Neidio i'r prif gynnwy

Y Fforwm Strategol ar Fuddsoddi Rhanbarthol yng Nghymru a sut y bydd yn gweithio.

Cefndir

1. Ym mis Tachwedd 2020, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru Fframwaith ar gyfer Buddsoddi Rhanbarthol yng Nghymru (Fframwaith) yn cynnig model ar gyfer ymyriadau datblygu economaidd rhanbarthol yn seiliedig ar leoedd yn y dyfodol. Mae’n adeiladu ar dair blynedd o waith ar y cyd â Grŵp Llywio Buddsoddi Rhanbarthol Cymru ac is-grwpiau cysylltiedig, ymgynghoriad cyhoeddus, ac adroddiad 2020 y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd ynglŷn â gwahanol haenau llywodraethu yng Nghymru.

2. Ers hynny mae Llywodraeth y DU wedi rhoi amrywiaeth o fentrau ar waith yn y maes buddsoddi rhanbarthol yng Nghymru, er gwaetha’r ffaith mai mater o bolisi datganoledig yw datblygu economaidd. Mae’r rhain yn cynnwys y Gronfa Ffyniant Gyffredin, a lansiwyd yn 2022 ac y rhyddhawyd y cyllid yn 2023, a’i gynllun peilot y Gronfa Adfywio Gymunedol yn 2021; a’r Gronfa Ffyniant Bro gystadleuol.

3. Nid yw Llywodraeth y DU wedi ceisio creu rôl gwneud penderfyniadau ar y cyd ar gyfer Llywodraeth Cymru o safbwynt unrhyw un o’r cronfeydd hyn. Mae Gweinidogion Cymru o’r farn fod hyn yn osgoi atebolrwydd democrataidd Llywodraeth Cymru a’r Senedd, ac yn torri ar draws y setliad datganoli.

4. Wrth i’r DU ymadael â’r Undeb Ewropeaidd, mae buddsoddi yng Nghymru hefyd wedi cael ei effeithio drwy golli mynediad at gronfeydd hanesyddol eraill oedd yn cefnogi gwaith ymchwil ac arloesi megis menter Horizon, gan ddwysáu’r golled i’r sector addysg a busnesau preifat; ac i gyllid datblygu gwledig yn enwedig ym maes datblygu lleol dan arweiniad y gymuned, cyllido rheoli tir, cyllid gwyrdd a chyllid arloesi.

5. Mae Gweinidogion Llywodraeth Cymru yn cydnabod risgiau economaidd tirwedd buddsoddi rhanbarthol tameidiog, heb drosolwg strategol a chyda polisïau croes i’w gilydd nad ydynt yn cyflawni o ran y nodau a’r ffyrdd o weithio sydd gennym yng Nghymru. Mae Gweinidogion Cymru wedi ei gwneud yn glir na fydd adnoddau Llywodraeth Cymru yn cael eu defnyddio i gefnogi’n uniongyrchol y broses o gyflawni polisïau Llywodraeth y DU nad ydynt yn parchu’r setliad datganoli ac sydd wedi eu llunio mor wael nes eu bod yn niweidiol i economi Cymru.

6. Rhaid gwneud penderfyniadau anodd ynghylch cyllido gwasanaethau a buddsoddi o ganlyniad i bwysau chwyddiannol, toriad i gyllideb Cymru mewn termau real, a cholli £1.1 biliwn o gyllid yn lle cyllid yr UE. Mae Gweinidogion Cymru wedi ymrwymo i weithio gyda’i gilydd i helpu Llywodraeth leol a phartneriaid o’r sectorau addysg uwch, addysg bellach, cyhoeddus, preifat a’r trydydd sector wneud y gorau posibl o dan yr amgylchiadau anodd hyn. Bydd Gweinidogion Cymru yn trafod â Llywodraeth y DU i warchod y setliad datganoli a thegwch economi’r DU, ac i wneud yr hyn sydd yn bosibl iddynt i gyfyngu’r effeithiau lle bo hynny’n ymarferol.

7. Fel rhan o’r ymrwymiad hwnnw, mae Llywodraeth Cymru wedi gweithio gyda phartneriaid i greu Fforwm Strategol hyd braich ar gyfer Buddsoddi Rhanbarthol yng Nghymru (“Fforwm”). Bydd y Fforwm yn blatfform i bartneriaid a Llywodraeth Cymru gydweithio er mwyn gwneud y mwyaf o’r cyllid buddsoddi rhanbarthol sy’n dod i Gymru.

Diben y Fforwm

8. Mae’r Fforwm hwn yn cynnig platfform fel y gallaelodau rannu trosolwg strategol o fuddsoddi rhanbarthol yng Nghymru, er budd cyffredin yr holl aelodau.

9. Nid corff ar gyfer atebolrwydd, monitro, na gwerthuso prosesau a phrosiectau a gefnogir gan y Gronfa Ffyniant Gyffredin na chynlluniau eraill y DU yn dechnegol yw’r Fforwm.

10. Mae’r Fforwm yn gyfle i aelodau, gan gynnwys Llywodraeth Cymru, i:

  • Barhau i roi ar waith yr egwyddorion y Fframwaith ar gyfer Buddsoddi Rhanbarthol yng Nghymru a gyd ddatblygwyd wrth i’r dirwedd gyllido barhau i ddatblygu ac wrth i raglenni cyllido gael eu darparu.
  • Rhannu arbenigedd, gwybodaeth, gwersi a ddysgwyd ac arferion gorau i wneud y mwyaf o’r buddion i Gymru ac o’r cyllid sy’n cael ei fuddsoddi, gan gynnwys helpu  i wneud cysylltiadau i symud partneriaid tuag at ddarparu prosiectau o dan fframweithiau cyllido Llywodraeth y DU wrth iddynt ymddangos.
  • Cynorthwyo awdurdodau lleol wrth iddynt ddarparu cronfeydd buddsoddi’r DU, drwy ddylanwadu ar rwydweithiau’r aelodau eu hunain i rannu cynnydd, gwybodaeth ac adborth ar y cronfeydd hynny wrth iddynt gael eu gweinyddu.
  • Darparu cyswllt rhwng aelodau, eu sefydliadau neu’r rheini maent yn eu cynrychioli, gyda:

    a) Gwaith prosiect y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd yn cefnogi llywodraethu rhanbarthol a buddsoddi cyhoeddus yng Nghymru, gan sicrhau bod arferion rhyngwladol gorau yn parhau i ddylanwadu ar ddatblygiad rhanbarthol yng Nghymru; a
    b) Y rhaglen Cymru Ystwyth sy’n datblygu, er mwyn ysgogi buddsoddiad a chyfleoedd i Gymru.
     
  • Ysgogi eu rhwydweithiau eu hunain i gyfrannu at ddibenion y Fforwm a sbarduno datblygiad economaidd rhanbarthol Cymru yn effeithiol.
  • Gyda chytundeb y Cadeirydd, gwahodd cyflwyniadau ar gyfleoedd buddsoddi rhanbarthol perthnasol gan Lywodraeth Cymru neu sefydliadau eraill.

11. Bydd hefyd yn cyfrannu gwybodaeth yn uniongyrchol at y cyngor a roddir i Weinidogion Cymru, gan helpu i benderfynu ar ymateb strategol Llywodraeth Cymru wrth i ddatblygiadau godi.

12. Bydd yr agenda’n cynnwys yr agweddau domestig a rhyngwladol ar fuddsoddi rhanbarthol Cymru, wrth i’r rhain ddod i’r amlwg. Mae hynny’n cynnwys effeithiau ymadawiad y DU â’r Undeb Ewropeaidd, a bwriad Llywodraeth y DU yn y gofod a grëir gan hynny. 

13. Ni fydd yn ofynnol i’r Fforwm sicrhau cytundeb llwyr rhwng yr Aelodau o ganlyniad i drafodaethau, ond yn hytrach bydd y Fforwm yn blatfform i’r Aelodau brofi eu syniadau a’u datblygu ar y cyd. Bydd Gweinidogion Cymru hefyd yn cymryd rhan yn y dull gweithredu cydweithredol hwn, drwy’r ysgrifenyddiaeth a thrwy gyfrannu fel y bo’n briodol. 

14. Bydd Llywodraeth Cymru yn adrodd ar y cynnydd a wneir ym mhob maes a drafodir, gan egluro lle y mae’r cyngor a geir gan y Fforwm yn cael ei adlewyrchu yn safbwyntiau Llywodraeth Cymru, ac adrodd ar resymau pam na chynhwysir unrhyw safbwyntiau clir a roddir gan y Fforwm, a’u trafod. 

15. Gall y Fforwm gytuno i gyfarfod mewn gweithgorau llai o faint er mwyn ymchwilio i bynciau penodol ac adrodd arnynt.

Aelodau sy’n gynrychiolwyr

16. Disgwylir i’r Aelodau a benodir i’r Fforwm fel cynrychiolwyr cyrff neu sefydliadau ambarél drafod barn a chanlyniadau gyda’u hetholwyr, gan ddibynnu ar y cyfyngiadau a allai fodoli ar gylchredeg rhai papurau (gweler isod).

17. Disgwylir i Aelodau hefyd ddefnyddio rhwydweithiau presennol i sicrhau bod ystod eang o safbwyntiau a syniadau yn cael eu dwyn i bob cyfarfod er mwyn llywio trafodaethau ac i helpu i gyflawni amcanion y Fforwm.

18. Disgwylir y bydd yr un partneriaid yn cymryd rhan weithredol er mwyn sicrhau parhad a chynnal arbenigedd o fewn y trafodaethau. 

19. Er mwyn cynnwys yr ystod briodol o arbenigedd a chyfleoedd, dylai’r aelodau gynnwys cynrychiolaeth o’r canlynol:

  • Arweinyddion rhanbarthol ym mhob un o bedwar rhanbarth y Cyd-bwyllgorau Corfforedig
  • Swyddogion Llywodraeth Leol, yn enwedig y rheini sy’n arwain ar Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU
  • Y pedair Partneriaeth Sgiliau Rhanbarthol
  • Y trydydd sector
  • Y sectorau addysg uwch ac addysg bellach
  • Adnoddau naturiol a’r amgylchedd
  • Buddiannau gwledig a datblygu dan arweiniad y gymuned
  • Busnesau preifat
  • Strategaeth ariannol economaidd
  • Yr economi lles
  • Undebau Llafur
  • Cyngor annibynnol ar Gydraddoldeb a Hawliau Dynol, eu hyrwyddo a’u gwarchod
  • Unigolion sydd ag arbenigedd penodol, ee academaidd

Hyd bodolaeth y Fforwm, cyfarfodydd a phapurau

20. Bydd y Fforwm yn cyfarfod er mwyn helpu aelodau i reoli’r strategaeth barhaus a’r gwaith gweinyddol o gyllido buddsoddiad rhanbarthol yng Nghymru. Er mwyn helpu i gynllunio ar gyfer y tymor hwy, yn wyneb ansicrwydd yn sgil datblygu a darparu cronfeydd cyllido’r DU, ni fydd dyddiad cau penodol gan y Fforwm. Bydd cyfarfodydd yn digwydd ar-lein.

21. O ystyried natur hyblyg y datblygiadau, bydd y Fforwm yn cael ei adolygu yn gynnar yn 2024 wedi i’r holl brosiectau sy’n cael eu hariannu gan yr UE ddod i ben.

22. Bydd papurau trafod yn cael eu paratoi gan swyddogion Llywodraeth Cymru, yn ogystal â phapurau a drefnir gan Aelodau, lle y bo’n briodol. Bydd pob papur yn nodi materion allweddol, gan sbarduno trafodaeth ar y ffordd orau i’r Aelodau allu cydweithio i sicrhau’r canlyniadau gorau i Gymru. Anogir yr Aelodau i herio a dod â safbwyntiau newydd a syniadau arloesol i’r drafodaeth.

23. Bydd papurau ar gyfer y cyfarfodydd yn cael eu hanfon o leiaf 7 diwrnod cyn y cyfarfod, os bydd y datblygiad yn caniatáu digon o amser, a thrwy ddulliau electronig yn unig, lle bo hynny’n bosibl. Disgwylir i’r Aelodau ddarllen y papurau cyn y cyfarfod er mwyn iddynt allu defnyddio’r wybodaeth sydd ynddynt yn y trafodaethau heb fod angen mynd dros y manylion sydd yn y papurau yn y cyfarfod ei hunan. Bydd hyn yn helpu i sicrhau bod y cyfarfod ar ei hyd yn gynhyrchiol.

24. Bydd y lefel briodol ar gyfer cylchredeg unrhyw bapur yn cael ei nodi’n glir arno. Mae’n debygol y gellir cylchredeg papurau yn rhydd, ond gallai fod rhai papurau na ddylid eu cyhoeddi na’u cylchredeg yn ehangach na’r Fforwm oherwydd eu sensitifrwydd posibl, ac i ganiatáu trafodaeth agored ar yr opsiynau sy’n cael eu trafod. O dan yr amgylchiadau hyn bydd crynodeb o’r materion yn cael eu cynnwys i helpu Aelodau i gael barn etholwyr ar faterion cysylltiedig. 

25. Bydd crynodeb o’r drafodaeth a’r camau gweithredu y cytunwyd arnynt yn cael ei ddrafftio gan yr Ysgrifenyddiaeth a’i anfon at yr Aelodau o fewn 10 diwrnod gwaith ar ôl cynnal y cyfarfod. Bydd fersiwn o’r nodyn hwn yn cael ei gyhoeddi i wella tryloywder, ochr yn ochr ag unrhyw bapurau nad ydynt yn gyfyngedig.

Taliadau Cydnabyddiaeth

26. Ni fydd yr Aelodau’n cael taliadau cydnabyddiaeth am eu hamser yn gwasanaethu ar y Fforwm. Gan y bydd cyfarfodydd ar-lein, ni fydd unrhyw daliadau teithio a chynhaliaeth ar gael.

Gwrthdaro buddiannau

27. Ar ddechrau neu yn ystod unrhyw gyfarfod, mae’n ofynnol i Aelodau ddatgan i’r Cadeirydd unrhyw sefyllfa a all olygu bod gwrthdaro buddiannau gwirioneddol neu ymddangosiadol. Gallai hyn olygu na chaiff Aelod gymryd rhan mewn trafodaeth ar y pwnc dan sylw. Mae’r Cadeirydd yn cadw’r hawl i ofyn i’r Aelod adael yr ystafell gyfarfod nes bod penderfyniad wedi ei wneud ar y mater.

Is-grwpiau cynghori, arbenigedd a/neu gorchwyl a gorffen

28. Ar gais y Cadeirydd, gall y Fforwm sefydlu is-grwpiau cynghori, arbenigol, a gorchwyl a gorffen i gefnogi ei waith. Oni bai y nodir fel arall, rhaid i’r grwpiau hyn gadw at yr un rheolau â’r Fforwm ei hun. 

Yr Iaith Gymraeg

29. Gofynnir i Aelodau beth yw eu dewis iaith ar gyfer cynnal busnes y Fforwm. Caiff y gwaith ei gynnal yn unol â’r dewisiadau a nodir, a darpariaethau Deddf yr Iaith Gymraeg. 

Adolygu

30. Mae’n bosibl y bydd y Cylch Gorchwyl yn cael ei adolygu gan y Cadeirydd ar ôl trafodaeth gan y Fforwm, fel y bo’n briodol. 

 Ysgrifenyddiaeth
Chwefror 2023