Sut mae fframwaith asesu a phecyn offer o fudd i staff a'r sefydliad.
"Gall Fframwaith GIG Cymru ar gyfer Cydnabod Dysgu Blaenorol helpu gweithwyr i ddatblygu eu llwybr gyrfa yn y gwasanaeth iechyd"
Cyflwyniad
Yn 2017 datblygodd GIG Cymru ei Fframwaith Cymru-gyfan ar gyfer Cydnabod Dysgu Blaenorol (CDB) ynghyd â Phecyn Cymorth a ddatblygwyd trwy'r Gwasanaeth Addysg a Datblygu’r Gweithlu, er mwyn mynd i’r afael â’r argymhellion a wnaed mewn Adroddiad i Lywodraeth Cymru ar weithredu Fframwaith Datblygu Sgiliau a Gyrfa GIG Cymru ar gyfer Gweithwyr Cefnogi Gofal Iechyd Clinigol sy’n cefnogi Nyrsio a Gweithwyr Iechyd Proffesiynol Cysylltiedig eraill.
Mae'r fframwaith hwn yn ei gwneud yn bosibl i dystiolaeth o ddysgu a phrofiad blaenorol sy'n berthnasol i swydd y gweithiwr i gael ei gwirio ac yn lleihau'r angen i ddyblygu dysgu. Fe'i cynlluniwyd i gefnogi datblygiad a chynnydd staff trwy ddysgu gydol oes, dysgu mewnol nad yw wedi’i achredu neu gymwysterau seiliedig-ar-waith nad ydynt bellach yn gyfredol. Mae hefyd yn darparu ar gyfer cydnabod dysgu trwy brofiadau perthnasol. Mae'n helpu i sicrhau cysondeb ymagwedd wrth weithredu'r broses CDB ar draws y GIG yng Nghymru.
Beth yw Cydnabod Dysgu Blaenorol (CDB)?
Mae CDB yn broses sy'n galluogi cydnabod dysgu ffurfiol ac anffurfiol a dyfarnu / trosglwyddo credydau tuag at gyrsiau neu unedau dysgu sy'n bodoli eisoes. Fe'i diffinnir fel dull asesu sy'n ystyried a all dysgwyr ddangos y gallant fodloni'r gofynion asesu ar gyfer dysgu trwy wybodaeth, dealltwriaeth neu sgiliau sydd ganddynt ac nad oes angen iddynt fynd trwy gwrs astudio. Mae’n un dull i alluogi unigolion i hawlio credyd waeth ble mae'r dysgu perthnasol wedi digwydd yn y gorffennol.
Yng nghyd-destun FfCChC, mae'r diffiniad o CDB yn benodol ac mae'n ymwneud ag asesu sy'n arwain at ddyfarnu credydau. Cynhelir asesiad ar gyfer CDB yn erbyn canlyniadau dysgu a meini prawf asesu uned ac mae'n ddarostyngedig i'r un gofynion mewnol ac allanol ag unrhyw fath arall o asesiad o fewn FfCChC.
Fframwaith RPL Cymru Gyfan
Mae dogfennaeth y Fframwaith yn darparu cymorth ac arweiniad i oruchwylwyr, rheolwyr, staff dysgu a datblygu, aseswyr a dysgwyr ar weithredu’r Fframwaith CDB Cymru Gyfan ar gyfer staff y GIG yng Nghymru i gydnabod y dysgu, y profiad a'r cymwysterau blaenorol sydd eu hangen i ymgymryd â’r rolau presennol yng Nghymru. Mae'n cyd-fynd ag ethig Cymru'n Un ac mae'n cynnwys egwyddorion craidd y GIG, a ddatblygwyd i helpu, cefnogi a gwerthfawrogi staff GIG Cymru. Mae'r egwyddorion wedi'u gwreiddio yn y cysyniad gofal iechyd darbodus.
Bydd angen i ddysgwyr / gweithwyr gyflwyno tystiolaeth mewn ffordd sy'n dangos bod dysgu wedi digwydd. Mae'r Portffolio CDB yn darparu canllawiau ac offer i gefnogi casglu/trefnu a chyflwyno’r dystiolaeth hon. Rhaid i aseswyr benderfynu bod y dystiolaeth a ddefnyddir ar gyfer CDB yn briodol ac yn ddilys ac yn unol â meini prawf y cyrff dyfarnu perthnasol. Pan fydd y dysgwyr yn dymuno hawlio CDB bydd arnynt angen cefnogaeth eu rheolwyr presennol neu reolwyr blaenorol neu Gynghorydd CDB. Rhaid i'r holl broses gael ei chyflawni gan staff sydd ag arbenigedd a gwybodaeth berthnasol i fodloni’r gofynion cyflwyno ac asesu ar gyfer y cymhwyster penodol y maent yn ymwneud ag ef. Rhaid i drefniadau gwirio mewnol a gwirio allanol fod ar waith i gadarnhau'r broses CDB ac unrhyw ddyfarniad credydau / cydnabyddiaeth arfaethedig. Mewn rhai amgylchiadau, efallai y bydd cyfyngiad ar faint o’r cymhwyster y gellir ei gyflawni trwy drosglwyddo credydau neu CDB.
Buddion
Gall Fframwaith CDB Cymru Gyfan ddod â manteision sylweddol i unigolion ac i'r sefydliad:
- Gall hyrwyddo mwy o ymgysylltiad â staff
- Gall helpu staff i wirio bod eu gwybodaeth a'u sgiliau yn gyfoes
- Gall sicrhau bod mwy o ddysgwyr yn cael cefnogaeth i gael eu dysgu a’u profiad blaenorol wedi’u cydnabod
- Bydd yn rhoi sicrwydd i staff nad ydynt wedi ymgymryd â dysgu ffurfiol ers peth amser bod eu gwybodaeth a'u sgiliau yn cael eu gwerthfawrogi yn eu sefydliad a’u bod yn cael eu hannog i ymgymryd ag addysg bellach a hyfforddiant lle bo angen
- Bydd llai o amser yn cael ei gymryd o'r gwaith i gyflawni'r un canlyniadau dysgu
- Bydd arbedion effeithlonrwydd a chost a budd dros amser
Pecyn Cymorth RPL
Cefnogir y Fframwaith gyda Phecyn Cymorth sydd wedi'i fwriadu i gynorthwyo dysgwyr, rheolwyr ac aseswyr i weithredu'r broses RPL. Mae'n seiliedig ar y we ac mae'n cynnwys set o adnoddau ac offer sy'n cynnwys:
- Dogfen bolisi
- Cwestiynau Cyffredin
- Cais am Gydnabod Dysgu Blaenorol
- Ffurflen Adborth a Ffurflen Adroddiad y Cymeradwywr
- Amlinelliad o’r Portffolio a'r cynnwys arfaethedig - mae'n cynnwys canllawiau ac offer i gefnogi casglu a chyflwyno tystiolaeth
- Arweiniad Cryno i CDB
- Siart Llif
- Rolau a Chyfrifoldebau - Dysgwr, Rheolwr, Asesydd CDB, Gwiriwr Mewnol, Dilysydd Allanol, Ail wiriad
- Cofnod o Gyfarfodydd
- Templed Adfyfyrio
- Dogfennau ategol, gan gynnwys Strategaeth Sicrhau Ansawdd a Strategaeth Asesu Mewnol
Mae GIG Cymru yn ystyried y Fframwaith Cydnabod Dysgu Blaenorol a’r Pecyn Cymorth yn ddatblygiad pwysig tuag at hwyluso cydnabod dysgu blaenorol gweithwyr gofal iechyd yng Nghymru.
Meddai Stephen Griffiths, Cyfarwyddwr – Gwasanaethau Addysg a Datblygu’r Gweithlu, Partneriaeth Cydwasanaethau’r Gweithlu Addysg a Datblygu (WEDS):
Mae GIG Cymru yn gwerthfawrogi ei staff ac yn dymuno cydnabod cymhwysedd sy’n berthnasol i rôl yr unigolyn, waeth sut mae’n cael ei gyflawni, boed trwy ddysgu yn y gweithle neu ddysgu tu allan i’r sefyllfa ffurfiol. Ond mae gwybod sut i fynd ati i gydnabod y dysgu a’r profiad yn her. Mae’r Fframwaith a’r Pecyn Cymorth yn cynnig arweiniad gam wrth gam a chefnogaeth i bawb sy’n rhan o’r broses, o’i dechrau i’w diwedd, mewn modd safonedig
Ym marn Rachel Rushworth, rheolwr LED – Datblygu Gweithwyr Cefnogi Gofal Iechyd, Ysbyty’r Brifysgol Llandochau:
“Mae’r Pecyn Cymorth yn mapio allan yr holl broses mewn ffordd weladwy – hawdd i’w defnyddio gan ddysgwyr ac aseswyr … Mae’n gwneud y broses CDB yn un hawdd i’w dilyn.”
Mae dwy recriwt diweddar i Wasanaethau Sgrinio Iechyd Cyhoeddus Cymru newydd ddechrau ar y broses CDB.
Joanne:
Rydyn ni newydd gael ein recriwtio i swyddi sgrinio gyda Iechyd Cyhoeddus Cymru. Mae gan y ddwy ohonon ni gymhwyster Lefel 3 QCF mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol – ond ar gyfer ein swyddi newydd yma mae angen Diploma mewn Sgrinio Iechyd arnon ni. Fe wneith y broses CDB weithio i ni. Bydd yn lleihau’n sylweddol y gwaith bydd rhaid i ni ei wneud i gwblhau ac ennill y Diploma mewn Sgrinio Iechyd.
Simone:
Mae hyn yn golygu hefyd y byddwn ni’n gymwys i sgrinio yn gynt a bydd y faich asesu yn llai ar yr hyfforddwyr sgiliau clinigol a’r staff Dilysu Mewnol.
Cyfrannwr: Krysia Groves, Partneriaeth Cydwasanaethau, Gwasanaethau'r Gweithlu, Addysg a Datblygu (WEDS) GIG Cymru