Neidio i'r prif gynnwy

Mae Strategaeth y Gymraeg, 'Iaith fyw: iaith byw' yn cyflwyno ein gweledigaeth o weld y Gymraeg yn ffynnu yng Nghymru.

Mae Fframwaith Gwerthuso Strategaeth y Gymraeg (Chwefror 2013) yn cynnig sail ar gyfer rhaglen o ymchwil a dadansoddiadau i asesu deilliannau ac effeithiolrwydd y Strategaeth. Bwriedir i astudiaethau ymchwil a gwerthuso a gwblheir yng nghyd-destun y Fframwaith Gwerthuso ehangu ein sail tystiolaeth mewn perthynas â’r Gymraeg, ynghyd â Gwerthusiad y Strategaeth Addysg cyfrwng Cymraeg.

Bwriedir i’r astudiaeth hon gefnogi gwaith Llywodraeth Cymru wrth iddi fireinio a datblygu ei dulliau gweithredu i gyrraedd yr amcanion a gyflwynir yn Iaith fyw, iaith byw a Bwrw Mlaen. Gosodwyd seiliau’r astudiaeth gan y Fframwaith Gwerthuso ar gyfer Iaith fyw: iaith byw  a gyhoeddwyd yn Chwefror 2013.

Mae’r astudiaeth yn archwilio patrymau defnydd iaith mewn cymunedau yng Nghymru a rhai o’r ffactorau sydd yn gysylltiedig â hyfywedd y Gymraeg fel iaith gymunedol. Mae hefyd yn asesu a yw’r mathau o raglenni a ariennir gan Lywodraeth Cymru i hyrwyddo defnydd y Gymraeg yn cwrdd ag anghenion cymunedau.

Adroddiadau

Fframwaith gwerthuso strategaeth y Gymraeg: defnyddio’r Gymraeg yn y gymuned: astudiaeth ymchwil , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 5 MB

PDF
5 MB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Fframwaith gwerthuso strategaeth y Gymraeg: defnyddio’r Gymraeg yn y gymuned: astudiaeth ymchwil (crynodeb) , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 358 KB

PDF
358 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Cyswllt

Catrin Redknap

Rhif ffôn: 0300 025 5720

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.