Prif amcanion yr adolygiad oedd deall effaith Fframwaith Credydau a Chymwysterau Cymru (FfCChC) a penderfynu a oes angen adolygu strwythur a diben FfCChC.
Y cyhoeddiad diweddaraf
Canfyddiadau allweddol
- Yn gyffredinol, mae gan randdeiliaid lefelau da o ymwybyddiaeth o FfCChC a’i nodau.
- Mae FfCChC wedi’i sefydlu’n gadarn mewn rhai sectorau, yn enwedig addysg uwch a dysgu oedolion a’r gymuned lle mae ganddo gysylltiad agos â chanlyniadau cymwysterau a safonau sefydliadol.
- Yn ôl rhanddeiliaid o’r holl sectorau, un o brif effeithiau FfCChC yw’r ffaith ei fod yn cynyddu cydnabyddiaeth o ddysgu blaenorol a dysgu anffurfiol drwy’r piler Dysgu Gydol Oes gyda Sicrwydd Ansawdd.
- Fodd bynnag, roedd llawer o’r rhanddeiliaid o’r farn nad oedd FfCChC yn cael ei ddefnyddio’n ymarferol i’r graddau a obeithiwyd yn y sectorau addysg a chyflogaeth, er gwaethaf ei amcanion a’i ddyheadau.
- Mae’r mwyafrif llethol o randdeiliaid o bob sector am weld FfCChC yn parhau ac yn cael ei sefydlu wrth wraidd y broses barhaol o gynllunio, darparu a defnyddio cymwysterau yng Nghymru.
- Roedd y mwyafrif llethol o randdeiliaid yn gymharol fodlon â chynllun a chynnwys FfCChC. Roeddent yn credu bod hyblygrwydd ac addasrwydd y Fframwaith yn gryfder cyfredol allweddol ac yn sylfaen i adeiladu arni.
Cefndir
Mabwysiadodd Llywodraeth Cymru FfCChC yn ffurfiol yn 2002, cyn ei lansio yn 2003. Mae’r cyfnod gweithredu wedi para rhwng 2003 a 2014. Mae’n fframwaith eang sy’n ceisio egluro’r system gymwysterau yn well, ac yn cynnwys addysg uwch, cymwysterau sy’n cael eu rheoleiddio a dysgu gydol oes gyda sicrwydd ansawdd.
Adroddiadau
Fframwaith Credydau a Chymwysterau Cymru: adolygiad ansoddol o'i effaith , Saesneg yn unig, math o ffeil: PDF, maint ffeil: 1 MB
Fframwaith Credydau a Chymwysterau Cymru: adolygiad ansoddol o'i effaith (crynodeb) , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 200 KB
Cyswllt
Sara James
Rhif ffôn: 0300 025 3812
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.
Cyfryngau
Rhif ffôn: 0300 025 8099
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.