Sut mae lluoedd arfog Prifysgol De Cymru yn cael budd o gynllun cydnabod dysgu blaenorol.
Gall Cynllun Cydnabod Dysgu Blaenorol y Lluoedd Arfog Prifysgol De Cymru helpu dynion a merched a fu’n gwasanaethu yn y lluoedd arfog i ddatblygu llwybr gyrfa newydd
Cefndir
Prifysgol De Cymru (PDC) oedd y sefydliad addysg uwch cyntaf yn y DU i benodi Hyrwyddwr y Lluoedd Arfog a'r cyntaf yng Nghymru i arwyddo Cyfamod y Lluoedd Arfog. Maent wedi ymrwymo i gefnogi'r fenter hon ac i wneud gwahaniaeth i'r rheini sydd wedi gwasanaethu yn lluoedd arfog y DU. Derbyniodd PDC wobr arian gan Gynllun Cydnabyddiaeth i Gyflogwyr y Weinyddiaeth Amddiffyn yn 2017. Rhoddir y wobr hon i sefydliadau yn y sector preifat a’r sector cyhoeddus sy'n addo, dangos neu eirioli cefnogaeth i amddiffyn ac i gymuned y lluoedd arfog.
Dyma'r ail dro i'r Brifysgol dderbyn y wobr – cafodd ei chydnabod am y tro cyntaf yn 2015.
Mae’r cynllun CDB hwn ar gyfer y Lluoedd Arfog yn fenter ar y cyd rhwng Panel Cyfamod Cymunedol Cwm Tâf (a ariannwyd gan Gynllun Grant Cyfamod Cymunedol 2014 - CCGS), PDC a Brigâd Gŵyr Traed 160 a’i Phencadlys.
Beth yw Cydnabod Dysgu Blaenorol (CDB)?
Mae CDB yn broses sy'n galluogi cydnabod dysgu ffurfiol (trwy gredydau) ac anffurfiol (profiad) neu drosglwyddo credyd tuag at gyrsiau neu unedau dysgu presennol. Gellir diffinio'r dysgu hwn fel dull asesu sy'n ystyried a all dysgwyr ddangos eu bod yn gallu bodloni'r gofynion asesu ar gyfer dysgu trwy’r wybodaeth, y ddealltwriaeth a/neu’r sgiliau sydd ganddynt ac nad oes angen iddynt wneud hynny trwy gwrs astudio. Mae’n un dull i alluogi unigolion i hawlio credydau waeth ble mae'r dysgu perthnasol wedi digwydd yn y gorffennol
Cynllun CDB y Lluoedd Arfog
Sefydlwyd Cynllun Cydnabod Dysgu Blaenorol y Lluoedd Arfog PDC yn 2014 gyda dim ond dyrnaid o gyfranogwyr. Erbyn hyn bu mwy na 100 o gyn-aelodau’r lluoedd arfog, yn ddynion a merched, yn cymryd rhan yn y cynllun, gan ddilyn gwahanol raglenni HNC / HND, israddedig ac ôl-raddedig.
Ei nod yw helpu’r personél a fu’n gwasanaethu yn y lluoedd arfog i ennill credydau academaidd (ar lefelau 4, 5 neu 7, yn dibynnu pa gwrs sy'n cael ei ddewis), trwy roi gwerth ar yr wybodaeth, y sgiliau a'r profiad y maent wedi'u hennill wrth wasanaethu neu ar ôl gadael. Yna gallant ddefnyddio'r credydau a enillwyd i’w helpu i ddatblygu llwybr gyrfa newydd.
Mae'r cynllun yn asesu sgiliau, gwybodaeth a phrofiad y personél a fu’n gwasanaethu yn y lluoedd arfog, waeth a ydynt wedi'u cyflawni'n ffurfiol mewn sefydliad addysg ai peidio. Mae staff PDC yn gweithio gyda’r ymgeiswyr i fapio eu dysgu blaenorol yn erbyn cyrsiau sydd o ddiddordeb ac yn nodi tystiolaeth sy'n dangos eu dysgu. Caiff y dystiolaeth ei hasesu gan staff academaidd perthnasol a dyfernir credydau i'r ymgeisydd ar lefel briodol, a gellir eu defnyddio wedyn tuag at gyrsiau presennol
O dan y cynllun, gall PDC achredu hyd at ddwy ran o dair o gymhwyster israddedig neu hyd at ddwy ran o dair o gymhwyster ôl-raddedig, o bosibl, er enghraifft, os yw'r ymgeisydd wedi dal swydd uwch neu ennill profiad perthnasol ar ôl gadael y lluoedd arfog. Er mwyn cyflawni hyn, byddai angen mapio profiad, sgiliau a gwybodaeth yr ymgeisydd yn erbyn cyrsiau perthnasol. Bydd angen tystiolaeth ychwanegol weithiau i gadarnhau'r dysgu a honnir, a gall hyn fod ar ffurf nodiadau o gyfarfod neu gyfweliad gydag arweinydd y cwrs, er enghraifft. Unwaith y bydd y broses CDB wedi'i gwblhau, caiff yr ymgeisydd wybod faint o gredydau sydd eu hangen arno/arni i ennill y cymhwyster.
Buddion
Pan fydd personél yn gadael y lluoedd arfog, gall fod yn anodd iddynt weld sut y gellir defnyddio'r sgiliau, yr wybodaeth a'r profiad a gawsant yn ystod eu gyrfa mewn man arall.
Gall y cynllun CDB hwn helpu unigolion i:
- Wirio bod eu sgiliau yn gyfoes
- Adnabod posibiliadau newydd sy'n bodoli yn y byd tu allan i’r fyddin
- Cael mynediad at gwrs priodol pan nad oes ganddynt y gofynion mynediad ffurfiol
- Cyflymu’r broses i ennill y cymhwyster: trwy ennill credydau am rannau o'r cwrs, gan leihau'r amser a dreulir yn astudio
- Cael mynediad ‘uwch’ i gwrs, e.e. Dechrau ar y cwrs ym Mlwyddyn 2
Mewn amgylchiadau penodol (ond mae rhai cyfyngiadau!) gallai personél a fu’n gwasanaethu yn y Lluoedd Arfog, sydd wedi gwasanaethu am fwy na phedair blynedd, wedi gadael y gwasanaeth ar ôl Gorffennaf 2008, ac nad ydynt wedi astudio ar gyfer cymwysterau academaidd tra’n gwasanaethu, gael costau eu gradd gyntaf wedi’u talu gan Lywodraeth y DU.
Dywedodd Ross Hall, Hyrwyddwr y Lluoedd Arfog, PDC:
Dros y blynyddoedd diwethaf rydym wedi cynorthwyo nifer o gyn-aelodau’r lluoedd arfog, yn ddynion a merched, i gael mynediad at AU i'w paratoi ar gyfer canfod llwybr tuag at yrfaoedd newydd.
Mae cynllun cydnabod dysgu blaenorol y lluoedd arfog yn galluogi rhoi ystyriaeth i'r profiad gwerthfawr y byddant wedi'i ennill yn ystod eu hamser yn y lluoedd arfog i gael ei ystyried tuag at eu credydau prifysgol. Rydym eisoes wedi gweld rhai ohonynt yn graddio o’r Brifysgol ac yn mynd ymlaen i ganfod gyrfaoedd newydd mewn sectorau ategol ac weithiau mewn meysydd cwbl wahanol.
Dywedodd Alex Fletcher, a raddiodd o Brifysgol De Cymru ym mis Gorffennaf 2017:
Fe wnaeth fy ngwasanaeth milwrol i fy ngalluogi i ddechrau ar fy rhaglen gradd ym Mlwyddyn 2. Roedd hyn yn bosibl trwy raglen Cydnabod Dysgu Blaenorol y Brifysgol ar gyfer personél y lluoedd arfog.
Am fwy o wybodaeth ewch i http://southwales.ac.uk/study/armed-forces
Neu cysylltwch â Ross Hall, Hyrwyddwr y Lluoedd Arfog neu Jason Brown, Swyddog Cyswllt y Lluoedd Arfog
e-bost: armed.forces@southwales.ac.uk
Cyfrannwr: Ross Hall, Hyrwyddwr y Lluoedd Arfog Prifysgol De Cymru (PDC) 2018