Neidio i'r prif gynnwy

Mae Strategaeth y Gymraeg, 'Iaith fyw: iaith byw' yn cyflwyno ein gweledigaeth o weld y Gymraeg yn ffynnu yng Nghymru.

Mae Fframwaith Gwerthuso Strategaeth y Gymraeg (Chwefror 2013) yn cynnig sail ar gyfer rhaglen o ymchwil a dadansoddiadau i asesu deilliannau ac effeithiolrwydd y Strategaeth. Bwriedir i astudiaethau ymchwil a gwerthuso a gwblheir yng nghyd-destun y Fframwaith Gwerthuso ehangu ein sail tystiolaeth mewn perthynas â’r Gymraeg, ynghyd â Gwerthusiad y Strategaeth Addysg cyfrwng Cymraeg.

Yn Rhan I amlinellir y cyd-destun polisi ar gyfer y Fframwaith Gwerthuso a'r fframwaith cysyniadol sy'n sail iddo. Hefyd, ystyrir yr heriau a'r goblygiadau o werthuso effaith gweithgareddau cynllunio ieithyddol. Yn Rhan II ceir cyfres o fodelau rhesymeg, sy'n cyfateb i bob un o'r chwe maes strategol yn Strategaeth y Gymraeg. Dilynir pob model rhesymeg gan gyfres o gwestiynau ymchwil manylach y mae angen eu hystyried, ynghyd ag amlinelliad o'r dulliau a'r offerynnau ymchwil i'w hystyried ym mhob achos.

Adroddiadau

Fframwaith gwerthuso strategaeth y Gymraeg: Fframwaith gwerthuso strategaeth y Gymraeg , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 432 KB

PDF
432 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Cyswllt

Catrin Redknap

Rhif ffôn: 0300 025 5720

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.