Neidio i'r prif gynnwy

Cefndir

Cytunwyd Memorandwm cyd-ddealltwriaeth rhwng Comisiynydd y Gymraeg a Llywodraeth Cymru fis Awst 2019. Pwrpas y Memorandwm yw amlinellu’r berthynas waith rhwng Comisiynydd y Gymraeg a’r Llywodraeth. Mae’n parchu annibyniaeth Comisiynydd y Gymraeg, ac mae hefyd yn amlinellu ble bydd cydweithio. Mae’r Memorandwm yn datgan fod cyd-weithio tuag at weithredu targedau Cymraeg 2050 yn ganolog i’r berthynas rhwng y Llywodraeth a’r Comisiynydd.

Mae’n datgan y bydd pwyllgorau o swyddogion rhwng y ddau gorff yn cael eu sefydlu er mwyn trafod gwaith penodol yn ôl y galw, gyda rhai ohonynt yn cael eu sefydlu yn barhaol ac eraill dros-dro.

Mae’r Fframwaith Cydweithio hwn yn atodol i’r Memorandwm cydddealltwriaeth, ac yn cwmpasu Ystadegau ac Ymchwil Gymdeithasol. Arwyddwyd Fframwaith Cydweithio Ystadegau ac Ymchwil Gymdeithasol am y tro cyntaf fis Ionawr 2015, ac fe’i diweddarwyd fis Medi 2018. Lluniwyd y Fframwaith diweddaraf hwn fis Gorffennaf 2020.

Nod Ymchwil Gymdeithasol Llywodraeth Cymru yw cefnogi’r broses o ddatblygu, gweithredu a gwerthuso polisi yng Nghymru. Mae’n cyflawni hyn trwy archwilio effeithiolrwydd polisïau, ymyraethau a phrosiectau, a hwyluso gwelliannau ar sail tystiolaeth gadarn. Defnyddir amrywiaeth o ddulliau meintiol ac ansoddol i ymgymryd â’r gwaith hwn.

Rôl Gwasanaeth Ystadegol Llywodraeth Cymru yw cefnogi’r broses o wneud penderfyniadau, dyrannu arian a chyflawni gwaith ymchwil o fewn y Llywodraeth a’r gymuned ehangach trwy ddarparu gwasanaeth ystadegol dibynadwy ac effeithlon.

Cydweithio: egwyddorion

Bydd Comisiynydd y Gymraeg a Llywodraeth Cymru yn rhannu gwybodaeth ac yn adnabod cyfleoedd i weithio ar y cyd ym maes ystadegau ac ymchwil gymdeithasol â’r nod o hyrwyddo’r egwyddorion canlynol:

  • datblygu sail tystiolaeth gadarn a chynhwysfawr ynghylch anghenion y Gymraeg a’i siaradwyr
  • blaengynllunio’n strategol ac osgoi dyblygu gwaith
  • osgoi gosod baich diangen ar randdeiliaid, ymatebwyr a phartneriaid ymchwil
  • gwneud y defnydd gorau o adnoddau

Bydd achosion yn codi hefyd pan na fydd yn briodol i Gomisiynydd y Gymraeg a Llywodraeth Cymru rannu gwybodaeth nac i weithio ar y cyd.

Ymchwil Gymdeithasol y Llywodraeth a Gwasanaeth Ystadegol y Llywodraeth

Caiff gwaith Llywodraeth Cymru ym maes ymchwil a data ei gyflawni yn unol ag Egwyddorion Llywodraeth Cymru ar gyfer Gwaith Ymchwil a Gwerthuso (Egwyddorion Llywodraeth Cymru Gwaith Ymchwil a Gwerthuso) a Chod Ymarfer Gwasanaeth Ystadegol y Llywodraeth (GSS) (Cod Ymarfer Gwasanaeth Ystadegol y Llywodraeth). Maent yn berthnasol i ansawdd y gwaith a gynhyrchir a hefyd i’r gweithdrefnau sydd yn rheoli cyhoeddi ymchwil.

Mae Egwyddorion Llywodraeth Cymru ar gyfer Gwaith Ymchwil a Gwerthuso
fel a ganlyn:

  • rhoi ystyriaeth gynnar i waith gwerthuso o’r cychwyn cyntaf
  • cynllunio gwaith ymchwil a gwerthuso yn effeithiol
  • cyhoeddi ymchwil yn unol â phrotocol cyhoeddi Ymchwil Gymdeithasol y Llywodraeth)
  • gweithredu ar ymchwil
  • gwerth am arian

Rhaid i gyrff o fewn y DU sy’n gyfrifol am ystadegau swyddogol gydymffurfio â’r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau.

Mae’r Cod hwn yn seiliedig ar dri philer:

  • dibynadwyedd
  • ansawdd
  • gwerth 

Gyda’i gilydd mae’r pileri hyn yn cefnogi hyder y cyhoedd mewn ystadegau.

Mae’r Gorchymyn Gweld Ystadegau Swyddogol cyn eu Rhyddhau (Cymru) 2009 yn nodi’r rheolau ac egwyddorion sydd i’w dilyn mewn perthynas â chaniatáu i bobl benodol weld mathau penodol o ystadegau ymlaen llaw cyn eu cyhoeddi’n swyddogol.

Ystadegau ac Ymchwil Gymdeithasol Comisiynydd y Gymraeg

Yn ôl Adran 4(2) (e) Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 caiff Comisiynydd y Gymraeg wneud gwaith ymchwil neu gomisiynu eraill i’w wneud. Mae’r Comisiynydd wedi ei enwi o dan Orchymyn Ystadegau Swyddogol (Cymru) 2013, ac mae disgwyl i’r Comisiynydd ddilyn Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau Awdurdod Ystadegau’r DU.

Rhannu gwybodaeth: ystadegau ac ymchwil gymdeithasol

Bydd Comisiynydd y Gymraeg a Llywodraeth Cymru yn rhannu gwybodaeth am ystadegau ac ymchwil gymdeithasol.

Bydd hyn yn cynnwys:

  • rhoi gwybod am waith ymchwil sydd eisoes ar y gweill gan y ddau sefydliad
  • rhoi gwybod am waith ymchwil sy’n cael ei gynllunio gan y ddau sefydliad
  • rhoi gwybod am gynlluniau o ran cyhoeddi ystadegau neu gynnyrch gwaith ymchwil (e.e. adroddiadau, seminarau)
  • rhannu gwybodaeth am ddatblygiadau ymchwil ehangach a allai fod o ddiddordeb i’r sefydliad arall

Yn unol ag Adran 4 y Memorandwm cyd-dealltwriaeth (‘Rhannu Gwybodaeth’), bydd y Comisiynydd yn rhoi gwybod i’r Llywodraeth o leiaf ddau ddiwrnod gwaith o flaen llaw, gan amgáu copi, os bydd yn bwriadu cyhoeddi unrhyw adroddiad neu ddogfen. Yn yr un modd, bydd y Llywodraeth yn rhoi gwybod i’r Comisiynydd o leiaf ddau ddiwrnod gwaith o flaen llaw os yw’n bwriadu cyhoeddi unrhyw adroddiad neu ddogfen sy’n effeithio’n uniongyrchol ar waith y Comisiynydd.

Bydd yr egwyddor o rannu gwybodaeth yn ddarostyngedig i unrhyw amodau sydd yn gysylltiedig â gofynion cyrff proffesiynol perthnasol. Mae’r rhain yn cynnwys gofynion cydymffurfio Gwasanaeth Ystadegol y Llywodraeth (GSS) a phrotocol Ymchwil Gymdeithasol y Llywodraeth (GSR) o ran cyhoeddi data ac ymchwil.

Dulliau rhannu gwybodaeth

Bydd Llywodraeth Cymru a Chomisiynydd y Gymraeg yn rhannu gwybodaeth am waith ymchwil sydd ar y gweill neu sydd wedi ei gwblhau trwy’r dulliau isod:

  • Cyfarfodydd rhwng swyddogion Llywodraeth Cymru sydd â chyfrifoldeb am Ystadegau ac Ymchwil Gymdeithasol a Chomisiynydd y Gymraeg o leiaf bob chwe mis. Bydd cofnod yn cael ei baratoi o bob cyfarfod.
  • Cyfarfodydd Pwyllgor Cyswllt Ystadegol Cymru.
  • Seminarau, cynadleddau a fforymau eraill a drefnir i hybu cydweithio â phartneriaid ym maes ymchwil a gwerthuso.
  • Gohebiaeth e-bost pan fo hynny’n briodol.
  • Cynllun Tystiolaeth Ymchwil ac Ystadegau am y Gymraeg: Llywodraeth Cymru.
  • Cyfleoedd newydd a gaiff eu hadnabod wrth i’r Fframwaith Cydweithio gael ei ddatblygu a’i adolygu.

Gall y dulliau hyn hefyd fod yn ffordd o adnabod cyfleoedd i gomisiynu ymchwil ar y cyd.

Rhannu data

Bydd Llywodraeth Cymru a Chomisiynydd y Gymraeg yn rhannu data, yn ddibynnol ar hawl gyfreithiol, â chytundebau priodol yn eu lle. Bydd Llywodraeth Cymru a Chomisiynydd y Gymraeg yn gyfrifol am eu dadansoddiadau eu hunain oni bai bod trefniadau cydweithio wedi eu cytuno o flaen llaw.

Bydd Llywodraeth Cymru a Chomisiynydd y Gymraeg yn cydweithio ac yn rhannu gwybodaeth pan fo’n briodol ar y canlynol:

  1. Cyfrifiad: yn cynnwys dadansoddi canlyniadau’r Cyfrifiad, ymateb i ymgynghoriad (ffurfiol neu anffurfiol) y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS), Grŵp Ymgynghorol y Cyfrifiad ar gyfer Cymru a materion ehangach yn ymwneud â’r Cyfrifiad.
  2. Arolygon Defnydd Iaith: yn cynnwys dadansoddi canfyddiadau, lledaenu canfyddiadau ymhellach, a chynllunio arolygon defnydd yn y dyfodol.
  3. Data eraill yn ymwneud â’r Gymraeg: yn cynnwys data eraill a gasglwyd gan neu ar ran Llywodraeth Cymru (e.e. Arolwg Cenedlaethol Cymru, Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth, Cyfrifiad Ysgolion Blynyddol ar Lefel Disgyblion), amcanestyniadau o’r iaith yn y dyfodol a dadansoddiadau eraill.
  4. Materion ystadegol: yn cynnwys datblygu materion polisi’r Gwasanaeth Ystadegol a mynychu cyfarfodydd am faterion ystadegol a all fod yn berthnasol i’r Gymraeg neu’n berthnasol i statws Comisiynydd y Gymraeg fel cynhyrchydd ystadegau, e.e. Pwyllgor Cyswllt Ystadegol Cymru.

Yn unol â chymal 9.2 y Memorandwm cyd-ddealltwriaeth bydd Comisiynydd y Gymraeg yn darparu data a dadansoddiad ysgrifenedig i’r Llywodraeth yn flynyddol o sut mae ei waith wedi cyfrannu at strategaeth Cymraeg 2050.

Adroddiadau 5-mlynedd Comisiynydd y Gymraeg

Mae Adran 5 Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 yn nodi bod yn rhaid i Gomisiynydd y Gymraeg lunio adroddiad 5-mlynedd ar sefyllfa’r Gymraeg yn y cyfnod hwnnw. Cafodd yr adroddiad cyntaf ei gyhoeddi ym mis Awst 2016. Yn unol ag Adran 5(3) y Mesur mae’r adroddiad hwn yn cynnwys adroddiad ar ganlyniadau’r Cyfrifiad 2011 ac asesiad o oblygiadau’r canlyniadau hynny i sefyllfa’r Gymraeg. Nid oes cyfyngiad ar y materion eraill y caiff y Comisiynydd eu cynnwys mewn unrhyw adroddiad 5-mlynedd.

Ar gais Comisiynydd y Gymraeg, bydd Llywodraeth Cymru yn rhannu data â’r Comisiynydd, i’w dadansoddi a’u cynnwys gan Gomisiynydd y Gymraeg yn yr adroddiad 5-mlynedd. Bydd hyn yn ddibynnol ar hawl gyfreithiol, â chytundebau priodol yn eu lle.

Bydd Llywodraeth Cymru yn cynnig cyngor a gwybodaeth i Gomisiynydd y Gymraeg ar faterion yn ymwneud â’r adroddiad, i sicrhau cywirdeb ffeithiol yr adroddiad neu i gadarnhau bod ffynonellau perthnasol wedi eu harchwilio.

Cyfleoedd i gomisiynu ymchwil ar y cyd

Pan fo’n briodol, bydd Llywodraeth Cymru a Chomisiynydd y Gymraeg yn comisiynu ac yn cyhoeddi ymchwil ar y cyd. Bydd rhai amgylchiadau lle gallai comisiynu a chyhoeddi yn annibynnol fod o fantais yn y cyd-destun academaidd a dinesig ehangach. Mewn achosion o’r fath bydd angen sicrhau na fydd hyn yn effeithio’n negyddol ar ansawdd yr ymchwil ei hun.

Materion Penodol i Ystadegau: Cynhyrchwyr Ystadegau Swyddogol

Yn dilyn cadarnhad statws Comisiynydd y Gymraeg fel Cynhyrchydd Ystadegau Swyddogol bydd Llywodraeth Cymru yn cynnig cyngor a chefnogaeth i Gomisiynydd y Gymraeg ar faterion penodol.

Adolygu

Mae’r Memorandwm cyd-ddealltwriaeth rhwng Llywodraeth Cymru a Chomisiynydd y Gymraeg yn nodi y bydd y rhaniad rhwng cyfrifoldebau’r ddau sefydliad yn cael ei adolygu’n flynyddol i sicrhau bod amcanion Cymraeg 2050 yn cael eu gweithredu.

Llofnodwyd

Image
Signature: Stephanie Howarth

 

 

 

Stephanie Howarth
Prif Ystadegydd
Llywodraeth Cymru
Dyddiad: 06/07/2020

 

Image
Signature: Dyfan Sion

 

 

 

Dyfan Sion
Cyfarwyddwr
Comisiynydd y Gymraeg
Dyddiad: 06/07/2020

 

Image
Signature: Steven Marshall

 

 

 

Steven Marshall
Prif Swyddog Ymchwil Gymdeithasol
Llywodraeth Cymru
Dyddiad: 06/07/2020