Sut y gwnaeth Cymdeithas Tai Clwyd Alyn helpu pobl agored i niwed a phobl ddigartref i ennill cymwysterau.
Cefndir
Mae Cymdeithas Tai Clwyd Alyn yn darparu llety â chymorth ar gyfer pobl sengl, bregus a digartref 16 - 25 mlwydd oed, ar draws y 4 sir yng Ngogledd Cymru ac mae 8 o brosiectau yn cyflawni ein Rhaglen Dysgu a Hyfforddi ODEL (Agor Drysau, Gwella Bywydau). Mae'r rhaglen wedi'i ffurfio o unedau Dysgu Gydol Oes gyda Sicrwydd Ansawdd, yn bennaf o Sector 14 (paratoi at fywyd a gwaith) a dewisir pob un o'r unedau o gwmpas y gefnogaeth a'r sgiliau bywyd a ddarperir ym mhob prosiect.
Y rheswm dros sefydlu'r rhaglen hon oedd er mwyn annog ac ysgogi cleientiaid (nid yw'r rhan fwyaf ohonynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant (NEET), gyda llawer yn cael eu heithrio o’r ddarpariaeth addysg) i ymgysylltu ag amgylchedd diogel, cyfforddus a chyfarwydd. Mae'r unedau'n cael eu cyflwyno mewn grwpiau bach neu sefyllfa un i un os oes angen.
Cynnydd a chanlyniadau
Mae'r unedau unigol yn darparu darnau bach o ddysgu sy'n galluogi cleientiaid i ddechrau cyflawni, ac ystyrir yr unedau'n flociau i adeiladu ar gyfer datblygiad yn y dyfodol.
Camodd rhai dysgwyr o'r rhaglen a gyflwynwyd yn 2013 ymlaen i gymwysterau pellach yn 2014 ac i swyddi yn dilyn cymryd rhan yn y cwrs ac ar sail eu tystysgrifau ODEL / Agored Cymru.
Source: The Credit and Qualifications Framework for Wales: A qualitative review of its impact