Fframwaith ar waith ar draws sectorau ac i wneud y rhai sy'n defnyddio lleoliadau a gwasanaethau yn ymwybodol o'r uchelgeisiau i leihau arferion cyfyngol a nodir yn y Fframwaith.  

Bydd Llywodraeth Cymru yn ystyried y disgwyliadau a nodir yn y Fframwaith hwn wrth adolygu neu ddatblygu polisïau a chanllawiau perthnasol. Mae hyn yn cynnwys polisïau a chanllawiau sy'n benodol i'r sector neu'r gwasanaeth i nodi sut y gellir bodloni'r disgwyliadau hyn ym mhob maes polisi/sector/gwasanaeth.  

Mae Llywodraeth Cymru yn disgwyl y bydd comisiynwyr a darparwyr gwasanaethau sy'n gweithredu ar draws lleoliadau gofal plant, addysg, iechyd a gofal cymdeithasol yn adolygu eu polisïau, eu trefniadau datblygu'r gweithlu a'u hymarfer er mwyn nodi unrhyw newidiadau a mesurau sydd eu hangen i helpu i roi'r Fframwaith hwn ar waith.  

Yn y cyfnod rhwng cyhoeddi ar 19 Gorffennaf 2021 a 31 Mawrth 2022, bydd swyddogion yn Is-adrannau perthnasol Llywodraeth Cymru yn ymgysylltu â rhanddeiliaid allanol yn y sectorau hynny y mae'r Fframwaith yn berthnasol iddynt, gofal plant, addysg, gofal iechyd a gofal cymdeithasol.  Byddant yn gweithio gyda sectorau, comisiynwyr a darparwyr i godi ymwybyddiaeth, ac i ystyried a chytuno ar unrhyw waith sydd ei angen i gefnogi gweithredu drwy bolisi penodol a chymorth ar gyfer ymarfer yn y cyfnod rhwng 1 Ebrill 2022 a 31 Mawrth 2023 a thu hwnt.

Adran 8. Casgliad

8.1    Sut y mae'r bobl y mae'r cynnig yn fwyaf tebygol o effeithio arnynt wedi'u cynnwys  yn y gwaith o'i ddatblygu?

Datblygwyd y cynigion gyda grwpiau a chyrff sy’n cynrychioli pobl y bydd y Fframwaith yn effeithio arnynt. Datblygwyd y Fframwaith ar ein rhan gan BILD (British Institute of Learning Disabilities) dan arweiniad Grŵp Cynghori amlasiantaethol. Mae BILD yn gweithio mewn partneriaeth â phobl sy'n agored i niwed a'r bobl sy'n eu cefnogi. 

Cyhoeddwyd fersiynau hawdd eu darllen ac addas i bobl ifanc o’r drafft ymgynghori ac roedd yr ymatebion i'r ymgynghoriad yn cynnwys sefydliadau a oedd yn cynrychioli pobl â phrofiad uniongyrchol, grwpiau'n cynnwys pobl â phrofiad uniongyrchol ac unigolion sy'n derbyn gwasanaethau. 

Mae'r Fframwaith yn cynnwys cyngor ar gynnwys pobl sy'n defnyddio gwasanaethau a lleoliadau wrth ddatblygu polisïau ac arferion i fodloni disgwyliadau'r Fframwaith mewn lleoliadau, gwasanaethau a sectorau penodol. 

8.2 Beth yw'r effeithiau cadarnhaol a negyddol mwyaf arwyddocaol? 

Bwriad y Fframwaith yw helpu i sicrhau bod y rhai sy'n gweithio gyda phlant ac oedolion mewn lleoliadau gofal plant, iechyd, addysg a gofal cymdeithasol yn rhannu fframwaith cyffredin o egwyddorion a disgwyliadau wedi'u llywio gan ddull sy'n mynd ati i hyrwyddo hawliau dynol. Bwriedir i hyn gael profiad cadarnhaol ar lesiant a phrofiadau byw plant ac oedolion sy'n defnyddio lleoliadau gofal plant, addysg, iechyd a gofal cymdeithasol. 

8.3 Yn sgil yr effeithiau a nodwyd, sut y bydd y cynnig

  • yn sicrhau'r cyfraniad mwyaf posibl at ein hamcanion llesiant a'r saith nod llesiant; a/neu 
  • yn osgoi, yn lleihau neu'n lliniaru unrhyw effeithiau negyddol?

Cymru ffyniannus – Mae gan y cynigion y potensial i gael effaith gadarnhaol fechan ar lesiant economaidd unigolion ac effaith gadarnhaol fechan ar gymunedau. Mae llawer o'r bobl a fydd yn elwa ar y newidiadau yn debygol o fod yn anabl ac o dan anfantais yn y farchnad gyflogaeth neu’n hŷn na’r oedran ymddeol. Fodd bynnag, i blant, bydd cymorth sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn a’r gostyngiad yn y trawma sy'n gysylltiedig â defnyddio arferion cyfyngol yn cael effaith gadarnhaol ar eu cyfleoedd addysgol. 

Cymru gydnerth – Effaith niwtral

Cymru iachach - Mae gan y cynigion y potensial i gael effaith gadarnhaol sylweddol ar ganlyniadau llesiant meddyliol a chorfforol unigolion.  Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod bod arferion cyfyngol yn cael effaith negyddol ar lesiant y bobl sy'n destun yr arferion hyn, yn ogystal â'r rhai sy'n gyfrifol amdanynt ac yn eu gweld. Gall hyn gynnwys niwed corfforol, trawma neu brofiad trawmatig arall. Mae'r Fframwaith yn ceisio hyrwyddo arferion sy'n arwain at gynllunio sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn i hybu llesiant unigolion a lleihau'r defnydd o arferion cyfyngol niweidiol. 

Cymru fwy cyfartal – Mae gan y cynigion y potensial i gael effaith gadarnhaol gymedrol ar gydraddoldeb. Mae'r cynigion yn effeithio ar bobl â nodweddion gwarchodedig gan gynnwys iechyd meddwl, anabledd, oedran, rhyw ac ethnigrwydd. Mae'r cynigion yn cynnig cyngor ar gasglu data ar ddefnyddio arferion cyfyngol a nodweddion gwarchodedig unigolion sy'n destun arferion cyfyngol ar lefel lleoliad a gwasanaeth/sefydliad. Mae'r cyngor yn cynnwys defnyddio data i fonitro ac ymateb i faterion cydraddoldeb. 

Mae’r Fframwaith hwn yn nodi’r disgwyliadau y dylai’r defnydd o arferion cyfyngol ddigwydd o fewn cyd-destun y Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol ac yn unol â’r egwyddorion a ddisgrifir yn y ddogfen Human Rights Framework on Restraint a gyhoeddwyd gan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol

Mae'r dull a nodir yn y fframwaith hwn yn ceisio hyrwyddo'r hawliau a'r egwyddorion a nodir yng Nghonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn (CCUHP); Egwyddorion y Cenhedloedd Unedig ar gyfer Pobl Hŷn a Chonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl ag Anableddau

Cymru â diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu – Mae gan y cynigion y potensial i gael effaith gadarnhaol fechan ar gyfranogiad yn y celfyddydau, chwaraeon a hamdden. Mae'r cyngor yn y canllawiau yn cynnwys cyngor ar ddiwallu anghenion iaith pobl drwy gynnig gweithredol o wasanaethau Cymraeg. Mae'r bobl sydd fwyaf tebygol o fod yn destun arferion cyfyngol oherwydd anabledd, iechyd meddwl neu oedran yn fwy tebygol o fod mewn sefyllfa i fwynhau cyfleoedd i gysylltu â'r celfyddydau, chwaraeon a hamdden pan fo'r cymorth a gânt yn canolbwyntio ar yr unigolyn a bod gostyngiad yn y defnydd o arferion cyfyngol a all effeithio'n negyddol ar eu hiechyd a'u llesiant corfforol a meddyliol. 

Cymru sy’n gyfrifol yn fyd-eang – effaith niwtral 

8.4 Sut y caiff effaith y cynnig ei monitro a'i gwerthuso wrth iddo fynd rhagddo ac ar ôl iddo gael ei gwblhau?   

Bydd Llywodraeth Cymru yn ystyried y disgwyliadau a nodir yn y Fframwaith hwn wrth adolygu neu ddatblygu polisïau a chanllawiau perthnasol. Mae hyn yn cynnwys polisïau a chanllawiau sy'n benodol i'r sector neu'r gwasanaeth i nodi sut y gellir bodloni'r disgwyliadau hyn ym mhob maes polisi/sector/gwasanaeth.  

Mae Llywodraeth Cymru yn disgwyl y bydd comisiynwyr a darparwyr gwasanaethau sy'n gweithredu ar draws lleoliadau gofal plant, addysg, iechyd a gofal cymdeithasol yn adolygu eu polisïau, eu trefniadau datblygu'r gweithlu a'u hymarfer er mwyn nodi unrhyw newidiadau a mesurau sydd eu hangen i helpu i roi'r Fframwaith hwn ar waith.  

Bydd Gweinidogion Cymru yn ystyried adolygiad o sut mae’r Fframwaith wedi’i weithredu, a’i effaith, yn 2024.