Neidio i'r prif gynnwy

Mae Strategaeth y Gymraeg, Iaith fyw: iaith byw yn cyflwyno ein gweledigaeth o weld y Gymraeg yn ffynnu yng Nghymru.

Mae Fframwaith Gwerthuso Strategaeth y Gymraeg (Chwefror 2013) yn cynnig sail ar gyfer rhaglen o ymchwil a dadansoddiadau i asesu deilliannau ac effeithiolrwydd y Strategaeth. Bwriedir i astudiaethau ymchwil a gwerthuso a gwblheir yng nghyd-destun y Fframwaith Gwerthuso ehangu ein sail tystiolaeth mewn perthynas â’r Gymraeg, ynghyd â Gwerthusiad y Strategaeth Addysg cyfrwng Cymraeg.

Bwriedir i’r astudiaeth hon gefnogi gwaith Llywodraeth Cymru wrth iddi fireinio a datblygu ei dulliau gweithredu i gyrraedd yr amcanion a gyflwynir yn Iaith fyw, iaith byw a Bwrw Mlaen. Gosodwyd seiliau’r astudiaeth gan y Fframwaith Gwerthuso ar gyfer Iaith fyw: iaith byw  a gyhoeddwyd yn Chwefror 2013.

Nod y prosiect oedd archwilio sut mae rhieni yn defnyddio’r Gymraeg â’u plant a sut mae gwahanol ffactorau yn dylanwadu ar y defnydd o’r Gymraeg yn y cartref. Yn benodol, nod y prosiect oedd ateb y cwestiynau ymchwil canlynol:

  • Beth yw’r amodau sydd yn hwyluso trosglwyddo’r Gymraeg o fewn teuluoedd, a’r amodau sydd yn gwneud trosglwyddo’r Gymraeg yn llai tebygol?
  • Pa amodau sydd yn dylanwadu ar batrymau defnydd o’r Gymraeg mewn teuluoedd sydd â phlant 0-4 oed?

Cyswllt

Catrin Redknap

Rhif ffôn: 0300 025 5720

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.