Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r cwrs yn edrych ar yr hyn y mae'r fframwaith yn ceisio ei gyflawni, sut y caiff ei strwythuro, yr egwyddorion y mae'n gweithredu arnynt a sut y mae'n cyd-fynd â threfniadau llywodraethu ehangach cymwysterau.

Adrannau’r e-fodiwl:

  • Trosolwg
  • Cyflwyniad
  • Cefndir FfCChC
  • Gwerthoedd cyffredin ac egwyddorion lefel uchel
  • Strwythur y fframwaith
  • Llywodraethu ac alinio i fframweithiau eraill
  • Adolygiad pwnc
  • Adborth

Cynulleidfa darged

Unigolion sy'n gweithio yn y sectorau addysg, hyfforddiant, cyngor a chyfarwyddyd a defnyddwyr eraill sy'n dymuno deall sut mae'r fframwaith wedi'i ddatblygu i ddangos categorïau gwahanol o gymwysterau a dysgu yng Nghymru. 

1. Cyrchu'r e-fodiwl trwy glicio modiwl e-ddysgu.

2. Cofrestru ar gyfer yr e-fodiwl:

  • Rhowch eich enw, eich cyfeiriad e-bost a'ch cyfrinair. Rhaid i gyfrineiriau fod o leiaf 8 nod o hyd ac yn cynnwys llythrennau bach a phrif lythrennau, symbol a rhif.
  • Byddwch yn derbyn cod dilysu drwy e-bost – rhowch y cod dilysu ar y dudalen we a chlicio ' dilysu ' i gwblhau'r broses gofrestru.

3. Mewngofnodwch i'r e-fodiwl trwy fewnosod eich cyfeiriad e-bost a’ch cyfrinair.