Mae Strategaeth y Gymraeg, 'Iaith fyw: iaith byw' yn cyflwyno ein gweledigaeth o weld y Gymraeg yn ffynnu yng Nghymru.

Mae Fframwaith Gwerthuso Strategaeth y Gymraeg (Chwefror 2013) yn cynnig sail ar gyfer rhaglen o ymchwil a dadansoddiadau i asesu deilliannau ac effeithiolrwydd y Strategaeth. Bwriedir i astudiaethau ymchwil a gwerthuso a gwblheir yng nghyd-destun y Fframwaith Gwerthuso ehangu ein sail tystiolaeth mewn perthynas â’r Gymraeg, ynghyd â Gwerthusiad y Strategaeth Addysg cyfrwng Cymraeg.

Bwriedir i’r astudiaeth hon gefnogi gwaith Llywodraeth Cymru wrth iddi fireinio a datblygu ei dulliau gweithredu i gyrraedd yr amcanion a gyflwynir yn Iaith fyw, iaith byw a Bwrw Mlaen. Gosodwyd seiliau’r astudiaeth gan y Fframwaith Gwerthuso ar gyfer Iaith fyw: iaith byw  a gyhoeddwyd yn Chwefror 2013.

Mae’r astudiaeth yn archwilio patrymau defnydd iaith mewn cymunedau yng Nghymru a rhai o’r ffactorau sydd yn gysylltiedig â hyfywedd y Gymraeg fel iaith gymunedol. Mae hefyd yn asesu a yw’r mathau o raglenni a ariennir gan Lywodraeth Cymru i hyrwyddo defnydd y Gymraeg yn cwrdd ag anghenion cymunedau.

Adroddiadau

Fframwaith gwerthuso strategaeth y Gymraeg: defnyddio’r Gymraeg yn y gymuned: astudiaeth ymchwil
, math o ffeil: PDF, maint ffeil: 5 MB

PDF
5 MB
Efallai na fydd y ffeil hon yn hygyrch. Cais am fformat gwahanol. Os mae arnoch chi angen fersiwn o’r ddogfen hon mewn fformat mwy hygyrch, e-bostiwch digital@llyw.cymru. Cofiwch ddweud wrthym y math o fformat sydd ei angen arnoch chi. Byddai’n help mawr i ni os gallech chi ddweud wrthym ba fath o dechnoleg gynorthwyol rydych yn ei defnyddio hefyd.

Fframwaith gwerthuso strategaeth y Gymraeg: defnyddio’r Gymraeg yn y gymuned: astudiaeth ymchwil - Crynodeb
, math o ffeil: PDF, maint ffeil: 358 KB

PDF
358 KB
Efallai na fydd y ffeil hon yn hygyrch. Cais am fformat gwahanol. Os mae arnoch chi angen fersiwn o’r ddogfen hon mewn fformat mwy hygyrch, e-bostiwch digital@llyw.cymru. Cofiwch ddweud wrthym y math o fformat sydd ei angen arnoch chi. Byddai’n help mawr i ni os gallech chi ddweud wrthym ba fath o dechnoleg gynorthwyol rydych yn ei defnyddio hefyd.

Cyswllt

Catrin Redknap

Ffôn: 0300 025 5720

Cyfryngau

Ffôn: 0300 025 8099