Diweddariad ar sut rydym yn symud ymlaen gyda'n cynllun i gefnogi mudwyr i ymgartrefu'n dda mewn cymunedau ledled Cymru.
Cynnwys
Yr hyn a gyflawnwyd
- Lansiwyd ein Fframwaith Integreiddio Mudwyr ar 18 Rhagfyr 2023. Roedd hwn yn gam mawr ymlaen o ran hyrwyddo'r broses o integreiddio mudwyr yng Nghymru.
- Penodwyd Rheolwr Fframwaith Integreiddio Mudwyr ym mis Ebrill 2024 i helpu i weithredu'r fframwaith.
- Ym mis Ebrill 2024, sefydlwyd grŵp gweithredu allanol i oruchwylio ac arwain y broses o gyflwyno'r fframwaith.
Mae'r fframwaith wedi cael derbyniad da gan randdeiliaid. Mae'r rhain yn cynnwys awdurdodau lleol, grwpiau cymunedol, a sefydliadau eirioli. Mae hyn yn amlygu'r cyd-ymrwymiad i integreiddio mudwyr yng Nghymru.
Cynnydd yn ôl maes
Maes 1: Gwaith
- Addasrwydd ar gyfer cyflogaeth: Mae'r data ar gael fesul chwarter/blwyddyn. Ystyried cynnwys pa mor hir y mae mudwyr wedi bod yn byw yma wrth ddadansoddi'r data. Symud tuag at gyhoeddi data yn rheolaidd.
- Diogelwch swyddi ac enillion: Mae'r dadansoddiad presennol yn canolbwyntio ar y math o gontract ac ar gyflog sy'n uwch na'r cyflog byw. Y nod i'r dyfodol yw sefydlu adroddiadau rheolaidd.
- Tlodi incwm: Cynlluniau i segmentu data yn ôl grŵp oedran (plant, oedran gweithio, pensiynwyr) i fireinio dealltwriaeth.
- Boddhad mewn swydd ac ansicrwydd ariannol: Mae'r posibilrwydd o gysylltu arolygon presennol (e.e. Arolwg Cenedlaethol Cymru) â Chyfrifiad 2021 yn cael ei archwilio. Mae'r ffactorau newidiol yn yr Arolwg o Adnoddau Teulu yn cael eu hadolygu o safbwynt ansicrwydd ariannol.
Maes 2: Tai/Llety
- Gorlenwi a diogelwch tenantiaeth: Dibynnu ar Gyfrifiad 2021. Ffynonellau data amgen (e.e. yr Arolwg o Adnoddau Teulu) yn cael eu hadolygu.
- Digartrefedd: Mae set ddata newydd â ffocws ar fudwyr yn cael ei datblygu, ond bydd yn cymryd 2 i 3 blynedd tan y bydd y data ar gael.
- Boddhad o ran llety: Mae'r ymdrechion i wella ein dealltwriaeth yn cynnwys cysylltu Arolwg Cenedlaethol Cymru â Chyfrifiad 2021.
Maes 3: Iechyd a gofal cymdeithasol
- Iechyd a lles: Data Cyfrifiad 2021 a'r Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth yw'r sail. Canolbwyntio ar ddarparu diweddariadau yn amlach.
- Cofrestru gyda meddyg teulu: Mae gwaith dadansoddi ar y gweill i nodi mudwyr sydd ar gofnodion meddygon teulu Cymru.
- Ymddygiadau iach a lles meddyliol: Archwilio ffynonellau data amgen, gan gynnwys setiau data Understanding Society, i wella dealltwriaeth ynghylch mudwyr.
- Boddhad o safbwynt gofal cymdeithasol. Mae gwelliannau data i'r dyfodol yn dibynnu ar set ddata newydd â ffocws ar fudwyr, a ddisgwylir ymhen 2 i 3 blynedd.
Maes 4: Cysylltiadau cymdeithasol
- Perthyn a chydlyniant cymunedol: Mae cysylltu Cyfrifiad 2021 ag arolygon eraill yn parhau i fod yn flaenoriaeth. Mae ffynonellau data amgen yn cael eu hystyried.
- Cyfranogiad diwylliannol a gwirfoddoli: Mae'r ymdrechion yn cynnwys defnyddio cysylltiadau Cyfrifiad 2021 i wella dealltwriaeth.
- Mathau amrywiol o gyfeillgarwch: Nid oes data yn bodoli ar hyn o bryd; gallai trafodaethau â rhanddeiliaid lenwi'r bwlch hwn.
Maes 5: Addysg a sgiliau
- Sgiliau iaith: Mae data Cyfrifiad 2021 yn darparu llinell sylfaen. Angen ffynonellau newydd ar gyfer diweddariadau rhwng cyfrifiadau.
- Cyrhaeddiad TGAU: Yr Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth yn cael ei adolygu ar gyfer dadansoddiad manwl.
- Y defnydd o’r rhyngrwyd: Ymchwilio i setiau data Understanding Society a'u cysylltu â Chyfrifiad 2021 i gael gwell dealltwriaeth.
- Addysg drydyddol a chymwysterau: Llenwi bylchau drwy ddadansoddi casgliadau data ôl-16 a ffactorau newidiol yr Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth.
Maes 6: Diogelwch a sefydlogrwydd
- Tegwch cyfiawnder troseddol, diogelwch a throseddau casineb: Mae Arolwg Troseddau Cymru a Lloegr yn darparu data sy'n benodol am fudwyr. Trafodaethau ar y gweill i gyhoeddi dadansoddiadau yn rheolaidd.
- Boddhad â'r ardal leol: Archwilio cysylltiadau rhwng Arolwg Cenedlaethol Cymru a Chyfrifiad 2021 i wella dealltwriaeth.
Maes 7: Hawliau a chyfrifoldebau
- Cofrestru pleidleiswyr: Data ar ddinasyddion yr UE; ehangu'r cwmpas ac archwilio ffynonellau data eraill.
- Y defnydd o wasanaethau cynghori a gwybodaeth am hawliau: Archwilio cysylltiadau â Chyfrifiad 2021. Angen ffynonellau data amgen i wella dangosyddion gwybodaeth am hawliau.
Heriau
- Bylchau data: Mae'r data sy'n benodol am fudwyr yn gyfyngedig o safbwynt sawl dangosydd.
- Llinellau amser datblygu data hirdymor: Mae angen 2 i 3 blynedd nes bydd setiau data newydd ar gael sydd â ffocws ar fudwyr (e.e., gofal cymdeithasol, digartrefedd).
- Data darniog: Dibynnu ar lawer o setiau data megis Cyfrifiad 2021 ac Understanding Society. Bydd dadansoddi data cydgysylltiedig ar draws pob ffynhonnell yn gwella cwmpas a chysondeb gwybodaeth.
Edrych i'r dyfodol
- Sefydlu'r arfer o gyhoeddi dadansoddiadau data am fudwyr yn rheolaidd er mwyn olrhain cynnydd yn gyson.
- Cysylltu arolygon presennol â Chyfrifiad 2021 i wella'r data sydd ar gael sy'n benodol am fudwyr.
- Archwilio'r data am fudwyr sydd ar gael mewn setiau data presennol. Bydd hyn yn cynnwys yr Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth, yr Arolwg o Adnoddau Teulu ac Understanding Society.
- Gweithio gyda phartneriaid i rannu casgliadau data cyfredol am fudwyr. Gweithio gyda phartneriaid i sefydlu casgliadau data newydd am fudwyr. Bydd hyn yn mynd i'r afael â bylchau data hollbwysig, yn enwedig o ran cysylltiadau cymdeithasol ac ymwybyddiaeth o hawliau.