Cylch gorchwyl
Crynodeb o bwrpas y fforwm.
Cynnwys
Diben
- Mae’r fforwm yn bodoli i ddod â phartneriaid cymdeithasol, asiantaethau gorfodi perthnasol ac eraill ynghyd i wella cydgyfrifoldeb am Iechyd a Diogelwch yn y gweithle. Mae’r diben hwn yn adlewyrchu ymrwymiad ar y cyd i leihau’r risgiau y mae gweithwyr yn eu hwynebu, wrth gydnabod yr heriau o ran gweithredu mewn maes sydd, ar y cyfan, heb ei ddatganoli.
Egwyddorion
- Bydd y fforwm yn cydnabod ac yn cadw at yr egwyddorion canlynol:
- Gwerth gweithredu ar lefel strategol gydag ystyriaeth o faterion systemig a chamau gweithredu a argymhellir, yn hytrach na gwneud penderfyniadau ar sail achosion unigol.
- Gweithio mewn modd adweithiol a rhagweithiol – gan ystyried gwersi a ddysgwyd ac edrych i’r dyfodol i adnabod heriau strategol mawr cyn iddynt ddatblygu’n broblemau.
- Gweithredu o fewn ein gallu, gan gydnabod yr hyn y gallwn ei wneud mewn maes sydd, ar y cyfan, heb ei ddatganoli er mwyn gwella iechyd a diogelwch yn y gweithle.
- Ansawdd perthnasoedd, rhwydweithiau a rhannu gwybodaeth y tu allan i gyfarfodydd yr un mor bwysig â’r cyfarfodydd Fforwm. Bydd rhaid i’r holl bartneriaid ymrwymo i weithio gyda’i gilydd rhwng cyfarfodydd.
Cylch gwaith
- Bydd gan y Fforwm y cyfrifoldebau canlynol:
- Cytuno ar gynllun gwaith a fydd yn canolbwyntio ar weithredu a chanlyniadau ac yn ystyried y cyd-destun datganoledig.
- Defnyddio profiadau aelodau a gwybodaeth sydd ar gael i wella cyngor i gyflogwyr a chanfod materion systemig, gan gynnwys dadansoddi sectorau a allai wynebu risg.
- Dylanwadu ar asiantaethau gorfodi a phwyso arnynt i’w helpu i dargedu yn well ac i fod yn fwy effeithiol.
- Cynnig modd o uwchgyfeirio materion brys ac arwyddocaol sydd â goblygiadau ehangach na’r achos neu’r cyflogwr unigol.
- Gwella’r gwaith o rannu gwybodaeth, cysylltiadau a rhwydweithiau i sefydlu ‘ecosystem’ iechyd a diogelwch mwy effeithiol a chydlynol sy’n cynnwys cyflogwyr, undebau, ac asiantaethau gorfodi a’r Llywodraeth.
- Darparu arweiniad o ran rhannu a lledaenu arferion da ac wrth gefnogi cymhwysedd iechyd a diogelwch ar draws y Llywodraeth, cyflogwyr ac undebau llafur.
Aelodaeth
- Bydd y Fforwm yn cynnwys aelodaeth sefydlog o:
- Llywodraeth Cymru
- partneriaethau cymdeithasol sy’n cynrychioli cyflogwyr ac undebau llafur yn y sectorau cyhoeddus a phreifat
- asiantaethau gorfodi
- eraill fel sy’n cael eu nodi yn y tabl isod.
Llywodraeth Cymru | Undebau Llafur | Cyflogwyr | Eraill |
---|---|---|---|
Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru (Cadeirydd) | Sian Cartwright – TUC Cymru | Chris Llewelyn - CLlLlC | HSE |
Y Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol (Is-gadeirydd) | Nick Ireland - USDAW | Richard Tompkins - Cyflogwyr GIG Cymru | Swyddogion Iechyd yr Amgylchedd Llywodraeth Leol |
Swyddogion perthnasol | Peter Hughes – Unite | Ian Price - CBI | Gareth Petty - ACAS |
Mike Payne – GMB | Ben Cottam - FSB | PHW | |
Karen Loughlin - UNSAIN | Heather Myers - Siambr Fasnach De Cymru | arbenigwr iechyd a diogelwch annibynnol |
- Mae’r Undebau Llafur wedi gofyn am hyblygrwydd o ran eu carfan o aelodau ac am y gallu i enwebu unigolion gwahanol ar gyfer gwahanol gyfarfodydd. Am y rheswm hwn, mae aelodaeth yr Undebau Llafur ar y fforwm yn cynnwys Ysgrifennydd Cyffredinol TUC Cymru a phedwar unigolyn arall i’w dewis yn hyblyg gan yr Undebau Llafur.
- Mewn amgylchiadau pan na fydd unigolyn yn gallu bod yn bresennol mewn cyfarfod penodol – mae’n dderbyniol iddynt enwebu dirprwy i fod yn bresennol ar eu rhan.
- Yn ogystal â’r uchod, bydd unigolion nad ydynt yn aelodau yn cael eu gwahodd i fod yn bresennol yn y fforwm o dan amgylchiadau arbennig. Gallai’r rhain gynnwys, ond nid ydynt y gyfyngedig i, aelodau o felinau trafod fel yr Institute of Employment Rights a’r New Economics Foundation a hefyd enghreifftiau o gyflogwyr sy’n gwneud gwaith da yn y maes. Bydd y fforwm yn penderfynu ar hyn fesul achos, gan adlewyrchu cynllun gwaith y fforwm.
Cyfarfodydd a ffyrdd o weithio
- Bydd y Fforwm yn sefydlu patrwm rheolaidd o gyfarfodydd, gyda chyfarfodydd misol gan amlaf. Er hynny, gallai fod eithriadau i amlder y cyfarfodydd yn dibynnu ar ofynion y rhaglen waith, materion brys ac argaeledd aelodau.
- Bydd y Prif Weinidog yn cadeirio cyfarfod agoriadol y Fforwm, a bydd Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru a’r Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol yn Gadeirydd a Dirprwy Gadeirydd cyfarfodydd yn dilyn hynny.
- Bydd swyddogion Llywodraeth Cymru yn darparu ysgrifenyddiaeth ar gyfer y Fforwm gan drefnu cyfarfodydd a sicrhau cofnod o drafodaethau a chamau gweithredu.
- Pan fo’n bosibl, bydd papurau yn cael eu rhannu o flaen llaw, cyn cyfarfodydd y Fforwm, ond bydd y Fforwm yn gweithredu mewn ffordd hyblyg ac ni fydd ei holl gyfarfodydd yn seiliedig ar bapurau.
- Bydd pynciau ar gyfer agendâu cyfarfodydd yn adlewyrchu cynllun gwaith y Fforwm.
- Bydd cyfarfodydd yn para o leiaf 1 awr, ond ddim mwy na 2 awr. Bydd hyd cyfarfodydd yn ddibynnol ar yr agenda a phwy sydd ar gael. Bydd cyfarfodydd yn cael eu cynnal o bell hyd y gellir rhag-weld.
- Bydd sicrhau cworwm mewn cyfarfod yn ofynnol ar bresenoldeb o leiaf dau gynrychiolydd o bob categori sydd wedi ei restru uchod yn y tabl ym mhwynt 4.
- Bydd y Fforwm yn gwneud penderfyniadau drwy gyrraedd consensws yn hytrach na phleidleisio. Pan fydd angen gwneud penderfyniad ac nad oes modd cyrraedd consensws, bydd y Cadeirydd yn dyfarnu.
Cyfrinachedd, buddiannau a’r cyfryngau
- Er mwyn hwyluso trafodaeth agored, rhaid trin trafodaethau’r Fforwm yn gyfrinachol. O bryd i’w gilydd, bydd gan y fforwm hawl i weld gwybodaeth nad yw’n gyhoeddus. Dylai dogfennaeth sy’n cael ei rhannu â’r fforwm gan Lywodraeth Cymru neu unrhyw aelod arall gael ei chadw’n gyfrinachol, ac ni ddylai gael ei datgelu heb ganiatâd y Fforwm.
- Dylai unrhyw wrthdaro buddiannau gael eu datgan ar ddechrau pob cyfarfod.
- Gall dogfennaeth a chofnodion cyfarfodydd fod yn destun ceisiadau am fynediad at wybodaeth o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000. Pan fydd ceisiadau o’r fath yn cael eu derbyn, bydd gweithdrefnau Rhyddid Gwybodaeth arferol Llywodraeth Cymru yn cael eu dilyn.
- Bydd angen caniatâd y Fforwm ar gyfer unrhyw gyhoeddiadau i’r wasg neu gyhoeddusrwydd yn ymwneud â’r fforwm.
Atebolrwydd
- Mae’r fforwm yn atebol i Weinidogion Cymru. O bryd i’w gilydd, bydd y Fforwm yn paratoi adborth ar ei weithgareddau i’r Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol cysgodol.
Tymor
- Mae’r Cylch Gorchwyl hwn yn dod i rym ar unwaith a gellir ei ddiwygio, ei amrywio neu ei addasu ar unrhyw amser gyda chytundeb y fforwm.
- Nid yw’r fforwm yn grŵp gorchwyl a gorffen gyda chyfnod amser penodol. Er hynny, bydd gwerth a pherthnasedd gwaith y fforwm yn cael eu hadolygu’n rheolaidd gan yr aelodau – gyda’r adolygiad cyntaf yn digwydd erbyn mis Mai 2021.
- Mae gan Weinidogion Cymru yr hawl i derfynu’r Fforwm gyda chytundeb yr aelodau.
Cynllun gwaith
- Bydd y Fforwm yn ymgymryd â chynllun gwaith amrywiol yn dilyn y cylch gwaith sydd wedi ei amlinellu ym mhwynt 3. Gall y cynllun gwaith gynnwys, ond nid yw’n gyfyngedig i’r canlynol:
- Asesiad rhagweithiol o sectorau a allai wynebu risg ac argymell camau gweithredu perthnasol ar gyfer holl aelodau’r Fforwm (hy nid camau gweithredu ar gyfer y Llywodraeth yn unig).
- Gwerthuso gwersi a ddysgwyd yn sgil achosion amlwg diweddar a sut y gall aelodau’r fforwm ddefnyddio’r rhain i wella canlyniadau yn y dyfodol.
- Pob partner i rannu eu gwybodaeth ar faterion allweddol sydd yn dod i’r amlwg er mwyn gallu uwchgyfeirio a blaenoriaethu camau gweithredu lle bo’r angen.
- Bydd y Cynllun gwaith hwn yn cael ei ddatblygu ymhellach yng nghyfarfod cyntaf y fforwm.